Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Endaf Cooke, Simon Glyn, Dyfrig Wynn Jones a John Pughe Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Gwen Griffith, yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1081/11/LL) oherwydd ei bod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Gwarchodfa Natur Leol Traeth Lafan; ac yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0901/16/LL) oherwydd mai hi oedd yr ymgeisydd.

·        Y Cynghorydd June Marshall, yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1081/11/LL) oherwydd ei bod yn adnabod rhai o’r gwrthwynebwyr;

·        Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams, yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0848/00/LL) oherwydd ei fod yn aelod o gorff llywodraethol Ysgol y Traeth.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Lesley Day, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1081/11/LL);

·        Y Cynghorydd Angela Russell, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0537/38/LL);

·        Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0590/42/AM);

·        Y Cynghorydd June Marshall, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0669/11/LL);

·        Y Cynghorydd John Wynn Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0781/11/LL);

·        Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0848/00/LL);

·        Y Cynghorydd Trevor Edwards (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0886/15/LL);

·        Y Cynghorwyr John Wyn Williams a R. Hefin Williams, (aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0886/15/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 292 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 5 Medi 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Medi 2016 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

5.1

Cais Rhif C14/0832/11/LL - Castle Hill Arcade, 196, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 927 KB

Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 65 o fyfyrwyr.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gwynfor Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 64 o fyfyrwyr.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle ar y Stryd Fawr o fewn canol Dinas Bangor gerllaw’r gadeirlan. Nodwyd bod yr adeilad yn adeilad rhestredig gradd II a hefyd wedi ei leoli o fewn Ardal Cadwraeth Bangor.

 

         Eglurwyd er bod yr estyniad arfaethedig yng nghefn y safle a bod y safle yn eithaf cuddiedig o fannau cyhoeddus agos, nid oedd yn cyfiawnhau estyniad o’r raddfa, swmp, ffurf a’r dyluniad yma gan yr ystyrir y byddai’n amharu’n sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr adeilad rhestredig. Nodwyd bod Ardal Cadwraeth Bangor yn eang ac yn cynnwys sawl adeilad rhestredig gradd I gyda topograffi Bangor yn golygu fod rhannau o’r ddinas yn weladwy o bellter e.e. golygfeydd o brif adeilad y Brifysgol (sydd yn adeilad rhestredig gradd I) ar draws y ddinas. Ystyrir y byddai’r elfen to fflat yn ymddangos fel nodwedd anghydweddol o olygfeydd ar draws y ddinas na fyddai’n parchu’r adeilad rhestredig o’i flaen, na phatrymau datblygu strydoedd yr ardal o’i gwmpas.

 

         Tynnwyd sylw y derbyniwyd gwrthwynebiadau ar sail gor-edrych o ffenestri a gerddi. Nodwyd yr ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) gan y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fwynderau preswyl unedau a thai cyfagos ac na fyddai’r datblygiad yn sicrhau safon byw ddigonol i breswylwyr y datblygiad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Yng nghyswllt asesiad ieithyddol o geisiadau, y dylid asesu’r effaith gronnol yn hytrach na’r cais yn unig;

·         A fyddai’n bosib derbyn gwybodaeth o ran nifer yr unedau myfyrwyr a ganiatawyd yn y flwyddyn ddiwethaf ac am y cyfnod o 2 flynedd?

·         Bod yr argymhelliad i wrthod yn gryf, byddai’r estyniad bwriedig yn dominyddu’r adeilad rhestredig ac yn dirywio golygfeydd yn y Ddinas;

·         Bod angen datblygu’r safle ond byddai’r estyniad yn y cefn yn effeithio’n andwyol ar yr adeilad rhestredig;

·         Pryder o ran gosod amod sy’n atal myfyrwyr rhag iddynt ddod a cherbyd o fewn tair milltir i’r datblygiad a gofyn am gynllun teithio cyn preswylio’r datblygiad yn hytrach na darparu llecynnau parcio ar gyfer y datblygiad gan na fyddai modd ei blismona.

 

(c)       Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

 

·         Fel y nodir yn yr adroddiad, ni fyddai’r bwriad yn golygu unrhyw newid ym mhoblogaeth y Ddinas gan fod y myfyrwyr yn bresennol yn barod ac ystyrir na fyddai’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr Iaith Gymraeg;

·         Bod gwybodaeth o ran nifer unedau myfyrwyr ac asesiad o’r manylion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ym mharagraffau 5.5 i 5.16;

·         O ran gosod amod sy’n atal myfyrwyr rhag iddynt ddod a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C14/0831/11/CR - Castle Hill Arcade, 196, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 876 KB

Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 65 o fyfyrwyr.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gwynfor Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 64 o fyfyrwyr.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais adeilad rhestredig ac mai materion cadwraethol a asesir, sef effaith ar edrychiad a chymeriad hanesyddol a phensaernïol yr adeilad rhestredig.

