skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Seimon Glyn, Dyfrig Jones, John Wyn Williams: Angela Russell ac Ann Williams (Aelodau Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Tudor Owen, yn eitem 5.1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0807/20/CR a C15/0807/20/CR) oherwydd ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth  Harbwr Caernarfon

·        Y Cynghorydd Gwen Griffith, yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0603/09/LL) oherwydd ei bod yn aelod o Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·        Y Cynghorydd  Michael Sol Owen yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0603/09/LL) oherwydd ei fod yn aelod o Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·        Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0603/09/LL) oherwydd ei bod yn aelod o Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu buddiant personol, yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0329/18/LL) oherwydd bod ei chefnder a oedd yn byw gyferbyn a’r safle wedi gwrthwynebu’r cais.

 

          Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd John Wynn Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0808/20/LL a C15/0807/20/CR);

·        Y Cynghorydd Elfed W. Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0329/18/LL);

·        Y Cynghorydd Gareth Griffith, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0724/20/AM).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 336 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

I gyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

        

 

5.1

Cais Rhif C15/0808/20/LL Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli pdf eicon PDF 624 KB

Cais ol-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl weithredol i gadw pontŵn o fewn y cei

 

(a)     Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio nifer o weithiau am amryw o resymau sydd wedi eu rhestru yn yr adroddiad.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais llawn ôl weithredol ydoedd i gadw pontwn o fewn y cei. Disgrifiwyd bod y pontwn wedi ei  gysylltu â wal yr harbwr mewn tri lleoliad gyda braced haearn a fydd yn gadael i’r pontwn godi gyda’r llanw. Nodwyd bod y safle yn rhan o’r Marina presennol yn y Felinheli.

 

Tynnwyd sylw i’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd.

 

Amlygwyd bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn tynnu sylw at gyflwr wal yr harbwr ac at addasrwydd y wal honno i gynnal pontŵn ble mae rhannau o’r wal wedi disgyn yn y gorffennol. Nodwyd bod hyn yn codi pryder a yw’r wal yn strwythurol gadarn i allu cynnal pontŵn a’r llanw. Mynegwyd bod adroddiad peirianyddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac yn datgan nad yw gosod y pontŵn yn debygol o gael unrhyw effaith andwyol o safbwynt strwythur peirianyddol.

 

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor o ofyn am fwy o wybodaeth ac yn sgil hynny bod diweddariad i’r asesiad strwythurol gwreiddiol wedi ei dderbyn, ymgynghorwyd gyda syrfëwr o fewn y Cyngor er mwyn derbyn cadarnhad bod yr adroddiad a dderbyniwyd yn addas ar gyfer ei bwrpas. Cyfeiriwyd at sylwadau'r syrfëwr yn paragraff 5.4 o’r adroddiad.

 

Er yr asesiad,  nodwyd o’r ymateb i’r ail ymgynghori bod y pryderon yn parhau am y sefyllfa a chynnwys yr adroddiad mwyaf diweddaraf. Fodd bynnag, amlygwyd nad oedd tystiolaeth arbenigol wedi ei dderbyn yn datgan i’r gwrthwyneb ac felly nid oedd rheswm i beidio derbyn y casgliadau a'r cyngor a dderbyniwyd gan Richard Broun Associates.

 

Adroddwyd bod y pontŵn yn gweddu i’r ardal o agwedd dyluniad ac edrychiad ac o’r safbwynt ei fod o fewn marina weithredol. Ni ystyriwyd bod goblygiadau ar edrychiad na chymeriad strwythur rhestredig na mwynderau ardal na thrigolion cyfagos, a amlinellwyd bod yr adroddiad peirianyddol a gyflwynwyd a oedd yn cynnwys diweddariad yn datgan cryfder y wal i gynnal y pontŵn. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn unol â'r polisïau perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nad oedd gan 87 o wrthwynebwyr wrthwynebiad i’r pontwn, dim ond gwrthwynebiad i osod y pontwn ar hen wal Fictorianaidd – llawer o wybodaeth briodol gan y trigolion lleol am effaith y wal a’r llanw

