Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Cemlyn Williams a Cyng.
Dilwyn Morgan. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 7 – Pris Cinio ysgol Cynradd 2019/20 Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorwyr - Dyfrig Siencyn, Craig
ab Iago, Nia Jeffreys, Gareth Thomas, Ioan Thomas a Catrin Wager gan fod
ganddynt blant neu wyrion yn derbyn cinio ysgol mewn ysgolion cynradd. Ynghyd
a’r Swyddogion - Garem Jackson a Bethan Griffith gan fod ganddynt blant yn
derbyn cinio mewn ysgolion cynradd. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu
felly roedd modd iddynt fod yn rhan o’r drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 MEHEFIN 2019 PDF 83 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Tynnwyd sylw at
gywiriad yn y rhestr presenoldeb a chytunwyd ei addasu. Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 25 Mehefin 2019 fel
rhai cywir. |
|
GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS BANGOR PDF 115 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Penderfynwyd
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan fynegi fod Bangor yn ddinas amlddiwylliannol gyda naws
Gymreig. Ychwanegwyd fod llawer o
ddatblygiadau yn digwydd o fewn y ddinas gyda llawer o dai gwag bellach yn ôl
mewn defnydd. Esboniwyd fod
gorchymyn eisoes yn bodoli ym Mangor sydd yn gosod pwerau gorfodol i’r Heddlu.
Ychwanegwyd fod yr Heddlu wedi awgrymu nad yw’r Gorchymyn presennol yn rhoi
grymoedd digonol iddynt a chyflwynwyd tystiolaeth yn mynegi hyn. Pwysleisiwyd
mai’r Cyngor sydd gan yr hawl greu gorchymyn ac yn dilyn trafodaethau gyda’r
Heddlu a chael barn gyfreithiol fod y Cyngor yn awyddus i fwrw ymlaen gyda’r
broses o greu Gorchymyn newydd. Ategwyd
mai’r cam nesaf fydd i gynnal ymgynghoriaeth cyhoeddus ar y mater cyn dod yn ôl
i’r Cabinet i wneud penderfyniad llawn. Ychwanegodd yr Uwch
Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dilyn trafodaethau am
dros 6 mis gyda’r Heddlu fod y Cyngor yn ystyried fod pedwar o’r chwe
chyfyngiad a amlinellwyd gan yr Heddlu yn addas i’w cynnwys yn y Gorchymyn
Arfaethedig. Mynegwyd mai prif reswm dros greu'r Gorchymyn newydd oedd effaith
ar fywyd trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd. Mynegwyd fod yr
Heddlu bellach a phrofiad o ddefnyddio gwahanol fodelau gorfodaeth ar draws y
rhanbarth, ac felly yn ffafrio model gwahanol i’r model cosb benodedig. Ategwyd
y bydd y drefn hon yn cael ei fonitro yn ofalus ac yn sicrhau fod yr awyrgylch
yn gwella i’r unigolion a’r trigolion. Nodwyd fod yr amodau sydd wedi ei
hychwanegu yn rhesymol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Gofynnwyd
am gadarnhad ‘na fydd y Gorchymyn yn cael ei ddefnyddio i ddelio a symud pobl
ddigartref. Mynegwyd fod hyn yn un o’r chwe amod a gyflwynwyd gan yr Heddlu a
bod y Cyngor wedi ei wrthod. Mynegwyd fod gwaith angen ei wneud i gynorthwyo
pobol ddigartref a nodwyd fod hyfforddiant yn cael ei wneud gyda heddweision ar
hyn o bryd i ddarparu cefnogaeth. ¾
Tynnwyd
sylw at y map o droseddau yn ardaloedd Bangor gan nodi fod clwstwr uchel o
droseddau ym Maesgeirchen - nodwyd fod cynlluniau arbennig gan yr Heddlu yn yr
ardal yma i leihau trosedd. Awdur: Catherine Roberts |
|
PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD 2019/20 PDF 60 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn
unol a chwyddiant sydd yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym
Medi 2019. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Garem Jackson PENDERFYNIAD Penderfynwyd
i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn unol a chwyddiant sydd
yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym Medi 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi o ganlyniad i gynnydd mewn chwyddiant
mae angen codi pris cinio ysgol mewn ysgolion cynradd 4.1% er mwyn cyrraedd y
targed incwm. Ychwanegwyd drwy beidio codi’r pris bydd diffyg yn y gyllideb o
£82,220. Nodwyd o’u gymharu â siroedd eraill mae Gwynedd yn o’r rhai sy’n codi’r
pris uchaf. Amlinellwyd yn dilyn codi
pris cinio ysgol ym Medi 2017 fod canran o blant sydd yn cael cinio ysgol wedi
lleihau o 50% i 46%. Mynegwyd os ganlyniad i hyn nid yw’r adran yn awyddus i
godi’r pris eto. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw at ystadegau a gyhoeddwyd gan elusen ‘Save the Children’ a nodwyd fod
tlodi ymhlith plant yn codi, ac yn benodol i deuluoedd sydd yn gweithio ar
incwm isel, o ganlyniad i hyn pwysleisiwyd y dylid cadw prisiau yn is. ¾
Holwyd
os na fyddai’r pris yn codi sut fydd modd cyfarch y bwlch ariannol. Nodwyd fod
cyllideb wrth gefn gan y Cyngor i sefyllfaoedd annisgwyl ac felly ni fydd yn
broblem a bydd modd ei adeiladu i’r gyllideb ar gyfer blwyddyn nesaf.
Ychwanegwyd fod y cynllun yma yn gynllun i ddod o hyd i arbedion ac felly bydd
disgwyliad i’r adran ddod o hyd i gynllun amgen er mwyn dod o hyd i’r arbediad. ¾
Nodwyd
pryder am leihad yn y niferoedd yn dilyn codi’r prisiau ond nodwyd ei bod yn
dda bod y pris yn cadw'r un peth. Awdur: Bethan Griffith |
|
CRONFA ARLOESI ARFOR PDF 79 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gan fod Cyngor
Gwynedd yn gweithredu fel corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau
Cronfa Arloesi Arfor Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn,
Ceredigion a Sir Gar penderfynwyd fod:
Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Gan fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel
corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau Cronfa Arloesi Arfor
Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gar
penderfynwyd fod:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn gynllun cyffroes a fydd, gobeithio, yn profi gallu
siroedd y Gorllewin fod modd gwneud gwaith economaidd ar y cyd. Ychwanegodd y
Pennaeth Economi a Chymuned fod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i fod yn awdurdod
arweiniol ar y cynllun a bydd £2 filiwn o gyllideb ar gael i’r cynllun dros
gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd fod prosiectau wedi cael ei blaenoriaethu ar
gyfer y gweithgaredd arfaethedig yng Ngwynedd i ddatblygu’r economi ac yn ei
dro cynnal yr iaith. Mynegwyd fod y cyfnod yn un tymor byr ac felly nid yw’n
glir beth fydd y gwahaniaeth tymor hir. Pwysleisiwyd gan fod y cynlluniau yn
rhai arloesol y bydd y pedair sir yn cymharu effaith y cynlluniau ac efallai y
bydd modd chwilio am arian ychwanegol i ddatblygu ymhellach. Amlinellwyd fod y
gronfa yn un arloesi ac felly bydd yn gyfle i Wynedd a’r bartneriaeth i geisio
cynlluniau gwahanol a newydd. Nodwyd fod y cyfle i Wynedd fod yn gorff
arweiniol yn dangos y clod i ymrwymiad, rheolaeth ariannol a’r defnydd o iaith
sydd gan y Cyngor. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Nodwyd fod y cynllun hwn yn un
cyffroes, ond holwyd os bydd modd i fentrau cymdeithasol ymgeisio am arian i
fentro. Nodwyd fod modd ymgeisio ond fod cyllideb yn un bach ar felly bydd
angen asesu pob cais gan mai dim ond digon i ryw 3 menter sydd yno. ¾
Pwysleisiwyd ei bod yn hen bryd i
gynlluniau gael ei greu ar draws Gorllewin
Cymru, er nad oes arian mawr, cynlluniau cyffroes. ¾
Nodwyd fod y
gyllideb yn fach iawn ac y bydd yn bwysig ei ddefnyddio yn ofalus gan sicrhau
fod effaith yr ymyrraeth yn cael ei fesur yn glir. Awdur: Sioned Williams |
|
STRATEGAETH TAI 2020-21 PDF 74 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r
Strategaeth Tai i’w hargymell i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Strategaeth Tai i’w hargymell
i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi'r angen i’r Cabinet cymeradwyo’r Strategaeth Dai er mwyn ei
hargymell i’r Cyngor Llawn i’w fabwysiadu. Mynegwyd fod y strategaeth yn
amlinellu'r newid sydd yn digwydd yn y maes gyda datblygiad Adran Tai ac Eiddo.
Pwysleisiwyd y bydd y cyfnod nesaf sydd ar droed yn un cyffroes ym maes Tai. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod y maes yma un maes sydd yn cael ei flaenoriaethu gan y Cabinet a bod hwn yn un cam ar y daith. Awdur: Arwel Wyn Owen |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED PDF 175 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at un neu ddau o
brosiectau. Tynnwyd sylw at Weledigaeth Twf Gogledd Cymru gan nodi fod Cyng.
Dyfrig Siencyn yn gadeirydd bellach ar y Bwrdd Uchelgais. Nodwyd fod gwaith
yn cael ei wneud ar ddatblygu'r cynllun Creu Swyddi Gwerth Uchel. Mynegwyd fod
cystadlaethau wedi ei gynnal yng Nghanolfan Awyrfod Eryri, fel rhan o
Gystadleuaeth Ryngwladol Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Bu i ddisgyblion
cynradd ac uwchradd lleol gael y cyfle i weld cystadleuwyr ac adeiladu a hedfan
llongau awyr ac awyrennau model. Tynnwyd sylw at Raglen Arloesi Gwynedd Wledig
gan fynegi fod gwaith cyffroes yn cael ei gynnal fel rhan o dreialon Leader.
Pwysleisiwyd y cynllun rhyfeddol ac arloesol sydd i’w gweld ar Ffarm Coleg
Glynllifon. Mynegwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar amserlen gyda DCMS ar
gyfer cyflwyno enwebiad Llechi Gwynedd i UNESCO ym mis Tachwedd a bydd yn dod
i’r Cabinet ym mis Hydref. Nodwyd wrth edrych ar arbedion yr adran fod 5 o gynlluniau
2019/20 wedi ei gwireddu neu ar drac i wireddu yn amserol ac amlinellwyd y
cynlluniau arbedion. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd
fod llawer o gwmnïau yn ei chael yn anodd penodi staff Cymraeg a rhain a
chyflogau uchel. Pwysleisiwyd fod angen codi ymwybyddiaeth a sylw pobl ifanc
o’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngwynedd. Awdur: Sioned Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 116 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan dynnu sylw at rai cynlluniau o fewn yr adran Gyllid. Mynegwyd fod
y gwaith o ledaenu defnydd o system reoli dogfennau a chofnodi electronig yn
agosáu at gyrraedd ei derfyn. Bellach dim ond 5 tîm sydd ar ôl o holl
wasanaethau’r Cyngor yn aros i fudo i’r system newydd. Mynegwyd fod y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi codi eu hincwm a hyn ar ddechrau 2019/20 drwy
ganolbwyntio eu hadnoddau gyflawni archwiliad o gyfrifon cynghorau cymuned a
thre. Amlinellwyd fod camgymeriad dynol wedi ei wneud ym mis Mawrth yn y
Gwasanaeth Cyflogau a arweiniodd at Gymorthfeydd Dosbarth yn colli £30 o’u
cyflogau. Bellach, nodwyd fod y cyflogau
wedi ei gosod i’w lefel gywir. O ran Technoleg
Gwybodaeth mynegwyd fod cael achosion o golli gwasanaeth wedi sicrhau fod y
Gwasanaeth wedi uwchraddio eu canolfannau data er mwyn cryfhau gwydnwch y
gwasanaeth. Nodwyd y bydd y ddwy ganolfan ddata yn gallu adfer gwasanaethau
bron yn syth. Diolchwyd i staff am
gau cyfrifon er bod pwysau ychwanegol gyda chau cyfrifon Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru yn ogystal. Pwysleisiwyd yn ogystal fod arbedion yr
adran wedi eu cwblhau am 2019/20. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw at berfformiad y Gwasanaeth Trethi gan nodi fod nifer uchel o ymholiadau
wedi ei derbyn o ganlyniad i godi premiwm treth ar dai gwag ac ail gartrefi. Er
hyn nodwyd y bydd hunanwasanaeth yn cael ei gynnig i drethdalwyr cyn hir, ac o
ganlyniad bydd modd gwneud rhai ymholiadau ac addasiadau syml ar y we, fydd yn
lleihau’r nifer galwadau. ¾
Mynegwyd
gwerthfawrogiad fod y Gwasanaeth Budd-daliadau wedi lleihau'r nifer dyddiau a
gymerwyd i brosesu cais budd-dal newydd, ond holwyd ble mae’r Cyngor o’i
gymharu â siroedd eraill. Nodwyd ar hyn o bryd yn y canol, ond mae’r Gwasanaeth
yn ceisio parhau i wella. Awdur: Dafydd L Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD PDF 123 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur i’r adran. Tynnwyd sylw at
yr uchafbwyntiau. Un o’r rhain oedd Sesiwn Codi Ymwybyddiaeth o Dwyllo.
Mynegwyd fod yn rhannu gwybodaeth ag unigolion ar sut i beidio cael eu twyllo a
bu i ran ohono gael ei darlledu ar ‘Byd ar Bedwar’. Nodwyd fod sesiwn
‘Gofalu am ein Hamgylchedd’ wedi ei gynnal gyda’r Cynghorwyr a oedd yn
llwyddiannus. Yn y dyfodol, nododd yr Aelod Cabinet y bydd yn mynd gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyngor i
weld eu harolygiadau hylendid bwyd ac yn mynychu’r cyfarfodydd trwyddedu.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn un cyflawn sydd yn cronni cyfnod prysur a
diddorol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Trafodwyd
y graffiau sydd i’w gweld gan nodi fod rhai o’r graffiau heb ddata. Nodwyd fod
y graff dan sylw, fod y nifer o ymweliadau yn cael ei bennu gan ar ASB ac nad
ydynt wedi cadarnhau niferoedd ar gyfer y flwyddyn eto. Mynegwyd fod angen
edrych ar y graffiau a sicrhau eu bod yn cyfleu beth mae’r adran yn awyddus
iddynt eu gwneud. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Catrin Wager PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi o ran yr Adran Briffyrdd fod cynlluniau amgylcheddol yn mynd
yn hynod dda, gyda chynllun newid y goleuadau stryd i dechnoleg LED yn parhau,
a fydd yn lleihau ynni ac atal llygredd goleuo. Mynegwyd fod lleihad yn y caran
y gwastraff trefol a anfonir i dirlenwi wedi gostwng o 38% i 19%. Amlygwyd fod
newidiadau i’r drefn o gasglu gwastraff, bydd yn weithredol yn Nwyfor ar 1 Gorffennaf
ac yna yn Arfon cyn diwedd y flwyddyn. Wrth edrych ar
ailgylchu mae’r canran yn parhau yn sefydlog ar 63% gyda’r targed erbyn Mawrth
2020 yn 64%. Pwysleisiwyd fod Cyngor yn gyngor sydd yn ailgylchu yn gyfrifol ac
o fewn Prydain. O ran arbedion yr
adran Briffyrdd, nodwyd fod y Cynlluniau Cau Toiledau Cyhoeddus y Sir yn
llithro gyda’r Gwasanaeth yn edrych ar gynllun amgen i wireddu gweddill yr arbedion. Er hyn
mynegwyd fod cynllun Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Sir i foderneiddio i
system ddigidol yn tanwario ac o ganlyniad bydd modd ei ddefnyddio i gyfarch y
gwahaniaeth. O ran cynlluniau
arbedion yr adran Briffyrdd nodwyd ei bod wedi eu gwireddu neu ar drac. Ond
codwyd pryder am gynllun i godi incwm gorfodaeth stryd, ond bydd angen rhoi
sylw pellach a thrafodaeth ar sut i fesur glendid y strydoedd. O ran Ymgynghriaeth
Gwynedd mynegwyd fod arbedion yr adran ar darged. Er bod targedi incwm yn
dangos diffyg, mynegwyd fod hyn yn arferol iawn i’r adran yn ystod chwarter 1.
Nodwyd fod yr Aelod yn hapus a gwasanaeth y Rheolaeth Adeiladu, a bod yr
adborth yn dangos bodlonrwydd cwsmer. Awdur: Steffan Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 140 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod am amlygu rhai cynlluniau. Nododd fod y Prosiect i
Ail Ddylunio Gwasanaethau Gofal yn parhau ac y bydd yn cael ei drafod ymhellach
yn y Cabinet wythnos nesaf. Ychwanegwyd ei fod wedi ymweld â Gwasanaeth
Anableddau Dysgu a'i fod wedi cael agoriad llygad i’r gwaith arwrol sydd yn
cael ei wneud yn y maes. Nodwyd fod angen
edrych ar fesuryddion sydd yn ymwneud a 'Beth Sydd yn Bwysig' i’r unigolyn gan
ei fod yn amrywio o gleient i gleiant ac yn amhosib ei fesur. Mynegwyd fod un
broblem o fesur effaith wedi codi a Dementia Go, gan ychwanegu efallai fod
angen i ni anghofio am y rhifau o fewn perfformiad a chanolbwyntio a rhoi hyder
mewn staff eu bod yn gweithio yn galed ac yn gwneud y mwyaf i unigolion. Yn ariannol,
mynegwyd ei bod yn gyfnod heriol ac mae rhagamcanion yn nodi risg o orwario
sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol os na fydd arbedion yn cael ei
gwireddu. Mynegwyd fod yr adran yn ymgeisio i ddelio gyda hyn. Awdur: Aled Davies |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 58 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r
Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. TRAFODAETH Yn
unol ag Adran 14.13 o Gyfansoddiad y Cyngor, bydd y Cabinet yn rhannu ei Flaen
Raglen waith am y cyfnod dilynol o chwe mis gyda’r cyhoedd. Bydd y Blaen Raglen
yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor |