Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Elin Walker Jones, Dilwyn Lloyd a Cemlyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am
y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones yn eitemau 5.1 a 5.5 ar y rhaglen (ceisiadau cynllunio rhifau
C14/0386/24/LL a C18/0838/11/LL), oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi
Cymunedol Gwynedd; ·
Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen yn eitem 5.2 ar y
rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1172/19/LL), oherwydd bod ei fab yn byw
gerllaw. Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau. (b) Datganodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol / Swyddog Monitro fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen
(cais cynllunio rhif C17/1172/19/LL), oherwydd bod asiant y cais yn frawd yng
nghyfraith iddo. Datganodd y Rheolwr Cynllunio fuddiant personol, yn eitem
5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1172/19/LL), oherwydd bod ffrindiau
teuluol wedi gwrthwynebu’r cais ac yn byw yn agos i’r safle. Roedd y swyddogion o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Aeron M. Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C14/0386/24/LL); ·
Y Cynghorydd Keith Jones, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.4 a 5.5 ar y rhaglen,
(ceisiadau cynllunio rhifau C17/0835/11/MG a C18/0838/11/LL); ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C18/0955/42/RC). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y
ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau
o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24
tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a
chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a
gyflwynwyd yn wreiddiol). AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aeron Maldwyn Jones Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adnewyddu
caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn
cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd
stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 i alluogi
gwrthwynebwr i siarad ar y cais ac er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai
o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. Eglurwyd bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei
gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2015. Nodwyd oherwydd bod yr ymgeisydd wedi oedi wrth
arwyddo cytundeb cyfreithiol, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (CDLl) yng Ngorffennaf, 2017 ac o ganlyniad roedd newid yn y
sefyllfa bolisi. Roedd y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cyfredol. Nodwyd bod y cais ar gyfer 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy.
Amlygwyd bod yr angen am dai marchnad agored a thai fforddiadwy wedi ei
gadarnhau gan y cyrff perthnasol, a bod y polisïau yn cefnogi hyn, felly
ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor. Tynnwyd sylw bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos ar
sail colli preifatrwydd, aflonyddwch sŵn a chreu strwythurau gormesol.
Eglurwyd bod pellter amrywiol o 23-31 medr rhwng cefnau’r tai presennol a chefnau’r
tai bwriadedig a chredir fod y gwagle hwn ynghyd â llystyfiant presennol a
dyluniad/lleoliad y tai arfaethedig yn dderbyniol ar sail gwarchod preifatrwydd
rhesymol a gor-edrych. Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan ddeiliaid lleol parthed y
cynnydd mewn trafnidiaeth a’r diffyg llwybrau troed, er yn cydnabod y
gwrthwynebiadau, nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r
trefniant bwriadedig yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd bod
y bwriad hefyd yn dderbyniol ar sail paratoi cyfleusterau parcio, teithio a
mynediad i’r tai eu hunain ac yn hygyrch ar sail ei leoliad. Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau bod maint y
llecyn agored ar gyfer y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi ISA5
o’r CDLl ynghyd â chydymffurfio gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol:
Datblygiadau Tai a Llecynnau Agored o Werth Adloniadol. Er bod gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos i leoliad y llecyn agored, credir bod ei
leoliad yn dderbyniol gan ystyried bod goruchwyliaeth naturiol o’r llecyn gan
nifer helaeth o dai o fewn y datblygiad ac ni ellir gwneud defnydd amgen o’r
rhan yma o’r safle, gan ystyried y cyfyngiadau adeiladu oherwydd ei agosatrwydd
at yr is-orsaf nwy a’r gwaith trin carthion arfaethedig. Ymhelaethwyd pe
adleolir y llecyn agored, ni ellir datblygu lleoliad presennol y llecyn agored
ar gyfer tai, gan olygu gostyngiad yn y nifer o dai ar y safle, ac y gallai hyn
olygu ni fyddai’r datblygiad yn hyfyw. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon PDF 168 KB Newid defnydd cyn gartref
nyrsio preswyl i greu 4 uned
gwyliau hunan
gynhaliol, codi adeilad ar wahân
i'w defnyddio fel pwll nofio
ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Garlick Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunangynhaliol, codi
adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau
i'r adeilad presennol (a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25
Mehefin 2018 er mwyn derbyn cadarnhad pellach gan yr asiant ynglŷn â rhai
agweddau penodol o’r cais ynghyd â chynnal ymweliad safle. Nodwyd y cynhaliwyd
ymweliad safle ar 23 Gorffennaf 2018. Cyfeiriwyd at y niferoedd aros, gan nodi y derbyniwyd
cadarnhad y byddai nifer y gwesteion yn amrywio yn ôl y tymor ond mai’r nifer
tebygol ar un adeg fyddai rhwng 50% a 60% (hyd at 70-mewn nifer) o gyfanswm
niferoedd aros yr adeilad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd
yn cynnwys cadarnhad gan Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor mai prin oedd y math
yma o ddarpariaeth yn sirol. Nodwyd bod y ffordd i’r safle yn gul a throellog, ond ni
chredir y byddai’r bwriad yn golygu cynnydd a niwed sylweddol amlwg o ran
symudiadau traffig o gymharu â’r defnydd hanesyddol fel cartref nyrsio preswyl,
felly ni chredir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion polisïau TRA2
a TRA4 o’r CDLl. Eglurwyd nad oedd rheolaeth o ddefnydd presennol y safle ac
fe fyddai’r cais hwn yn gwella’r sefyllfa. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau’r
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o ran mesurau lliniaru i warchod a hyrwyddo’r
Iaith Gymraeg, argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr
adroddiad o ran cytuno arwyddion a phecynnau gwybodaeth. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y bwriad yn cydymffurfio
gyda Pholisi TWR2 o’r CDLl; ·
Bod y cynllun busnes a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn dangos y byddai’r elw a fyddai’n deillio o’r
datblygiad yn cynyddu; ·
Bod asesiad trafnidiaeth wedi
ei gyflwyno fel rhan o’r cais; ·
Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu’r bwriad; ·
O ystyried defnydd sefydledig
y safle, ni fyddai’r sefyllfa trafnidiaeth yn waeth; ·
Bod y bwriad yn unol â
pholisïau cenedlaethol a lleol. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod yr adeilad yn hardd a bod
angen ei ddiogelu rhag dirywiad; ·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd
ond gellir rheoli defnydd o’r safle gydag amodau; ·
O ystyried nad oedd preswylwyr
y cartref yn ddefnyddwyr ceir byddai’r symudiadau traffig yn sylweddol uwch.
Cwestiynu os oedd y fynedfa yn ddiogel; ·
Yn ansicr o’r bwriad gyda phryder
