Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 434301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016-17. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol
y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn
Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. Diolchodd i’w chyd-aelodau am y fraint o gael cadeirio’r Pwyllgor hwn a
chymryd y cyfle i ddiolch i’r cyn Gadeirydd, y Cynghorydd Michael Sol Owen am
ei waith trylwyr dros y ddwy flynedd diwethaf. Cymerodd y Cynghorydd Michael Sol Owen y cyfle i ddiolch i’r Aelodau,
Swyddogion, Cofnodwyr, Cyfreithiwr a’r Cyfieithwyr am eu gwaith i’r Pwyllgor
Cynllunio, gan nodi bod yr Adran Cynllunio yn ymdrin ag oddeutu 1,200 o
geisiadau a dim ond canran fechan iawn sydd yn cael eu cyflwyno er ystyriaeth y
Pwyllgor. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016-17. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol
y Cynghorydd Elwyn Edwards yn
Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Hefin Williams a Sian Gwenllian (Aelod lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. . Cofnod: (a)
Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol mewn
perthynas â’r eitem a nodir isod: ·
Y
Cynghorydd Ioan C. Thomas (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
7.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C16/239/14/LL – Galeri Doc
Victoria, Caernarfon, oherwydd ei
fod yn Gyfarwyddwr
ar Galeri. Roedd yr
Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol
mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John Wyn
Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 (cais
cynllunio rhif C14/1110/20/LL) ·
Y Cynghorydd Ioan
Ceredig Thomas, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.2 a
7.3 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C14/1228/14/LL a C16/239/14/LL) ·
Y
Cynghorydd Anne Lloyd Jones, (a oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
7.4 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0265/09/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau dan sylw ac ni
fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2016, fel rhai cywir.
(copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2016, fel rhai
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm) Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif: C14/1110/20/LL - Oaklands, Penybryn, Y Felinheli PDF 692 KB Codi 4 tþ tri ystafell wely, un ohonynt i fod
yn dþ
fforddiadwy. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Sian Gwenllian Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi 4 tŷ tair ystafell wely, un ohonynt
i fod yn dy fforddiadwy. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn
ffin datblygu’r pentref gyda 2 eiddo ar wahân eisoes wedi eu caniatáu ar ran
blaen o’r safle. Nodwyd bod y safle yn hir a chul gyda llwybr Lôn Las Menai yn
rhedeg ar hyd ochr y safle. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol ynghyd a’r
sylwadau hwyr a dderbyniwyd yn datgan yr angen am gynllun diwygiedig o’r man
troi siâp “T” ar ben y stad. Yn
wreiddiol ystyriwyd bod angen i 2 o’r tai fod ar gyfer angen fforddiadwy ynghyd
a chyfraniad addysgol ar gyfer 2 ddisgybl ychwanegol yn yr ysgol leol. Fodd bynnag, yn dilyn derbyn barn Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd o hyfywdra darparu cyfraniad addysgol a chynnig 2 uned
fforddiadwy, ystyrir y byddai’r risg o’r datblygiad yn anhyfyw. Yn seiliedig ar yr uchod, ystyrir bod
darpariaeth o un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r cynllun yn dderbyniol er mwyn
sicrhau elfen fforddiadwy a bod y datblygiad yn hyfyw. Ni ystyrir bod y bwriad yn debygol o achosi goredrych sylweddol nac ychwaith ei fod yn anghyson gyda
phatrwm datblygu’r ardal ac yn addas o ran ei leoliad, ei ddyluniad a’i faint.