·         Bod y wal yn derbyn effaith andwyol gwynt, tywydd garw a llanw uchel

·         Bod darn o’r  wal wedi disgyn yn 2000

·         Wedi gosod pontwn yn 2001 ymhen ychydig flynyddoedd dangosodd y wal ychydig o straen. Amlygwyd y pryderon hyn i’r Cyngor ond ni chafwyd unrhyw weithrediad. Yn 2008 disgynnodd y wal i’r môr ynghyd a gerddi  trigolion

·         Yn Rhagfyr 2015, y pontwn wedi datgysylltu ac yn arnofio yn yr Harbwr

·         Nid oes unrhyw gyfeiriad at ‘grac fertigol’ sydd yn y wal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C15/0807/20/CR Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli pdf eicon PDF 629 KB

Cais ol-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Cais ôl weithredol i gadw pontwn o fewn y cei

 

(a)       Gofynnwyd i ohirio’r cais yn unol â’r hyn a adroddwyd ar y cais uchod.

 

 

          PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

 

5.3

Cais Rhif C16/0329/18/LL Tir gyferbyn Post Office, Clwt y Bont, Caernarfon pdf eicon PDF 814 KB

Codi tri tŷ annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Codi tri tŷ annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig

 

          Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi cael ei ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 4 Gorffennaf 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle ac i’r swyddogion wirio ffigyrau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. 

 

Atgoffwyd yr aelodau mai cais ydoedd i godi tri tŷ deulawr ar wahân ar safle tir llwyd o fewn ffin datblygu pentref Clwt y Bont. Amlygwyd y byddai’r tai pedair llofft ar gyfer y farchnad agored gyda mynedfa ar wahân i’r tri eiddo ac fe fyddai pob un yn arwain at ffordd ddi-ddosbarth sy’n gwasanaethu nifer o anheddau.

 

       Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisi CH4 o’r CDUG a oedd yn caniatáu cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd na ddynodwyd ac oedd o fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio â holl bolisïau perthnasol y CDUG a’r 3 maen prawf a oedd yn ffurfio rhan o’r polisi. Tynnwyd sylw bod maen prawf 1 yn ymwneud gyda chael cyfran o bob uned sydd ar y safle yn rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y safle. Eglura’r Datganiad Cynllunio Cefnogol (wedi ei gefnogi gan y Cyfrifiadau Hyfywdra) nad ydyw’n hyfyw i gynnig elfen fforddiadwy fel rhan o’r cynllun. Amlygwyd bod yr ymgeiswyr wedi dangos gwerth y farchnad o hyd at £200,000 am bob annedd ac yn unol ag Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy Cynghorau Sir Gwynedd ac Ynys Môn Ionawr 2013, derbynnir bod y ffigwr yma o £200,000 yn rhesymol a phriodol ar gyfer Clwt y Bont.

 

Roedd pryderon hefyd wedi eu derbyn o safbwynt effaith ar fwynderau preswyl ond eglurwyd nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn ddarostyngedig i amodau cynllunio priodol.

 

       Nodwyd bod sawl gwrthwynebydd wedi honni fod y tir yn ansefydlog ac wedi ei lygru gan wastraff megis hen geir. Adroddwyd bod polisi B30 yn awgrymu gwrthod ceisiadau ar dir sydd wedi ei lygru heb wybodaeth i dangos triniaeth dderbyniol o’r safle. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn wedi ei chyflwyno i gefnogi'r honiadau o ansefydlogrwydd y tir nac o unrhyw beryglon llygredd ac nid oedd unrhyw un o'r asiantaethau swyddogol a ymgynghorwyd a hwy wedi codi'r materion hyn. Pe caniateir y cais argymhellir gosod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod archwiliad desg i asesu risg o lygredd ar y safle yn cymryd lle ac os oes gwir angen gweithrediad pellach bod sicrwydd bod hyn yn digwydd cyn datblygu’r safle.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol:

·         Bod gosodiad y safle yn golygu effaith ar fwynderau trigolion cyfagos

·         Bod y tir wedi ei godi ac nid yn addas ar gyfer datblygu – hyn yn groes i B28 o’r CDUG;

·         Ni chynhwysir elfen fforddiadwy yn y bwriad ac nid oedd digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno i beidio cynnwys tŷ fforddiadwy;  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

Cais Rhif C16/0460/15/LL Maes Carafanau Llanberis , Llanberis pdf eicon PDF 846 KB

