Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Hefin Williams a Roy Owen (Aelod lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol mewn
perthynas â’r eitem a nodir isod: ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen - cais cynllunio rhif C16/0310/46/LL
- Penclawdd Llangwnnadl, Pwllheli, oherwydd ei fod yn canlyn gyda chwaer yr
ymgeisydd: eitem 5.7 ar y rhaglen - cais Cynllunio rhif C16/0375/42/LL -
rhandiroedd Nefyn oherwydd ei fod ar y rhestr aros am randir: eitem 5.11 ar y
rhaglen - cais cynllunio rhif C15/1353/42/LL - Fferm Porthdinllaen, Morfa Nefyn
oherwydd bod ei dad yn berchen Parc Carafanau yn Pistyll, llai na 6 milltir i
ffwrdd ·
Y Cynghorydd Owain Williams (a
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen - cais
cynllunio rhif C16/0375/42/LL - rhandiroedd Nefyn oherwydd bod ei fab ar y
rhestr aros am randir: eitem 5.11 ar y rhaglen cais cynllunio rhif
C15/1353/42/LL - Fferm Porthdinllaen, Morfa Nefyn oherwydd ei bod yn berchen Parc Carafanau yn Pistyll,
llai na 6 milltir i ffwrdd b) Datganodd y swyddogion canlynol fuddiant
personol mewn perthynas â’r eitem a nodir isod ·
Rhun ap Gareth yn eitem 5.1 ar
y rhaglen cais cynllunio C14/1228/14/LL - Parciau Bach, Ffordd Bangor ,
Caernarfon oherwydd ei fod yn adnabod y gwrthwynebydd ·
Gareth Roberts yn eitem 5.8 ar y rhaglen – cais
Cynllunio C16/0399/17/LL – Cae Ymryson, Carmel oherwydd mai ef oedd yr
ymgeisydd Roedd yr Aelodau
a’r swyddogion o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawsant y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir. c)
Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Ioan Ceredig
Thomas, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhifau C14/1228/14/LL) ·
Y Cynghorydd Trevor Edwards, (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0149/15/LL) ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (cais cynllunio rhif
C16/0292/35/LL) ·
Y Cynghorydd Seimon Glyn (a
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (cais cynllunio rhif
C16/0310/46/LL) ·
Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 (cais cynllunio rhif C16/0337/17/LL) a 5.8
(cais cynllunio rhif C16/0399/17/LL) ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 (cais cynllunio rhif
C16/0399/17/LL) ·
Y Cynghorydd Siân Wyn Hughes
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.11 (cais cynllunio
rhif C15/1358/42LL) Ymneilltuodd yr Aelodau a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Mai 2016 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 16 Mai 2016, fel rhai
cywir yn ddarostyngedig ar gywiro paragraff 4 (b) yn y fersiwn Saesneg. ‘4(b) The local member
(a member of this Planning Committee) stated that she had no objection to the
application and that competition with other businesses within the area in
question was not a reason to refuse the application. However, concerns had been highlighted by
nearby residents yet it was trusted that the concerns regarding odour would be
alleviated by the extraction system. She
could not see how it could be refused and stated that the use of the property
was to be welcomed rather than to stand empty and deteriorate.’ |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C14/1228/14/LL - Parcia Bach, Ffordd Bangor, Caernarfon PDF 585 KB Addasu rhan o'r adeilad amaethyddol presennol ar gyfer 11 cybiau cwn ynghyd â lleoli tanc storio carthion gerllaw AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD IOAN CEREDIG THOMAS Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu'r rhan o'r adeilad amaethyddol
presennol ar gyfer 11 cybiau cwn ynghyd a lleoli tanc
storio carthion gerllaw Parcia Bach, Bangor Road,
Caernarfon, LL55 1TP Roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio
dyddiedig 16.05.16 er mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod yr adroddiad
wedi ei ddiwygio i amlygu ·
bod aelodau’r Pwyllgor yn
pryderu ynglŷn ag effaith y bwriad ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos
ar sail sŵn ag aflonyddwch ac addasrwydd y fynedfa bresennol i’r safle ·
cyfeiriad at anheddau unigol
yn hytrach nag yn cyffredinoli'r anheddau sydd wedi eu lleoli o fewn ardal
Parciau sydd i dde ddwyrain y safle Nodwyd mai cais llawn ydoedd i addasu rhan o’r adeilad amaethyddol
presennol ar gyfer 11 o gytiau cŵn ynghyd a lleoli tanc storio carthion gerllaw, creu uned arwahan
i gadw cŵn pe byddent yn dioddef o haint neu salwch ynghyd a lolfa/swyddfa
ac ystafell paratoi bwyd. Lleolir y
safle ar gyrion gorllewinol Caernarfon mewn ardal rhannol wledig sy’n cynnwys
anheddau preswyl wedi eu lleoli ar wasgar i’r gogledd, gorllewin ac i’r
de-ddwyrain o safle’r cais. (b)
Cydnabyddai Swyddog yr Amgylchedd y gallai cytiau
cŵn fod â photensial i gynhyrchu lefelau uchel o sŵn a hynny yn
effeithio mwynderau preswylwyr cyfagos ac yn niwsans statudol. Nodwyd yr angen
i ystyried ffactorau megis, agosatrwydd at anheddau sensitif sŵn,
insiwleiddio'r adeilad, dyluniad y cytiau a maint yr ardal ymarfer. Nodwyd yn ddelfrydol byddai asesiad sŵn yn amlygu sŵn derbyniol,
sŵn disgwyliedig i’r annedd agosaf a mesuriadau i wanhau sŵn.
