Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynghorwyr W. Tudor Owen a John Wyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Datganodd y Cynghorwyr Anne Lloyd-Jones a Michael Sol Owen fuddiant personol, yn eitem 6.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0773/14/AM) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

Datganodd y Cynghorydd Eirwyn Williams fuddiant personol yn eitem 6.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C13/1348/35/LL) oherwydd ei fod yn berchennog gwesty bach / B&B – tebyg i Min y Gaer.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

 b)   Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Endaf Cooke, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0773/14/AM);

·        Y Cynghorydd Roy Owen, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0773/14/AM);

·        Y Cynghorydd Gwen Griffith, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1164/16/MW);

·        Y Cynghorydd R. H. Wyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1336/39/LL);

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan  sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 366 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.12.16 fel rhai cywir    

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2016 fel rhai cywir.

 

5.

GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD (GWAHARDDIAD A CHYFYNGIAD LLWYTHO A DADLWYTHO NWYDDAU) (Y MAES YN NHREF CAERNARFON) pdf eicon PDF 187 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio yn rhannu argymhellion y Gwasanaeth Trafnidiaeth i gwblhau proses statudol ar gyfer trefniadau llwytho a dadlwytho ar y Maes yng Nghaernarfon.

 

Awgrymodd y Pennaeth Rheoleiddio nad oedd digon o fanylder yn yr adroddiad i’r Pwyllgor  ddod i gasgliad terfynol

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er mwyn derbyn mwy o fanylion.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad  Pennaeth Adran Rheoleiddio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

7.

Cais Rhif C16/0773/14/AM Cyn safle Ysgol yr Hendre, Ffordd Eryri, Caernarfon pdf eicon PDF 355 KB

Datblygiad preswyl i fyny i 45 o dai (gan gynnwys tai fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa newydd, uwchraddio’r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a tirlunio

 

AELODAU LLEOL:   Cynghorydd Endaf Cooke a Cynghorydd Roy Owen 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datblygiad preswyl i fyny i 45 o dai (gan gynnwys tai fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa newydd, uwchraddio’r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio

 

Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan yr Is-gadeirydd.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Rhagfyr 2016 er mwyn diwygio cynnwys yr adroddiad i gynnwys sylwadau Dwr Cymru. Cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi hyd at 45 o dai gan gynnwys tai fforddiadwy ar safle cyn Ysgol Gynradd yr Hendre, Caernarfon. Byddai  materion fel tirweddu, edrychiadau, cynllun a graddfa yn cael eu cadw’n ôl ar gyfer eu hystyried eto mewn cais materion a gadwyd yn ôl. Y bwriad yw:

 

-          adeiladu hyd at 45 o dai gyda bron i 50% yn dai fforddiadwy. Byddai'r tai hyn yn cynnwys tai rhent cymdeithasol a fydd yn cael eu darparu gan landlord cymdeithasol cofrestredig - CCG yn yr achos yma

-          Creu mynedfa newydd oddi ar ffordd sirol ddi-ddosbarth (Ffordd Eryri) oddeutu hanner ffordd lawr y safle,

-          Uwchraddio’r fynedfa bresennol,

-          Darparu llecynnau mwynderol cyhoeddus, llecynnau parcio yn rhannol o fewn cwrtil y tai a rhannol y tu allan gan ddarparu parcio cymunedol a thirlunio cyffredinol

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ardal breswyl sefydledig ac oddi fewn i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG)  yn mesur oddeutu 1.4 ha sydd, erbyn hyn yn cynnwys llystyfiant a sylfeini’r hen ysgol gynradd.

 

          Yng nghyd destun ystyriaethau cynllunio perthnasol, adroddwyd bod egwyddor o ddatblygu’r safle hwn ar gyfer anheddau preswyl wedi ei selio ym Mholisi C1, C3 a CH3 o GDUG. Amlygywd bod Polisi C1 yn datgan mai tir o fewn ffiniau datblygu trefi a phentrefi a ffurf ddatblygedig pentrefi gwledig fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd. Mae Polisi C3 yn caniatáu cynigion sy’n rhoi blaenoriaeth, lle bynnag y bo modd, i ail-ddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen a leolir o fewn ffiniau datblygu cyn belled fod y bwriad yn cyd-fynd a holl bolisïau perthnasol eraill y Cynllun.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol a hefyd, yn cymryd i ystyriaeth sylwadau’r Uned Strategaeth Tai y Cyngor (Tîm Opsiynau Tai) sydd wedi cadarnhau bod y math o dai a gynigiwyd, fel rhan o’r cais hwn, yn cyfarch anghenion ymgeiswyr sydd ar gofrestr tai cyffredin y Cyngor.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion stadau o dai sefydledig sydd o amrywiol ffurf, dyluniad, cynllun  a maint gyda deunyddiau allanol amrywiol iddynt. Eglurwyd bod y safle ar hyn o bryd yn  dirywio ar sail mwynderau gweledol a buasai caniatáu’r cais  yn debygol o fod yn gam tuag at wella mwynderau gweledol y rhan yma o’r dref.

 

Nodwyd bod anheddau preswyl wedi eu lleoli i’r gogledd, de a gorllewin o’r safle. Er mai cynlluniau dangosol o leoliad y tai arfaethedig a gyflwynwyd gyda’r cais cyfredol, mae’n bosib  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C16/1164/16/MW Chwarel Penrhyn, Bethesda pdf eicon PDF 637 KB

Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol.

Caniatadau Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW, C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW

 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gwen Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol.

Caniatadau Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW, C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais. Eglurwyd bod y chwarel yn un o’r rhai pwysicaf yng Ngwynedd gyda 300 acer o dir  wedi ei leoli gyferbyn a’r Parc Cenedlaethol gyda dynodiadau amgylcheddol o bwys o gwmpas y safle sef, Ardal Cadwraeth Arbennig a safle o werth gwyddonol arbennig.

 

Nodwyd yr angen i’r Pwyllgor ystyried dau beth;

 

i)       Pwysleisiwyd mai nid cais am ganiatad cynllunio oedd gerbron y Pwyllgor, ond cais i adolygu rhestr amodau ar 4 caniatad dilys ar y safle gyda’r bwraid eu cyfuno o dan un atodlen gyflawn o amodau cynllunio. Amlygwyd mai y drefn gyda chwareli yw mai  cyfrifoldeb gweithredwr y chwarel yw creu atodlen o amodau cynllunio er mwyn i’r Cyngor eu hystyried. Nodwyd bod hyn yn cael  ei wneud bod 15eg mlynedd sydd yn gyfle i adoygu y sefyllfa, cael gwared o amodau amherthnasol, adolygu y gwaith a bod y safle yn cael ei adfer, sicrhau dilyniant i’r gwaith, ei fod yn gynaladawy ynghyd a ystyriaethau archaeolegol ac amgylcheddol.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno atodlen amodau gyda’r cais a bod cytundeb rhwng y Cyngor a’r chwarel  mai y bwriad yw codi’r safonau i adlewychu anghenion cynllunio ac angehnion amgylcheddol fodern. Amlygywd bod sawl mater i’w ystyried gyda’r cais e.e, ffrwydro, swn, llwch ac  effaith ar fwynderau pobl lleol a bod polisi C17 o’r CDU yn ystyried ceisiadau o adolygiadau o ganiatadau cynllunio  mwynau.

 

Adroddodd y swyddog ei fod yn fodolon gyda’r cais a bod datganiad amgylcheddol sylweddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn ystyried  lleoliad y safle a’r effaith ar yr ardal o’r gwmpas..

 

ii)      Ystyried gwyro llwybr cyhoeddus. Eglurwyd bod gorchymyn a ganiatawyd 15 mlynedd yn ol i gau a gwyro llwybr yn dod i ben mis yn y mis nesaf a bod y chwarel yn awyddus i gau y llwybr am 17 mlynedd pellach gan ystyried materion iechyd a diogelwch o’r  cyhoedd yn croesi llwybrau hawlio y llwybr. Y bwriad yw rhoi y llwybr yn ol mewn 17 mlynedd, ond nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r cwmni i sefydlu llwybr o’r newydd fyddai yn cysylltu tir agored y mynydd gyda Lon Las Ogwen.

 

Tynnwyd sylw at yr amodau cynlluniau manwl oedd wedi eu rhestru fel atodiad i’r adroddiad

 

(b)    Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

-       pwysig cael amodau i warchod y safle

-       chwarel hynaf a mwyaf o ran maint yng Nghymru

-       y chwarel o fudd economaidd i Ddyffryn Ogwen

-       angen gwarchod yr henebion (tynnwyd sylw at yr adroddiad Archaeoleg)

-       cynnig yr angen i CADW roi statws statudol i’r henebion

-       angen gwarchod yr Ardal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C16/1269/41/LL Uned 1-2 Parc Amaeth, Llanystumdwy pdf eicon PDF 298 KB

 

Cais i estynnu adeilad presennol er mwyn darparu lle storio

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Aled Lloyd Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

   

    Cais i estynnu adeilad presennol er mwyn darparu lle storio

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais llawn ar gyfer codi estyniad ar ochr orllewinol uned gynhyrchu bresennol (cynllun diwygiedig i'r un a ganiatawyd yn flaenorol - C14/0812/41/AM). Diben yr estyniad newydd fydd sicrhau gofod ychwanegol ar gyfer gwasanaeth paratoi cigoedd ffres Bwydlyn, sy’n rhan o gwmni Harlech Frozen Foods Cyf. Adroddwyd y byddai gwaith cynhyrchu’n parhau yn yr adeilad gwreiddiol tra bydd yr estyniad yn cynnig gofod ychwanegol ar gyfer prosesu ynghyd a gofod storio a chyfleusterau cefnogol.

 

  Nodwyd y byddai’r estyniad yn creu 995m2 ychwanegol o arwynebedd llawr drwy ymestyn yr adeilad presennol gan gadw at ddefnyddiau tebyg i’r adeilad gwreiddiol gyda tho crib  a waliau o gladin proffil. Byddai’r estyniad dau fetr yn is na’r adeilad gwreiddiol, ond yr arwynebedd yn fwy na’r gwreiddiol o 470m2  fydd yn golygu bod arwynebedd llawr yr uned mwy neu lai'n treblu.

 

  Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol gan dynnu sylw yn arbennig at bolisi D8  - ehangu mentrau presennol. Er bod y datblygiad yn ymddangos yn un cymharol fawr, nodwyd bod y datblygiad yn gwbl addas ar gyfer y lleoliad ac yn cyfrannu tuag at gynaladwyedd economaidd y busnes sydd yn dderbyniol o safbwynt polisïau perthnasol y CDU.

 

          Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn i’r cais

 

(b)     Roedd yr Aelod Lleol wedi ymddiheuro na fyddai yn bresennol, ond wedi dymuno nodi ei fod yn gefnogol i’r cais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. 

 

1. Amser 5 mlynedd.

2. Yn unol â’r cynlluniau

3. Lliw allanol i'w gytuno.

4. Amod Dŵr Cymru

 

10.

Cais Rhif C16/1332/38/LL Wanganui ger Pennant, Llanbedrog pdf eicon PDF 258 KB

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le

 

(a)       Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi'r bwriad o ddymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ annedd newydd ynghyd a gwaith cysylltiol i hynny. Lleoliwyd y safle o fewn ffin ddatblygu Llanbedrog - o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Ceir mynediad i’r safle ar hyd ffordd breifat oddi ar y ffordd ddosbarth 2 gerllaw’r safle.

Nodwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn un deulawr ac wedi ei leoli ar safle’r tŷ presennol.  (sydd mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd).  Bydd dwy ystafell wely i’r tŷ sydd o ddyluniad eithaf sgwâr o ran edrychiad. Bydd y waliau allanol yn cael eu gorffen mewn byrddau pren a byddai’r to yn un eithaf fflat gyda pheth goleddf iddo. Bydd dau lecyn parcio o fewn cwrtil yr eiddo.

 

          Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol yn yr adroddiad

 

Amlinellwyd bod y bwriad wedi ei gyflwyno fel cais i ddymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd, fodd bynnag nodywd nad oedd polisi penodol o ran dymchwel a chodi tŷ newydd o fewn ffiniau datblygu yn CDUG. Ategwyd bod polisi C1 yn datgan mai ‘o fewn ffiniau datblygu trefi a Phentrefi...y bydd prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd’ gyda pholisi CH4 hefyd yn berthnasol gan ddatgan mewn egwyddor y caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd sydd heb eu dynodi ac sydd o fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellid cydymffurfio â holl bolisïau perthnasol y Cynllun a’r meini prawf perthnasol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mae dyluniad yr eiddo arfaethedig yn un cyfoes a chydnabuwyd y byddai gwahaniaeth barn debygol am ddyluniad cyfoes Ystyriwyd bod y bwriad yn cynnig tŷ o faint, graddfa a ffurf fyddai ar y cyfan yn cyd-fynd â chyd-destun y safle.  Gyda mwyafrif o’r ffenestri gydag edrychiad deheuol ystyriwyd na fyddai hyn yn creu effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl cymdogion ac ni ystyriwyd fod y bwriad yn golygu gorddatblygiad o’r safle nac yn achosi niwed arwyddocaol o ran sŵn traffig.

 

       Eglurwyd bod llwybr cyhoeddus yn rhedeg gerllaw’r safle a bod yr Uned Llwybrau yn awyddus i sicrhau fod llwybr cyhoeddus rhif 12 Llanbedrog yn cael ei ddiogelu yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad.  Nodwyd, gan fod y llwybr yn agos iawn i’r datblygiad ac y gallai gwaith adeiladu amharu ar y llwybr ystyriwyd mai priodol fuasai gosod amod i sicrhau bod y llwybr yn cael ei ddiogelu. 

 

Ystyriwyd fod y bwriad i adeiladu tŷ newydd ar y safle yn dderbyniol o safbwynt y polisïau perthnasol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

(c)       Mewn ymateb i sylw nad oedd polisiau ar gyfer ‘dymchwel ac ail godi’ tai ac o’r awgrym   y dylid datblygu polisi  i warchod hyn o ran safbwynt niweidio'r amgylchedd, nodwyd y byddai materion fel hyn yn cael ei drafod o dan bolisïau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C16/1336/39/LL Anhywel, Lon Pont Morgan, Abersoch pdf eicon PDF 261 KB

Tŷ newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R H  Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu ty newydd dwy loft a gwaith cysylltiedig

 

(a)    Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i adeiladu annedd deulawr modern a ddyluniwyd i gynnwys dwy ystafell wely, dwy ystafell ymolchi, stydi ac ystafell fyw / cegin. Cyflwynwyd hefyd fanylion tirlunio bwriadedig ynghyd a manylion trefniadaeth parcio a throi ar gyfer dau gerbyd ger mynedfa gerbydol newydd. Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer datblygu ar y safle hwn wedi ei wrthod yn 2013 ac, yn ogystal, fe wrthodwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Eglurwyd bod y cynllun newydd a gyflwynwyd yn sylweddol wahanol i’r cynllun a ystyriwyd yn flaenorol.

 

Disgrifiwyd y tŷ arfaethedig fel un gyda tho fflat a thyfiant arno (to “gwyrdd”) wedi’i osod ar ddau lefel. Byddai angen codi lefel y tir ger y ffordd er mwyn creu safle gwastad ar gyfer parcio a throi. Byddai angen gostwng lefel y tir ar waelod y safle er mwyn gosod yr adeilad i mewn i'r llethr.  Yn sgil hyn byddai lefel to’r rhan uchaf o’r tŷ 0.3m yn is na brig to tŷ Carrog (drws nesaf), ac 1.2m yn is na brig to’r cynllun a wrthodwyd yn 2013.

 

Bydd waliau ochr yr adeilad yn cael eu gorchuddio gyda cherrig tra byddai’r edrychiad blaen a chefn wedi eu gorchuddio gan gladin pren, gyda ffenestri sylweddol yn wynebu’r môr.

 

Nodwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynbeu’r cais oherwydd gorddatblygiad ar safle cyfyng ac amlwg ynghyd a phryder am ddiogelwch mynediad. Eglurwyd hefyd, er bod y safle o fewn yr ANHE ei fod yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu pentref Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Yn ogystal, fe ystyriwyd y byddai y deunyddiau naturiol a ddewiswyd fel gorffeniadau yn gweddu gyda'r tirlun mewn modd anymwthiol. Nid oedd yr Uned AHNE o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar yr AHNE ac felly, ysytiwyd bod y cynnig yn gyson gyda pholisiau perthnasol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol ynghyd a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod yr holl bryderon wedi eu datrys a bod  y cynllun bellach yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

-       er penderfyniad yr apêl, bod y cynllun eto yn agos i’r lon ac yn parhau yn adeilad dau lawr

-       bod y datblygiad yn atal goleuni o’r de ac yn goredrych ar Carrog

-       bod cymdogion yn colli preifatrwydd

-       y byddai yn anodd plannu 2m o dyfiant ar y llethr i osgoi goredrych -  yr angen am blannu yn cyfaddef goredrychiad posib

-       byddai modd ychwanegu at y datblygiad i’r dyfodol

 

(c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

-       bod y datblygiad dipyn yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C16/1348/35/LL Min y Gaer, Criccieth pdf eicon PDF 246 KB

 

Ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar gyfer newid defnydd i lety aml feddianaeth

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar gyfer newid defnydd i lety aml feddiannaeth

 

(a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn ymwneud a newid defnydd tŷ gwesty presennol i lety amlfeddiannaeth 10 ystafell wely.

 

Disgrifiwyd yr eiddo fel  adeilad par oedd wedi ei leoli o fewn ffiniau Criccieth, ac oedd wedi gweithredu tan yn ddiweddar fel tŷ gwesty, 10 ystafell wely. Nodwyd bod fflatiau hunangynhaliol hefyd ar y llawr islawr ac nad oedd bwriad gwneud unrhyw newidiadau allanol i’r adeilad.

 

         Adroddwyd bod y cais blaenorol o dan C16/0711/35/LL wedi ei wrthod gan nad oedd tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dangos bod yr eiddo wedi ei farchnata’n aflwyddiannus am bris rhesymol a theg fel llety gwyliau am gyfnod parhaol o 12 mis.

 

         Tynnwyd sylw at y polisiau perthnasol yn yr adroddiad gan gyfeirio at  bolisi CH11 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud a throsi adeiladau o fewn ffiniau datblygu pentrefi a chanolfannau lleol ar gyfer defnydd preswyl; mae’n caniatáu cynigion os gellir cydymffurfio a meini prawf sy’n ymwneud ag angen lleol, ardrawiad ar lety gwely a gwasanaeth cymunedol a meddiannaeth y tŷ.

 

Amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn oedd yn cyfeirio at effaith y newid mewn defnydd ar fwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos o’i gymharu â’r defnydd presennol. Mewn ymateb, er y byddai natur defnydd yr adeilad yn wahanol (defnydd preswyl llawn amser yn hytrach na defnydd gwyliau) ni ystyriwyd na fydd y defnydd bwriedig fel llety amlfeddiannaeth yn debygol o fod yn ddefnydd dwysach na’r defnydd gwyliau; gan fod potensial i bob ystafell fod yn llawn drwy’r adeg gan bobl ar eu gwyliau ar hyn o bryd.

 

Ategwyd bod 6 llecyn parcio presennol o flaen yr adeilad; ac ystyriwyd oherwydd natur y llety amlfeddiannaeth sy’n destun y cais; agosatrwydd y safle i ganol y pentref a meysydd parcio cyhoeddus; fod y ddarpariaeth yma yn ddigonol.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisiau perthnasol, a bod y wybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno gyda’r cais i ddangos bod yr eiddo wedi ei farchnata am gyfnod digonol i gydymffurfio gyda gofynion polisi CH11 o’r CDUG.

 

(b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

-       na fyddai unrhyw newid i ddefnydd yr adeilad

-       y bwriad yw paratoi cartref i staff / nyrsys Cartref Gofal cyfagos drwy gynnig lle addas iddynt fyw o dan yr un to

-       ni fydd dim mwy o bobl yn aros yn yr adeilad i’r hyn sydd yn cael ei ganiatau

-       nid yw y sefyllfa ddim gwahanol i’r sefyllfa bresennol o ran preifatrwydd

 

(c)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhawyd mai i Gartref Gofal The Pines y byddai’r nyrsys yn gweithio

  

(d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

-       angen ystyried beth fuasai yn digwydd petai yr adeilad yn cael ei werthu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C16/1501/40/LL Tir ger 'The Warehouse' Ystad Ddiwydiannol Y Ffor, Y Ffor pdf eicon PDF 224 KB

Gosod mast monopole 17.5 medr o uchel ynghyd a gosod cyfarpar cysylltiedig yn cynnwys 3 antena, 3 caban offer ac 1 caban mesurydd

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast monopole 17.5 medr o uchel ynghyd a gosod cyfarpar cysylltiedig yn cynnwys 3 antena, 3 caban offer ac 1 caban mesurydd

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i

         osod tŵr telathrebu 17.5m gyda 3 antenna ar ei ben, 3 cabinet offer, 1 cabinet mesurydd a datblygiad cysylltiol ar y llawr oedd yn cynnwys codi ffens 2.1m o uchder oddi amgylch yr offer. Byddai’r tŵr yn un o ddur galfanedig - yn strwythur main a syml sydd yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Nodwyd y byddai’r cabanau o faint amrywiol, lliw gwyrdd. 

 

         Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn uned ddiwydiannol ar ystâd ddiwydiannol ar gyrion pentref Y Ffor. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn.

 

         Cyfeiriwyd at bolisi CH20 – Offer telathrebu yn yr adroddiad ac yng nghyd destun mwynderau gweledol nodwyd gyda’r math yma o ddatblygiad, mae’n anorfod y byddai’r strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Er hynny, ystyriwyd yn yr achos yma bod y lleoliad yn addas ar gyfer y bwriad a bod rhai polion trydan / ffôn eraill yn bresennol yn y cyffiniau. 

 

          Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, awgrymwyd bod y bwriad i godi mast telathrebu yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

-       rhaid rhoi ystyriaeth i gael gormod o fastiau / polion mewn un ardal

 

-       yn adnodd angenrheidiol ar gyfer ffonau symudol

 

(ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chais i’r dyfodol gan y Swyddfa Gartref o ran gosod tyrrau telathrebu ar gyfer gwasanaethau awgrymwyd y byddai modd argymell bod y tyrrau yn cydgysylltu gyda’r holl gwmnïau ffonau symudol.

 

          PENDERFYNWYD caniatau’r cais.

        

         Amodau

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

            3. Tynnu’r mast a’r offer cysylltiol ac adfer y tir os ydi’r defnydd yn dod i ben.

            4. Mast i fod o orffeniad galfanedig.

            5. Cabinets a ffens i fod o liw gwyrdd.