Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elwyn Edwards a Simon Glyn.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: 

                       

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.1 ar y rhaglen (cais rhif C16/0310/46/LL) oherwydd ei fod yn canlyn gyda chwaer yr ymgeisydd

·         Y Cynghorydd June Marshall yn eitemau 5.3 a 5.4 ar y rhaglen (ceisiadau rhifau C13/0156/11/LL ac C16/0440/11/CR) oherwydd ei bod yn ffrindiau gydag amryw o’r cymdogion

·         Y Cynghorydd W. Tudor Owen yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen (ceisiadau rhifau C15/0808/20/LL a C15/0807/20/CR) oherwydd ei fod yn Aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon

·         Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn eitem 5.12 ar y rhaglen (cais rhif C16/0744/17/LL) oherwydd ei bod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·         Y Cynghorydd Michael Sol Owen yn eitem 5.12 ar y rhaglen (cais rhif C16/0744/17/LL) oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·         Y Cynghorydd John Wyn Williams yn eitem 5.12 ar y rhaglen (cais rhif C16/0744/17/LL) oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a nodir.

 

 

(b)          Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Anwen Davies (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0410/33/LL)

·        Y Cynghorydd Lesley Day (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.3 a 5.4 ar y rhaglen, (ceisiadau rhifau C13/0156/11/LL a C16/0440/11/CR)

·        Y Cynghorydd Gareth Wyn Griffith (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen (ceisiadau rhifau C15/0808/20/LL, C15/0807/20/CR)

·        Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen (cais rhif C16/0329/18/LL)

·        Y Cynghorydd Selwyn Griffiths (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.9 a 5.10 ar y rhaglen (ceisiadau rhifau C16/0704/44/LL a C16/0732/44/LL)

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.11 ar y rhaglen (cais rhif C16/0743/42/LL)

·        Y Cynghorydd Eric M. Jones (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.12 ar y rhaglen (cais rhif C16/0744/17/LL)

·        Y Cynghorydd Gweno Glyn (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.13 ar y rhaglen (cais rhif C16/0849/32/LL)

·        Y Cynghorydd R H Wyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.14 ar y rhaglen (cais rhif C16/0931/39/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

(c)  Datganodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu buddiant personol yn Eitem 5.7 ar y rhaglen (cais rhif C16/0329/18/LL) oherwydd bod ei chefnder sy’n  byw gyferbyn a’r safle wedi gwrthwynebu’r cais.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a nodir.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 302 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar  26 Medi  2016, fel rhai cywir.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Medi  2016, fel rhai cywir. 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

         PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C16/0310/46/LL - Penclawdd LLangwnnadl pdf eicon PDF 608 KB

Estyniad i safle carafanau teithiol yn cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer o 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc cyfleusterau newydd

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i’r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad i safle carafanau teithiol yn cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer o 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc cyfleusterau newydd

 

Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu yn dilyn paratoi’r adroddiad bod asiant yr ymgeisydd wedi gwneud cais am ohirio cymryd penderfyniad ar y cais er mwyn cyflwyno mwy o wybodaeth.

 

Penderfynwyd:                        Gohirio’r cais.

 

5.2

Cais Rhif C16/0410/33/LL - Tir Glanrhyd, Mynydd Nefyn pdf eicon PDF 542 KB

Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad a busnes adeiladu

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad â busnes adeiladu.

 

(a)  Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais wedi ei ohirio o gyfarfod blaenorol yng Ngorffennaf 2016 er mwyn rhoddi cyfle i’r ymgeisydd geisio rheoleiddio defnydd y sied a’r iard bresennol, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer defnydd busnes adeiladydd yn hytrach nac i ddefnydd amaethyddol fel y’i caniatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod yr ymgeisydd bellach wedi sefydlu ac awdurdodi defnydd y sied a’r iard bresennol, trwy gyflwyno cais am dystysgrif defnydd cyfreithlon fel iard adeiladydd a ganiatawyd ar 19.09.16

 

Nodwyd y bwriad i godi sied 225m² i gefn iard bresennol ger eiddo Glanrhyd, Mynydd Nefyn i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad â busnes adeiladu’r ymgeisydd.  Cyflwynwyd  y cais i’r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Byddai’r sied wedi ei gorffen gyda tho bocs proffil gwyrdd tywyll a muriau byrddau coed.

 

Saif y safle yng nghefn gwlad o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun ac yn agos i’r AHNE gyda ffordd sirol ddi-ddosbarth yn gwasanaethu’r safle.

 

Ceir un sied bresennol ar y safle a ganiatawyd yn 2003 ar gyfer defnydd amaethyddol. Byddai’r sied arfaethedig wedi ei lleoli ymhellach yn ôl i gefn yr iard ac yn weladwy o’r ffordd sirol, rhwng y sied bresennol a chytiau cwrtil yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw bod hanes cynllunio, ymholiadau, polisïau ac ymateb i’r ymgynghoriadau i gyd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

(b)              Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) gan nodi bod yr ymgeisydd erbyn hyn wedi cael tystysgrif gyfreithiol yn datgan bod y defnydd fel sied/gweithdy ac iard adeiladydd wedi digwydd ers dros ddeng mlynedd. Nodwyd ymhellach y byddai’r bwriad yn rhoi cyfle i deulu ifanc aros yng nghefn gwlad ac yn hwb i’r ysgol leol a’r economi.

 

(c)  Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)  Nododd Aelod bod unrhyw ddatblygiadau busnes i’w croesawu yng nghefn gwlad. 

 

 

Penderfynwyd: Caniatáu’ cais yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.    5 mlynedd

2.   Unol â’r cynlluniau

3.   Sied i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r busnes presennol yn unig

4.   Gorffeniad

5.   Tirlunio ger y fynedfa yn y tymor plannu nesaf.

 

 

5.3

Cais Rhif C13/0156/11/LL - 7 Glandwr Terrace, Bangor pdf eicon PDF 703 KB

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl dramwy.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd  Lesley Day

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol ddeulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger yr hawl tramwy.

 

 

(a)  Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr eiddo yn dy tri llawr ac yn dy pen o fewn rhesdai o saith sydd wedi eu rhestru (Gradd II).  Nodwyd mai’r bwriad ydoedd dymchwel rhan o’r rhan cefn deulawr presennol ac ail-godi rhannau newydd a bwriad i ddymchwel yr adeilad unllawr ac ail godi estyniad unllawr yn ei le.  Bu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle ym mis Mehefin.  Nodwyd nad oedd addasiadau mewnol yn ffurfio rhan o’r cais a chyfeiriwyd at y manylion llawn o fewn yr adroddiad gerbron y Pwyllgor. Cyfeiriwyd at wybodaeth hwyr oedd wedi ei dderbyn gan yr asiant yn cyflwyno adroddiad gan beiriannydd strwythurol er mwyn cyfiawnhau'r gwaith dymchwel.

 

Nodwyd bod y safle o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor gyda ffordd ddi-ddosbarth yn rhedeg gerllaw a ffordd fynedfa i’r cefn gyda hawl tramwy drosto a hawl tramwy preifat ar hyd blaen y teras ac ar hyd ochr y safle.

 

Ar sail y wybodaeth ym mharagraffau 5.3 - 5.7  ni ystyrir bod yr estyniad yn ormodol o ran maint, nac ei fod yn cael effaith ormesol ar unrhyw eiddo cyfagos.  Ni ystyrir y byddai’r ffenestri newydd i’r llawr cyntaf yn yr estyniad yn achosi unrhyw or-edrych i eiddo arall a’r bwriad o doeau llechi a’r deunyddiau i’r waliau allanol yn dderbyniol.

        

Yn dilyn cyfnod ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ac fe ymatebwyd iddynt o fewn yr adroddiad ac fel y nodir ym mharagraffau 5.12 - 5.14.

 

Ystyrir y byddai’r egwyddor o ddymchwel ar y raddfa sy’n cael ei ddangos fel rhan o’r cais ac wedyn ymestyn / ail-godi’r estyniad cefn yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol ond oherwydd anghytundeb barn rhwng yr ymgynghorwyr statudol a swyddogion ystyriwyd y byddai’n ddefnyddiol derbyn cyfiawnhad am y gwaith a chadarnhad o resymau clir dros ddymchwel rhannau o’r adeilad.  

 

Tynnwyd sylw bod yr asiant wedi cyflwyno adroddiad gan beiriannydd strwythurol i gyfiawnhau’r dymchwel ond ni ystyrir bod y dystiolaeth yn rhoi eglurhad digonol am gyflwr y waliau a pham nad oes modd eu cynnal fel ag y maent.  Felly, derbyniwyd dau set o wybodaeth wahanol       gan yr asiant - y cyntaf yn ymdrin â materion cynaladwyedd ac egni a’r ail ar ffurf adroddiad         peirianyddol ond nad oedd yn glir o’r adroddiad a dderbyniwyd os yw’r  waliau yn berygl neu os mai ddim diogon da i gynnal yr estyniadau sydd yn cael eu cynnig ydynt.  Nid oedd y swyddogion cynllunio felly wedi eu             hargyhoeddi yn llwyr fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn rhoi cyfiawnhad digonol dros y dymchwel.

 

Pe byddai’r cyfiawnhad yn dderbyniol, ystyrir bod y maint, dyluniad a deunyddiau’r estyniad newydd, gan gynnwys y ffens newydd yn dderbyniol ac yn unol â’r polisiau perthnasol.  Fodd bynnag, ni ystyrir ei fod yn dderbyniol yn ei ffurf bresennol gan nad oes gwybodaeth gadarn wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

Cais Rhif C16/0440/11/CR - 7 Glandwr Terrace, Bangor pdf eicon PDF 839 KB

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd  Lesley Day

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo.

 

(a)              Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais gerbron yn destun  yr un safle a’r cais blaenorol yn eitem 3 ond y tro hwn yn gais adeilad rhestredig i ddymchwel rhan o estyniad deulawr cefn presennol ynghyd a’r adeilad allanol unllawr cefn, ac ymestyn y rhan deulawr presennol ac adeiladu estyniad unllawr newydd ar yr un safle, ynghyd a chodi ffens ar hyd ochr y tŷ. Nodwyd bod apêl wedi ei chofrestru oherwydd nad oedd penderfyniad wedi ei gymryd ynghylch yr adeilad rhestredig ac felly esboniwyd nad y Pwyllgor Cynllunio fyddai gyda’r hawl i wneud penderfyniad ffurfiol ond yn hytrach yr Arolygaeth Gynllunio.  Fodd bynnag, eglurwyd byddai’n ofynnol i’r Pwyllgor Cynllunio roi arweiniad i’r swyddogion cynllunio o ba fath o benderfyniad fyddent wedi ei gymryd pe byddai’r cais ger eu bron a hynny er mwyn gallu delio gyda’r apêl ar ran y Cyngor.  Yn dilyn derbyn cadarnhad y Pwyllgor fe fyddai’r swyddogion cynllunio wedyn yn darparu datganiad apel i’w gyflwyno i’r Arolygaeth Gynllunio.

 

Tynnwyd sylw bod manylion y cais yn debyg i’r cais blaenorol yn eitem 3 a chyfeiriwyd at gynnwys y disgrifiad o’r cais a’r ymatebion llawn o fewn yr adroddiad ger bron.

 

Ategwyd bod yr asiant wedi cyflwyno adroddiad peiriannyddol strwythurol yn hwyr i’r Adran Gynllunio ac yn sgil pryderon ynglŷn â chasgliadau’r adroddiad a diffyg eglurdeb llawn os oes modd cynnal neu gryfhau’r  waliau  heb orfod eu dymchwel ac os ydi’r adroddiad yn seiliedig ar gyflwr y waliau fel ag y maent yn bresennol neu ar gyflwr y waliau ar gyfer cynnal estyniad newydd.  O ganlyniad eglurwyd nad oedd y swyddogion cynllunio wedi eu hargyhoeddi bod yr ymateb yn lleddfu’r pryderon sydd yn cael eu nodi yn yr adroddiad yn llawn.  Fe fwriedir hefyd cyflwyno’r adroddiad peiriannyddol i’r Arolygaeth Gynllunio er mwyn ffurfio rhan o’r wybodaeth apel.