Argymhellwyd y dylai cynllun rheoli sŵn ffurfiol gael ei gynhyrchu gan yr ymgeisydd a’i gytuno gyda
Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Awgrymwyd y dylai cynllun rheoli sŵn
ystyried sut y gellid gwanhau sŵn pellach a sut i reoli'r cytiau cŵn
er mwyn atal lefelau annerbyniol o sŵn e.e., presenoldeb 24 awr ac
amseroedd penodol o ymarfer a bwydo. Nodwyd
bod digon o wybodaeth i brofi y gellid rheoli sŵn i lefelau
derbyniol a cynigiwyd amodau i adlewyrchu hyn. (c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol: ·
Bod problemau gyda chyflenwad
dŵr i’r safle. Y broblem yn anodd ei datrys gan mai anodd yw cael at y
cyflenwad dŵr. Y broblem yn debygol o gynyddu wrth olchi'r cytiau cŵn ·
Cytiau
cŵn sydd yma ac nid parlwr – newid mawr i ddefnydd sied amaethyddol ·
Dim
cymwysterau amlwg ·
Y bwriad yn agos at fusnes
Gwely a Brecwast - pryder bod un busnes
yn mynd i gael effaith ar y llall ac y bydd profiadau gwael yn cael eu rhannu
ar safleoedd megis Trip Advisor ·
Y bwriad yn debygol o greu
llygredd sŵn mewn ardal breswyl (ch) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Siomedig iawn gyda sylwadau'r
gwrthwynebwyr · Y bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C16/0149/15/LL - Tir yng nghefn 3, Stryd Newton, Llanberis PDF 756 KB Codi annedd
deulawr gyda tair llofft AELOD LLEOL: CYNGHORYDD TREVOR EDWARDS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi annedd deulawr gyda thair llofft (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi tŷ
deulawr ar lecyn o dir y tu cefn i Stryd Newton ac i’r de o Stryd y Dŵr a
Stryd y Ffynnon o fewn pentref Llanberis ac oddi fewn i ffin datblygu fel y’i cynhwysir yng
Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) . Eglurwyd bod y tŷ ar ffurf “L”
er mwyn gwneud y gorau o’r safle o safbwynt dyluniad a mwynderau. Byddai hyn
hefyd yn lleihau effaith ac ad-drawiad y strwythur ar y tirlun gan dorri i fyny edrychiadau allanol y tŷ Adroddwyd bod y
safle yn cael ei wasanaethu oddi ar rodfa breifat
sydd â chysylltiad gyda ffordd sirol ddi-ddosbarth ymhellach ymlaen. Mae’r
ffordd hefyd yn gwasanaethu nifer o fodurdai preifat ynghyd a chefnau tai Stryd
Newton. Saif y safle ar lwyfandir uwchben anheddau a strydoedd
cyfagos. Yn dilyn pryderon gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol ynglŷn ag effaith cynllun y tŷ gwreiddiol ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos ynghyd
a’i effaith ar fwynderau gweledol a’r tirlun lleol, cyflwynwyd cynlluniau
diwygiedig i suddo’r tŷ 1m yn is i mewn i’r tir, diwygiadau i’r rhai o’r
ffenestri ac ail leoli’r tŷ 1m ymhellach i ffwrdd o dalcen tŷ rhif 13
Stryd y Ffynnon. Yn unol â pholisi CH4 mae’r egwyddor o godi tŷ
newydd oddi fewn i ffin datblygu yn cymeradwyo cynigion am dai newydd ar
safleoedd sydd heb eu dynodi o fewn ffiniau datblygu pentrefi a chanolfannau
lleol os gellid cydymffurfio a’r meini prawf perthnasol. Yn unol â pholisi C1
credir bod yr egwyddor o godi tŷ ar y safle hwn yn dderbyniol oherwydd bod
y tir o fewn ffiniau trefi a phentrefi sydd yn brif ffocws ar gyfer datblygiadau
newydd. Er amlygrwydd y safle yn y tirlun lleol credir mai dim ond golygfeydd
ysbeidiol ceir o’r tŷ ei hun gan ystyried gosodiad a dyluniad y tai a’r
strydoedd o’i amgylch ac na fydd ei effaith ar fwynderau gweledol yn fwy nag
effaith anheddau cyffelyb o fewn y
pentref ac sydd wedi eu lleoli ar dir uchel. Dyma, yn wir, yw natur a chymeriad
pentref Llanberis. Ni ystyriwyd felly y
bydd y bwriad, fel mae wedi ei ddiwygio, yn cael effaith sylweddol annerbyniol
ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid sy’n byw yn nalgylch safle’r cais.
Adroddwyd bod y gwrthwynebiadau cynllunio perthnasol wedi derbyn ystyriaeth
lawn yn yr asesiad ac nad oedd unrhyw fater yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi
a’r cyngor perthnasol a nodwyd. Nodwyd bod y bwriad fel y mae wedi ei ddiwygio
yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a’r polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a
chenedlaethol perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad ac nad oedd unrhyw
ystyriaeth cynllunio faterol yn gwrth-ddweud hyn. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn derbyn
adroddiad y swyddog · Ei fod yn derbyn bod ffenestri'r llofftydd yn goredrych, ond ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C16/0292/35/LL - Tir gyferbyn Gwesty George IV, Stryd Fawr, Cricieth PDF 656 KB Cais i newid amod
3 o ganiatad cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i
gyflwyno'r materion a gadwyd yn ôl. AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i newid amod 3 o ganiatâd cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn
ymestyn amser a roddwyd i gyflwyno’r materion a godwyd yn ôl. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i ddiwygio amod 3 o ganiatâd cynllunio amlinellol C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr
amser a roddwyd i gyflwyno’r materion
a gadwyd yn ôl. Mae’r datblygiad
yn golygu codi 34 uned breswyl
i’r henoed, un llety warden a 2 llety staff a chyfleusterau cymunedol. Byddai’r bwriad hefyd yn
darparu 18 llecyn parcio ar gyfer
defnydd yr unedau preswyl a 15 llecyn parcio i
ddefnydd Gwesty’r George IV
yr ochr arall
i’r Stryd Fawr. Mae’r safle yn gorwedd o fewn
y ffin datblygu a hefyd o fewn yr Ardal Gadwraeth. Amlygwyd nad oedd unrhyw newid i’r cynllun, nac i’r cynllun a ganiatawyd
drwy apêl yn flaenorol. Amlygwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn ac eisoes
wedi ei sefydlu gan Arolygydd mewn penderfyniad apêl, a thrwy’r
caniatâd cynllunio amlinellol pellach er mwyn ymestyn amser. Gyda cheisiadau
o’r fath, nodwyd fod gofyn ystyried os
yw amgylchiadau neu sefyllfa polisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais
hwn yn wreiddiol. Dim ond os oedd tystiolaeth o newid sylweddol mewn sefyllfa y
gellid cysidro’r bwriad yn wahanol yng nghyd destun y polisïau hyn. Nodwyd bod
datblygiad o’r math yma yn parhau i gyd fynd a Strategaeth Partneriaeth Tai
Gwynedd a Strategaeth Comisiynu Pobl
Hŷn. Nodwyd bod Datganiad Ieithyddol cyfredol wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais
yn cynnwys gwybodaeth benodol ynglŷn â’r ardal, y boblogaeth leol ag effaith
y datblygiad ar faterion perthnasol. Roedd yr adroddiad
yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’r
ystyriaeth y dylid ei rhoi i’r
holl ystyriaethau perthnasol. Nodwyd bod yr holl faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau wedi
eu hystyried ac nad oedd y bwriad o ymestyn yr amser a roddwyd ar ganiatâd
amlinellol C13/0028/35/AM er mwyn cyflwyno’r materion a gadwyd yn ôl, yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a
chenedlaethol a nodir o fewn yr asesiad. Nodwyd nad oedd unrhyw faterion
cynllunio perthnasol eraill sy’n datgan i’r gwrthwyneb ac ystyriwyd bod y
bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol ac
fel y rhoddwyd ar y cais amlinellol a ganiatawyd yn flaenorol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol: ·
Y
cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol yn 2009 am 38 o fflatiau. ·
Y
datblygiad tu allan i ffin datblygu Criccieth ac nad oedd galw am y bwriad ·
Cyngor Gwynedd wedi gwrthod yn
wreiddiol ond y cynlluniau wedi eu caniatáu yn dilyn apêl ·
Nid oedd dim datblygiad i'r
safle ers 7 mlynedd ac felly hyn yn profi nad oedd galw am ddatblygiad o’r fath ·
Caniatawyd estyniad amser
eisoes yn 2013 - dim rhesymau digonol i ganiatáu estyniad amser pellach ·
Nid oedd bwriad i ddatblygu'r