O safbwynt materion bioamrywiaeth, yn dilyn trafodaethau ac yn seiliedig ar
leihau’r nifer o dai oedd yn destun y cais gwreiddiol o 5 i 4 a thrwy newid eu
lleoliadau, ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a pholisïau perthnasol.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau Cyrundeb 106 er mwyn sicrhau
fod un ty yn fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac yn
unol â’r amodau a nodir yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y
prif bwyntiau isod: ·
bod y broses wedi bod yn
hir gyda'r cais wedi ei gyflwyno ers bron i ddwy flynedd ·
bod y dyluniad
gwreiddiol yn golygu 5 tŷ tri llawr fel y rhai sydd eisoes wedi eu
caniatáu i aelodau o’r teulu ·
derbyniwyd sylwadau gan
y Swyddog Bioamrywiaeth ynglŷn â phryder am y coetir cyfagos ac yn dilyn
trafodaethau pellach bu’n rhaid lleihau’r nifer o dai i 4 a newid eu lleoliad i
warchod y coed ynghyd ag amod bod coed i’w plannu ar blot rhif 5 yn wreiddiol ·
golygai hyn bod y drws
wedi cau ar unrhyw obaith i adeiladu pumed tŷ er cynigiwyd i blannu coed
ar safle arall ·
oherwydd yr angen i
symud y tai nid oedd tai tri llawr yn gweddu i’r lleoliad ac fe ail-ddyluniwyd
y cais yn unol â’r gofynion drwy wario’n sylweddol ar
gynlluniau diwygiedig er mwyn bodloni’r angen am dai fforddiadwy ·
apeliwyd ar y pwyllgor i
gefnogi’r cais (c) Nododd y Cynghorydd John Wyn Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn ac yn cynrychioli’r aelod lleol gan ei bod wedi datgan diddordeb) ei fod yn gefnogol i’r cais ac yn derbyn bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif: C14/1228/14/LL - Parcia Bach, Bangor Road, Caernarfon PDF 582 KB Addasu rhan o’r adeilad
amaethyddol presennol ar gyfer 11 cybiau
cwn ynghyd â lleoli tanc storio cathion
gerllaw AELOD LLEOL:
Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais o addasu rhan o’r adeilad amaethyddol presennol ar
gyfer 11 cybiau cwn ynghyd a lleoli tanc storio carthion gerllaw, ac yn cynnwys creu uned arwahanu i gadw cwn pe byddent yn dioddef o haint neu salwch ynghyd a
lolfa/swyddfa ac ystafell paratoi bwyd.
Lleolir y safle ar gyrion gorllewinol Caernarfon mewn ardal rhannol
wledig sy’n cynnwys anheddau preswyl wedi eu lleoli ar wasgar i’r gogledd,
gorllewin ac i’r de-ddwyrain o safle’r cais.
Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol a’r ymgynghoriadau
cyhoeddus. Nodwyd bod yr egwyddor yn
seiliedig ar bolisi D10 o CDUG i greu amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth yn
lleol drwy drosi adeiladau ar gyfer defnyddiau masnachol a diwydiannol. Ymhelaethwyd ar y bwriad o safbwynt mwynderau
gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl ac yn benodol effaith sŵn ac
aflonyddwch ar fwynderau trigolion cyfagos,
ynghyd a materion trafnidiaeth a mynediad. Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd
wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol gyda’r cais i liniaru unrhyw effaith
trafnidiaeth gyda’r bwriad o gasglu’r cwn i leihau
cynnydd yn y drafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle. Byddai unrhyw fynediad i’r safle gan y
cyhoedd / perchnogion yn eithriad a thrwy wahoddiad yn unig (rhwng 3.00 a 6.00
p.m. ar ddydd Sul. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd am nifer o resymau, ystyrir nad oedd unrhyw fater yn gorbwyso’r
ystyriaethau polisi a bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a’r
polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
caniatáu’r cais yn unol ag amodau fel amlinellir yn yr adroddiad. (b) Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ·
cydnabyddai bod angen i
arall gyfeirio ac edrych am opsiynau eraill gyda’r weledigaeth yn cynnig
darpariaeth newydd o safon uchel ·
bod y safle yn agored ar
gyrion Caernarfon ac yn denu cryn dipyn o fywyd gwyllt a’i fod yn encil tawel ·
cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau
gan berchnogion y tai cyfagos a oedd yn cynnwys yn bennaf bryderon am y
sŵn, ac nad oedd canllawiau ar ofynion trwyddedu cybiau masnachol ·
bod y lleoliad yn agos i
dai a’r risg o greu aflonyddwch i’r trigolion cyfagos ·
ansicrwydd am y nifer o
gwn ar y safle a phryder o gwn yn dianc ·
yr effaith ar
gynaladwyedd llety gwely a brecwast
cyfagos ·
dim son
am eiddo o’r enw ‘Stablau o fewn yr adroddiad ·
awgrymwyd i’r Pwyllgor
ymweld â’r safle a rhoi ystyriaeth bryd hynny i
bryderon y gwrthwynebwyr sef yn benodol sŵn a mwynderau, y fynedfa, peipen
cyflenwad dwr, llifogydd, a thrwyddedu cybiau llety masnachol. (a) Cynigwyd ac eiliwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r
safle. (ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:
·
Cytunwyd a phryderon y
gwrthwynebwyr a phe byddai’r fenter yn llwyddiannus efallai y byddai cais
pellach i gadw mwy o gwn a fyddai yn ei dro yn creu mwy o sŵn ac
aflonyddwch i’r tai cyfagos · Y byddai’n fanteisiol i’r cybiau wynebu’r de yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif: C16/239/14/LL - Galeri, Doc Victoria, Caernarfon PDF 820 KB Codi estyniad tri llawr blaen er mwyn
darparu 2 sgrin sinema, derbynfa, swyddfeydd a cyfleusterau manwerthu. AELOD LLEOL:
Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad tri llawr blaen er mwyn darparu 2 sgrin sinema, derbynfa,
swyddfeydd a chyfleusterau manwerthu. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y byddai edrychiadau
allanol yr estyniad yn gymysg o ddeunyddiau gydag edrychiad diwydiannol iddynt
ac wedi eu dewis gan gymryd i ystyriaeth lleoliad agored y safle i heli’r môr ynghyd
a’r amcan i greu adeilad sy’n adlewyrchu hanes diwydiannol y rhan yma o’r
dref. Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio
perthnasol. Ystyrir bod y bwriad o
ymestyn yr adeilad presennol yn dderbyniol mewn egwyddor ac o safbwynt
mwynderau gweledol ni chredir y byddai'n creu strwythur anghydnaws yn y
strydlun. Ni fyddai ychwaith yn cael
ardrawiad sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau’r trigolion / defnyddwyr
cyfagos. O safbwynt materion
trafnidiaeth cyflwynwyd cynllun diwygiedig parthed yr encilfa a chyfeiriwyd at
ddatganiad gan yr Uned Drafnidiaeth ar y ffurflen sylwadau hwyr nad oedd
ganddynt wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig sy’n lleihau’r encilfa ar gyfer un
bws yn unig. Tynnwyd sylw bod Polisi
CH36 yn datgan gwrthod datblygiadau os na ddarperir lle i barcio cerbydau oddi
ar y stryd ond yr achos hwn credir (er gwaethaf bod 4 llecyn parcio yn cael eu
colli) bod hygyrchedd y safle parthed gwasanaeth cludiant cyhoeddus a pha mor
rhwydd yw hi i gerdded ac i feicio i’r safle ynghyd a pha mor agos ydyw at
fannau parcio cyhoeddus yn digolledu’r 4 man parcio. Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau roedd y
swyddogion cynllunio o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor,
graddfa, lleoliad, dyluniad, ffurf, deunyddiau, diogelwch ffyrdd, mwynderau
gweledol a phreswyl ac yn sgil hyn yn argymell caniatáu’r bwriad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan aelodau unigol: ·
tra’n
gefnogol i’r cais, hyderir y byddai’r ddarpariaeth yn cael fwy o ddefnydd na’r
sinema sydd yn bodoli’n barod yn yr adeilad ac na fydd yn segur o ystyried bod
pobl yn teithio i Landudno i’r sinema ·
bod siawns i
achub y blaen ar drefi eraill ac y dylid bod yn flaengar mewn hysbysebu a
gwerthu’r diwydiant ffilmiau yn effeithiol ·
bod y parcio
yn peri pryder yn enwedig yn dilyn dyfodiad syrjeri’r meddygon i’r cyffiniau ac
efallai y byddai modd i’r Cyngor fedru agor maes parcio aml-lawr staff y Cyngor
sydd wedi ei leoli gerllaw at ddefnydd parcio pan nad mewn defnydd gan aelodau
staff y Cyngor ·
nad oedd 4
llecyn parcio yn hyfyw ac y dylid cael o leiaf 100 o fannau parcio i
ddatblygiad o’r fath ·
teimlwyd nad
oedd y deunyddiau a ddefnyddir yn gynaliadwy o ystyried lleoliad yr adeilad ·
croesawyd y
dyluniad fel un gwahanol a chyffrous a’i fod yn gweddu i Doc Victoria o
ystyried yr hanes diwydiannol i’r ardal ·
nad oedd
cilfan i un bws yn ddigonol ac oni ddylid lleihau mannau parcio eraill ·
pryder
ynglyn a nifer o lefydd parcio i’r anabl a gofynnwyd bod mannau digonol yn cael
eu darparu · y dylid bod yn ymwybodol o anghenion unigolion sy’n dioddef o ddementia o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif: C16/0265/09/LL - 14 College Green, Tywyn PDF 721 KB Newid defnydd o siop (A1) I fwyd a diod (A3) ynghyd ag estyniad uned echdynnu a newidiadau i gefn
yr eiddo AELODAU LLEOL: Y
Cynghorydd
Anne Lloyd Jones Y
Cynghorydd
Mike Stevens Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Is-gadeirydd
cymryd y gadair ar gyfer y cais hwn er mwyn caniatáu i’r Cadeirydd annerch y
Pwyllgor fel Aelod lleol. Newid defnydd o siop (A1) i fwyd a diod (A3) ynghyd ag estyniad uned
echdynnu a newidiadau i gefn yr eiddo. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai’r bwriad ydoedd newid defnydd
o siop sydd wedi bod yn wag ers peth amser i ddefnydd gwerthu bwyd a diod.