ei fod yn or-ddatblygiad. Byddai 4 rhan ar gyfer 120 o unigolion heb lawer o
reolaeth o’r safle. Gyda nifer uwch o unigolion, tua 200, pan gynhelir priodas
ar y safle, ddim yn gweld digon o le eistedd ar gyfer gymaint o bobl. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod o ran safbwynt yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C16/1412/19/LL - Tŷ Glan Menai, Ffordd yr Aber, Caernarfon PDF 148 KB Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda
mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir
i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty
arfaethedig. (a) Nododd y Rheolwr Cynllunio y derbyniwyd pryderon gan
wrthwynebwyr, ddiwedd yr wythnos flaenorol, o ran rhybudd digonol i fod yn
bresennol a pharatoi i siarad yn y Pwyllgor. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r
cais er mwyn rhoi ychwaneg o amser i’r gwrthwynebwyr ddarparu. PENDERFYNWYD
gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C17/0835/11/MG - Jewson Ltd Penlon Works, Stryd Fawr, Bangor PDF 127 KB Materion a gadwyd yn ôl o ganiatad amlinellol C14/1248/11/AM i godi 4 bloc o fflatiau yn cynnwys 70 uned byw AELOD LLEOL: Cynghorydd
Keith Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Materion a gadwyd yn ôl o ganiatâd amlinellol
C14/1248/11/AM i godi 4 bloc o fflatiau yn cynnwys 70 uned byw. (a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl a oedd yn cynnwys
graddfa, golwg a thirweddu’r safle. Nodwyd bod y bwriad yn darparu 24 uned 1
llofft a 46 uned 2 llofft. Eglurwyd bod y caniatâd amlinellol ar gyfer 77 uned,
ond i gydymffurfio gyda safonau adeiladu cymdeithasau tai (safon ‘DQR’) ac mewn
ymateb i newid yn y farchnad dai, roedd arwynebedd llawr yr unedau wedi eu
cynyddu gan olygu gostyngiad o 7 uned ar y safle. Amlygwyd bod y cynlluniau wedi eu haddasu ers cyflwyno’r
cais yn wreiddiol, er mwyn: ·
Diwygio lleoliad ffenestri i
osgoi a lleihau gor-edrych. ·
Diwygiadau i’r dyluniad, yn
bennaf i resymoli’r siâp a ffurf yr adeiladau. ·
Addasiadau i’r deunyddiau a
lliwiau a fwriedir defnyddio. ·
Newidiadau i drefniadau unedau
er mwyn sicrhau safon byw dderbyniol i bob uned e.e. ffenestri a golau
naturiol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd nad oedd y datblygiad yn llety myfyrwyr pwrpasol nac
ar gyfer darparu unedau amlfeddiannaeth ac nid oedd hawl cynllunio ar gyfer y
fath defnyddiau ar y safle. Cyfeiriwyd at y trawstoriadau ac edrychiadau, a dderbyniwyd
gan yr ymgeisydd, a oedd yn dangos sut y byddai’r datblygiad yn eistedd o fewn
y safle a’i berthynas gydag adeiladau cyfagos. Ymhelaethwyd y derbyniwyd
montage i ddangos edrychiad y datblygiad o olygfeydd pellach ar draws y ddinas.
Tynnwyd sylw at y montage a oedd yn dangos bod y defnydd o liwiau llwyd ar
rannau uwch y blociau yn elfen bwysig iawn i alluogi’r datblygiad i ymdoddi
mewn modd derbyniol. Nodwyd yr ystyriwyd bod bloc 2 angen cladin llwyd ary
lloriau uwch, fel y dangoswyd ar y montage, er mwyn lleihau amlygrwydd y
lloriau o edrychiadau pellach ac fe ellir gosod amod i sicrhau hyn. Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau o ran mwynderau preswyl
gan gynnwys gor-edrych, cydnabuwyd y byddai effaith ond roedd y newidiadau a
wnaed i’r cynlluniau yn ddigonol i fodloni’r polisïau. Amlygwyd y derbyniwyd nifer fawr o wrthwynebiadau ar sail
diffyg llefydd parcio o fewn y safle a phroblemau parcio oedd eisoes yn bodoli
yn yr ardal. Nodwyd bod y bwriad yn darparu 70 uned byw gyda chymysgedd o unedau un a dwy lofft a
bod y cynllun safle yn dangos 67 llecyn parcio. Eglurwyd bod y safonau parcio
yn gofyn am un llecyn parcio ar gyfer pob uned byw ond yn cyfeirio at uchafswm
ac yn cydnabod mewn rhai llefydd fod nifer llai yn gallu bod yn dderbyniol.
Nodwyd o ystyried lleoliad y safle mewn dinas a’r cysylltiadau gyda
thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau eraill, ystyriwyd fod 67
llecyn parcio yn ddigonol ac yn dderbyniol a byddai effaith y datblygiad yn
annhebygol o achosi trafferthion parcio ychwanegol ar strydoedd cyfagos. Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal efo’r ymgeisydd yng nghyswllt darpariaeth storio biniau. Nodwyd ni dderbyniwyd cynllun yn cadarnhau’r bwriad o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C18/0838/11/LL - 371-373, Stryd Fawr, Bangor PDF 154 KB Dymchwel yr adeilad presennol a chodi 9 uned fforddiadwy ar gyfer gymdeithas dai leol, llecynnau parcio a thirlunio. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Keith Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel yr adeilad presennol a chodi 9 uned fforddiadwy ar gyfer
gymdeithas dai leol, llecynnau parcio a thirlunio. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisïau
PCYFF1, TAI1, a PS5 o’r CDLl. Nododd oherwydd mai landlord cymdeithasol
cofrestredig fyddai’n gyfrifol am yr holl unedau, byddent i gyd ar gael fel tai
fforddiadwy. Amlygwyd bod y safle tu mewn i’r ffin datblygu, yn safle a
ddatblygwyd o’r blaen ac yn addas ar gyfer defnydd preswyl. Nodwyd bod y cais
yn dderbyniol mewn egwyddor. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod yr unedau wedi eu dylunio ar ffurf 3 bloc
amrywiol eu huchder gydag amrywiaeth o ddeunyddiau yn cael eu defnyddio ar
edrychiad allanol yr adeilad. O ystyried dyluniad, graddfa, ffurf a
deunyddiau’r datblygiad credir y byddai’n cydweddu â’r safle ac na fyddai’n
creu strwythur anghydnaws na gormesol o fewn y rhan yma o’r strydlun. Adroddwyd y derbyniwyd gohebiaeth gan rhai o drigolion lleol
parthed effaith andwyol y bwriad ar fwynderau preswyl a chyffredinol ar sail
colli preifatrwydd, gor-edrych ac aflonyddwch sŵn, gor-ddatblygu a chreu
strwythur gormesol. Roedd y cynlluniau gwreiddiol wedi eu diwygio mewn ymateb
i’r gwrthwynebiadau, fel bod ffenestri wal gefn rhan ogleddol yr adeilad newydd
wedi eu gosod ar ongl er mwyn lleihau unrhyw or-edrych uniongyrchol i mewn i
anheddau cyfagos. Ychwanegwyd er mwyn osgoi unrhyw or-edrych uniongyrchol
gellir sicrhau bod ffenestri grisiau, a fyddai’n wynebu anheddau yng nghefn y
safle, o wydr afloyw yn barhaol. Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion lleol yn
nodi pryderon parthed addasrwydd y fynedfa, er yn cydnabod y pryderon nid oedd
gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad yn ddarostyngedig i gynnwys
amodau priodol gydag unrhyw ganiatâd cynllunio. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o
safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod angen am dai yn yr ardal a bod y bwriad yn
cyd-fynd â’r ardal gyda datblygiad tebyg gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd
gerllaw. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Uned Gwarchod
y Cyhoedd ac i’r amodau isod:- 1. 5
mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau. 3. Llechi
naturiol/deunyddiau. 4. Priffyrdd. 5. Bioamrywiaeth. 6. Dŵr Cymru. 7. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir (ffenestri). 8. Llygredd/halogiad. 9. Gwydr afloyw i’r ffenestri yn ardal y grisiau yn wynebu anheddau yng nghefn y safle |
|
Cais Rhif C18/0955/42/RC - Northern Lights, Lon-tyn-pwll, Nefyn PDF 108 KB Tynnu cytundeb 106 arwyddwyd ar gais 2/22/448B sy'n cyfyngu defnydd yr adeilad a'r tir i ddefnydd amaethyddol a dim defnydd busnes na masnachol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Tynnu cytundeb 106 arwyddwyd ar gais 2/22/448B sy'n cyfyngu defnydd yr
adeilad a'r tir i ddefnydd amaethyddol a dim defnydd busnes na masnachol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod egwyddor ynglŷn ag amgylchiadau ble gellir gofyn am
ddiddymu cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn cael ei egluro’n fanwl yng
Nghylchlythyr 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio. Yn ychwanegol i’r cylchlythyr
roedd Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu Rhwymedigaethau Cynllunio)
1992 yn berthnasol i’r cais. Eglurwyd bod y dogfennau (a oedd yn
cynnwys Rheoliadau 122 a 123 o’r Rheoliadau Ardoll Isadeiledd Cymunedol, 2010)
yn datgan er mwyn i gytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 fod yn ddilys rhaid
cyfarfod 5 maen prawf, boed y cytundeb yn un newydd neu yn gais i ddileu
cytundeb neu ei ddiwygio. Nodwyd y cyflwynwyd y cais i ddileu’r
cytundeb ar sail bod yr ymgeisydd o’r farn fod y cytundeb yn amwys ei ystyr, yn
ddiangen ac yn anweithredol. Amlygwyd er bod cytundeb 106 wedi ei arwyddo yn gysylltiedig
gyda chais 2/22/448B, roedd cyfyngiadau’r cytundeb 106 hefyd i raddau wedi eu
hailadrodd mewn amodau ar y caniatâd cynllunio. Eglurwyd y byddai ceisiadau ar
gyfer stablau erbyn hyn yn destun amod cynllunio ar y caniatâd, yn hytrach na chytundeb
106. Ni ystyriwyd fod diben cynllunio ar gyfer y cytundeb 106 ac nid oedd ei
angen er gwneud y datblygiad a ganiatawyd yn dderbyniol i bwrpas cynllunio. Nodwyd yr ystyriwyd nad oedd cynnwys y
cytundeb o dan Adran 106 yn cyfarfod â’r 5 prawf a gyfeirir atynt yng
Nghylchlythyr 13/97, Polisi Cynllunio Cymru, Pennod 3 “Gwneud Penderfyniadau
Cynllunio a’u Gorfodi” a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu
Rhwymedigaethau Cynllunio) 1992 ac nid oedd y cytundeb yn parhau i gyflawni
diben cynllunio defnyddiol. Argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn ddiamodol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod Cyngor Tref Nefyn yn
gwrthwynebu’r bwriad oherwydd byddai newid defnydd o’r tir i greu unrhyw ddatblygiad
masnachol yn cael effaith difrifol ar y ffordd i’r safle a ddefnyddiwyd gan
gerddwyr bob dydd; ·
Bod tir ar y safle yn gyswllt
at Lwybr yr Arfordir, roedd llwybr Penrallt yn cael ei gau yn gyfnodol oherwydd
diogelwch y tir. Felly, pe byddai datblygiad ar y safle gallai’r cyswllt i
Lwybr yr Arfordir gael ei golli; ·
Bod y cytundeb 106 a’r amodau
yn angenrheidiol; ·
Pe caniateir i dynnu’r
cytundeb 106, byddai’r cais a dynnwyd yn ôl yn fis Gorffennaf 2018 yn cael ei
ail-gyflwyno; ·
Mai stablau ar gyfer ceffylau oedd ar y safle, pe
byddai’r cytundeb 106 yn cael ei dynnu gellir eu defnyddio ar gyfer dibenion
busnes. Os nad oedd defnydd bellach i’r stablau fe ddylid eu tynnu i lawr; ·
Bod y safle yng nghefn gwlad agored, pryder am
effaith weledol unrhyw ddatblygiad ar y safle yn dilyn tynnu’r cytundeb 106; ·
Gofyn i’r Pwyllgor gadw’r cytundeb 106 mewn lle. (c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod 5 maen prawf o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C18/1015/25/LL - Treborth Playing Fields, Ffordd Treborth, Treborth, Bangor PDF 105 KB Creu cae chwarae 3ydd cenhedlaeth gan gynnwys mynedfa / man cynhesu corff, creu llain galed ar gyfer gosod esiteddle a man storio cyfarpar, creu ffyrdd a llwybrau, codi llifoleuadau ac ehangu maes parcio. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu cae chwarae 3ydd cenhedlaeth gan gynnwys mynedfa / man cynhesu corff,
creu llain galed ar gyfer gosod eisteddle a man storio cyfarpar, creu ffyrdd a
llwybrau, codi llifoleuadau ac ehangu maes parcio (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod Polisi ISA3 o’r CDLl yn annog caniatáu cynigion am
gyfleusterau newydd ar gyfer cyfleusterau addysgol a gweithgareddau atodol
cymdeithasol neu hamdden ar safleoedd addysg uwch cyn belled eu bod yn
dderbyniol o safbwynt materion megis graddfa, lleoliad, dyluniad mwynderau a
chludiant. Nodwyd bod y polisi’n pwysleisio y dylid rhoi blaenoriaeth i
ailddefnyddio safleoedd presennol. Nodwyd ei fod yn gynllun i ail-ddefnyddio safle presennol
trwy ei uwchraddio fel bod ansawdd y cyfleusterau ar gyfer chwaraeon oedd ar
gael i’r Brifysgol yn gwella’n sylweddol. Ymhelaethwyd y byddai’r datblygiad yn
helpu sicrhau bod y caeau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithlon nag y bu a’u bod
yn fwy hyblyg i gwrdd gydag anghenion addysgol a hamdden cyfredol. Tynnwyd sylw bod lleoliad y cais yn sensitif
iawn o safbwynt ystyriaethau tirwedd, derbyniwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol
Cymru yn nodi bod y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn rhoi sicrwydd
na fyddai'r cynllun goleuo oedd yn rhan o’r cynnig hwn yn tarfu rhyw lawer yn
weledol ar y lleoliad nac ar yr olygfa o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Ynys Môn, a byddai'n tarfu llawer llai na'r goleuadau presennol. Nodwyd o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl, o ystyried pellter y safle o
unrhyw anheddau preifat a’r ffaith ei fod yn ddatblygiad tebyg am debyg o
safbwynt defnydd y tir, ni chredir y byddai’n creu unrhyw newid arwyddocaol
ychwanegol i fwynderau unrhyw gymdogion na’r ardal. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. Tynnwyd sylw at amod rhif 5, gan egluro ei fod yng nghyswllt rheoli
oriau gweithredol y llifoleuadau. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Byddai’r bwriad yn darparu’r
cae 3ydd cenhedlaeth cyntaf yng Ngogledd Cymru; ·
Fe fyddai’n ased gwerthfawr
i’r ardal gan gynnwys clybiau lleol a’r gymuned; ·
Bod problemau draenio yn gysylltiedig
â’r caeau chwarae presennol, ni ellir eu defnyddio yn ystod y Gaeaf; ·
Byddai’r cae yn addas i rygbi
a phêl droed i safon ryngwladol; ·
Bod Chwaraeon Cymru yn
gefnogol i’r cais; ·
Bod yr ymgynghorwyr statudol
yn fodlon efo’r bwriad; ·
Bod yr amodau a argymhellir yn
dderbyniol, yn amodol bod amod 5 yn cyfeirio at reoli defnydd y llifoleuadau. (c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd aelod bod cae
3ydd cenhedlaeth yn Nantporth eisoes a’i fod yn gobeithio y byddai’r cae ar
gael i’w ddefnyddio gan y gymuned leol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5
mlynedd 2. Gwaith yn unol â’r cynlluniau 3. Rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol 4. Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol 5. Llifoleuadau - Oriau gweithredol 16:00 hyd
22:00 Llun i Gwener a 16:00 hyd 19:00 Sadwrn a Sul Nodiadau Dŵr
Cymru Cyfoeth Naturiol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |