skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr W. Tudor Owen a John Wyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)     Datganodd y Cynghorwyr Anne Lloyd-Jones a Michael Sol Owen fuddiant personol, yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1021/08/LL) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1089/42/LL);

·        Y Cynghorydd Dyfrig Wynn Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0823/13/LL);

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0941/35/LL);

·        Y Cynghorydd Gareth Thomas, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1021/08/LL);

·        Y Cynghorydd Charles Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1108/23/AM);

·        Y Cynghorydd R. H. Wyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1226/39/LL);

·        Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1250/17/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 267 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1

Cais Rhif C16/1089/42/LL - Tir rhan o Fferm Bryn Rhydd, Edern pdf eicon PDF 576 KB

Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig a mynedfa amaethyddol newydd

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynnyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig â mynedfa amaethyddol newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. 

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd ni ystyrir bod dymuniad yr ymgeisydd i leoli’r busnes ar dir o fewn ei berchnogaeth mewn cyrraedd hwylus i’r fferm, yn ddigon i gyfiawnhau’r lleoliad. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi fod gwir angen sefydlu busnes cymysg o’r fath ar safle’r cais heb anghenion lleoli arbennig nac amgylchiadau eithriadol i gyfiawnhau caniatáu’r cais yng nghefn gwlad. Ychwanegwyd nad oedd yn ymddangos bod unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i geisio darganfod adeilad/safle tir brown addas o fewn ffin y pentref neu mewn safle gwahanol. Nodwyd nad yw’r bwriad i godi adeilad busnes cymysg o’r fath ar dir gwyrdd yn cydymffurfio ac egwyddorion lleoli busnesau polisïau C1, CH37, D5, D7, D8, D13 na D30 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG).

 

         Credir y byddai adeiladu adeilad newydd mewn lleoliad ynysig a datgymalog o’r fath yn cael effaith andwyol ar ffurf a chymeriad y pentref a’r dirwedd, oedd wedi ei ddynodi’n Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Nodwyd nad oedd y buddion o ran twf economaidd, mentrau gwledig a chyflogaeth yn gorbwyso’r niwed sy’n debygol o gael ei achosi i gymeriad y dirwedd ac edrychiad yr ardal, a’r angen i sicrhau bod y datblygiad newydd wedi ei leoli mewn lle cynaliadwy. Ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisïau’r CDUG ac nad oedd dewis ond i argymell gwrthod y cais.

        

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais a sylwadau ychwanegol yr asiant yn dangos pa mor bwysig oedd y cais i’r busnes hufen ia a busnes fferm presennol;

·         Bod prisiau llaeth yn ansefydlog a bod y datblygiad yma er mwyn datblygu’r busnes hufen ia ymhellach ac i gadw’r fferm yn hyfyw;

·         Bod y bwriad yn creu swyddi o safon i bobl leol;

·         Deall bod pryder o ran lleoliad ond nid oedd yn bosib lleoli’r cais ar y fferm;

·         Y byddai ysgolion yn elwa o ddefnyddio’r adnodd addysgiadol;

·         Y byddai’n darparu adnodd o safon i dwristiaid yn ogystal ac i bobl leol;

·         Eu bod yn barod i weithio efo’r Gwasanaeth Cynllunio i wneud y bwriad yn dderbyniol gydag amodau perthnasol;

·         Eu bod efo gweledigaeth glir ac yn frwdfrydig;

·         Bod llwyddiant a dyfodol Glasu, swyddi presennol, swyddi newydd a’u bywoliaeth o’r fferm yn dibynnu ar y penderfyniad felly gofynnir i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Y byddai’r bwriad yn sicrhau dyfodol i’r fferm  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C16/0823/13/LL - Austin Taylor Communications Ltd, Bethesda pdf eicon PDF 825 KB

Newid defnydd cyn ffactori'n gyfleuster masnachwr adeiladu gan gynnwys cownter masnachu, storfeydd a menter dosbarthu.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Dyfrig W. Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd cyn ffactori'n gyfleuster masnachwr adeiladu gan gynnwys cownter masnachu, storfeydd a menter dosbarthu.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ni fwriedir gwneud unrhyw newidiadau strwythurol i’r adeilad ar wahân i rai addasiadau i ffenestri a drysau er hwylustod a diogelwch. Nodwyd bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bethesda ond nid oedd wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Amlygwyd bod rhan fwyaf o safle’r cais wedi ei leoli o fewn parth llifogydd C2.

 

Nodwyd bod y datblygiad yn cwrdd â holl feini prawf polisïau C3 a C4 o’r CDUG gan ei fod yn ail-ddefnyddio safle a ddefnyddiwyd o’r blaen o fewn ffin datblygu bresennol gan gadw ac ail-ddefnyddio adeiladau presennol at ddefnydd sy’n addas i’r lleoliad.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Adroddwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru eu bod yn fodlon i'r Cyngor benderfynu ar y cais ynghyd â chadarnhad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nad oedd ganddynt wrthwynebiad o ran materion llifogydd. Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi asesu'r Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais a’u bod o’r farn nad yw natur na graddfa'r datblygiad yn debygol o gael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg. O ganlyniad, roedd yr argymhelliad wedi newid i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad a bellach argymhellir caniatáu’r cais efo amodau.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd ei fod yn croesawu’r datblygiad a’i fod yn falch bod yr adeilad yn dod yn ôl i ddefnydd.

 

Nododd aelodau eu cefnogaeth i’r cais a fyddai’n ddefnydd cydnaws i’r lleoliad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     Amser

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Rhaid cyflwyno a chytuno archwiliad desg i asesu’r risg o lygredd. Pe byddai’r archwiliad desg yn dangos fod angen gweithrediad pellach, bydd angen cytuno unrhyw fesurau rhagofalus ac/neu adferol cyn dechrau’r datblygiad.

5.3

Cais Rhif C16/0941/35/LL - Ynys Hir, Morannedd, Cricieth pdf eicon PDF 632 KB

Diwygiad i ganiatad C15/0711/35/LL ar gyfer codi newydd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygiad i ganiatâd C15/0711/35/LL ar gyfer codi newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer codi tŷ annedd o dan gyfeirnodau C14/0702/35/LL a C15/0711/35/LL gyda’r gwaith adeiladu wedi cychwyn ond bod oediad ar hyn o bryd.

 

         Nodwyd bod y cynlluniau gerbron yn dilyn lleoliad, ol-troed, maint a chynllun llawr y caniatadau. Eglurwyd bod y dyluniad gerbron yn wahanol i’r caniatadau blaenorol gyda tho mansard yn hytrach na tho pits traddodiadol. Nodwyd bod toeau amrywiol iawn i’w gweld o fewn stad Morannedd ac fe ystyrir bod y dyluniad ac edrychiad allanol y bwriad yn cydweddu gyda chymeriadau’r tai presennol o fewn y stad.

 

         Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol o safbwynt colli preifatrwydd, golau na chysgodi. Nodwyd bod pryderon gwrthwynebwyr wedi derbyn ystyriaeth lawn.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn).

 

         Mewn ymateb i sylw gan yr aelod lleol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y cynghorwyd yr ymgeisydd i oedi â’r gwaith, ond os oedd yr ymgeisydd wedi parhau efo’r gwaith adeiladu, ei fod yn gwneud hynny ar risg ei hun.

 

Nododd aelodau eu cefnogaeth i’r cais a oedd yn welliant o ran gwelededd oherwydd bod lefelau (llawr a chrib) y tŷ oddeutu 2 medr yn is na’r caniatadau presennol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. 

 

Amodau:

1.     Unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd

2.     Llechi ar y to

3.     Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir gan gynnwys ffenestri

4.    Amodau dŵr Cymru

5.4

Cais Rhif C16/1021/08/LL - Meusydd Llydain, Bryniau Hendre, Penrhyndeudraeth pdf eicon PDF 933 KB

Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 ty farchnad agored a 6 ty fforddiadwy ynghyd a gwaith draenio, gwaith tir a creu mynedfeydd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan yr Is-gadeirydd.

 

Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 sy'n cynnwys 3 farchnad agored a 6 fforddiadwy ynghyd â gwaith draenio, gwaith tir a chreu mynedfeydd.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y 6 fforddiadwy ar dir sydd y tu allan ond yn ymylu a’r ffin datblygu tra bod y 3 marchnad agored yn bennaf o fewn y ffin.

 

Nodwyd bod nifer o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn cyfeirio at bryderon yn ymwneud a’r ffordd gyfagos ag effaith y datblygiad ar ddiogelwch y ffordd a symudiadau ar ei hyd. Cydnabyddir fod y ffordd yn gul mewn mannau ond o ystyried fod rhan o’r safle wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol fel gwaith argraffu masnachol ni ystyrir y byddai effaith ychwanegol annerbyniol yn deillio o’r bwriad.

 

Adroddwyd yn dilyn derbyn sylwadau gan yr Uned Drafnidiaeth y diwygiwyd y cais i ddarparu trefn newydd i fynedfeydd y tai marchnad agored gan gynnwys darparu troedffordd newydd ar hyd blaen y safle a threfniant mewnol y stad. O ganlyniad, roedd yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda’r hyn a gynigir.

 

Derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Strategol Tai bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn gyson gyda’r wybodaeth i law am yr angen lleol am unedau fforddiadwy. Credir fod y cymysgedd o dai a gynigir yn briodol ar gyfer diwallu galw cyffredinol am dai fforddiadwy.

 

Nodwyd y byddai angen sicrhau bod unedau a oedd yn diwallu gwahanol ddeiliadaeth (h.y. tai marchnad agored a thai fforddiadwy) yn cael eu datblygu ar y cyd ac nad oes posibilrwydd mai dim ond y tai marchnad agored fydd yn cael eu datblygu. Yn yr achos yma, roedd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn bartneriaid yn y cynllun ac fel sydd yn arferol mewn achosion ble nad ydyw Cymdeithas Tai yn berchen y tir neu’n ymgeisydd (pan yr ystyrir y cais), mi fyddai angen llunio Cytundeb 106 safonol i sicrhau fod y tai yn cael eu trosglwyddo i’r Gymdeithas i sicrhau fod yr unedau yn dod ar gael i ddiwallu angen lleol.

 

Tynnwyd sylw y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd ynglŷn â chasgliadau’r asesiad ieithyddol a gyflwynwyd gan ddatgan: “Ar y cyfan, ni chredir fod natur na graddfa’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. Mae’r cais yn golygu bydd 6 o’r 9 arfaethedig yn rai fforddiadwy, fe ddylai ddiwallu anghenion lleol ar gyfer tai a helpu cadw’r boblogaeth bresennol yn y gymuned”.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn ddatblygiad tai cymysg gyda 3 marchnad agored a 6 fforddiadwy ar gyfer CCG;

·         Bod y tai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Cais Rhif C16/1108/23/AM - Ty'r Ysgol, Llanrug pdf eicon PDF 854 KB

Cais amlinellol i godi 2 dy a creu mynedfa cerbydol newydd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Charles Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol i godi 2 a chreu mynedfa gerbydol newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle tu fewn i ffin datblygu’r pentref a gan mai cais amlinellol ydoedd yr unig faterion yr ystyrir yw’r egwyddor o ddatblygu’r safle, mynediad a lleoliad y tai o fewn y safle.

 

Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yn codi pryder am greu mynedfa ychwanegol yn agos i’r ysgol, colled o le ar ochor y lon i barcio a chasglu plant a hefyd effaith y datblygiad yma ar gynllun arall a ganiatawyd a oedd yn cynnwys cylchfan a mesuriadau rheoli traffig newydd. Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad ond eu bod yn gofyn am amodau i sicrhau fod ceir yn gallu mynd i mewn ac allan o’r safle mewn gêr blaen a hefyd darparu’r lle parcio a throi cyn meddiannu’r tai ac ystyrir fod hyn yn creu sefyllfa dderbyniol.

 

Ychwanegwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yn cyfeirio at golli preifatrwydd. O’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno, ystyrir fod y safle yn gallu darparu dau heb achosi gor-edrych a cholli preifatrwydd gyda defnydd o driniaethau ffin addas a dylunio gofalus a phriodol i’r safle.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y safle o fewn y ffin datblygu ac roedd angen lleol am y math o dai;

·         Nid oedd tystiolaeth y byddai’n amharu ar fwynderau;

·         Gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod Pennaeth yr ysgol bellach yn derbyn y byddai’r effaith ar yr ysgol yn fach;

·         Y byddai’n ddelfrydol cadw’r sefyllfa'r 'run fath ar gyfer stad Glan Ffynnon ond nid oedd yn bosib;

·         Bod yr amodau yn cyfarch y gwrthwynebiadau ac yn cynnig ffordd ymlaen.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

2.     Deunyddiau a gorffeniadau.

3.     Mynediad a pharcio.

4.     Tirwedducadw’r coed onnen bresennol lle sy’n bosib, gwaredu’r safle o goed   ymledol a phlannu coed cynhenid.

5.     Cyflwyno cynllun draenio tir cyn cychwyn unrhyw waith ar y safle.

6.     Dŵr Cymrudŵr wyneb.

7.     Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd.

8.     Tynnu hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir.

9.     Angen cadw’r wal ffin garreg naturiol.

10.   Cwblhau gwaith clirio’r safle tu allan i’r tymor nythu adar.

11.  Darparu blychau nythu i adar.

5.7

Cais Rhif C16/1226/39/LL - Castellmarch, Abersoch pdf eicon PDF 582 KB

Sefydlu safle carafanau teithiol i 15 carafan.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R. H. Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Sefydlu safle carafanau teithiol i 15 carafán.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad a thu mewn i Ardal Gwarchod y Dirwedd a’r Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli. Nodwyd bod y safle yn cael ei ddefnyddio ers sawl blwyddyn ar gyfer lleoli 5 carafán deithiol gyda chlybiau carafán ble nad oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol.

 

         Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyrir fod y safle yn ymwthiol yn y dirwedd ac ni ystyrir ei fod yn debygol o gael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi asesu'r Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol ac yn nodi nad oedd natur a graddfa’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. O ganlyniad, roedd yr argymhelliad wedi newid i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad a bellach argymhellir caniatáu’r cais efo amodau.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Bod y safle yn safle carafanau yn bresennol;

·         Nad oedd yn or-ddatblygiad;

·         Y dylai’r iaith fod yn rhan o bolisïau;

·         Bod y bwriad yn rhoi dilyniant i’r teulu a oedd yn rhan o’r gymdeithas leol;

·         Bod yr ymgeisydd yn barod i dderbyn awgrymiadau ychwanegol o ran tirlunio.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Nododd aelod na ofynnwyd i’r Uned AHNE am sylwadau ar y cais, er yn cydnabod bod y safle tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE), roedd polisi B8 o’r CDUG yn gwarchod golygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.     Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 15.

4.     Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd.

5.     Dim storio ar y tir.

6.     Rhestr cofnodi.

7.     Tirlunio.

8.     Diogelu llwybr cyhoeddus 43 a 43A Llanengan.

9.     Dŵr wyneb a / neu ddraeniad tir ddim i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus.

 

Nodiadau:

1.     Copi o sylwadau Dŵr Cymru.

2.    Copi o sylwadau’r Uned Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol.

5.7

Cais Rhif C16/1250/17/LL - Fferm Tanyffordd, Cilgwyn, Carmel, Caernarfon pdf eicon PDF 689 KB

Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i godi adeilad amaethyddol aml bwrpas ar gyfer storio offer, peiriannau, gwair/bwyd a rhoi lloches i anifeiliaid ar dir ger Fferm Tanyffordd sydd wedi ei leoli ar gyrion pentref Carmel.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd yn cefnogi’r cais a oedd yn  cadarnhau pryderon y swyddogion.

        

         Nodwyd bod polisi D9 o’r CDUG yn gefnogol i godi adeiladau ac adeiladwaith ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn amlwg yn rhesymol angenrheidiol at ddiben amaethyddiaeth ac os gellir cydymffurfio gyda meini prawf penodol ynghlwm a’r polisi.

 

         Amlygwyd y caniatawyd estyniad i stablau o dan gyfeirnod C11/0511/17/LL i greu sied amaethyddol. O gynnal archwiliad safle, ymddengys fod yr hyn a godwyd ar y safle yn fwy ac o ffurf wahanol i’r hyn a ganiatawyd a bod sied sylweddol wedi ei chodi yn hytrach na’r estyniad fel y caniatawyd. Nid oedd ychwaith yn ymddangos fod defnydd y sied mewn cysylltiad â gwir ddefnydd amaethyddol fel yr awgrymwyd ar yr adeg.

 

Nodwyd o ystyried maint y daliad, ni chredir fod gwir gyfiawnhad i godi sied amaethyddol newydd o ystyried fod modd defnyddio'r sied bresennol (a oedd yn anawdurdodedig yn ei ffurf bresennol o safbwynt maint/dyluniad a’i ddefnydd) yn ogystal â siediau eraill oedd eisoes wedi eu codi ar y safle.

         

Nodwyd bod lleoliad y sied arfaethedig yn amlwg o fewn y dirwedd leol oherwydd ei ffurf a maint a’i lleoliad dyrchafedig, credir felly y byddai hyn yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal gyfagos gan gynnwys ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Dyffryn Nantlle sydd yn groes i ofynion perthnasol polisïau B12, B22 a B23.

        

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:

·         Bod yr ymgeisydd yn rhentu tir yn ychwanegol i safle’r cais;

·         Yr angen am sied bwrpasol i fab yr ymgeisydd er mwyn iddo allu paratoi defaid i’w arddangos mewn sioeau amaethyddol;

·         Mai amaeth oedd yr unig opsiwn o ran bywoliaeth mewn ardaloedd yng Ngwynedd;

·         Y dylid cefnogi’r ymgeisydd.

 

Nododd yr aelod lleol nad oedd yn teimlo ei fod wedi derbyn gwrandawiad teg. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd ei bod yn gwerthfawrogi ei gyflwyniad.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Mai prin iawn oedd yr achosion lle nad oedd y Cyngor yn cefnogi cais am sied amaethyddol;

·         Ni dderbyniwyd tystiolaeth bod yr ymgeisydd gyda thir ychwanegol nac fod angen y sied ar gyfer paratoi defaid i’w arddangos;

·         Credir bod yr adeiladau presennol yn cyfarch yr angen felly nid oedd cyfiawnhad am sied arall;

·         Nid oedd y Cyngor yn ymwybodol o’r tir a rentir.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed yr achos gorfodaeth, nododd yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7