 

Nodwyd bod y bwriad yn ei ffurf bresennol oherwydd ei raddfa, swmp, ffurf a’i ddyluniad yn golygu y byddai’n dominyddu’r adeilad rhestredig ac yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ei gymeriad hanesyddol.

 

          PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

          Rheswm:

 

Byddai’r bwriad oherwydd ei raddfa, swmp, ffurf a’i ddyluniad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar edrychiad a gosodiad yr adeilad       rhestredig gradd II ac felly yn groes i bolisïau B2, B3 a B4 CDUG ac i ofynion Cylchlythyr Swyddfa Gymreig 61/96.

 

5.3

Cais Rhif C15/1081/11/LL - Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor pdf eicon PDF 1 MB

Ail gyflwyniad o gais blaenorol i mewnforio deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Lesley Day

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ail gyflwyniad o gais blaenorol i gludo i mewn deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 er mwyn derbyn gwybodaeth bellach o ran y pryderon a gyflwynwyd gan yr aelod lleol. Nodwyd yr ail-ymgynghorwyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar y Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu a’r atodlen o fesurau lliniaru amgylcheddol a gyflwynwyd i gefnogi’r cais. Roedd CNC a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn fodlon efo’r hyn a gyflwynwyd.

 

         Pwysleisiwyd bod y cais gerbron ar gyfer gwneud gwaith peirianyddol a chodi lefel tir er mwyn darparu safle ar gyfer datblygiad pellach.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr heddiw gan Gyfeillion y Ddaear. Nodwyd bod y materion a godwyd wedi eu hasesu yn yr adroddiad.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod rhan o’r cais yn ôl-weithredol gan fod lefelau tir wedi eu codi eisoes;

·         Bod ddim cofnod o ran y deunyddiau ar y safle felly nid oes sicrwydd o ran ei strwythur;

·         Bod yr archwiliadau a gynhaliwyd o’r tir yn arwynebol;

·         Bod y safle yn agored i erydiad a’i phryderon o ran sefydlogrwydd y tir;

·         Nad oedd dyluniad y morglawdd yn ddigonol ac ni fyddai’n gwarchod y safle o’r môr;

·         Bod achosion lle bo’r Awdurdod Lleol wedi ei erlyn yn llwyddiannus pan fo pethau’n mynd o’i le ar dir ansefydlog a halogedig lle derbyniwyd caniatâd cynllunio;

·         Y gallai asesiadau geo-amgylcheddol digonol sicrhau y byddai’r safle yn ddiogel;

·         Bod y bwriad yn groes i bolisi B28 a B30 o’r CDUG ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru 15;

·         Bod y tir wedi ei halogi er nad oedd wedi ei gofnodi ar gofrestr tir halogedig a pe byddai datblygiad tai ar y safle yn y dyfodol yna fe fyddai risg sylweddol i iechyd dynol;

·         Bod risg i’r deunydd a halogwyd ollwng i’r Fenai. A yw’r amodau a argymhellir yn ddigonol i sicrhau na fyddai llygredd yn dianc o’r safle?

 

(ch)   Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Y byddai unrhyw gais am ddatblygiad yn y dyfodol yn cael ei benderfynu ar ei haeddiant ac mai’r bwriad oedd darparu safle ar gyfer datblygiad;

·         Bod y tir wedi ei ddynodi yn y CDUG fel safle ail-ddatblygu;

·         Y derbyniwyd cadarnhad nad oedd gan CNC na Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais;

·         Nid oedd tystiolaeth i gyfiawnhau gwrthod o ran llygredd;

·         Bod adroddiadau technegol manwl a oedd wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cais wedi eu hasesu gan arbenigwyr.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

Cais Rhif C16/0537/38/LL - Bryniau Caravan Park, Lôn Pin, Llanbedrog pdf eicon PDF 717 KB

Cais ôl-weithredol i gadw safle carafanau ar gyfer 10 carafan deithiol, cadw gwasanaethau cysylltiedig a storio carafanau dros y gaeaf.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i gadw safle carafanau ar gyfer 10 carafán deithiol, cadw gwasanaethau cysylltiedig â storio carafanau dros y gaeaf.

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

Adroddwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad os gosodir amod i sicrhau llain gwelededd digonol yn y fynedfa.

 

Nodwyd bod y safle yn ei ffurf bresennol yn weddol guddiedig gyda chynllun tirlunio wedi ei gyflwyno i atgyfnerthu’r sgrinio. Ni ystyrir y byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol hirdymor i ansawdd gweledol y dirwedd.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod y safle yn guddiedig a’i bod yn falch o gefnogi teulu ifanc lleol er mwyn eu galluogi i fyw ym Mhen Llŷn.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Nododd aelod bod gwrychoedd uchel ar y safle ac mai prin gellir gweld y safle o fannau eraill. Tynnodd aelod sylw bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     Unol â chynlluniau a gyflwynwyd;

2.     Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 10 ac ar y lleoliadau a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd;

3.     Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd;

4.     Storio ar y tir i dde'r safle sydd wedi ei amlinellu yn felyn ar y cynllun a gyflwynwyd rhwng 1 Tachwedd mewn un flwyddyn a 28 Chwefror y flwyddyn ganlynol;

5.     Rhestr cofnodi;

6.     Tirlunio o fewn tri mis o ddyddiad caniatâd cynllunio;

7.     Gwaith o wella’r fynedfa i’w gwblhau yn unol â chynllun a gyflwynwyd o fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd ac i’w gadw felly wedi hynny;

8.     Gostwng uchder y clawdd i ogledd y fynedfa a’i gapio yn barhaol.

 

          Nodiadau:

1.     Awgrymir fod mesurau lliniaru yn cael eu cymryd i warchod a hyrwyddo’r iaith, megis enw Cymraeg ar y safle, arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog a chyfleoedd i ddarparu gwybodaeth am hanes a diwylliant yr ardal. Awgrymir fod rheolwr y safle yn cysylltu gyda’r Fenter Iaith Leol (HunanIaith) i gael trafodaeth ynglŷn â mesurau a allai ychwanegu gwerth i’r busnes. 

2.     Angen cael trwydded safle carafanau.

 

5.5

Cais Rhif C16/0590/42/AM - Tir ger 10 Penrhos, Morfa Nefyn pdf eicon PDF 599 KB

Adeiladu annedd a creu llefydd parcio.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu annedd a chreu llefydd parcio.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Medi 2016 er mwyn asesu’r manylion diwygiedig a’r ymatebion i’r ail-ymgynghori. Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

         Adroddwyd bod y cais yn gais amlinellol ar gyfer codi annedd ar lain o dir sy’n ffurfio rhan o ardd 10 Penrhos, Morfa Nefyn. Nodwyd gan mai cais amlinellol oedd gerbron mai’r unig faterion yr ystyrir oedd yr egwyddor o ddatblygu’r safle.

 

         Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad os gosodir  amodau priodol i sicrhau fod y gwrych / wal i ogledd y fynedfa yn cael ei gostwng a’i chynnal ar uchder dim uwch nag 1 medr er mwyn diogelu’r llain gwelededd angenrheidiol o’r fynedfa.

 

         Nodwyd wrth ymdrin gyda’r cais daeth i’r amlwg fod yna rai materion yn codi o safbwynt perchnogaeth y trac preifat sy’n arwain o’r ffordd sirol i’r safle. Pwysleisiwyd bod y materion o ran perchnogaeth tir yn gysylltiedig gyda’r trac yn faterion sifil i’w datrys rhwng yr ymgeisydd a pherchennog y tir neillog.

 

         Nodwyd oherwydd natur preswyl yr ardal, ni ystyrir byddai’r datblygiad allan o gymeriad nac yn cael effaith andwyol ar fwynderau gweledol na phreswyl yr ardal.

          

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Byddai’r bwriad yn golygu colli gwyrddni yn yr ardal gan effeithio ar fioamrywiaeth a phreifatrwydd tai gerllaw;

·         Cwestiynu os oes angen am y tŷ o ystyried bod oddeutu 30 o dai ar werth yn y pentref;

·         Na fyddai’r tŷ yn dŷ fforddiadwy;

·         Pryder o ran effaith ar y gymuned a’r Iaith Gymraeg gan fod y stoc tai bresennol ddim yn fforddiadwy;

·         Bod nifer o dai yn y pentref yn rhai gwyliau ac yn wag ar adegau;

·         Pryder o ran mynediad i’r safle a diogelwch ffyrdd mewn ardal lle bo damweiniau;

·         Bod yr hyn a fwriedir yn or-ddatblygiad na fyddai’n gweddu ei leoliad.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai cais am tu fewn i’r ffin datblygu oedd gerbron y Pwyllgor.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Pryder o ran gwelededd pan fo’r trac yn dod i’r lôn. A ddylid gofyn am ymlediad i wella’r sefyllfa?

·         O ystyried maint y a fyddai’n cyffwrdd â’r ffiniau ar y ddwy ochr?

·         Pryder y gosodir cynsail yn yr ardal os caniateir adeiladu yn yr ardd;

·         Bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais ac nid oedd mannau pasio ar y trac preifat;

·         Y gwrych ddim ym mherchnogaeth yr ymgeisydd;

·         Bod tai modern arall  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

Cais Rhif C16/0669/11/LL - 17, Ffordd y Coleg, Bangor pdf eicon PDF 809 KB

Newid defnydd 7 lloft i aml-feddianaeth 7 lloft.

 

AELODAU LLEOL:     Cynghorwyr June Marshall a Mair Rowlands

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd 7 llofft i amlfeddiannaeth 7 llofft.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Dinas Bangor, ac o fewn ardal breswyl a’i nodweddir gan ei ganran uchel o lety myfyrwyr.

 

         Nodwyd ni ystyrir y byddai caniatáu un uned amlfeddiannaeth ychwanegol mewn ardal lle mae’r mwyafrif o dai eisoes yn dai amlfeddiannaeth, yn cael effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol ar gymeriad cymdeithasol yr ardal leol.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod gorddarpariaeth o lety amlfeddiannaeth ar Ffordd y Coleg gyda 90% o’r tai yn rhai amlfeddiannaeth;

·         Bod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, a oedd yn destun archwiliad ar hyn o bryd, yn argymell cyfyngu’r nifer o dai amlfeddiannaeth mewn ardal i 25% ac fe ddylid cyfyngu’r niferoedd rŵan;

·         Bod problemau parcio yn yr ardal;

·         Y byddai mwy o sŵn a tharfu ar drigolion pe caniateir y cais;

·         Y bwriad yn groes i bolisi CH14 o’r CDUG oherwydd byddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Er yn cytuno efo sylwadau’r aelod lleol nid oedd rhesymau cynllunio dilys i gefnogi gwrthod y cais;

·         Bod Bangor yn troi yn ddinas i fyfyrwyr yn unig gyda thai i bobl leol yn diflannu;

·         Bod nifer y myfyrwyr yn gostwng;

·         A fyddai’n bosib derbyn eglurder o ran yr ystadegau a nodir yn yr adroddiad a’r ystadegau a nodwyd gan yr aelod lleol?

·         Pryderu o ran effaith gronnus datblygiadau o’r fath ar yr ardal;

·         Pryd y gellir rhoi ystyriaeth i’r hyn a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd?

·         Nad oedd yr ardal yn le i deuluoedd.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Bod effaith cronnus ar yr ardal o ran tai amlfeddiannaeth eisoes ac fe ganiateir ceisiadau o’r fath yma gan gadw ardaloedd eraill yn breswyl;

·         Bod yr ystadegau yng nghyswllt tai amlfeddiannaeth yn yr adroddiad yn cyfeirio at y ward tra bod yr aelod lleol yn darparu ffigyrau o ran y stryd benodol yma;

·         Defnyddir y dystiolaeth a gasglwyd wrth lunio’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rŵan ond oherwydd bod y cynllun ar hyn o bryd yn destun archwiliad ei fod yn gynamserol i ystyried y polisïau. Fe ail-asesir y sefyllfa o ran y pwysau y gellir eu rhoi ar y polisïau yn dilyn yr archwiliad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd

2.     Yn unol â'r cynlluniau

 

5.7

Cais Rhif C16/0781/11/LL - Cyn Clwb y Rheilffordd (Railway Institute), Euston Road, Bangor pdf eicon PDF 875 KB

Newid amod rhif 2 (yn unol a'r cynlluniau a ganiatawyd) o caniatad rhif APP/Q6810/A/16/314218 er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 8 uned 1 llofft a 2 uned 4 lloft yn lle 8 uned 1 lloft. 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd John Wynn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid amod rhif 2 (yn unol â'r cynlluniau a ganiatawyd) o ganiatâd rhif APP/Q6810/A/16/314218 er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 8 uned 1 llofft a 2 uned 4 llofft yn lle 8 uned 1 llofft.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ddiwygio amod rhif 2 o ganiatâd blaenorol er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 2 uned ychwanegol o fewn y datblygiad (sef cyfanswm o 29 uned yn lle’r 27 uned a ganiatawyd yn flaenorol). Nodwyd nad oedd y cynllun yn golygu unrhyw newid i edrychiad allanol yr adeilad na gosodiad ffenestri o’r hyn oedd eisoes wedi ei ganiatáu ar apêl.

 

         Nodwyd y caniatawyd y cais blaenorol ar apêl ac roedd yr arolygydd cynllunio o’r farn bod y nifer o unedau yn weddol gymedrol ac na fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle nac yn debygol o arwain at unrhyw niwed sylweddol i fwynderau preswylwyr presennol o ran sŵn neu aflonyddwch oherwydd gosodiad a dyluniad yr adeilad, rheolaeth y defnydd a phresenoldeb o fusnesau yn yr ardal gyfagos.

        

         Pwysleisiwyd nad oedd newid wedi bod yn y sefyllfa bolisi ers caniatáu’r cynllun blaenorol ac felly bod yr egwyddor yn parhau i fod yn dderbyniol gan fod y defnydd eisoes wedi ei ganiatáu ac mae’r bwriad yma yn ddiwygiad bychan i’r caniatâd hwnnw felly ni ellir cwestiynu’r angen.

 

          Nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth a phwysau sylweddol i’r arweiniad clir a roddwyd yn y penderfyniad apêl diweddar. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG ynghyd â pholisïau cenedlaethol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(a)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Mai newid gosodiad mewnol yn unig oedd dan sylw;

·         Fe newidir y gosodiad gan nad oedd galw am y math o unedau a gynlluniwyd;

·         Y byddai’r bwriad yn darparu unedau hunangynhaliol o safon ar gyfer myfyrwyr;

·         Bod yr arolygydd wedi nodi wrth benderfynu’r apêlYn groes i farn y Cyngor, rwy’n ystyried bod nifer yr unedau a gynigir yn weddol gymedrol.”

 

(b)      Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:

·         Nad oedd yn ymwybodol o’r apêl tan ar ôl y dyfarniad;

·         Ei siomedigaeth y cysidrir caniatáu’r cais gan nad oes gofyn am y math yma o ddarpariaeth;

·         Y byddai’r fflatiau yn wag gan fod maint yr ystafelloedd yn mynd rhy fach;

·         Ei fod yn flin bod adeilad hanesyddol wedi ei golli.

 

(ch)   Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Ei fod wedi trafod y mater o ran derbyn rhybudd o’r apêl efo’r aelod lleol a’i fod wedi dod i’r amlwg bod problemau technegol efo I-Pad yr aelod wedi golygu nad oedd wedi derbyn rhybudd;

·         Ei fod yn deall y pryderon a’r siom  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7

5.8

Cais Rhif C16/0848/00/LL - Toiledau Abermaw, Marine Parade, Abermaw pdf eicon PDF 724 KB

Cais i drosi cyfleusterau cyheddous di-ddefnydd i annedd, i gynnwys codi uchder y presennol a newidiadau allanol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i drosi cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i annedd, i gynnwys codi uchder y to presennol a newidiadau allanol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli yng nghanol tref arfordirol Abermaw a bod Ysgol y Traeth i ddwyrain y safle gyda’r cae chwarae ar derfyn cefn a gogleddol safle’r cais.

 

         Adroddwyd y derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau gan y cyhoedd gan gynnwys ystyriaethau megis agosatrwydd yr adeilad at gae chwarae’r ysgol, diffyg tir mwynderol o amgylch yr adeilad, yr adeilad yn anaddas i’w drosi a bod safon y dyluniad yn annerbyniol. Roedd hefyd gohebiaeth yn croesawu’r datblygiad fel gwelliant i gyflwr blêr presennol y safle.

 

Pwysleisiwyd mai cais oedd gerbron i drosi adeilad presennol i annedd o fewn ffin datblygu canolfan lleol fel y diffiniwyd gan y CDUG. Nodwyd y byddai adfer ac ail ddefnyddio’r adeilad yn gyfle i’w dacluso a’i atal rhag dirywio ymhellach a thrwy hynny fe ellir gwarchod a gwella ansawdd a chyflwr y safle ac amddiffyn mwynderau gweledol yr ardal yn gyffredinol.  

