skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Is Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn a Louise Hughes.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·      Y Cynghorydd Catrin Wager, yn eitem 7.2 a 7.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL a C18/0266/44/LL) oherwydd ei bod yn ffrindiau gydag ymgeisydd y ceisiadau.

·      Y Cynghorydd Stephen Churchman, yn eitem 7.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1094/36/LL) oherwydd bod y Cross Foxes yn eiddo cyfagos i’w gartref. Yr ymgeisydd yn gymydog ac yn ffrind i’r Cynghorydd

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 a 7.2 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/1266/16/LL a C17/0903/16/LL)

·        Y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0967/39/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 321 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.4.2018 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018, fel rhai cywir.

 

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

8.

Cais Rhif C17/1266/16/LL Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor pdf eicon PDF 294 KB

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

           

a)         Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un i osod tŵr telathrebu uchder ar dir amaethyddol garw i’r gorllewin o ffin ddatblygu Pentref Tregarth. Nodwyd y byddai'r tŵr ar ffurf 'monopole', wedi ei osod ar lawr o goncrid gyda 3 antenna a 2 ddysgl trawsyriant ar ei ben; 3 cabinet offer ger ei waelod, a ffens 1.2m o uchder o’i gwmpas i greu compownd. Y bwriad yw y bydd dau gwmni, megis Telefónica UK Cyf. (O2) a Vodafone Cyf. yn defnyddio’r cyfleuster i wella darpariaeth 2G a 3G a chynnig gwasanaeth 4G oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth leol bresennol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn ceisio cwrdd gyda dyhead Llywodraeth Cymru o sicrhau gwell isadeiledd digidol mewn cymunedau gwledig.

 

     Atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor          Cynllunio ar 26/02/18 wedi ei ohirio er mwyn ymweld â’r safle. Yn y cyfarfod hwnnw gwnaed cais gan yr Aelodau i’r ymgeisydd ymateb i rai o’r materion a       godwyd yn ystod y drafodaeth a chyfeiriwyd at yr ymateb hynny yn adran 1.7 o’r      adroddiad. Gohiriwyd y cais am yr ail dro ym Mhwyllgor 16/04/18 er           mwynail      drefnu ymweliad safle (yr ymweliad cyntaf wedi ei ohirio oherwydd tywydd garw).    Amlygwyd bod gohebiaeth gan wrthwynebydd yn cwestiynu dilysrwydd y broses           o ddelio gyda’r cais wedi ei dderbyn a chyfeiriwyd at yr ymateb yn adran 1.8    o’r adroddiad.

 

Nodwyd, yng nghyd-destun asesu’r cais mai mwynderau gweledol a materion bioamrywiaeth oedd y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol. Derbyniwyd y byddai’n anorfod i’r strwythur arfaethedig fod yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored i sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti yn llawn. Nodwyd gyda’r safle arfaethedig yn un coediog, byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus ac na fyddai yn goruchafu na gormesu unrhyw eiddo preifat. Ategwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel eisoes yn bodoli yn yr ardal sydd yn cynnwys coed sylweddol, polion llinellau ffôn a rhes o beilonau trydan. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gofyn am adroddiadau ychwanegol ynghylch yr effaith ar ecoleg a choed gan fod y datblygiad wedi ei leoli ar safle o dir amaethyddol sydd heb ei wella  a bod coed brodorol aeddfed gerllaw.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol;

·         Nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau - yn groes i TAN19

·         Nad oedd sylw digonol wedi ei  roi i ardaloedd o dirwedd arbennig

·         Nad oedd asesiad gwrthrychol wedi ei gwblhau - y cynnig yn dibynnu ar ddehongliad gwrthrychol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C17/0903/16/LL Carreg y Fedwen, Sling, Tregarth, Bangor pdf eicon PDF 419 KB

Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu canolfan ymchwil a menter iachâd acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd yn ôl - C16/1158/16/LL)

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i greu canolfan ymchwil newydd ar gyfer cwmni menter gymunedol. Amlygwyd y gohiriwyd y penderfyniad yn wreiddiol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio 15 Ionawr, 2018 er mwyn trefnu ymweliad safle. Ategwyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad mwy manwl o natur y datblygiad arfaethedig oedd yn cynnwys cais i newid disgrifiad y bwriad i “Swyddfa, Ystafell Amlbwrpas a Chyfleuster Ymchwil” yn unol â’r Datganiad Dyluniad a Mynediad a gyflwynwyd.

 

Eglurwyd y byddai tair elfen i’r cyfleuster:

·         Swyddfa

·         Ystafell aml-ddefnydd (y brif gromen) – i’w ddefnyddio ar gyfer chwarae a recordio offerynnau acwstig a lleisiau ar gyfer profi eu heffeithiau ar iechyd dynol. Mae’r adeilad wedi ei ddylunio er mwyn darparu ansawdd uchel o sŵn a chyda mesurau lliniaru fel na fyddai’r sŵn i’w glywed yn allanol.

·         Tair cromen fechan wedi eu dylunio i gyseinio ag amleddau penodol.

 

Ategwyd mai’r bwriad yw y byddai’r adeiladau unigol wedi eu “tiwnio” fel bod effaith unrhyw amledd yn cael ei uchafu gyda gobaith o ddarparu modelau pensaernïol y gellid eu hatgynhyrchu ar gyfer gosod mewn adeiladau presennol. Cadarnhawyd nad oedd bwriad trin cleifion ar y safle, ond ymchwilio er mwyn deall, modelu a phrofi effeithlonrwydd nodweddion acwstig.

 

Nodwyd bod y safle mewn lleoliad ynysig mewn coedwig gymysg ac ystyriwyd y byddai’r adeiladau, oherwydd eu maint a deunyddiau, yn gweddu’r safle ac yn guddiedig o welfannau pell. O safbwynt ymyrraeth gyffredinol, cadarnhawyd y disgwylir dau aelod a staff fod ar y safle i ddechrau (o bosib i gynyddu i 5), gyda’r nifer o gwsmeriaid yn y “rhifau sengl isel” ar unrhyw adeg benodol.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd ei fod yn ddefnydd priodol o’r safle ac nad oedd yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol o safbwynt y polisïau hynny. Nodwyd hefyd nad oedd y wybodaeth newydd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn newid yr argymhelliad.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol;

·         Nad oedd dyfodol i’r fenter

·         Bod trigolion ardal Pentir yn poeni yn ddirfawr am effaith weledol y datblygiad

·         Ei fod yn amheus o’r gairymchwil

·         Bod y cytiau gwellt a phren allan o gymeriad

·         Petai'r fenter yn methu, pa ddefnydd fydd o’r lle?

·         Bod y busnes yn annelwig

·         Argymell gwrthod

 

c)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Balch o gael gwybodaeth ychwanegol yn cadarnhau mai gwaith ymchwil yn unig fydd yn cael ei ddarparu ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C17/1094/36/LL The Cross Foxes, Garndolbenmaen, Gwynedd pdf eicon PDF 352 KB

Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad   ym mhwyllgor Ebrill 16eg 2018 er mwyn gofyn i gynrychiolwyr Cymdeithas Cymunedol Garndolbenmaen am wybodaeth bellach, ar ffurf pecyn ariannol realistig, ar gyfer eu bwriad  o brynu’r adeilad a’i gadw fel tafarn, ynghyd a thystiolaeth o gynnig ariannol rhesymol i brynu’r eiddo.

       

Ers y penderfyniad i ohirio, mynegwyd bod y cais bellach yn destun apêl ffurfiol i’r Arolygaeth Gynllunio am ddiffyg penderfyniad o fewn yr amserlen briodol. Nodwyd bod trefn ffurfiol i ddelio gydag apêl am ddiffyg penderfyniad ac amlygwyd bod y rheoliadau perthnasol o fewn Deddfwriaeth Cynllunio yn nodi’r canlynol:

 

Ar gyfer apeliadau Cynllunio ble mae apêl wedi ei wneud am fethiant yr Awdurdod Cynllunio          Lleol i wneud penderfyniad ar y cais o fewn y cyfnod priodol, mae cyfnod o 4 wythnos o dderbyn yr apêl ble mae cyfle i’r Awdurdod Cynllunio Lleol barhau i benderfynu’r cais.

 

Yn yr achos yma, cyflwynwyd yr apêl i’r Arolygaeth Cynllunio ar y 18fed o Ebrill gyda’r angen am benderfyniad erbyn Mai 16eg. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais hefyd wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 26ain o Chwefror 2018 er mwyn rhoi cyfle i’r gymdeithas gymunedol leol gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i brynu’r adeilad er mwyn cadw ei ddefnydd fel tafarn.

 

Nodwyd, ei bod yn rhesymol ystyried nad oedd y defnydd presennol bellach yn hyfyw fel tafarn. Derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais gan gwmni o gyfrifwyr yn cadarnhau bod dirywiad wedi bod ers rhai blynyddoedd yn nhrosiant y busnes.

 

Mynegwyd bod argymhelliad y swyddogion yn glir i ganiatáu y cais, ond cyfeiriwyd at dri opsiwn, oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, yn amlygu'r risgiau i’r Cyngor, oedd yn agored i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion fyddai’n golygu fod yr apêl yn dod i derfyn heb unrhyw weithrediad pellach gan osgoi costau i’r Cyngor.

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod asedau cymunedol yn cael llawer mwy o sylw o dan y Localism Act  yn Lloegr

·         Y Pwyllgor eisoes wedi cynnig 9 wythnos i’r Gymdeithas Gymunedol - dylid cadw at eu gair a chadw at yr amserlen

 

ch)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amserlen, nododd yr Uwch Reolwr         Gwasanaeth Cynllunio          bod y Pwyllgor yn cael eu gorfodi i drafod y cais          oherwydd trefniadau apêl. Ategodd y          buasai yn dymuno gweld y dafarn yn    parhau fel tafarn, ond gyda’r busnes wedi bod ar y   farchnad ers 2011, nid         oedd prynwr wedi dod ymlaen. Nododd bod y Gymdeithas Gymunedol yn ceisio prynu'r safle, ond nad oedd pecyn ariannol realistig na chynnig cadarn    wedi ei wneud.

 

d)      Mewn ymateb i sylw ynglŷn â thebygolrwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif: C17/1011/24/LL Safle Fron Deg, Rhostryfan, Caernarfon pdf eicon PDF 264 KB

Cais llawn i godi 4 ŷy deulawr newydd i gymeryd lle 4 byngalo fel a ganiatwyd yn flaenorol

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 4 tŷ deulawr newydd i gymryd lle 4 byngalo fel y caniatawyd yn flaenorol

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)      Argymhellodd y Rheolwr Cynllunio i ohirio penderfyniad ar y cais gan fod anawsterau cofrestru i siarad wedi bod ar y cais ynghyd ag awgrym i ymweld â’r safle.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),

·         Bod y safle wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol ac nad oedd digon o waith paratoi pellach wedi ei wneud

·         Angen gofyn i’r datblygwr wella trefniadau dŵr wyneb

·         Angen amodau pendant fyddai yn ymdrin â sefyllfa llifogydd a gorlif dŵr wyneb

·         Gormod o dai ar y safle yn arwain at ormod o geir

·         Angen ystyried preifatrwydd tai cyfagos - goredrych

·         Nifer o broblemau parcio yma

·         Dim mynediad i wasanaethau brys – datrysiadau eisoes wedi gorfod eu gwneud i gasglu gwastraff

·         Byddai cadw at 4 byngalo yn gweddu yn well ac yn edrych yn naturiol

·         Dim sôn am dai fforddiadwy yn y cais

·         Cytuno gyda’r awgrym i ymweld â’r safle

·         Angen ystyried y safle yn ystod yr hwyr – posib dosbarthu lluniau

 

c)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

ch)    PENDERFYNWYD gohirio y cais

- anawsterau cofrestru i siarad ar y cais ac felly angen sicrhau ail gyfle

- angen trefnu ymweliad safle

 

 

12.

Cais Rhif C18/0233/15/LL Tir ger Ty Du Road, Llanberis, Caernarfon pdf eicon PDF 249 KB

Newid defnydd tir i ddarparu 5 llecyn parcio ffurfiol, llwybr troed newydd ac ardaloedd gardd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Newid defnydd tir i ddarparu 5 llecyn parcio ffurfiol, llwybr troed newydd ac ardaloedd gardd

 

a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi  mai cais ydoedd i ddarparu 5 lle parcio ffurfiol fyddai’n cael eu gosod i drigolion lleol, ynghyd â darparu llwybr troed i’r safle o Fron Goch a newidiadau i’r trefniant ar gyfer gerddi a mynediad i’r tai bwriedig.

 

          Amlygwyd mai safle parcio preifat ydoedd ac y byddai unrhyw drefniadau ynghylch hawliau parcio yn faterion preifat rhwng y defnyddwyr a’r perchennog. Ategwyd gall fod peth ymyrraeth i  eiddo cymdogion fod drwy oleuadau ceir a sŵn y nifer bychan o leiniau parcio a fwriedir, lleoliad a gogwydd y safle parcio, ynghyd â’r defnydd cyson o’r ffordd gerllaw. Ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn newid y sefyllfa o safbwynt mwynderau preifat mewn modd arwyddocaol o’i gymharu â’r hyn a ganiatawyd eisoes.

 

          Nodwyd y byddai’r lleiniau parcio yn ymestyn hyd at 1.2m i’r parth diogelu gwreiddiau coed a adnabuwyd yn y cynllun safle blaenorol, ond eglurwyd bod gwaith i wyneb y tir eisoes wedi digwydd yn y lleoliad hwn fel rhan o gynllun gwelliannau carthffosiaeth Dŵr Cymru. Amlygwyd y byddai'r coed a oedd i’w plannu ar y rhan yma o’r safle yn cael eu plannu mewn man arall.

 

          Ategwyd bod pob mater cynllunio perthnasol wedi ei ystyried a bod y newidiadau a gynigiwyd yn dderbyniol.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Amodau

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3. Amod Dŵr Cymru

 

 

13.

Cais Rhif C18/0266/44/LL 26, Y Ddol, Porthmadog pdf eicon PDF 234 KB

Codi estyniad deulawr ar ochr eiddo ag estyniad unllawr ar y cefn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi estyniad deulawr ar ochr eiddo ag estyniad unllawr ar y cefn

        

a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ddiwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol trwy ddileu balconi juliet ar lawr cyntaf yr edrychiad cefn. Nodwyd fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gan mai'r Aelod Lleol oedd yr ymgeisydd.

 

Golygai'r  bwriad  ychwanegiad at estyniad cefn unllawr presennol er mwyn creu ystafell fyw ac ystafell fwyta fwy.  Byddai’r estyniad newydd yn darparu ystafell wely ag ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf heb newidiadau mewnol i’r llawr daear presennol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion Cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol andwyol ar yr ardal a thai cyfagos a bod dyluniad diwygiedig y bwriad yn dderbyniol.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda’r cynlluniau.

3.         Llechi

4.         Gorffeniadau’r waliau

5.         Tynnu hawliau PD ffenestri