Amrywio amodau 16, 17, 18 a 26 o ganiatâd cynllunio C13/1136/15/LL er mwyn galluogi ymestyniad i’r tymor (1 Mawrth hyd 10 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol ) a defnydd / meddianiad y 2 llety warden trwy'r flwyddyn gan bersonau sy’n gyflogedig mewn rheolaeth y safle carafanau teithiol a’u dibynyddion

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Amrywio amodau 16, 17, 18 a 26 o ganiatâd cynllunio C13/1136/15/LL er mwyn galluogi ymestyniad i’r tymor (1 Mawrth hyd 10 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol) a defnyddio / meddianiad y 2 llety warden trwy’r flwyddyn gan bersonau sy’n gyflogedig mewn rheolaeth y safle carafanau teithiol a’u dinasyddion

        

(a)      Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd er mwyn ceisio goresgyn pryderon a amlinellir yn yr adroddiad presennol, argymhellwyd gohirio'r penderfyniad.

 

(b)      Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r  cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

5.5

Cais C16/0590/42/AM Tir ger Penrhos, Morfa Nefyn pdf eicon PDF 599 KB

Adeiladu annedd a creu llefydd parcio

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu annedd a chreu llefydd parcio

 

(a)       Nodwyd, er mwyn gallu asesu'r manylion diwygiedig a’r ymatebion i’r ail-ymgynghori fel rhan o’r adroddiad Pwyllgor argymhellwyd gohirio'r penderfyniad.

 

(b)       Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r  cais.

 

         PENDERFYNWYD gohirio’r cais

 

 

5.6

Cais Rhif C16/0603/09/LL Tir yn Penmorfa, Tywyn pdf eicon PDF 728 KB

Cais llawn i godi 5 tŷ deulawr fforddiadwy, creu safle mwynderol a gwelliannau i'r ffordd stad bresennol

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Lloyd Jones a Cynghorydd Mike Stevens

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 5 tŷ deulawr fforddiadwy, creu safle mwynderol a  gwelliannau i’r ffordd stad bresennol

 

Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is Gadeirydd

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais llawn i godi 5 ty annedd deulawr fforddiadwy gyda dwy ystafell wely wedi eu gosod allan ar ffurf teras o dair uned ac yna par o dai. Nodwyd bod y safle yn un gwastad oddi fewn i ffin datblygu tref Tywyn yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac eisoes wedi ei baratoi ar gyfer ei ddatblygu. Eglurwyd bod tai stadau preswyl eraill yn ffinio’r safle gyda ffordd stad eisoes wedi ei darparu. Ategwyd bod bwriad darparu gwelliannau i’r ffordd stad bresennol ynghyd a 12 llecyn parcio a man troi.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y bwriad yn golygu datblygiad o dai sydd yn gymharol draddodiadol o ran eu ffurf a’i osodiad gyda gerddi i’r blaen a’r cefn sydd yn dilyn ffurf stad Penmorfa yn bresennol. Nodwyd mai Cartrefi Cymunedol Gwynedd oedd yr ymgeisydd a bod paratoi tai yn rhan o’u dyletswydd statudol.

 

Amlygywd bod nifer o lythyrau wedi eu derbyn gan unigolion yn nodi pryderon am faterion yn ymwneud a diogelwch a thraffig ond ystyriwyd bod y bwriad yn cynnwys gwelliannau parhaol i’r ffordd stad bresennol. Roedd pryderon hefyd wedi eu derbyn o safbwynt effaith ar fwynderau preswyl ond eglurwyd nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn yr achos hwn.

 

Ategwyd bod materion llifogydd, bioamrywiaeth a darpariaeth addysgol yn dderbyniol ac yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol, bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau.

             

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·           Derbyniwyd y byddai aflonyddwch tebygol yn ystod y cyfnod datblygu ac felly amlygywd bod cyfnod rheoli traffig yn cael ei gynnig

·           Y byddai addasiadau i’r ffyrdd yn welliannau hir dymor i bawb

·           Llecyn gwyrdd yn cael ei gadw

·           Gyda thystiolaeth gadarn am yr angen am dai fforddiadwy yn Nhywyn  - nodwyd bod y bwriad yn ymateb i’r angen.

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Amodau:

 

1.    Amser

2.    Cydymffurfio gyda chynlluniau;

3.    Deunyddiau waliau allanol i’w cytuno;

4.    Llechi a’r doeau’r anheddau a samplau i’w cyflwyno cyn cychwyn datblygu;

5.    Cyflwyno manylion tirlunio i’w cyflwyno er cymeradwyaeth;

6.    Cyfnod gweithredu cynllun tirlunio;

7.    Amodau Dwr Cymru Dim adeiladu o fewn 3 medr o’r garthffos gyhoeddus;

8.    Gwelliannau i’r ffordd stad i’w gweithredu cyn cychwyn ar unrhyw waith o adeiladu’r tai, rhaid i’r gwelliannau gael eu cadw yn barhaol yn dilyn hynny;

9.    Cwblhau'r mannau parcio cyn yr anheddir y datblygiad.

10.  Datblygiad yn unol â Chynllun Rheolaeth Traffig a gyflwynwyd.

11.  Datblygiad yn unol ag  argymhellion Adroddiad Ecolegol diwygiedig dyddiedig Awst 2016  ac unrhyw amod perthnasol yn ymwneud â hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru/Uned Bioamrywiaeth – i gynnwys Cynllun Gwella Bioamrywiaeth ac amodau yn ymwnued gyda moch  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6

5.7

Cais Rhif C16/0724/20/AM Tir gen Canolfan Iechyd, Ffordd Glan y Mor, Y Felinheli pdf eicon PDF 664 KB

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 11 tŷ newydd, creu mynedfa cerbydol newydd a ffordd stad, darparu tir agored cyhoeddus

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 11 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, darparu tir agored cyhoeddus.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais amlinellol ydoedd i godi 11 tŷ, creu mynedfa gerbydol a ffordd stad ynghyd a darparu tir agored cyhoeddus gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i’w cynnwys oddi fewn i gais manwl ar faterion a gadwyd yn ôl (pe caniateir y cais amlinellol). Adroddwyd mai'r unig fater oedd yn ffurfio rhan o’r cais amlinellol oedd y fynedfa arfaethedig gyda’r materion oedd wedi eu cadw yn ol yn ymwneud a thirweddu, edrychiadau cynllun a graddfa.

 

Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisiau C1 - Lleoli Datblygiad Newydd a pholisi Ch7 - tai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig sy’n union ar gyrion pentrefi a chanolfannau lleol. Eglurwyd bod y safle yn ymylu’r ffin datblygu sydd yn rhedeg gyda Ffordd Glan y Môr ac wrth ystyried yr agwedd yma, fe all y safle fod yn safle eithrio gweledig. Er hynny, mae'r polisi  ond yn caniatáu datblygiadau am dai fforddiadwy yn unig, lle mae’r angen wedi ei brofi, ond amlygywd mai'r bwriad yma yw cynnig 3 tŷ fforddiadwy yn unig sydd felly yn groes i bolisi CH7.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, amlygwyd bod yr Uned Trafnidiaeth wedi argymell i’r ymgeisydd gyflwyno Asesiad Effaith Traffig oherwydd byddai’r bwriad yn ychwanegu yn arwyddocaol at y lefel trafnidiaeth ar hyd y Ffordd Glan y Môr. Yn ogystal, amlygywd bod yr Uned wedi mynegi pryder ynglŷn â lleoliad y fynedfa arfaethedig oherwydd presenoldeb mynedfa i’r feddygfa gerllaw gyda phryder y gallai un fynedfa amharu ar welededd ddefnydd y llall. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd digon o wybodaeth na thystiolaeth wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i gadarnhau bod y bwriad yn dderbyniol ar sail diogelwch ffyrdd ac felly yn groes i ofynion polisiau.

 

Tynnwyd sylw bod CADW yn amlygu pryder am ddiffyg asesiad priodol o effaith y datblygiad ar osodiad heneb gofrestredig

 

Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor o ddarparu tai marchnad agored tu allan i ffin datblygu a bod diffyg gwybodaeth yn atal asesiad llawn o’r  datblygiad.

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):

·         Ei fod yn gwrthwynebu y cais

·         Bod cais tebyg wedi ei gyflwyno yn Ebrill 2015 - rhywfaint o newidiadau i’r cais arfaethedig, ond er yn wahanol, nid yw’r polisiau wedi newid

·         Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu

·         Gwybodaeth ychwanegol, angenrheidiol heb ei gyflwyno

·         Tynnu sylw at y rhesymau gwrthod yn yr adroddiad

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Bod y bwriad yn groes i nifer o bolisïau

·         Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu

·         Dim digon o dai fforddiadwy yn cael eu cynnig fel rhan o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7

5.8

Cais Rhif C16/0770/38/AM Glynllifon, Llanbedrog pdf eicon PDF 941 KB

Creu 16 llety gwyliau deulawr gyda parcio cysylltiedig ac ardal amwynderol

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu 16 llety gwyliau deulawr gyda pharcio cysylltiedig ag ardal amwynderol

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan mai cais amlinellol ydoedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ol. Dengys y cynlluniau y byddai’r unedau arfaethedig yn ddeulawr ac oddeutu 6.8m mewn uchder wedi eu rhannu rhwng pedwar teras. Amlygywd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Llanbedrog, gryn bellter tu allan i’r ffin datblygu. Saif mewn dyffryn coediog o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn, a rhwng dwy heneb Gofrestredig Pen y Gaer a Nant y Castell. Nodwyd hefyd bod coed aeddfed ar ochr orllewinol y safle sydd yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed ac mae’r llethrau sydd i’r dwyrain wedi eu hadnabod fel Safle Bywyd Gwyllt Lleol. Ymddengys hefyd o waith LANDMAP fod cyffiniau y cais wedi ei adnabod fel ardal weledol Mynydd Tir y Cwmwd sydd o safon weledol ‘uchel’ ac felly'r safle yn cael ei ystyried yn dirlun sensitif iawn.

 

Nodwyd nad oedd ymateb Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi ei dderbyn wrth ysgrifennu'r adroddiad, ond tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd.

 

Er mai cais amlinellodd oedd yn cael ei gyflwyno, nid oedd manylion llawn o ddyluniad yr unedau wedi ei gynnwys, fodd bynnag, ystyriwyd y byddai'r datblygiad o faint a graddfa fyddai yn sicr o gael ardrawiad gweledol annerbyniol gan arwain at ddatblygiad trefol ei naws mewn dyffryn tawel.

 

Mewn ymateb i faterion trafnidiaeth a mynediad, amlygywd bod y datblygiad yn dangos bwriad i ddefnyddio’r fynedfa bresennol i wasanaethu’r unedau gwyliau ynghyd a’r eiddo presennol. Nodwyd bod y Cyngor Cymuned wedi datgan pryder am sefyllfa’r fynedfa bresennol gan fod nifer o ddamweiniau wedi digwydd yn y gorffennol oherwydd diffyg gwelededd. Ar sail diffyg gwelededd, ni ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisi CH33 gan na ellid darparu mynedfa gerbydol ddiogel i wasanaethu’r datblygiad. Cydnabuwyd bod modd datrys rhai manylion gan mai cais amlinellol oedd wedi ei gyflwyno, fodd bynnag ystyriwyd na ellid goresgyn y mater o ddiffyg gwelededd o’r fynedfa ac y byddai gofyn am newidiadau eraill yn ychwanegu at y ffaith y byddai’r bwriad yn creu edrychiad trefol annerbyniol o’r safle cefn gwlad yma.

 

Wrth bwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol, ystyriwyd nad oedd y bwriad, sydd ar safle mewn cefn gwlad agored yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn groes i bolisïau lleoli sydd yn ymwneud a lleoli datblygiadau a chreu unedau hunanwasanaeth newydd. Ail fynegwyd y byddai’r datblygiad tu allan i’r ffin datblygu, yn drefol ei naws ac yn gwbl anaddas i’w osodiad o fewn tirlun sensitif. Nodwyd bod y farn wedi ei rannu mewn ymholiad cyn cais ar gyfer datblygiad tebyg o ran lleoliad a graddfa, fodd bynnag dewis yr ymgeisydd oedd parhau i gyflwyno cais er gwaethaf derbyn cyngor anffafriol.

 

(b)       Amlygwyd bod yr Aelod Lleol, er wedi ymddiheuro nad oedd yn bresennol, yn gefnogol i’r argymhelliad ac i sylwadau'r Cyngor Cymuned.

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8

5.9

Cais Rhif C16/0725/13/AM Cyn safle Grey Garage, Lon Newydd Coetmor, Bethesda pdf eicon PDF 906 KB

Cais amlinellol i godi 18 uned anheddol (gan gynnwys 4 uned fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad fewnol a llwybr troed ar gyfer cerddwyr (cynllun diwygiedig i’r hyn a ganiatawyd ar apel cyf C13/0766/13/LL – Apel APP/Q6810/A/14/2215839

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol i godi 18 uned anheddol (gan gynnwys 4 uned fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad fewnol a  llwybr troed ar gyfer cerddwyr (cynllun diwygiedig i’r hyn a ganiatawyd ar apêl cyf C13/0766/13/LL - Apêl APP/Q6810/A/14/221539).

 

(a)       Adroddwyd bod llythyrau hwyr wedi ei derbyn yn ceisio cyfiawnhau y datblygiad

 

Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan atgoffa'r aelodau bod y safle yn un lle gwrthodwyd cais blaenorol ar gyfer datblygiad preswyl i godi 24 uned byw (gan gynnwys 16 uned fforddiadwy), ond a dderbyniwyd caniatâd yn ddiweddarach o ganlyniad i benderfyniad gan Arolygydd Cynllunio ar Apêl. Derbyniwyd cais diweddarach i amrywio’r cynllun fel bod cyfanswm yr unedau yn lleihau o 24 i 18 gyda 11 o’r tai a ganiatawyd yn dai fforddiadwy. Amlygywd bod y cais cyfredol yn un amlinellol ar gyfer 18 annedd, ond bod y gyfran tai fforddiadwy wedi lleihau o 11 i 4.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol oddi mewn i ffin datblygu Bethesda sydd wedi ei ddynodi fel Canolfan Lleol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Ategwyd bod y safle yn hanesyddol wedi bod fel modurdy/depo loriau. Nodwyd bod y defnydd yma wedi dod i ben a’r safle bellach wedi ei glirio o adeiladau a safai yno yn y gorffennol. Ystyriwyd bod y safle yn dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes ac felly yn cael ei ddiffinio fel safle Tir Llwyd.

 

Ategwyd bod angen sylweddol am dai fforddiadwy yn yr ardal ac felly anodd derbyn nad yw hyn yn cael ei gyfarch yn y cais diwygiedig

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         mai datblygiad preswyl ydoedd am 18 o dai marchnad agored a 4 fforddiadwy

·         cais wedi ei ganiatáu yn dilyn apêl ddilys

·         derbyn bod rhan o’r safle tu allan i’r ffin datblygu

·         cyfiawnhad mai tir sydd yma sydd eisoes wedi ei ddatblygu (tir llwyd) ac felly caniatâd wedi ei gyfarch ar gyfer y safle i gyd

·         nad oedd gan Cyngor Gwynedd gyflenwad tir am 5 mlynedd

·         yn unol â chanllawiau dylunio -  y tai fforddiadwy wedi eu hintegreiddio gyda thai marchnad agored

·         cyfiawnhad digonol ar gyfer y cais arfaethedig

 

(c)       Cynigiwyd i ganiatáu y cais yn groes i’r argymhelliad. Disgynnodd y cynnig

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

(d)       Gwnaed  cais i’r Uwch Reolwr ymateb i sylwadau'r asiant.

 

Amlygodd yr Uwch Reolwr bod angen tystiolaeth bellach  cyn ystyried y cais yn llawn - pam cyfiawnhau tai marchnad agored tu allan i ffin datblygu lleol? Amlygwyd bod materion sylfaenol dros wrthod y cais i) egwyddor y datblygiad, ii) nid yw’r polisiau yn caniatáu datblygu tu allan i’r ffin datblygu ac iii) mae tystiolaeth gadarn i awgrymu bod angen dwys am dai fforddiadwy ym Methesda. Nodwyd bod caniatâd eisoes ar gyfer 11 tŷ fforddiadwy, pam felly cwtogi hyn i 4.

 

(e)       Yn ystod y drafodaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9