 

Nodwyd ymhellach bod yr egwyddor yn gallu bod yn dderbyniol ond ar hyn o bryd nad oedd y wybodaeth angenrheidiol yn dderbyniol  er mwyn dod i gasgliad bod yr holl fwriad yn dderbyniol. 

 

Er mwyn galluogi swyddogion i ymdrin â’r apel gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais ac i awdurdodi swyddogion i gyflwyno achos  yr apel ar ran y Cyngor.  Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel am ddiffyg penderfyniad ac ymdrin ag unrhyw wybodaeth a ddaw i law yn ystod yr apel ac i gadarnhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell gwrthod y cais oherwydd diffyg cyfiawnhad clir dros y gwaith dymchwel. 

                      

(b)   Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod CADW wedi cydnabod bod Rhes Glandwr o bwysigrwydd cenedlaethol ac sydd wedi ei restru ym Mai 2013 ac wedi argymell mewn termau cadarn y dylai rhan o ward Garth gan gynnwys Rhes Glandwr gael ei glustnodi ar gyfer Statws Ardal Gadwraeth

·         Bod CADW wedi datgan bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Cais Rhif C15/0808/20/LL - Menai Marina, Hen Gei LLechi, Y Felinheli pdf eicon PDF 697 KB

Cais ôl-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i gadw pontŵn o fewn y cei   

        

(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ôl-weithredol oedd gerbron i gadw pontŵn o fewn y cei wedi ei leoli ar wal ogleddol yr harbwr ac wedi ei gysylltu mewn 3 lleoliad a fyddai’n gadael i’r pontŵn godi gyda’r llanw.  Nodwyd bod y safle yn rhan o’r marina presennol gyda wal yr harbwr wedi ei restru fel adeilad rhestredig Gradd II. 

 

         Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau ac yr adroddiad peiriannyddol a oedd yn datgan na fyddai gosod y pontwn yn debygol o gael unrhyw effaith andwyol o safbwynt strwythur peiriannyddol yr harbwr.

 

Yn dilyn penderfyniad y pwyllgor ym mis Medi 2016 rhoddwyd cyfle i’r gwrthwynebwyr gael amser i ddarparu a chyflwyno adroddiad peirianyddol eu hunain, ac nid yw’n ymddangos o’r adroddiad hwnnw fod cyflwr y wal mewn cyflwr drwg nag ychwaith o dan unrhyw fygythiad gan y pontwn.  O fewn casgliad yr adroddiad awgrymir gosod amod i fonitro’r wal yn rheolaidd fel mesuriadau lliniaru teg.   Yn ogystal derbyniwyd barn Ymgynghoriaeth Gwynedd ar yr           adroddiad a chadarnhawyd fod yr adroddiad wedi ei gwblhau gan gwmni cydnabyddedig ac fod yr argymhellion yn deg. Ni ystyrir felly fod cynnwys yr adroddiad newydd gan y gwrthwynebwyr wedi cyflwyno tystiolaeth newydd ac felly nid yw’r argymhelliad wedi newid o’r argymhellion blaenorol.

        

Eglurwyd fod y cais bellach yn destun apel am ddiffyg penderfyniad ac er mwyn galluogi swyddogion i ymdrin â’r apel gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais ac i awdurdodi swyddogion i gyflwyno achos  yr apel ar ran y Cyngor.  Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel am ddiffyg penderfyniad ac i gadarmhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatáu’r  cais gydag amod a nodyn i fonitro cyflwr y wal.

 

(b) Ar ran trigolion yr ardal, gwrthwynebai’r aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y cais ac fe nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·         Pwysigrwydd bod aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o holl gynnwys yr adroddiad peiriannyddol

·         Bod amryw o bobl yn gwrthwynebu’r cais

·         Bod y wal dros 100 mlwydd oed ac ni wyddys beth yw cyflwr y wal

·         Er y cyflwynwyd gwahanol adroddiadau ni theimlwyd bod arolwg iawn wedi ei wneud o’r wal

·         Nad oedd trigolion yr ardal yn gwrthwynebu’r pontwns i gyd ond yn gwrthwynebu’r math yma sydd yn cael ei gysylltu hefo bracedi i’r wal

·         Derbyniwyd e-bost gan asiant yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n fodlon tynnu’r pontwn yn ystod y gaeaf o 1 Tachwedd i 1 Mawrth ac yn ogystal yn barod i ymgymryd ag ymchwiliad gweledol blynyddol

·         Dylid sicrhau bod yr amod yn datgan monitro rheolaidd

·         Pryderwyd am ddiogelwch y cyhoedd pe byddai unrhyw drafferth gyda’r pontwn

 

(c)  Mewn ymateb, cydnabyddai'r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio pryderon yr aelod a’r trigolion lleol ond tynnwyd sylw bod y cais yn nwylo’r Arolygaeth Cynllunio. Atgoffwyd bod y cais i mewn ers dros 12 mis ac wedi cael ei ohirio sawl gwaith i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

Cais Rhif C15/0807/20/CR - Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli pdf eicon PDF 700 KB

Cais ôl-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i gadw pontwn o fewn y cei   

 

(a)                Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais gerbron yn gais rhestredig ôl-weithredol i gadw pontwn o fewn y cei ac yn yr un modd a’r cais blaenorol yn eitem 5, a  gan fod y cais hon hefyd yn destun apel am ddiffyg penderfyniad, gofynnwyd i’r Pwyllgor am yr hawl i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor drwy gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais.  Argymhellwyd felly bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel am ddiffyg penderfyniad ac i gadarmhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatau’r  cais gydag amod a nodyn i fonitro cyflwr y wal.

 

(b)  Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) nad oedd yr adroddiad yn glir o safbwynt diogelwch y wal a’r angen.  Pe byddir yn caniatau’r cais bod nodyn i’w gynnwys bod yr ymgeisydd yn monitro’r wal yn rheolaidd

 

(c)  Cynigwyd ac eiliwyd argymhelliad y swyddogion cynllunio.

 

Penderfynwyd:             Dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel am ddiffyg penderfyniad ac i gadarnhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatau’r  cais yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd ynghyd a nodyn i fonitro cyflwr y wal yn rheolaidd.

 

 

5.7

Cais Rhif C16/0329/18/LL - Tir gyferbyn Swyddfa Bost, Clwt y Bont, Caernarfon pdf eicon PDF 816 KB

Codi tri ty annedd deulawr ar wahan a datblygiadau cysylltiedig

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi tri ty annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig.     

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor Cynllunio dwywaith yn barod gydag ymweliad safle wedi’i gynnal.   Esboniwyd y bwriad i godi tri thŷ ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu Clwt y Bont. Defnyddiwyd y safle yn y gorffennol fel safle parcio yn bennaf ar gyfer y Swyddfa Bost dros y ffordd (sydd yn awr ar gau). Ymddengys i’r safle cael ei greu trwy fewnlenwi deunydd yn y gorffennol i greu platfform gwastad oddeutu 60m x 30m gyda llethrau serth yn disgyn o’r tir ar dair ochr.

 

Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud a mwynderau fel y gwelir ym mharagraffau 5.11 i 5.23 o’r adroddiad lle ystyrir materion megis yr effaith weledol, yr effaith ar breifatrwydd, pryderon ynghylch tir ansefydlog a materion bioamrywiaeth a daethpwyd i’r casgliad bod y datblygiad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt y materion hyn yn ddarostyngedig i’r amodau a gynigir yn Rhan 7 yr adroddiad.

 

O ystyried fod hwn yn safle tir llwyd, o fewn y ffin ddatblygu nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu'r safle'n cael ei gefnogi gan y Cynllun Datblygu Unedol. Fodd bynnag mae Polisi CH4 yn datgan y dylid sicrhau bod cyfran o’r unedau a fwriedir eu hadeiladu o fewn pentrefi yn rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y safle. Gwelir cyfeiriad manwl o’r mater ym mharagraffau 5.1 i 5.8 o’r adroddiad.

 

Darparwyd Cyfrifiadau Hyfywdra gyda’r cais sy’n dangos na fyddai’r cynllun yn hyfyw gydag elfen fforddiadwy yn rhan ohono. Nodwyd bod Uned Eiddo’r Cyngor wedi cytuno bod y costau adeiladu a gyflwynwyd yn rhai rhesymol a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi defnyddio’r fethodoleg safonol y maen nhw, a chynghorau eraill, yn ei ddefnyddio at ddibenion asesu hyfywdra cynigion ac yn cytuno na fyddai’r cynllun yn hyfyw petai gofyn i un o’r tai fod yn uned fforddiadwy.

 

Yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor diwethaf cadarnhaodd yr Uned Polisi eu cyfrifiadau ac maent yn credu, wrth ystyried y dystiolaeth sydd gerbron, na fyddai’n rhesymol gwrthod y cais ar sail y diffyg darpariaeth fforddiadwy.  Nodwyd bwysigrwydd, oherwydd cyfyngiadau’r safle o safbwynt mynediad priffyrdd, nad yw’n bosibl datblygu’r safle i’w lawn botensial, mae’n safle ddigon mawr i gynnwys o bosib pump neu chwech uned ac yr adeg honno mae’n sicr y byddai elfen fforddiadwy yn dod yn fwy hyfyw. Ond o ystyried cyfyngiadau’r safle ac yng ngolwg y dystiolaeth sydd gerbron, ni chredir bod cyfiawnhad gofyn i un o’r tai fod yn fforddiadwy ar gynllun o’r raddfa hon. Ystyrir bod y  datblygiad a gynigir yn dderbyniol mewn egwyddor a gan nad ydyw’n debygol o achosi effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau y dylid caniatáu’r cais.

 

(b)Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) am y rhesymau canlynol:

 

·         Nad oedd prisiau’r tai yn fforddiadwy i bobl leol o ystyried cyflogau isel yr ardal

·         Nad oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7

5.8

Cais Rhif C16/0848/00/LL - Toiledau Abermaw, Marine Parade, Abermaw pdf eicon PDF 647 KB

Cais i drosi cyfleusterau cyheddous di-ddefnydd i dy annedd, i gynnwys  codi uchder y to presennol a newidiadau allanol.

 

AELOD LLEOL:   Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i drosi cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i dy annedd, i gynnwys codi uchder y to presennol a newidiadau allanol.

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r bwriad i drosi cyn cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i dy annedd wedi ei leoli ynghanol tref arfordirol Abermaw gyda’r ysgol gynradd i’r dwyrain o’r safle.  Saif cae chwarae’r ysgol ar derfyn cefn a gogleddol safle’r cais.  Ceir palmant a ffordd sirol ddi-ddosbarth i orllewin y safle gyda’r promenâd a thraeth ar draws y ffordd.  Defnyddiwyd yr adeilad fel toiledau cyhoeddus cyn eu cau yn 1997 a’u gwerthu gan y Cyngor yng Ngorffennaf 2015.  Ceir cymysgedd o ddefnyddiau tir yn lleol sydd yn cynnwys tai preswyl, gwestai a’r ysgol gynradd.  Nodwyd bod y safle o fewn ffin datblygu tref Abermaw ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Mawddach.  Derbyniwyd sawl ymateb i’r ymgynghoriad gyda’r cynnig yn bodloni gofynion trafnidiaeth, Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fe godwyd nifer o wrthwynebiadau gan y cyhoedd gan gynnwys ystyriaethau megis agosatrwydd yr adeilad at gae chwarae’r ysgol, diffyg tir mwynderol o amgylch yr adeilad, bod yr adeilad yn anaddas i’w drosi a bod safon y dyluniad yn annerbyniol ynghyd a materion eraill a’u trafodir yn yr adroddiad. ‘Roedd hefyd gohebiaeth yn croesawu’r datblygiad fel gwelliant i gyflwr blêr presennol y safle.

 

O safbwynt y penderfyniad cynllunio, nodwyd pwysigrwydd i gofio bod y bwriad yn ymwneud a throsi adeilad presennol i annedd o fewn ffin ddatblygu Canolfan Leol fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Unedol. Tynnwyd sylw at bolisi CH11 o’r Cynllun sy’n ymwneud yn benodol a chynigion i drosi adeiladau o fewn ffiniau datblygu ar gyfer defnydd preswyl.  Rhoddwyd ystyriaeth i feini prawf y polisi hwnnw yn yr adroddiad ac fe gredir bod y cynnig yn cwrdd â phob un o’r meini prawf hynny. Nodwyd bod polisi C4 hefyd yn gefnogol i addasu adeiladau gweigion at ddefnyddiau priodol newydd.

 

O safbwynt mwynderol, mae’r safle’n sefyll ar ben ei hun,  ac o bellter digonol oddi wrth unrhyw eiddo preswyl eraill i beidio â chael effaith uniongyrchol arnynt. Ystyrir yn ogystal y byddai adfer ac ail ddefnyddio’r adeilad yn cynnig y cyfle i’w dacluso a’i atal rhag dirywio ymhellach a thrwy hynny fe ellir gwarchod a gwella ansawdd a chyflwr y safle ac amddiffyn mwynderau gweledol yr ardal yn gyffredinol.

Nodwyd bod hwn yn gais i ail-ddatblygu adeilad sydd o fewn ffin ddatblygu at ddefnydd sy’n briodol ar gyfer y lleoliad ac felly argymhellwyd i gymeradwyo’r cais gydag amodau fel y rhestrir yn yr adroddiad.

 

(b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd y gwrthwynebydd ar ran corff llywodraethol a rhieni Ysgol y Traeth eu bod yn gwrthwynebu’r cais yn seiliedig ar:

 

1.    Mwynderau - byddai newid yr adeilad yn amharu ar fwynderau plant i chwarae gan fod cefn yr adeilad yn ffinio hefo maes chwarae’r Ysgol

2.    Dyluniadnad oedd y cynnig yn parchu’r ardal o ran ei raddfa gan y byddai’n uwch na’r adeilad presennol ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8

5.9

Cais Rhif C16/0704/44/LL - Tir cyfochrog cyn Storfa Spar, Morfa Bychan pdf eicon PDF 673 KB

Cais ar gyfer codi 2 dŷ.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Cais ar gyfer codi 2 dy.

 

(a)              Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r prif elfennau yn ymwneud a’r cais.  Nodwyd mai cais llawn oedd gerbron  i godi 2 fyngalo dormer o fewn safle a fu yn y gorffennol yn gweithredu fel maes parcio ffurfiol ynghlwm a siop gyfagos a chyn hynny, yn safle modurdy. Tynnwyd sylw bod y cynlluniau manwl yn dangos y bydd i’r ddau eiddo, 3 ystafell wely ag yn mesur cyfanswm arwynebedd llawr o oddeutu 190m² ag yn 7m o uchder i’w grib. Yn allanol, gorffennir waliau’r adeiladau gyda gorffeniad wedi ei chwipio a thoeau o lechen naturiol.

 

Saif y safle o fewn ffin datblygu’r pentref ag yn safle sydd eisoes wedi ei ddatblygu gyda thai preswyl presennol i ochr a chefn y safle, ffordd gyhoeddus heibio blaen y safle a ffordd yn arwain at stad o dai preswyl heibio’r ochr gyda siop yr ochr arall i’r ffordd yma.

Cyflwynir y cais i bwyllgor am benderfyniad oherwydd fe dderbyniwyd 3 gwrthwynebiad yn groes i’r argymhelliad. Cyfeiriwyd at y pryderon sydd wedi eu datgan a’u nodi o fewn  yr adroddiad.

 

Fe welir o’r adroddiad fod asesiad llawn wedi ei wneud o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda pholisiau yn ogystal a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. Ni ystyrir fod y bwriad yn anerbyniol a’i fod yn addas i’w safle,  yn gweddu gyda edrychiadau cyffredinol o fewn yr ardal ag yn gwneud defnydd da o safle gwag presennol.  Argymhellwyd i ganiatau’r cais yn unol a’r amodau fel a nodir.

 

(b)Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

 

·         Lleihad yn y traffig i’r briffordd gan y defnyddiwyd y tir fel  maes parcio yn y gorffennol

·         Gwell defnydd o’r tir o’i ddatblygu

 

(a)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Penderfynwyd:             Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

            1.         Amser

            2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

            3.         Deunyddiau/llechi

            5.         Priffyrdd

            6.         Draenio

            7.         Manylion lefelau lloriau gorffenedig

            8.         Nodyn wal rannol

            9.         Gwydr afloyw

           10.        Cynnal archwiliad llygredd o’r safle.

11.       Tynnu hawliau i gynnwys ffenestri ychwanegol

           12.        Gwarchod gosodiad y ffenestri velux ar y toeau cefn

 

5.10

Cais Rhif C16/0732/44/LL - Llain 59 Tan y Foel, Borth y Gest pdf eicon PDF 667 KB

Ail gyflwyniad a diwygiadau o geisiadau a wrthodwyd o dan C15/1033/44/LL, C16/0144/44/LL a C16/0313/44/LL ar gyfer codi ty, 3 llofft

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ail gyflwyniad a diwygiadau o geisiadau a wrthodwyd o dan C15/1033/44/LL, C16/0144/44/LL a C16/0313/44/LL ar gyfer codi ty, 3 lloft.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai ail gyflwyniad o gais llawn oedd gerbron a wrthodwyd yn flaenorol ar gyfer codi ty ar wahân gyda modurdy integredig a mynedfa gerbydol newydd. Cyflwynwyd  cais diwygiedig sydd bellach yn cynnwys 3 ystafell wely.  Diwygiwyd y cais trwy leihau maint cyflawn yr adeilad arfaethedig yn ogystal a dileu rhai nodweddion. Nodwyd bod y cynllun presennol yn dangos lled adeilad yn 10.7m o’i gymharu a 11.6m a 12.3m fel a wrthodwyd yn flaenorol a’r uchder hefyd yn lleihau i 6.7m o’r 6.9m a’r 7.6m blaenorol.

 

Nodwyd bod yr egwyddor o godi ty yn dderbyniol gan fod y safle o fewn ffin datblygu pentref Borth y Gest a bod caniatâd amlinellol wedi ei roi yn y gorffennol i godi ty newydd.

Tynnwyd sylw bod diwygiadau cyson wedi ei wneud o ganlyniad i’r gwrthodiadau blaenorol mewn ymateb i bryderon yr awdurdod cynllunio.

 

Cydnabyddir fod pryderon wedi eu hamlygu ynglŷn â’r cais yma sydd yn gyson gyda gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gyda’r ceisiadau blaenorol. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a gyflwynwyd.

 

Credir fod y bwriad bellach yn dderbyniol ar sail y diwygiadau a wnaed a’r lleihad ym maint yr adeilad arfaethedig a’i fod yn safle sydd eisoes wedi ei ystyried yn addas ar gyfer datblygiad preswyl trwy ganiatáu cais cynharach.

Argymhellwyd  bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

(b) Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol:

 

·         Ei fod yn gwrthwynebu’r cais blaenorol oherwydd maint y ty ond oherwydd diwygiad i leihad yn y maint, nid oedd o’r farn y gallasai ei wrthwynebu

·         Tra’n derbyn bod pryderon yn lleol ynglyn ag ansawdd y tir roedd y pryderon hyn wedi eu cyfarch yng nghynnwys yr adroddiad gerbron

·         Bod y tir yn serth tu ol i’r safle a rhaid sicrhau cyn cychwyn y datblygiad na fyddai unrhyw lithriad yn y tir

·         Na ellir ei wrthod oherwydd bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisiau perthnasol

·         Yn falch o weld bod amod 9 (tynnu hawliau PD) yn cael ei gynnwys yn yr amodau er mwyn sicrhau na fyddai’r safle yn cael ei ehangu wedi derbyn caniatâd cynllunio

 

(c) O safbwynt gwarchod y tir yng nghefn y safle, cadarnhaodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai modd rhoi amod i dynnu sylw’r ymgeisydd o’r pryder drwy reoliadau adeiladu.

 

         Penderfynwyd:             Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

            1.         Amser

            2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

            3.         Deunyddiau/llechi

            4.         Cyflwyno a chytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu

            5.         Gwarchod coed

            6.         Priffyrdd

            7.         Gwydr afloyw

            8.         Lefelau llawr gorffenedig

            9.         Tynnu hawliau PD

            10.       Nodyn Deddf Wal Rannol

           

Nodyn: i dynnu sylw'r ymgeisydd i’r posibilrwydd o fod angen wal

            gynnal i’r cefn

 

 

5.11

Cais Rhif C16/0743/42/LL - Glan y Mor, Nefyn pdf eicon PDF 584 KB

Adeiladu estyniad deulawr i'r ochr ac adeiladu porth i'r blaen

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu estyniad deulawr i’r ochr ac adeiladu porth i’r blaen.

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais ar gyfer codi estyniad deulawr ar ochr tŷ presennol gyda phorth ar ei flaen i gymryd lle estyniad unllawr to fflat a phorth presennol. Bwriedir dymchwel y strwythurau hyn a chodi estyniad newydd er mwyn darparu gofod byw ychwanegol. Byddai to’r estyniad wedi ei gamu i lawr o frig to'r tŷ ac wedi ei orffen gyda llechi naturiol.

 

Nodwyd bod y safle y tu allan i'r ffin ddatblygu ac mewn lleoliad agored ac amlwg ar draeth Nefyn ac o fewn yr Arfordir Treftadaeth a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn. Mae’r eiddo wedi ei gysylltu ar yr ochr ddeheuol gydag eiddo Hendafarn sy'n adeilad rhestredig Gradd II. Yn agos iawn ar yr ochr arall, sef yr ochr ogleddol, saif tŷ Hafod y Môr.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori  yn Rhan 4 yr adroddiad ac fe nodwyd bod y cyrff statudol yn fodlon gyda'r cynnig er y rhoddwyd peth ystyriaeth i faterion bioamrywiaeth a llifogydd. Fe dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan y cyhoedd, megis :

·   Yr effaith weledol, yn enwedig ar yr adeilad rhestredig gyda'r defnydd o ddeunyddiau amhriodol fel ffenestri UPVC

·   Pryder am fynediad i gynnal a chadw talcen eiddo Hafod y Môr sydd gyfochrog

 

Tynnwyd sylw bod gan yr eiddo sy'n destun i'r cais gymeriad pensaernïol diddorol a nodweddion unigryw yn perthyn i’r prif wyneb. Ystyrir bod graddfa, maint, ffurf a dwysedd yr estyniad arfaethedig yn dderbyniol ac yn gweddu i’r eiddo presennol. O ystyried bod estyniad to fflat eisoes ar y safle, ni chredir y byddai codi estyniad deulawr yn ei le yn cael effaith arwyddocaol ar olygfeydd y cyhoedd o’r safle nac yn debygol o gael effaith andwyol ar gymeriad y tirweddau sydd wedi' eu dynodi.  

 

Nid oedd yn glir o’r cais beth a fwriedir fel gorffeniad allanol ar gyfer waliau'r estyniad ond o ystyried sensitifrwydd y safle, credir y dylid gosod amod er sicrhau gorffeniad priodol, megis rendr gwyn, yn y lleoliad hwn.

 

O safbwynt yr adeilad rhestredig sydd ynghlwm, ni fyddai’r estyniad yn cyffwrdd yr adeilad hwnnw nac yn golygu bod nodweddion hanesyddol pwysig yn cael eu colli. Fe fyddai'r dyluniad arfaethedig yn sicrhau bod yr estyniad yn ymddangos yn israddol i Glan y Môr, heb fod yn ymwthiol ar yr eiddo ei hun na’r adeilad rhestredig cysylltiol.

 

O safbwynt yr effaith ar fwynderau'r cymdogion yn Hafod y Môr, byddai’r estyniad newydd wedi ei godi mwy neu lai'n union ar ôl troed yr estyniad presennol felly ni chredir y byddai'r bwriad yn or-ddatblygiad o'r cwrtil. Nid oes unrhyw ffenestr ar dalcen Hafod y Môr ac felly nid oes pryder ynghylch preifatrwydd ychwaith. Er gwaetha sylwadau’r perchnogion nid yw materion yn ymwneud a threfniadau mynediad i gynnal a chadw eiddo preifat yn ystyriaethau cynllunio.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn polisïau'r cynllun datblygu, ystyrir fod yr estyniad deulawr arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellwyd i  ganiatáu'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.11

5.12

Cais Rhif C16/0744/17/LL - Tir i'r Gogledd-ddwyrain o Y Garreg, Groeslon pdf eicon PDF 754 KB

Cais llawn i godi 5 tŷ preswyl deulawr, ynghyd ac addasu mynedfa a ffordd gerbydol bresennol, darparu llecynnau parcio a thirlunio

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Eric M. Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Oherwydd bod y Cadeirydd yn datgan diddordeb yn y cais hwn ac yn absenoldeb yr Is-gadeirydd o’r cyfarfod, cynigwyd ac eilwyd i’r Cynghorydd Gwen Griffith gymryd y gadair, ac fe adawodd y Cadeirydd y Siambr yn ystod y drafodaeth.

 

Cais llawn i godi 5 ty preswyl deulawr, ynghyd ac addasu mynedfa a ffordd gerbydol bresennol, darparu llecynnau parcio a thirlunio.

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r prif elfennau sy’n berthnasol i’r cais.  Esboniwyd mai cais llawn oedd gerbron i godi 5 preswyl deulawr gyda newidiadau i fynedfa a ffordd stad bresennol ac wedi ei gyflwyno ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd yn darparu’r tai mewn ymateb i alw yn lleol am dai 2 lofft.

 

Byddai’r tai o ran maint, yn mesur cyfanswm o 79m² fesul uned ac wedi eu gosod fel dau set o dai pâr ag un ty ar ben ei hun. Mae gerddi ffurfiol yn cael eu darparu gyda llecynnau parcio. Yn ogystal, fe welir fod rhan o’r ffordd stad a’r fynedfa bresennol yn cael ei addasu yn bennaf trwy ei lledu. Nodwyd y byddai llecynnau parcio ar wahân i’r tai arfaethedig yn cael eu darparu ar ran o’r safle ar gyfer trigolion presennol Y Garreg a’u hymwelwyr.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor oherwydd  bod y nifer o dai a fwriedir yn fwy na’r hyn a ellir ei benderfynu o dan y drefn dirprwyedig.  Nodwyd bod y  safle yma oddi mewn i ffin datblygu pentref Y Groeslon ag yn dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes. Ar sail hyn yn unig, credir fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Cydnabuwyd bod pryderon wedi eu hamlygu ynglŷn â’r cais yma a rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a gyflwynwyd.

 

Nodwyd bod y cynnig yma yn cael ei gyflwyno ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar gyfer diwallu angen lleol am dai, rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a bod y cynnig yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau sefydledig. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau fel y nodir.

 

(b)  Nododd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei fod yn gefnogol i’r cais am y rhesymau canlynol:

 

·         bod tai’n bodoli ar y safle’n barod ac yn addas ar gyfer tai

·         bod galw am y math yma o dai yn lleol

 

ond mynegodd bryder a oedd y garthffosiaeth yn addas ar gyfer cynnydd yn y defnydd.

 

           

(c)Mewn ymateb i’r pryder, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd Dwr Cymru yn gwrthwynebu’r cais ac yn awgrymu amodau safonol ac felly derbynnir bod digon o gapasiti ar gyfer cynnydd yn nefnydd y garthffosiaeth.

 

(ch) Mewn ymateb i sylwadau wnaed gan Aelodau unigol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu a’r Uwch Gyfreithiwr fel a ganlyn:

 

·         ni roddir cytundeb 106 ar dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd a bod y tai yn fychan ac yn cwrdd ag anghenion tai fforddiadwy

·         pe byddai'r tai yn cael eu rhoi ar y farchnad agored rhywbryd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.12

5.13

Cais Rhif C16/0849/32/LL - Crugeran, Sarn pdf eicon PDF 620 KB

Adeiladu uned ddofednod rhydd a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gweno Glyn

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu ddofednod rhydd a gwaith cysylltiedig.

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais hwn i greu uned ar gyfer dofednod rhydd h.y. “free range poultry unit”, ynghyd a gwaith cysylltiedig.  Byddai’r bwriad yn cynnwys codi sied a phedair storfa porthiant a chreu trac mynediad er cysylltu’r datblygiad gydag iard y fferm.   Byddai’r sied yn mesur 135 medr o hyd gyda’r uchder i grib y to yn 6.8 medr.  Fe fyddai 6 ffan yn ymwthio i fyny o'r to rhyw fetr yn ychwanegol. Fe fyddai gan y sied arwynebedd llawr o 2630 m2 a gall gadw hyd at 32,000 o ieir dodwy. Bwriedir i waliau allanol a tho’r sied fod yn shitiau bocs proffil o liw gwyrdd ‘juniper’ a byddai'r storfeydd porthiant yn mesur oddeutu 3 medr mewn diamedr ac yn 6.8 medr o uchder.   

 

Nodwyd y byddai gwaith cloddio a mewnlenwi yn cymryd lle er mwyn creu platfform gwastad ar gyfer yr adeilad a gosodir llawr caled o amgylch yr uned. Bwriedir plannu coed ar yr ochr ddwyreiniol fel sgrin.  Bwriedir defnyddio’r fynedfa ffordd bresennol ond bydd trac yn cael ei greu o’r adeiladau fferm at safle’r uned ddofednod.  Tynnwyd sylw at fanylion eraill ynghylch sut bydd yr uned yn gweithredu yn rhan 1 yr adroddiad.

 

Nodwyd bod y safle yng nghefn gwlad oddi fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn ac Enlli. Mae oddeutu 1km o’r AHNE. Byddai’r uned wedi ei lleoli tua 260 medr oddi wrth adeiladau fferm bresennol Crugeran ac mae’r tai annedd agosaf oddeutu 350 medr i ffwrdd yn Nhre’r Ddol.

 

Cyfeirwyd at yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn rhan 4 yr adroddiad ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori er i'r Uned AHNE ddatgan pryder ynghylch yr effaith weledol o rai mannau yn yr AHNE. Derbyniwyd hefyd sawl gohebiaeth yn cefnogi'r cynllun gan y byddai'n hwb economaidd i'r gymuned leol.

 

Nodwyd bod polisïau'r cynllun datblygu'n gefnogol o godi adeiladau ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol. Yn yr achos hwn mae’r ymgeiswyr yn bartneriaeth deuluol sydd yn rhedeg fferm Crugeran, sy'n fferm 190 hectar sy'n canolbwyntio ar eidion, defaid a grawn.  Y bwriad yw arallgyfeirio i ddofednod rhydd a derbynnir bod diben amaethyddol dilys ar gyfer y datblygiad newydd. 

 

Fe fyddai’r adeilad yn cael ei leoli ar ben ei hun oddeutu 260 medr oddi wrth yr adeiladau presennol ar y daliad.  Fe fyddai hyn yn cyfrannu at fioddiogelwch y fferm trwy wahanu’r elfen ieir o weddill y fferm, ac mae'r lleoliad yn un llai amlwg yn weledol na safleoedd agosach at y fferm bresennol. Nodwyd bod  dyluniad y sied o fath amaethyddol cyffredin dim ond iddo fod yn sylweddol hirach. Wedi dweud hynny, o ystyried y dyluniad, deunyddiau a'r lliwiau arfaethedig ynghyd a ffurfiant y tir a'r bwriad i blannu sgrin o goed ni chredir bydd yn sefyll allan fel nodwedd estron yn y dirwedd. 

 

Tynnwyd sylw bod rhai tai yng nghyffiniau’r safle a thra bod potensial ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.13

5.14

Cais Rhif C16/0931/39/LL - Blaen y Wawr, Lon Engan, Abersoch pdf eicon PDF 710 KB

Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i'r pwll nofio ynghyd a strwythyr cegin haf yn cynnwys popty pizza a bbq gyda echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R H Wyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i’r pwll nofio ynghyd a strwythur cegin haf yn cynnwys popty Pizza a bbq gydag echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn.

 

(a)              Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod cais blaenorol wedi ei wrthod a chyflwynwyd cais diwygiedig ar gyfer adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i’r pwll nofio, pwmp gwres ynghyd a strwythur cegin haf yn cynnwys popty “pizza a bbq” a gwaith tirlunio yng nghefn yr ardd.  Nodwyd bod y safle ar lain cornel gyda thai preswyl cyfagos a’i fod o fewn ffin ddatblygu Abersoch.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr yn nodi bod cynllun diwygiedig wedi ei dderbyn sy’n dangos gwelliannau priffyrdd i gornel Lon Engan na chyflwynwyd gyda’r cais yn wreiddiol mewn ymgais i wella gwelededd y ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd ac nid yn unig yr eiddo hwn. Nodwyd bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi eu nodi yn yr adroddiad a thynnwyd sylw penodol at y gwrthwynebiadau sydd wedi eu derbyn.

 

Nodwyd bod y gardd yn eithaf helaeth ac ystyrir bod maint yr adeilad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt maint y cwrtil yn ei gyfanrwydd.  Yn yr un modd, cadarnhawyd bod maint y pwll nofio yn dderbyniol.  Ni ystyrir y byddai unrhyw effaith ar yr AHNE gan y byddai’r datblygiadau wedi eu suddo i’r tirwedd.

 

Gwrthodwyd y cais blaenorol oherwydd pryderon mwynderau tai cyfagos ond ystyrir bod y cais diwygiedig yn welliant a’r pryderon wedi eu goresgyn. Derbyniwyd pryder gan gymdogion ynglyn a lleoliad y teras, y pwll nofio ac adeilad mor agos iddynt ond gan fod y rhain wedi eu lleoli ar hyd y ffin byddai’n anodd ei wrthod ar sail effaith ar fwynderau preswyl cyfagos a chyfeiriwyd at y manylion llawn ym mharagraffau 5.6 i 5.8 o’r adroddiad.   

 

Ystyrir bod y gwrthwynebiadau wedi derbyn ystyriaeth lawn a’r pryderon wedi eu goresgyn a bod y cais yn cydymffurfio a’r polisiau perthnasol ac felly argymhellwyd i’w ganiatáu yn unol ag amodau perthnasol  ynghyd ag amod ychwanegol gan yr Adran Briffyrdd er sicrhau gwella’r gwelededd.

 

(b)  Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Yn dilyn derbyn y cynllun diwygiedig a’r newidiadau i wella gwelededd a diogelwch i’r gornel bod rhai o’r pryderon wedi eu goresgyn a hyderir y bydd y gwelliant hwn yn cael ei gwblhau’n fuan

·         Gofynnwyd a fyddai modd sicrhau bod y ffens derfyn yn un cadarn ac yn ogystal rhoi amod i gyfyngu defnydd o gerddoriaeth hyd at 11.00 p.m. er sicrhau mwynderau preswylwyr a chymdogion cyfagos

 

(c)  Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd yn bosibl gosod amodau o’r math uchod ynglyn a defnydd cerddoriaeth oherwydd bod gan unigolion hawl i ddefnyddio gardd i gymdeithasu.  Pwysleisiwyd nad oedd y ty yn enfawr a phe byddai pryder o aflonyddwch / niwsans yn codi byddai modd ymdrin â’r pryder bryd hynny.  

 

            Penderfynwyd:                      Caniatáu yn unol â’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.14