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn ymateb i wrthwynebiadau gyda nifer o’r sylwadau yn ymwneud â chyfamod cyfreithiol ar yr adeilad ond nid oedd y rhain yn ystyriaethau cynllunio materol.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cychwynnodd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), annerch y Pwyllgor. Cynghorwyd yr aelod lleol gan yr Uwch Gyfreithiwr, y dylai ddatgan buddiant a gadael y siambr gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol y Traeth.

 

          Datganodd yr aelod lleol fuddiant ac fe adawodd y siambr.

 

(c)     Cynigwyd i ohirio’r cais er mwyn galluogi aelod arall i weithredu fel aelod lleol. Eiliwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

5.9

Cais Rhif C16/0886/15/LL - Glyn Rhonwy Pumped Storage, Glyn Rhonwy, Llanberis pdf eicon PDF 932 KB

Cais ar gyfer gosod llinnell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy a Is-orsaf Pentir.

 

AELODAU LLEOL:   Cynghorwyr Trevor Edwards, Brian Jones, Elfed Wyn Williams, John Wyn Williams a R. Hefin Williams.

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ar gyfer gosod llinell gyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr egwyddor o greu adnodd storfa bwmp yng Nglyn Rhonwy eisoes wedi ei dderbyn a’i gymeradwyo gan y Cyngor.

 

         Credir fod yr egwyddor yn dderbyniol a bod yr elfen yma yn gam angenrheidiol i sicrhau cyswllt rhwng y safle ble cynhyrchir y trydan a’r safle sydd yn ei ddosbarthu. Nodwyd, er gwybodaeth, bod cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer Gorchymyn yn rhoi Caniatâd Datblygu i gynllun storfa bwmp 99.9MW yng Nglyn Rhonwy. Eglurwyd bod cais o’r maint yma yn cael ei ystyried fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac felly fe wneir penderfyniad terfynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

         Nodwyd yr argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodir yn yr adroddiad, i gytuno ar ddull o groesi’r afon cyn dechrau unrhyw ddatblygiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn). Gofynnodd am eglurhad o ran statws y cais gwreiddiol am storfa bwmp pe byddai’r cais sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei wrthod. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai’r cais gwreiddiol dal yn fyw.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Angen cyflwyno a chytuno ar gynllun rheoli adeiladu amgylcheddol (construction  

        environmental management plan)

4.     Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru.

5.     Nodiadau Priffyrdd

6.     Nodyn Deddf Wal Rhannol

7.     Cytuno ar ddull o groesi’r afon cyn dechrau unrhyw ddatblygiad

 

5.10

Cais Rhif C16/0901/16/LL - 19, Llwybrmain, Mynydd Llandygai, Bangor pdf eicon PDF 595 KB

Codi estyniad unllawr cefn.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gwen Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi estyniad unllawr cefn.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi oherwydd ei faint a’i leoliad ni fyddai estyniad o’r fath hwn angen caniatâd cynllunio fel arfer, fodd bynnag o ganlyniad i’w leoliad o fewn Ardal Gadwraeth Mynydd Llandygai bod caniatâd yn angenrheidiol ar gyfer newid defnydd to i fetel o lechi naturiol.

 

         Eglurwyd oherwydd lleoliad yr estyniad, fe fyddai llethr yr estyniad yn wynebu i ffwrdd o unrhyw welfannau cyhoeddus ac o’r herwydd ni ystyrir y byddai unrhyw niwed gweledol yn digwydd i’r eiddo. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw or-edrych o’r safle ac ni fyddai unrhyw effaith ar fwynderau cymdogion.

 

         Tynnwyd sylw y derbyniwyd gohebiaeth gan Gyngor Cymuned Llandygai yn datgan cefnogaeth i’r cais.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Nododd aelod ei fod yn anfodlon na ddefnyddir llechi ar y to o ystyried bod yr eiddo mewn ardal cadwraeth a byddai hyn yn gosod cynsail. Holodd aelod os fyddai’n bosib amodi bod lliw’r to yn gweddu gyda lliw llechi. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y gellir gosod amod i’r perwyl hwn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser - 5 mlynedd,

2.     Deunyddiau’r waliau’n gweddu gyda’r tŷ

3.     Datblygiad i gydymffurfio gyda’r cynlluniau a gymeradwywyd

4.     Lliw’r to i weddu gyda lliw llechi