safle ond cadw'r tir a’i werthu am y pris uchaf · Cariad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0310/46/LL - Penclawdd, Llangwnnadl, Pwllheli PDF 604 KB Estyniad i safle
carafanau teithiol yn cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer o 8 i 22 uned
deithiol ynghyd a chodi bloc cyfleusterau newydd. AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD SIMON GLYN Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i safle carafanau teithiol yn cynnwys
ymestyn tir a chynyddu nifer i 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc
cyfleusterau newydd. a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â gwelliannau i safle
carafanau teithiol presennol ynghyd ac ymestyn y safle i’r caeau tua’r
gorllewin a’r gogledd orllewin o’r safle presennol. Roedd y gwelliannau yn cynnwys: • Cynyddu nifer o unedau teithiol o 8 i 22 • Ail leoli man chwarae a chreu man chwarae newydd • Dymchwel bloc toiledau presennol a chodi adeilad newydd i
gynnwys toiledau a chawodydd • Creu ardal gwastraff / ailgylchu a sychu • Gwaith tirlunio. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad
ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol. Saif y safle tu ôl i eiddo Penclawdd a Sŵn y Wylan
sydd wedi eu lleoli ger ffordd sirol dosbarth 2 y B4417 rhwng Tudweiliog a Penygroeslon. Mae
mynedfa i’r safle gan drac cerbydol sengl. Amlygwyd bod rhai agweddau o’r bwriad yn dderbyniol fel ffordd i
uwchraddio’r safle, ond nid oedd y Cyngor yn fodlon fod y bwriad yn ei
gyfanrwydd, yn arbennig y cynnydd
sylweddol o fynedfa is-safonol, yn dderbyniol.
Nodwyd nad oedd y tir naill ochr i’r fynedfa ym mherchnogaeth yr
ymgeisydd ac felly nad yw’n bosibl rhoddi amodau i wneud gwelliannau i’r
fynedfa hynny (gwelir o hanes y safle mae methiant fu ymgais o’r fath ar y cais
blaenorol C12/0438/46/LL). Ystyriwyd
felly nad oedd dewis ond argymell gwrthod y cais ar sail diogelwch ffyrdd yn
sgil y defnydd cynyddol o fynedfa is-safonol ac nad oedd modd ei wneud yn
ddigonol i gwrdd â gofynion priffyrdd a pholisi CH33 o GDUG. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd b)
Nododd
yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau
canlynol: ·
Ei fod yn cytuno gyda chynnwys
yr adroddiad ·
Bod y cais yn cydymffurfio a
holl agweddau cynllunio gyda bwriad o wella safonau a chreu cyfleusterau - y maen tramgwydd yw’r fynedfa ·
A oedd modd gosod amodau caeth
i reoli defnydd o’r fynedfa - cynnig bod cyfrifoldeb ar y perchennog i fod yn
bresennol wrth i garafanau fynd a dod ·
Drych
wedi ei osod ar y clawdd i wella gwelededd ·
Annog trafodaethau gyda
phriffyrdd a gorfodaeth cynllunio ·
Derbyn nad yw'r fynedfa yn
ddelfrydol, ond os mae derbyn 8 yn dderbyniol a fuasai modd rheoli'r sefyllfa i
geisio mwy. ·
Awgrym
bod modd rheoli cyfeiriad ‘mewn ac allan’ i’r safle ·
Y
fenter yn fywoliaeth i deulu ifanc c)
Mewn ymateb i’r sylw, amlygodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod pryderon lleol wedi nodi damweiniau ar y
ffordd gul. Nodwyd hefyd mai amhosib fyddai rheoli amod ‘cyfeiriad’ a
‘phresenoldeb’ a bod pryderon priffyrdd yn rhai dilys. ch) Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â'r fynedfa, nododd Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod angen troad derbyniol ar gyfer y safle. Y bwriad yw treblu'r niferoedd o garafanau teithio fydd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C16/0337/17/LL - Ysgol Gynradd Bron y Foel, Y Fron, Caernarfon PDF 808 KB Cais ar gyfer
newid defnydd, estynnu a gwneud newidiadau allanol sy'n cynnwys gosod paneli
solar o'r cyn Ysgol Gynradd i greu Canolfan Gymunedol, hostel/bunkhouse 16
gwely, caffi, siop, ardal newid allanol, ystafelloedd cyfarfod /uned deori
busnes ac ystafell driniaeth. AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD DILWYN LLOYD Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer newid defnydd, estynnu a gwneud
newidiadau allanol sydd yn cynnwys gosod paneli solar o’r cyn ysgol gynradd i
greu Canolfan Gymunedol, Hostel/Bunkhouse 16 gwely,
caffi, siop, ardal newid allanol, ystafelloedd cyfarfod/uned deori busnes ac
ystafell driniaeth. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
newid defnydd yn ymwneud â chynnal newidiadau ac ail ddefnyddio adeilad cyn
Ysgol Gynradd Bron y Foel ar gyfer defnydd amrywiol. Nodwyd bod yr adeilad wedi
ei leoli yng nghanol pentref gwledig Y Fron. Nid yw’r adeilad yn un rhestredig,
ac mae’r prif newidiadau (ar wahân i’r estyniadau) tu mewn i’r adeilad. Bydd y
datblygiad yn cynnig defnydd o gyn ysgol ag adeilad
cymunedol rhannol wag ac mae’r defnydd yn gyfle i sicrhau defnydd hirdymor o’r
adeilad. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol
y polisïau. Mae’r safle yn cynnwys adeilad sylweddol a nodweddiadol, ond ystyriwyd fod
y bwriad a’r gwaith arfaethedig, gan gynnwys codi estyniadau a’r gorffeniadau
allanol, yn addas, ac nad ydyw yn debygol o achosi effaith andwyol ar y dirwedd
sydd wedi ei gwarchod yn ogystal â mwynderau gweledol cyffredinol y pentref.
Ystyriwyd hefyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ac amlygwyd bod y Cyngor Cymuned bellach wedi
cefnogi’r bwriad. b)
Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol: ·
Derbyn bod y fenter yn
ddefnydd da o gyn ysgol, ond yn pryderu am
gynaliadwyedd y fenter ·
Angen ystyried menter fyddai
yn creu swyddi i bobl leol e.e, meithrinfa ·
Pryder na fydd gofalwr na
rheolwr ar gyfer yr adeilad / ar y safle ·
Effaith
ar fwynderau preswylwyr cyfagos ·
Angen ystyried y safle ar
gyfer tai lleol ar gyfer pobl leol c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Cymuned
y Fron sydd yn arwain ar y prosiect ·
Cyfle yma i droi dirywiad yn
adfywiad ·
Y
fenter yn darparu swyddi a phrofiad gwaith i bobl leol ·
Prosiect
yn cynnwys mewnbwn lleol – 5 holiadaur a 5 cyfarfod
cyhoeddus wedi ei cynnal ·
Ystyriaeth
wedi ei roi i’r pryderon sydd wedi eu hamlygu ·
Ni
fydd effaith ar yr iaith ·
Hybu
bywyd cymunedol ch) Nododd
yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau
canlynol: ·
Bod
y fenter yn atgyfodi’r gymuned ac yn rhoi gobaith i’r gymuned ar ôl i’r ysgol
gynradd gael ei chau ·
Yn weithred bositif ac yn
fanteisiol i’r gymuned ·
Amser digonol wedi ei ganiatáu
i ymateb i’r hyn sydd ei angen ·
Derbyn bod pryderon i unrhyw
newid, ond cymell y rhaid sydd yn gwrthwynebu i fod yn rhan o’r trafodaethau ·
Diolchwyd
i swyddogion Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth d)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais yn unol ar argymhelliad dd) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol: ·
Derbyn
bod y fenter yn syniad da ·
Angen
ysgogi trafodaethau er mwyn ymateb i’r angen · Annog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C16/0371/14/LL - Fferm Hendy, Ffordd Pant, Caernarfon PDF 624 KB Codi sied
amaethyddol ar gyfer gwartheg godro ynghyd a bae silwair. AELODAU LLEOL: CYNGHORYDD ENDAF COOKE CYNGHORYDD
W. ROY OWEN Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi sied amaethyddol ar gyfer gwartheg godro
ynghyd a bae silwair a)
Ymhelaethodd
y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar
gyfer codi sied amaethyddol ar ddaliad amaethyddol fferm yr Hendy i’r de o Gaernarfon. Bwriedir codi sied 61m o hyd, 20m o led gydag
uchder o 6.7m i’r crib ar lecyn o dir sy’n gyfochrog i adeiladwaith presennol y
daliad a bydd y bwriad yn golygu ail-leoli oddeutu 60m o glawdd presennol gan
greu clawdd newydd o amgylch y sied arfaethedig. Yn fewnol, bydd y sied yn
cynnwys llaethdy newydd, parlwr godro, storfa lefrith, cyfarpar offer a
chyfleusterau trin gwartheg. Byddai caniatáu’r cais yn galluogi’r ymgeisydd i
gynyddu’r fuches bresennol (sydd yn cynnwys 360 o wartheg godro) ynghyd a
lleihau’r amser wrth odro’r fuches o 4 awr i 2 awr y diwrnod. Nodwyd bod yr egwyddor o godi adeiladau
amaethyddol wedi ei selio ym Mholisi D9 o GDUG sy’n datgan y caniateir cynigion
o’r fath os ydynt yn rhesymol angenrheidiol at ddibenion amaethyddiaeth. Mae
safle’r sied amaethyddol wedi ei leoli
yng nghefn gwlad ond gyferbyn ac adeiladwaith niferus presennol y daliad
amaethyddol. Bydd unrhyw olygfa ohono’n ysbeidiol a
chyfyngedig ac o bellter. Bydd effaith gweledol y sied hefyd yn cael ei leihau
gan fod yr adeiladwaith presennol sydd o’i amgylch yn gefnlen iddo ynghyd a
chodi clawdd newydd er mwyn digolledu’r clawdd presennol. Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan
gynnwys polisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, graddfa, lleoliad, dyluniad,
ffurf, deunyddiau ynghyd a mwynderau preswyl a gweledol. b)
Amlygodd
y Cadeirydd nad oedd gan yr Aelodau Lleol wrthwynebiad i’r cynllun c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol: ·
Bod
y fferm yn o’r mwyaf yn y cylch ·
Yn
cyflogi llawer ·
Cyflwr
tir da ·
Yn
defnyddio offer modern a newydd PENDERFYNWYD: Yn unfrydol,
caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol yn ymwneud â:- 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r
cynlluniau. 3. Diogelu llwybr cyhoeddus rhif 16. 4. Manylion tirweddu/clawdd a’r cyfnod gweithredu. 5. Gohebu’r Awdurdod Cynllunio Lleol pryd y
cwblhawyd y datblygiad. 6. Defnyddio’r adeilad ar gyfer pwrpas amaethyddol
yn unig. 7. Deunyddiau allanol a lliw i’w cytuno gyda’r
Awdurdod Cynllunio Lleol. 8. Dim tynnu’r clawdd yn ystod y tymor nythu |
|
Cais Rhif C16/0375/42/LL - Rhandiroedd Nefyn, Stryd Fawr, Nefyn PDF 662 KB Cais diwygiedig - Adeiladu 4 byngalo dwy ystafell wely a man chwarae. AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais diwygiedig – Adeiladu 4 byngalo dwy ystafell
wely a chreu man chwarae a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Cynllunio ar y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
datblygiad trigiannol o 4 o dai unllawr a chreu man
chwarae. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin ddatblygu Nefyn ac
wedi ei glustnodi fel llecyn chwarae i’w warchod yn CDUG, gyda’r safle yn y
gorffennol wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd. Mae’r tir cyffiniol
i’r gorllewin, sydd hefyd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn
caniatâd cynllunio i adeiladu 10 o dai annedd deulawr. Fel rhan o’r caniatâd hynny roedd bwriad i
gadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd. Amlygwyd bod rhai agweddau o’r cais yn dderbyniol
ond ni ystyriwyd fod y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn profi sut y
byddai’r bwriad yn cyd-fynd gyda gofynion Polisi CH42 CDUG. Ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd nid oedd y
swyddogion wedi ei argyhoeddi nad oedd galw yn Nefyn am randiroedd a / neu dir mwynderol at ddefnydd cyffelyb. Ystyriwyd felly nad oedd y
wybodaeth na’r tystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd/asiant yn ddigonol,
ddiamheuaeth na thrwyadl, i gyfiawnhau colli'r llecyn agored yma o werth
adloniadol er mwyn adeiladu tai ac felly bod y bwriad yn groes i Bolisi CH42
CDUG. Yn ychwanegol nodwyd nad oedd y bwriad, yn ei ffurf bresennol yn
cydymffurfio gyda maen prawf 1 o Bolisi CH4 CDUG gan nad oedd cyfran o dai
fforddiadwy yn cael ei gynnig fel rhan o’r bwriad ac na chyflwynwyd tystiolaeth
i ddangos pam na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y safle. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwnaegol
a dderbyniwyd: b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Y tir wedi ei adael a heb ei
ddefnyddio ers 2009 ·
Y
rhandiroedd wedi eu hail leoli i Y Ddol ·
Wedi ysgrifennu llythyr i holi
ynglŷn â defnydd y tir, ond heb dderbyn ymateb ·
Wedi bod yn gweld y
rhandiroedd yn Y Ddol a bod 8 allan o’r 21 heb eu defnyddio. Y rhandiroedd yn
edrych yn flêr gyda gôr dyfiant a diffyg cyfrifoldeb ·
Ni
fyddai offer yn cael ei ddarparu ar y llecyn gwyrdd ·
Parod i ystyried cytundeb 106 ·
Diddordeb
lleol yn y datblygiad c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau canlynol 1. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei
argyhoeddi o’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn rhan o’r cais nad oes
galw yn Nefyn am randiroedd a / neu dir mwynderol at
ddefnydd cyffelyb ac ystyrir felly nad
yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi CH42 CDUG sydd yn gofyn am
ddiogelu llecynnau agored o werth adloniadol. 2. Nid yw’r bwriad yn cynnig canran o dai
fforddiadwy ac ni chyflwynwyd tystiolaeth i ddangos pam na fyddai’n briodol
darparu tai fforddiadwy ar y safle ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i
Bolisi CH4 CDUG a’r CCA: Tai Fforddiadwy. |
|
Cais Rhif C16/0399/17/LL - Cae Ymryson, Carmel, Caernarfon PDF 667 KB Cais ar gyfer
codi modurdy. AELOD LLEOL: CYNGHORYDD DILWYN LLOYD Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cai ar gyfer codi modurdy a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi modurdy dwbl
arfaethedig o fewn cwrtil presennol eiddo preswyl ar gyrion pentref Carmel. Mae’r
bwriad yn golygu codi modurdy gydag arwynebedd llawr mewnol 28.3m a byddai’n 4m
o uchder. Yn allanol bydd y waliau i’w gorffen gyda chwipiad i weddu gyda’r
eiddo cyfagos ac yn cynnwys to crib gyda llechen naturiol. Nodwyd bod yr egwyddor o godi modurdy
dwbl o fewn cwrtil preswyl ac ar gyfer defnydd domestig yn dderbyniol. Oherwydd
lleoliad y modurdy, bydd yn ymwthio ymhellach na wal blaen yr eiddo preswyl ar
y safle, ac felly roedd angen caniatâd cynllunio ffurfiol. Ni ystyriwyd fod goblygiadau o ran mwynderau gweledol i’r
ardal gyfagos. Ystyriwyd yr holl faterion cynllunio perthnasol,
ac amlygwyd bod y bwriad yma i godi modurdy dwbl o fewn cwrtil preswyl ar gyfer
defnydd domestig yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau
perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd: b)
Nododd
yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei fod yn
gefnogol i’r cais c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais PENDERFYNWYD: Yn unfrydol, caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol yn ymwneud â:- 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Deunyddiau 4. Dim defnydd busnes 5. Nodyn Dwr Cymru |
|
Cais Rhif C15/0808/20/LL - Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli PDF 622 KB Cais
ôl-weithredol i gadw pontwn o fewn y cei. AELOD LLEOL: SEDD WAG Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl weithredol i gadw pontŵn o fewn y
cei a)
Nododd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio, mewn cyfarfod ar y 9fed o Dachwedd 2015 wedi gwneud cais i swyddogion ymgynghori
gyda’r Uned Rheolaeth Adeiladuar gynnwys yr adroddiad
strwythurol diweddaraf ac mae cofnod o’r Pwyllgor hwnnw yn nodi hynny. Erbyn
hyn deallir y gall cais rheolaeth adeiladu gael ei gyflwyno i’r Uned Rheolaeth
Adeiladu yn y dyfodol ac felly y byddai’n amhriodol i’r Uned Rheolaeth Adeiladu
roi barn ar yr adroddiad yma. Gofynnwyd felly i gael yr hawl i ohirio'r
penderfyniad a gofyn am hawl i ymgynghori gyda pheiriannydd strwythurol o fewn
y Cyngor (yn lle’r Uned Rheolaeth Adeiladu) er mwyn cael barn os yw’r adroddiad
strwythurol diweddaraf yn ddigonol a derbyniol. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio y cais PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn cael barn peiriannydd strwythurol er
mwyn cadarnhau os yw’r adroddiad diweddaraf a dderbyniwyd ar y 15.4.16 yn
ddigonol a derbyniol. |
|
Cais Rhif C15/0807/20/CR - Menai Marina, Yr Hen Gei Llechi, Y Felinheli PDF 625 KB Cais
ôl-weithredol i gadw pontwn o fewn y cei. AELOD LLEOL: SEDD WAG Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl weithredol i gadw pontŵn o fewn y
cei a) Nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio, mewn cyfarfod
ar y 9fed o Dachwedd 2015 wedi gwneud cais i
swyddogion ymgynghori gyda’r Uned Rheolaeth Adeiladuar
gynnwys yr adroddiad strwythurol diweddaraf ac mae cofnod o’r Pwyllgor hwnnw yn
nodi hynny. Erbyn hyn deallir y gall cais rheolaeth adeiladu gael ei gyflwyno
i’r Uned Rheolaeth Adeiladu yn y dyfodol ac felly y byddai’n amhriodol i’r Uned
Rheolaeth Adeiladu roi barn ar yr adroddiad yma. Gofynnwyd felly i gael yr hawl
i ohirio'r penderfyniad a gofyn am hawl i ymgynghori gyda pheiriannydd
strwythurol o fewn y Cyngor (yn lle’r Uned Rheolaeth Adeiladu) er mwyn cael
barn os yw’r adroddiad strwythurol diweddaraf yn ddigonol a derbyniol. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio y cais PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn cael barn peiriannydd strwythurol er mwyn cadarnhau os yw’r adroddiad
diweddaraf a dderbyniwyd ar y 15.4.16 yn ddigonol a derbyniol. |
|
Cais Rhif C15/1358/42/LL - Fferm Porthdinllaen, Morfa Nefyn PDF 576 KB Gwelliannau i safle carafannau teithiol sy’n cynnwys cynnyddu nifer o unedau o 36 i 60, creu 61 llawr caled, ail leoli man chwarae a chreu man chwarae newydd, cysylltiadau gwasanaethau, dymchwel bloc cyfleusterau a chodi adeilad cyfleusterau newydd i gynnwys siop, creu ffordd fewnol a safle parcio, lleoli carafan rheolwr a gwaith tirlunio AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD SIAN WYN HUGHES Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gwelliannau i safle carafanau teithiol sy’n cynnwys cynyddu nifer o unedau
o 36 i 60, creu 61 llawr caled, ail leoli man chwarae a chreu man chwarae
newydd, cysylltiadau gwasanaethau, dymchwel bloc cyfleusterau a chodi adeilad
cyfleusterau newydd i gynnwys siop, creu ffordd fewnol a safle parcio, lleoli
carafán rheolwr a gwaith tirlunio a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi fod y penderfyniad wedi ei ohirio
gan y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar
y 25 Ebrill 2016 er mwyn i swyddogion gynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd o
ran gwella dyluniad yr adeilad cyfleusterau arfaethedig. Derbyniwyd cynllun
edrychiad diwygiedig ar y 17 Mai 2016 yn gostwng uchder yr adeilad a newid
patrwm y to i fath to brig yn hytrach na tho ‘hip’. Nodwyd mai'r cynllun
diwygiedig oedd gerbron y Pwyllgor. Atgoffwyd yr aelodau mai cais ydoedd ar gyfer
ymgymryd â gwelliannau i safle carafanau teithiol presennol ar Fferm Porthdinllaen, Morfa Nefyn. Roedd y gwelliannau yn cynnwys: • Cynyddu nifer o unedau teithiol o 36 i 60 • Lleoli 1 carafán deithiol i’r rheolwr • Creu 61 llawr caled • Ail leoli man chwarae a chreu man chwarae newydd • Gosod cysylltiadau i wasanaethau a thanc trin preifat • Dymchwel bloc toiledau presennol a chodi adeilad newydd i
gynnwys toiledau, cawodydd, siop a derbynfa, swyddfa, lle golchi dillad a
chegin agored • Creu trac annibynnol i’r cae carafanau, ffordd fewnol a
safle parcio gorlif • Gwaith tirlunio. Nodwyd er bod y bwriad
yn sylweddol, roedd y datblygiad yn welliant. b)
Nododd
yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau
canlynol ·
Bod
yn derbyn yr argymhelliad ·
Balch
bod cyfamod wedi ei gyrraedd a bod dyluniad wedi ei gytuno ·
Yr ymgeisydd wedi gostwng
uchder y to ·
Adeilad
yn un deniadol, a thrawiadol gydag agweddau traddodiadol ·
Buddsoddiad
enfawr i’r ardal c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD: Yn unfrydol,
ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i ganiatáu’r cais
gyda’r amodau cynllunio isod yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan
Cyfoeth Naturiol Cymru parthed y dull draenio. 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau
diwygiedig 3. Cyfyngu
niferoedd i 60 uned deithiol ac 1 uned deithiol ar gyfer rheolwr 4. Gosod
yr holl garafanau ar eu lleiniau fel
dangosir ar y cynlluniau a gymeradwywyd yn unig. 5. Tymor
gosod carafanau ar y safle rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref yn unig 6. Gwyliau yn unig 7. Cadw cofrestr 8. Cytuno ar orffeniad y
lloriau caled 9. Cytuno llechi a gorffeniad
allanol yr adeilad 10. Tirlunio
yn y tymor plannu nesaf ac ail blannu os ydynt yn difrodi neu farw. 11. Unrhyw amod perthnasol gan CNC
12. Dim storio carafanau o fewn
y cae carafanau Nodyn: Mesurau i hybu’r iaith Gymraeg Nodyn: Uwchraddio trwydded carafanau |