Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr
Endaf Cooke, June Marshall a John Wyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd y Cynghorydd Dyfrig Jones fuddiant personol, yn
eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1686/46/LL) oherwydd bod
ganddo deulu yn cadw maes carafanau yn Llangwnnadl Datganodd y Cynghorydd Hefin Williams fuddiant
personol, yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0094/40/AM) oherwydd cysylltiad busnes Roedd yr Aelodau
o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd RH Wyn Williams, (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C14/0215/39/LL); ·
Y Cynghorydd Aled Lloyd Evans, (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C16/1154/41/LL); ·
Y Cynghorydd John Wynn Jones, (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C16/1656/11/LL); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C16/1684/35/LL); ·
Y Cynghorydd Simon Glyn, (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C16/1686/46LL); ·
Y Cynghorydd Jason Humphreys (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C17/0005/44/LL); ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams, (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C17/0015/42/LL); ·
Y Cynghorydd Anwen J Davies (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C17/1154/41/LL); Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13.3.2017
fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2017 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C16/0638/39/LL - Cilfan, Lon Gwydryn, Abersoch PDF 266 KB Dyluniad diwygiedig i estyniad a ganiatawyd gan ganiatad rhif C14/0215/39/LL AELOD LLEOL: Cynghorydd R.H. Wyn Williams Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dyluniad
diwygiedig i estyniad a ganiatawyd gan ganiatâd rhif C14/0215/39/LL (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi yng nghyfarfod
o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 07 Tachwedd 2016 penderfynwyd gohirio ystyried
y cais er mwyn datrys anghysondebau rhwng y cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer
adeilad oedd yn cael ei adeiladu ar y safle. Yn dilyn derbyn cwyn ynglŷn â’r datblygiad yn mynegi bod uchder yr estyniad ochr yn
uwch na’r cynllun a ganiatawyd, bu i Swyddog Gorfodaeth ymweld â’r safle a thrafod y mater gyda’r ymgeisydd a derbyniwyd
cais rhannol ôl weithredol (cynllun diwygiedig 13 Chwefror 2017) Eglurwyd bod y cais yn rhannol ôl weithredol
er mwyn cadw addasiadau oedd heb gydymffurfio gyda chaniatâd cynllunio a roddwyd
o dan gyfeirnod C14/0215/39/LL Nodwyd bod caniatâd cynllunio gweithredol yn bodoli ar y safle yn
ystyriaeth cynllunio o bwys wrth ystyried y cais presennol. Amlygwyd bod y
Cyngor eisoes wedi caniatáu datblygiad
cyffelyb ar y safle ac ni ystyriwyd bod y gwahaniaeth i’r dyluniad yn ddigon i
gyfiawnhau gwrthod y cais. Nid oedd y bwriad yn amharu yn sylweddol ar
fwynderau gweledol yr ardal na thrigolion cyfagos Roedd yn cydymffurfio â’r
cyfan o’r polisïau a nodiwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod
yn gwrthwynebu ar sail lleihad mwynderau ·
Bod y datblygiad yn un cyfyng iawn ·
Bod y cynlluniau diwygiedig yn gamarweiniol o ran effaith ·
Wal o fewn
y cynlluniau diwygiedig yn uwch na’r
wal wreiddiol fydd yn dyblu
o ran maint ac yn creu effaith sylweddol
/ gormesol ar fwynderau trigolion cyfagos ·
Bydd lleihad sylweddol mewn goleuni a gwres naturiol i
dai cyfagos ·
Bod yr effaith weledol
yn aruthrol ac yn andwyol (c)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- · Ei fod yn hapus gyda chynnwys yr adroddiad ac yn derbyn yr amodau · Y byddai'r adeilad yn edrych yn dderbyniol unwaith y bydd wedi ei gwblhau · Ei fod yn edrych ymlaen at setlo i lawr yn Abersoch gyda theulu cyfagos · Sicrhaodd na fyddai’r newidiadau i’r cynlluniau yn amharu dim ar gymdogion · Ni fydd gor-edrychiad gan nad oes ffenest i’r
dwyrain · Bod cais wedi ei wneud am falconi gan fod yr ardd yn fechan · Bod yr ystafell haul wedi ei symud tua throedfedd oherwydd yn rhy agos i’r
terfyn gan nad oedd modd cerdded at gefn y tŷ · Ei fod yn diolch i’r swyddogion am eu harweiniad (ch) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol oedd yn gefnogol i’r cais
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- · Bod egwyddor y cais yn dderbyniol · Ei fod yn croesawu ystyriaeth i’r Ddeddf Llesiant · Bod y Swyddog ANHE yn gefnogol i’r cais · Bod y Pwyllgor eisoes wedi caniatáu cynlluniau blaenorol · Bod y wal yn rhan o’r cynlluniau
gwreiddiol · Ei fod yn derbyn
yr adroddiad (d)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â maint a graddfa'r wal, nododd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C16/1154/41/LL - Penarth Fawr, Chwilog, Pwllheli PDF 350 KB Dyluniad
diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan C16/0705/41/LL i drosi adeilad allanol i
dy fforddiadwy 4 llofft AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dyluniad diwygiedig i'r hyn
a wrthodwyd o dan C16/0705/41/LL i drosi adeilad allanol i dy fforddiadwy 4
llofft Roedd rhai aelodau o'r Pwyllgor wedi ymweld â’r
saflecyn y Pwyllgor. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan
nodi mai ail gyflwyniad ydoedd o gais blaenorol a wrthodwyd o dan hawliau
dirprwyedig. Amlygwyd mai cais llawn
ydoedd i drosi adeiladau allanol presennol o ddefnydd amaethyddol/storio i
ddefnydd preswyl. Yn ogystal nodwyd bod y cais wedi ei ohirio Tachwedd 2016
oherwydd bod yr ymgeisydd eisiau pwyso a mesur y sefyllfa yn dilyn cyflwyno'r
adroddiad yn gyhoeddus. Diwygiwyd y cais o’i gyflwyniad
gwreiddiol gyda’r cynlluniau bellach yn dangos bwriad i drosi rhan o’r adeiladau
yn dy a fyddai’n cynnwys 3 ystafell wely, cegin/ystafell fwyta, lolfa ag
ystafell ymolchi. Roedd y bwriad yn wreiddiol yn dangos y byddai rhan o’r
adeilad presennol yn cael ei ddymchwel a’i ail godi gan adael gofod rhwng yr
annedd a’r adeilad allanol. Roedd hyn bellach wedi ei newid trwy gynnwys
modurdy a storfa newydd ynghlwm i’r ty. Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol gan ei fod o’r farn fod yr adeilad yn
addas i’w drosi yn dŷ fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc lleol a bod prinder
tai o’r fath yn yr ardal. Cyfeiriwyd at y polisïau
perthnasol (yn benodol C4 a CH12) a hefyd at yr ymatebion a gafwyd o fewn
y cyfnod ymgynghori. Eglurwyd bod polisi
C4 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn caniatáu ceisiadau i addasu adeiladau
i’w hail-ddefnyddio yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf sy’n
cynnwys sicrhau fod yr adeilad fel y mae yn barhaol ac yn strwythurol gadarn
a'i fod yn bosib i’w addasu heb waith ailadeiladu sylweddol. Nodwyd bod waliau
ar y safle wedi eu hadeiladu mewn cyfnodau gwahanol; bod arolwg strwythurol
wedi ei gyflwyno gyda’r cais. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cadarnhau bod angen dymchwel rhai
adeiladau yn gyfan gwbl oherwydd cyflwr gwael ac fod angen gwaith dymchwel ac
ail-adeiladu lleol a twtio i’r adeiladu eraill. O ganlyniad ni ystyriwyd
fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisi C4 yn y ffurf yr oedd wedi ei gyflwyno ac nac ychwaith gyda
gofynion y CCA ‘Trosi adeiladau yng nghefn gwlad agored ac mewn pentrefi
gwledig’ gan nad yw cyflwr yr holl adeiladau sydd yn ffurfio’r cais yn addas
i’w trosi. O safbwynt sefydlu’r
egwyddor, roedd gofyn hefyd ystyried y bwriad yn unol â pholisi CH12 o Gynllun
Datblygu Unedol Gwynedd. Mae rhan allweddol y polisi yn datgan: ‘mewn pentrefi gwledig ac
yng nghefn gwlad ni chaniateir trosi adeiladau ar gyfer defnydd preswyl heb
allu profi yn gyntaf na ellir sicrhau defnydd economaidd addas ar gyfer yr
adeilad...’ Dim ond os cydymffurfir gyda rhan gyntaf y polisi y gellir mynd ati i ystyried y 4 maen prawf cysylltiedig. Tynnwyd sylw at y frawddeg gychwynnol, sydd wedi ei gadarnhau mewn apêl lled ddiweddar gyda chais yng Nglasinfryn, o ‘sicrhau defnydd economaidd’. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol gan yr asiant na’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C16/1450/03/HT - Tir ger y Ddol, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog PDF 263 KB Gosod polyn gyda 3 antenna i gyfanswm uchder o 20m, gosod un lloeren cyfathrebu ynghyd a gosod 3 cabinet offer, 1 cabinet yn cynnwys mesurydd gyda ffens 2m uchder yn amgylchynnu AELOD LLOEL: Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod polyn gyda 3
antenna i gyfanswm uchder o
20m, gosod un lloeren cyfathrebu ynghyd a gosod 3 cabinet offer, 1 cabinet yn
cynnwys mesurydd gyda ffens 2m uchder
yn amgylchynu Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais a thynnwyd sylw bod bwriad lliwio’r mast yn lliw olewydden mwll yn hytrach
na brown olewydden fel y nodwyd yn
yr adroddiad - roedd bwriad lliwio’r
cabinet yn wyrdd. Nodwyd bod y safle
wedi ei leoli ar gyrion pentref Tanygrisiau, oddi mewn i safle oedd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer parcio/ biniau ail-gychu. Derbyniwyd nifer o ymatebion gan
y cyhoedd ar faterion oedd yn ymwneud ac effaith pelydrau, agosatrwydd at dai
a’r Ysgol Gynradd, nad oedd angen y datblygiad
a’r effaith weledol y byddai yn cael ar yr ardal. Amlygwyd mai'r
prif ystyriaethau cynllunio oedd yr effaith weledol a’r effaith ar iechyd.
Eglurwyd, gyda’r math yma o ddatblygiad, y byddai’r strwythur arfaethedig yn
rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad
weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti
llawn. Er hynny, roedd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol bryder ynghylch ag
effaith weledol y datblygiad, yn enwedig o gyfeiriad Tanygrisiau; ond o
ystyried nad oedd Parc Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r bwriad, ac o
ystyried cynnwys yr Asesiad Effaith Weledol ar y Dirwedd, ni ystyriwyd fod yr
effaith yn sylweddol yn yr achos yma. Nodwyd bod gorffeniad y mast yn
dderbyniol oherwydd natur y tir sydd yn gefndir i’r datblygiad, ac ystyriwyd y
byddai yn ymdoddi yn well gyda’r gorffeniad hwn. Cyflwynwyd dogfen
fel rhan o’r cais, oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i
gydymffurfio a chanllawiau ICNIRP, sef y canllawiau safonol ar gyfer asesu
effaith ar iechyd. Er cydnabuwyd pryderon a godwyd o fewn y cyfnod ymgynghori
ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i’r polisïau cenedlaethol na’r Cynllun
Unedol ac nad oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith posib y
datblygiad. Wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion y
polisïau perthnasol. b)
Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor hwn) c)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod gwasanaeth 3G a 4G yn wael iawn yn yr ardal yma ·
Nad oedd trigolion a busnesau yn cael signal tu mewn i’w
tai / busnes ·
Bod llawer erbyn hyn yn dibynnu ar eu ffonau symudol am
fynediad i’r fewnrwyd ·
Ni fuasai yn effeithiol petai yn cael ei osod yn is na’r
coed ·
Nad oedd unrhyw dystiolaeth argyhoeddedig bod effaith pelydrau ar iechyd ·
Bod galw ac angen
am y datblygiad Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod y datblygiad yn welliant sylweddol ·
Bod y datblygiad yn gwella cyfleusterau yn yr ardal · Gyda nifer yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C16/1656/11/LL - Plot 1, Euston Road, Bangor PDF 364 KB Cais diwygiedig i
godi adeilad newydd er mwyn darparu 48 uned byw ar gyfer myfyrwyr AELOD LLEOL: Cynghorydd John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais diwygiedig i godi adeilad newydd
er mwyn darparu 48 uned byw ar gyfer myfyrwyr Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan
nodi mai cais llawn ydoedd i godi adeilad newydd er mwyn darparu 48 uned byw
gyda 57 lle gwely ar gyfer myfyrwyr. Byddai’r unedau yn darparu 45 o unedau
stiwdio hunan cynhaliol a 3 uned byw clwstwr gyda 4 ystafell wely'r un a chegin
lolfa i rannu. Golygai'r bwriad godi adeilad tri llawr gyferbyn tai 1-10
Ffordd Euston sy’n camu i lawr gyda llethr Ffordd Euston i ran pedwar llawr
gyferbyn talcennau tai Ffordd Denman yn agos i ganol Dinas Bangor a thu mewn
i’r ffin ddatblygu. Roedd adeilad Clwb y Rheilffordd a oedd ar y safle eisoes
wedi ei ddymchwel ac wedi ei glirio drwy ganiatâd blaenorol (trwy apêl) er mwyn
codi adeilad 3 llawr i greu cyfanswm o
27 fflatiau gyda 39 lle gwely ar gyfer myfyrwyr. Yn dilyn hynny rhoddwyd
caniatâd i ddiwygio’r caniatâd hwnnw trwy ddiwygio gosodiad mewnol yr adeilad i
ddarparu 29 uned gyda 47 lle gwely; y bwriad dan sylw
am 48 uned (57 lle gwely), felly cynnydd o 10 lle gwely. O ganlyniad, roedd
angen pwyso a mesur yr ystyriaethau materol wrth benderfynu os oedd egwyddor y
datblygiad arfaethedig yn parhau yn dderbyniol. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd
bod dyluniad a maint yr adeilad wedi newid ers y caniatâdau blaenorol. Eglurwyd
y byddai’r adeilad yn parhau i gamu i lawr Ffordd Euston yn unol â’r caniatâd
presennol; bod uchder y grib yn is na’r
tai sydd wedi eu lleoli gyferbyn (rhifau 1-10 Ffordd Euston) ac yn cydweddu a’r
tai union cyfochrog (11 a 12 Ffordd Euston). Byddai’r dyluniad a’r deunyddiau
yn cydweddu gyda dyluniad traddodiadol tai'r ardal. Byddai yn ymddangos fel
datblygiad preswyl teras/fflatiau o safbwynt ei faint, ffurf a dyluniad. Gyda
chynnydd o 10 lle gwely ychwanegol ni ystyriwyd y byddai hyn yn achosi niwed
sylweddol i fwynderau preswylwyr cyfagos o ran sŵn neu aflonyddwch.
Derbyniwyd cynllun rheoli myfyrwyr fel rhan o’r cais
er mwyn dangos rheolaeth o’r myfyrwyr ac i sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol o’r
ardal o’i gwmpas. Ystyriwyd y byddai yn
rhesymol gosod amod i sicrhau fod yr adeilad
yn cael ei rholi yn unol â’r manylion a gyflwynwyd. Er y
cydnabuwyd pryder gan wrthwynebwyr, ni
ystyriwyd bod y cynllun yn gyfystyr a gor-ddatblygiad o’r safle. Ystyriwyd bod
y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau
lleol a chenedlaethol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod y bwriad yn
or-ddatblygiad. Y datblygwr eisoes wedi cael caniatâd am 47 a bod hyn yn
ddigonol ·
Nid yw’r safle yn
hwylus i fyfyrwyr Coleg Menai ac nid yw ar lwybr bysus lleol ·
Ei fod yn awgrymu
bod y datblygwr yn gosod mannau parcio i gynorthwyo gyda’r sefyllfa yn y
gymuned · Angen ystyried os yw’r ddadl bod hosteli ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C16/1684/35/LL - White House, Radcliffe Road, Cricieth PDF 417 KB Cais ar gyfer codi 5 tŷ yn cynnwys un fforddiadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer codi 5 tŷ yn cynnwys un fforddiadwy Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi pum tŷ preswyl deulawr ar lain
o dir i gefn annedd presennol oedd wedi ei leoli oddiar ffordd ddi-ddosbarth
Ty’n Llan yng Nghricieth. Caniatawyd cais amlinellol ar gyfer yr un bwriad yn
flaenorol. Nodwyd bod y tir yn ffurfio rhan o erddi sylweddol ag ar un adeg,
cwrt tennis ynghlwm â’r White House. Roedd y datblygiad
arfaethedig yn cynnwys, lledu’r mynediad a ffordd fynediad presennol gan
ychwanegu at y ffordd yma a chreu ffordd stad newydd; creu mynedfeydd unigol
i’r 5 tŷ oddi ar y ffordd stad gyda gerddi ffurfiol i’w blaen, ochr a chefn;
4 tŷ farchnad agored ac un tŷ fforddiadwy. Nodwyd fod
cyfarwyddyd wedi ei dderbyn gan yr uned gyfreithiol y byddai angen llunio
cytundeb 106 newydd gan mai cais llawn oedd wedi ei gyflwyno yn hytrach na
chais i gytuno materion a gadwyd yn ôl sydd fel arfer yn dilyn caniatâd
amlinellol. Cymeradwywyd
trefniant y safle gan gynnwys lleoliad y tai a’r trefniant ar gyfer
trafnidiaeth ar y cais amlinellol blaenorol. Oherwydd lleoliad y safle ymysg
tai eraill, ni ystyriwyd y byddai effaith andwyol annerbyniol ar ffurf a
chymeriad y drefwedd. Ystyriwyd bod trefniant cyffredinol y safle’n parhau yn
dderbyniol a bod maint y tai yn addas o safbwynt gweddu gydag edrychiadau
cyffredinol yr ardal. Amlygwyd bod coed
a llystyfiant wedi ei glirio o’r safle (ond nid y rhai sydd wedi eu diogelu) ac
nad oedd tirweddu wedi ei gynnwys fel rhan o’r cais. Ystyriwyd y byddai yn dderbyniol (ag yn drefniant cyffredin) i
gynnwys amod tirlunio er mwyn cytuno ar y manylion hyn maes o law. Gydag amodau
priodol er mwyn diogelu’r coed a warchodir, nid oedd gan Swyddog Bioamrywiaeth
y Cyngor unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad. Yn unol â’r
canllaw cynllunio atodol, ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg’, cyflwynwyd diweddariad
i’r asesiad ardrawiad cymunedol ac ieithyddol a gyflwynwyd gyda’r cais blaenorol
a gynhwysai gwybodaeth benodol ynglŷn â’r ardal a phoblogaeth leol ag
effaith y datblygiad ar faterion perthnasol. Aseswyd y wybodaeth gan yr Uned
Bolisi Cynllunio ar y Cyd, a chadarnhawyd (fel y gwnaed gyda’r cais amlinellol
sydd eisoes wedi ei ganiatáu) na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn debygol o
gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. (b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:- ·
Coed wedi eu clirio - angen sicrhau preifatrwydd i’r tai
cyfagos. ·
Ymrwymiad ar lafar
wedi ei wneud gan yr ymgeisydd, ond cais i gynnwys ‘adfer preifatrwydd’ fel
amod i’r cais (c) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn barod i baratoi cynllun tirweddu a rhannu’r manylion
gyda’r gwrthwynebydd er mwyn sicrhau bod hyn yn bodloni anghenion preifatrwydd ·
Bod cynllun plannu cynhwysfawr ar gyfer y
safle ·
Bydd enw i’r datblygiad yn cael ei gymeradwyo · Bydd arwyddion dwyieithog yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif. C16/1686/46/LL - Ty Isaf, Tudweiliog, Pwllheli PDF 336 KB Ymestyn safle carafanau teithiol presennol a gosod 11 carafan teithiol ychwanegol gan gynyddu’r niferoedd o 15 i 26 ynghyd a ail leoli 3 lleiniau carafanau teithiol presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn safle carafanau teithiol presennol a gosod 11 carafán deithiol ychwanegol gan gynyddu’r niferoedd
o 15 i 26 ynghyd ac ail leoli 3 lleiniau carafanau teithiol presennol Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais
ydoedd ar gyfer ymgymryd â gwelliannau i safle carafanau teithiol presennol
ynghyd ac ymestyn y safle i weddill y cae gan gynyddu’r niferoedd o garafanau
teithiol ar y safle o 15 i 26. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion ffin ddatblygu pentref Tudweiliog ac o fewn
Ardal Gwarchod y Dirwedd. Amlygwyd ymysg y
gwelliannau a gynigiwyd bod bwriad codi adeilad
toiled / cawod ychwanegol ynghyd a gwaith tirlunio. Byddai cynnydd o 11 uned yn
ychwanegiad gymharol fawr i’r nifer.
Fodd bynnag, ni ystyriwyd fod y safle’n amlwg nac ymwthiol yn y dirwedd gan ei fod yn weddol guddiedig
o’r ffordd sirol sy’n rhedeg
trwy bentref Tudweiliog. Er bod 3 tŷ
annedd wedi ei leoli yn union gerllaw ffin ddwyreiniol y safle ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn achosi niwed arwyddocaol
i fwynderau’r gymdogaeth leol ac felly yn dderbyniol o agwedd Polisi B23 CDUG. Ychwanegwyd na fyddai’r bwriad
yn achosi niwed arwyddocaol i gydlyniad cymdeithasol, ieithyddol neu
ddiwylliannol y gymuned a'i fod felly yn dderbyniol o safbwynt Polisi A2 CDUG. O safbwynt sicrhau fod y safle
yn cael ei
reoli yn gywir ystyriwyd y gellid sicrhau hyn drwy amodau
perthnasol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-; ·
Ei fod yn gefnogol i’r argymhelliad ·
Bod y safle yn cael ei reoli yn dda ·
Bod gwaith plannu da wedi ei wneud gyda mwy i wneud
eto ·
Bod trigolion y pentref yn gefnogol i’r cais a bod
y safle yn dod a budd economaidd i’r gymuned leol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2.
Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer
o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 26. 4. Cyfyngu
tymor i rhwng 1 Mawrth a 1 Hydref. 5. Defnydd
gwyliau yn unig. 6. Cadw
cofrestr. 7. Dim
storio carafanau teithiol ar y safle. 8. Cyflawni’r
cynllun tirlunio |
|
Cais Rhif C17/0005/44/LL - Tir yn Smith Street, Porthmadog PDF 329 KB Cais i godi 4 tŷ teras AELOD LLEOL: Cynghorydd Jason Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i godi
4 tŷ teras Ymhelaethodd y
Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, ar gyfer codi 4 tŷ teras
deulawr 2 ystafell wely gyda 8 man parcio cysylltiol i’r blaen a gerddi yn y
cefn. Eglurwyd bod y safle presennol yn llecyn o dir gwag yn bennaf ond yn
cynnwys modurdai unllawr ar ran o’r safle, Eglurwyd bod wal
garreg yn amgylchynu’r safle a thai preswyl o amrywiol faint ag edrychiad yn
ymylu’r safle tu fewn i ffin datblygu Porthmadog ar dir sydd wedi ei ddatblygu
o’r blaen – y bwriad felly yn cydymffurfio a gofynion polisïau C1, C3 a CH3.
Ceir amrywiol weithdai gerllaw ac adeiladau’r Stryd Fawr yn cefnu ar y ffordd
ddi-ddosbarth sydd yn rhedeg heibio blaen y safle. Nodwyd bod mynedfa lydan
bresennol i’r safle wedi ei ddiogelu gyda giât safonol. Amlygwyd bod y
gwrthwynebiadau yn cynnwys materion trafnidiaeth a pharcio ac effaith ar fwynderau preswyl. Er bod natur
adeiledig bresennol yr ardal yn eithaf dwys sydd yn golygu bod materion megis
agosatrwydd a gor-edrych yn nodwedd weddol gyffredin
o fewn yr ardal, ni ystyriwyd y byddai’r
datblygiad yn arwain at or-edrych gormodol nac
effaith annerbyniol ar fwynderau preswylwyr cyfagos a mwynderau cyffredinol yr
ardal. Amlygwyd pryderon
trigolion lleol ar effaith y datblygiad arfaethedig ar faterion yn ymwneud a
symudiadau, diogelwch a natur cyfyng y ffordd fynediad presennol. Yn ychwanegol
i hyn, gydag adeiladau’r Stryd Fawr yn cefnu at y ffordd mae’n debygol fod cerbydau yn danfon nwyddau
i’r adeiladau hyn oddi ar y ffordd fynediad yma. Cyflwynwyd y cais
yn wreiddiol gyda 4 llecyn parcio ar flaen y safle ar gyfer y 4 tŷ ond yn
dilyn anfodlonrwydd yr Uned Drafnidiaeth diwygiwyd y cynllun i ddangos
darpariaeth ar gyfer 8 cerbyd. (a) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr Aelod
Lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)
y pwyntiau canlynol ·
Bod problemau parcio a chasglu sbwriel yn yr ardal. Yr
aelod wedi ceisio trafodaeth gyda’r Uned Drafnidiaeth ·
Damwain gyda lori sbwriel yn ddiweddar wedi achosi
pryderon Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod y ddamwain yn ddigwyddiad annibynnol
o’r cais. (b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais (c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: ·
Bod angen sicrhau ardal ddigonol ar gyfer storio biniau ·
Bod angen sicrhau llwybr clir i hebrwng y biniau i’r man casglu ·
Awgrym i ychwanegu amod i sicrhau bod y manylder yma yn
cael ei gynnwys ar y cynllun PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig ar gynnwys amod ychwanegol i sicrhau bod gofod digonol
ar gael i storio a symud biniau 1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Deunyddiau 4. Amodau priffyrdd 5. Dwr Cymru 6. Manylion triniaeth
ffin 7. Tynnu hawliau P.D.
a PD ffenestri 8. ardal storio a symud
biniau ar gyfer eu casglu |
|
Cais Rhif C17/0015/42/LL - Cwt Glan Môr (Safle 3), Lôn Penrallt, Nefyn PDF 331 KB Ail leoli cwt glan y mor AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail leoli cwt glan y môr Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar
gyfer ail-leoli cwt glan y môr presennol o safle ar lethr i safle mwy gwastad
ar waelod y llethr gerllaw'r morglawdd.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi gofyn am symud y cwt oherwydd
tirlithriadau sydd yn digwydd ar y llethr o bryd i’w gilydd. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad,
o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac o fewn arfordir
treftadaeth gyda AHNE Llyn wedi ei leoli 1.3 medr i ffwrdd tua’r gorllewin a’r
dwyrain. Nid oedd gwrthwynebiad i ail-leoli’r cwt i safle arall gerllaw, fodd
bynnag ni ellid gweld sut y byddai ail-leoli’r cwt i’r safle ar waelod y llethr
yn gallu gwaethygu’r sefyllfa o ran tirlithriadau. Mater i’r ymgeisydd fyddai symud y cwt ac oblygiadau hynny. Wedi
ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad i ail-leoli cwt lan y
môr, yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)
y pwyntiau canlynol ·
Bod pryderon a
pheryglon tirlithriadau yn yr ardal ·
Nid yw ail-leoli'r cwt yn mynd i’w ddiogelu rhag
tirlithriadau ·
Awgrym i sicrhau bod y cwt yn cael ei osod yn ôl 3.5m er
mwyn sicrhau bod pysgotwyr yn cael hawl i ddefnyddio’r morglawdd fel mynediad
i’r harbwr - llwybr hanesyddol yn bodoli yma c)
Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais. ch) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfrifoldeb y Cyngor petai tirlithriad, a’r
cwt yn cael ei ddifrodi, mynegodd y Cyfreithiwr mai materion ac egwyddorion
cynllunio oedd i’w hystyried ac mai ail leoli cwt oedd dan sylw. Derbyniwyd
cydnabyddiaeth bod y clogwyn yn beryg, ond nid cyfrifoldeb y Pwyllgor oedd hyn d)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Angen sicrhau nad yw ail leoli un cwt yn gosod
cynsail ·
Cais i gofrestru'r llwybr hanesyddol er mwyn
sicrhau gwarchodaeth gyfreithiol PENDERFYNWYD caniatáu’r cais 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2.
Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3.
Clirio’r safle presennol o’r holl ddeunyddiau. |
|
Cais Rhif C17/0069/00/LL - Llain Ffordd Bro Mynach, Abermaw PDF 363 KB Codi annedd tri llawr ar wahan AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi annedd
tri llawr ar wahân a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi un tŷ tri llawr ar wahân ar
safle oedd wedi ei leoli
o fewn stad breswyl lle, yn bresennol mae’r safle yn cael ei
ddefnyddio fel gardd ddomestig gyda Tŷ Mynach,
sydd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd. Golygai’r bwriad godi tŷ annedd tair
ystafell wely gyda garej ddwbl ar lawr daear yr annedd, dau le parcio a man troi ar ran deheuol y safle. Byddai
balconi yn cael ei ddarparu ar edrychiad deheuol yr annedd ar lefel llawr
cyntaf a’r bwriad yw gorffen y waliau allanol gyda rendr,
a tho llechi naturiol. Eglurwyd bod cymysgedd o ran maint a graddfa tai yn yr
ardal , a thra bod yr annedd yn weddol fawr ei faint ystyriwyd bod y llain o
faint digonol ar gyfer annedd o’r maint hwn. Nodwyd bod y safle
wedi ei leoli y tu fewn i ffin datblygu tref Abermaw, ac felly ystyriwyd fod
egwyddor y bwriad yn dderbyniol yn unol â pholisïau C1 ac CH4 o’r Cynllun
Datblygu Unedol. Ystyriwyd fod y gorffeniad allanol yn dderbyniol a bod bwriad cynnwys
amodau cyflwyno manylion tirlunio er cymeradwyaeth y Cyngor. Amlygwyd bod y
safle wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Ardudwy a
gan fod y safle oddi fewn ardal/ffurf adeiledig tref Abermaw ni ystyriwyd y
byddai effaith sylweddol ar y tirlun ehangach Derbyniwyd pryderon fod y datblygiad yn
ormesol ei naws ac allan o gymeriad gyda thai eraill ar yr ystâd, serch hynny
ystyriwyd, oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad nad oedd pryder i’r
perwyl hwn. Ni ystyriwyd y
byddai’r datblygiad yn achosi gor-edrych uniongyrchol
annerbyniol; ac ni ystyriwyd y byddai effaith ar gymeriad adeiladau rhestredig
wedi eu lleoli oddeutu 60m i ffwrdd. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r
bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth yn amodol ar gynnwys amodau a nodiadau
perthnasol. Mewn ymateb i
ymgynghoriad nododd yr Uned
Bioamrywiaeth nad oedd gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad pe bai amod yn
cael ei gynnwys ar unrhyw ganiatâd gan nodi y dylid cyflwyno manylion goleuo
allanol yr annedd, cynllun er triniaeth a gwared rhywogaeth ymwthiol ar y
safle, a chynllun ar gyfer darparu gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys blychod
ar gyfer ystlumod ac adar. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Y byddai’r datblygiad yn creu effaith
ar fwynderau cyfagos ·
Bod yr adeilad ar
3 lefel – hyn yn ormesol ·
Pryder am or-edrych a cholli
preifatrwydd - y gor-edrych yn afresymol ·
Graddfa, maint a ffurf y datblygiad yn ormesol a ddim yn
gweddu'r ardal ·
Creu effaith
ar adeiladau eraill ·
Rhai adeiladau rhestredig yn yr ardal ac felly angen
cydymffurfio a thai lleol eraill ·
Nid yw rendr yn gweddu gyda
cherrig llwyd lleol (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- · Bod y safle wedi ei leoli o fewn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
Cais Rhif C17/0094/40/AM - Tir ger Bodelen, Siop yr Efail, Efailnewydd PDF 244 KB Cais amlinellol i godi tŷ fforddiadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol i godi tŷ fforddiadwy. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais amlinellol am dŷ
deulawr fforddiadwy o fewn gardd 2 dŷ presennol.
Nodwyd bod Polisi CH4 o’r CDUG yn berthnasol ac yn datgan mewn egwyddor y
caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd heb eu dynodi ac o fewn
ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio â
holl bolisïau perthnasol y Cynllun a 3 maen prawf y polisi. Amlygwyd bod Polisi B23
o’r CDUG yn asesu effaith y bwriad ar fwynderau preswyl cyfagos. Nodwyd er na
gyflwynwyd manylion gyda’r cais yn dangos lleoliad ystafelloedd a ffenestri ar
y llawr cyntaf, ‘roedd lleoliad y tŷ, ei uchder ynghyd â’r
tebygolrwydd y bwriedir gosod ffenestri yn y drychiad gogleddol (cefn) fel rhan
o osodiad mewnol y tŷ bwriadedig yn codi
pryderon sylweddol ynglŷn ag effaith y bwriad ar breifatrwydd a mwynderau
trigolion yr eiddo y tu cefn ac i’r gogledd o’r safle. Mynegwyd pryder sylweddol
ynglŷn â’r datblygiad, ystyriwyd bod y bwriad yn
or-ddatblygiad o’r safle cyfyng ac ni ystyriwyd bod y
bwriad yn dderbyniol o agwedd Polisi B23 oherwydd y byddai’n achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol, yn or-ddatblygiad
o safle cyfyng ac yn lleihau gofod amwynder y ddau dŷ presennol drwy
ddefnyddio'r ardd fel llain ar gyfer y tŷ bwriadedig.
Pwysleisiwyd nad oedd y ffaith mai’r ymgeisydd oedd yn berchen dau o’r tai
cyfagos, yn goresgyn pryderon am or-ddatblygu’r safle
cyfyng. Tynnwyd sylw y
gwrthodwyd cais blaenorol am yr un datblygiad dan hawliau dirprwyedig ar 18
Ionawr 2017 ar sail: “Byddai’r tŷ,
oherwydd ei faint a lleoliad yn arwain at ymwthiad gormesol a niweidiol i
fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos, yn enwedig oherwydd yr effeithiau
dominyddol a gor-edrych a fyddai'n deillio ohono.
Mae'r cais felly'n groes i bolisïau B23 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac yn
tanseilio polisi PCYFF 1 CDLL.” Nodwyd nad oedd y
bwriad cyfredol yn lleihau'r pryderon cynllunio sylweddol ynglŷn â’r bwriad ac fe argymhellwyd i wrthod y cais ar yr un
sail. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod ei deulu yn un o deuluoedd hynaf Efailnewydd; ·
Y bwriedir adeiladu tŷ ar gyfer ei fab; ·
Ei fod ar ddallt bod swyddogion yn hoffi manylion
llawn o ran maint ond mai mater bach fyddai newid y maint pan gyflwynir cais
cynllunio llawn; ·
Y cyflwynwyd 7 llythyr yn cefnogi’r cais i’r
Gwasanaeth Cynllunio; ·
Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol; ·
Bwriad yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ffyrdd. (c) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Fe fyddai’r bwriad yn golygu gwelliant i’r fynedfa
bresennol; ·
Y byddai’r bwriad yn darparu cynnydd yn y llefydd
parcio gan ddarparu lle i 4 o geir gan fodloni’r gofyn o dan Polisi CH36 o’r
CDUG am lefydd parcio oddi ar y stryd; · Bod y bwriad yn unol â Pholisi C1 o’r CDUG gan fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15. |