Noda’r cais mai bwyty fydd y bwriad gyda’r bwriad o werthu bwyd poeth i’w gario allan yn ogystal. Golyga’r cais newidiadau allanol i
gynnwys estyniad ar gyfer darpariaeth toiledau cwsmeriaid. Yn ogystal, bwriedir
gosod ffliw echdynnu ar ddrychiad cefn yr eiddo, a blaen siop newydd ar y
drychiad blaen. Tynnwyd sylw bod y safle
o fewn ffin datblygu Tywyn ac o fewn ardal gyda chymysgedd o ddefnyddiau sydd yn
cynnwys tai preswyl, siopau, llefydd bwyta, tafarn a busnesau eraill. Cyfeiriwyd at grynodeb o’r polisïau
perthnasol o fewn yr adroddiad a derbyniwyd sylwadau hwyr gan Uned Gwarchod y
Cyhoedd am fwy o wybodaeth ynglyn a’r uned echdynnu.
Derbyniwyd deiseb gan fusnesau a thrigolion lleol yn gwrthwynebu’r cais am
‘run rhesymau a gyfeirir atynt yn yr
adroddiad. Noda’r adroddiad gyflwr gwael
yr adeilad a’r cyfnod a fu yn wag. O
ystyried bod yr ardal o fewn canol tref ddiffiniedig Tywyn mor hir a bod y safle
ar y cyrion ni ystyrir y byddai’r bwriad yn tanseilio swyddogaethau manwerthu'r
dref. Ni ystyrir ychwaith y byddai’r
bwriad yn arwain at effaith annerbyniol ychwanegol o safbwynt swn, arogl nac ysbwriel.
Nodwyd y dylid cytuno ar fanylion yr uned echdynnu a’i gweithredu cyn
i’r defnydd gychwyn. Cyfeiriwyd at
apeliadau diweddar a’r farn gan yr Arolygydd bod well
cael defnydd o eiddo na siop wag sy’n dirywio ac o ganlyniad yn cael effaith o
fewn tref. O safbwynt mwynderau
cyffredinol a phreswyl ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu greu
crynhoad annerbyniol o’r math yma o ddefnydd a’i fod yn achosi effaith andwyol
ar yr ardal. Ni ystyrir y byddai’r
estyniad unllawr bychan i gefn yr eiddo yn cael
effaith andwyol ar fwynderau trigolion eiddo cyfagos ac felly ystyrir bod y
bwriad yn cydymffurfio a holl ofynion y polisi perthnasol. Fe fyddir yn gosod
amodau ynglyn ag oriau agor yn ogystal ag uned
echdynnu pe caniateir y cais.
Argymhellir i ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn
mwy o wybodaeth gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ynglyn
a’r offer echdynnu ac yn unol â’r amodau a nodir yn
yr adroddiad. (b) Nododd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) nad oedd yn gwrthwynebu’r cais ac nad oedd cystadleuaeth gyda busnesau eraill o fewn yr ardal dan sylw yn rheswm i wrthod y cais. Fodd bynnag, amlygwyd pryderon gan y cymdogion cyfagos ond hyderir y byddai’r pryderon ynglyn ag arogl yn cael ei liniaru gan y sustem echdynnu, Ni ragwelai y gellir ei wrthod a bod defnydd o’r eiddo i’w groesawu yn hytrach na’i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |