skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cyng. Dafydd Meurig ddagan buddiant ar eitem 7, gan fod ei chwaer yn gweithio ar safle Ysgol y Faenol, Bangor. Roedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac felly gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 19 Chwefror 2019 fel rhai cywir.

 

6.

STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts a Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo ymrwymiad Cyngor Gwynedd i weithredu’r Strategaeth Anableddau Dysgu yn lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo ymrwymiad Cyngor Gwynedd i weithredu’r Strategaeth Anableddau Dysgu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Strategaeth yn un cyffroes ar gyfer pobl sydd ag Anableddau Dysgu o bob oed. Mynegwyd fod y Strategaeth yn nodi sut fydd y bydd yr Awdurdodau Lleol yn gweithio yn integredig a'r Gwasanaeth Iechyd ar draws y Gogledd. Ychwanegwyd fod y strategaeth wedi ei ddatblygu mynd cydweithrediad rhwng chwech o Gynghorau’r Gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chyfraniadau gan bobl ag anableddau dysgu a'u gofalwyr.

 

Nodwyd fod gweledigaeth y strategaeth yn cyd-fynd a gweledigaeth yr adran, ac ychwanegwyd ei fod yn cydnabod beth sydd yn bwysig i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mynegwyd fod y rhanbarth wedi bod yn llwyddiannus yn cael arian gan Gronfa Drawsffurfio’r Llywodraeth er mwyn cyflawni pum pecyn gwaith sydd wedi ei gynllunio o fewn y strategaeth.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Anableddau Dysgu fod y strategaeth yn gosod cyfeiriad cadarn i’r Cyngor i weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd, a'i fod yn plethu i mewn i waith yr adran. Ychwanegwyd fod yr Adran dros y 3 blynedd diwethaf wedi bod yn gweithio gyda phobl a phlant gydag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u cymuned i greu cynlluniau a bod y cynlluniau yma bellach wedi eu datblygu i greu timau ataliol o fewn hybiau yn y gymuned.

 

Ategwyd fod trefn ymgysylltu gryfach wedi ei greu yn ystod y tair blynedd diwethaf rhwng staff, darparwyr, gofalwr a defnyddwyr gwasanaeth. Ychwanegwyd drwy greu gwasanaeth sydd yn ymgysylltu yn aml mae wedi datblygu a chreu gwasanaeth mae pawb yn teimlo’n rhan ohoni. Ychwanegwyd fod newidiadau cyffroes ar droed a bod strategaeth yn sylfaen gadarn a fydd yn gweithio’r rhaglen waith ymlaen i godi statws bobl ag anableddau dysgu o fewn cymunedau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd sut y bydd modd rhoi'r strategaeth yma ar waith, a nodwyd fod llawer o’r ymgysylltu a gafwyd er mwyn creu'r strategaeth wedi eu cynnal gyda phobl Gwynedd ac felly mae lleisiau pobl Gwynedd i’w gweld yno. Mynegwyd wrth edrych ar raglen waith y strategaeth fod Gwynedd o flaen y gad yn rhai meysydd tra angen datblygu mewn meysydd eraill. Prif ffocws Gwynedd, ychwanegwyd, fydd i blethu gwaith y gwasanaeth a’r strategaeth.

-        Nodwyd mai gobaith yw y bydd gweledigaeth y strategaeth yn annog gwaith integredig yn lleol a bydd gwaith integredig cyson dros yr adrannau yn y cyngor yn ogystal, yn arbennig yr Adran Addysg ac yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.

-        Tynnwyd sylw at y gwaith sydd yn cael ei wneud yn yr adran Addysg yn y maes Anableddau Dysgu gan nodi fod y strategaeth yn cyd-fynd a chynlluniau Anghenion Dysgu Ychwanegol yr adran.

Nodwyd fod y Strategaeth yn un pum mlynedd ond fod arian ar o Gronfa Drawsffurfio’r Llywodraeth ar gyfer cynllun gweithredu am gyfnod o 2 flynedd. Ychwanegwyd os na fuasai’r rhanbarth wedi derbyn yr arian hwn y bydda’i strategaeth wedi parhau i gael ei chymeradwyo. Mynegwyd fod cael ychydig o arian ychwanegol yn lleihau’r rhwystrau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Morwena Edwards

7.

AD-DREFNU DARPARIAETH ADDYSG GYNRAEDD DALGYLCH BANGOR pdf eicon PDF 482 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhau’n derfynol y cyfraniad gan y Cyngor tuag at becyn ariannu llawn o £12.7miliwn ar gyfer ad-drefnu darpariaeth Addysg Gynradd Dalgylch Bangor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhau yn derfynol y cyfraniad gan y Cyngor tuag at becyn ariannu llawn o £12.7miliwn ar gyfer ad-drefnu darpariaeth Addysg Gynradd Dalgylch Bangor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y penderfyniad a geisir yn fater o ffurfioldeb. Nodwyd fod y Cabinet wedi cytuno ym Mawrth 2018 “ymestyn y Faenol i gynyddu’r capasiti o 186 i 215 ac Ysgol newydd i’r Garnedd i gynyddu’r capasiti o 210 i 420”.

 

Mynegwyd gan fod Ysgol y Faenol yn Ysgol Wirfoddol dan Reolaeth (CWR) yr Eglwys yng Nghymru nodwyd fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi mai’r Corff Llywodraethol sydd a’r hawl i wneud penderfyniad ar gynyddu capasiti’r Ysgol gyda’r Awdurdod Lleol yn medru hwyluso’r broses. Mynegwyd fod y Corff Llywodraethol wedi penderfynu cynyddu capasiti’r ysgol ac felly nodwyd fod angen cadarnhad fod yr arian yn ei le ar gyfer y cynllun. Nodwyd fod cyfanswm o £12.7miliwn wedi ei adnabod fel cost ar gyfer cyflawni’r elfennau o ad-drefnu’r Ysgolion yn nalgylch Bangor. 

Awdur: Diane Jones

8.

SEFYDLU TREFNIADAU AR GYFER PENODI CRWNER CYNORTHWYOL pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol:

a)    I baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a threfn benodi ar gyfer swyddi Crwner cynorthwyol a hynny mewn ymgynghoriad a’r Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu

b)    I sefydlu panel er mwyn tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Crwneriaid Cynorthwyol yn ôl yr angen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol:

a)    I baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a threfn benodi ar gyfer swyddi Crwner cynorthwyol a hynny mewn ymgynghoriad a’r Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu

b)    I sefydlu panel er mwyn tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Crwneriaid Cynorthwyol yn ôl yr angen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adroddiad technegol. Mynegwyd fod y Crwner Cynorthwyol bellach wedi ei phenodi i fod yn Farnwr. Datganwyd llongyfarchiadau i’r cyn Crwner Cynorthwyol a diolchwyd iddi am ei gwaith. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi trefn i benodi Crwner Cynorthwyol er mwyn sicrhau fod y trefniadau diprwydeig ar gyfer y broses yn cael eu sefydlu yn glir.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

- Nodwyd fod y drefn yn drefn newydd ac nad oedd yn cwbl glir pwy oedd yn penodi. Mynegwyd fod y drefn yn dilyn trefn sydd i’w gweld yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd ac yn amlygu trefn glir a cystadleuol agored.

Holwyd os bydd Cyngor Sir Ynys Môn am fod yn rhan o’r penodi, nodwyd nad oedd yn ofynnol iddynt fod yn rhan o’r panel penodi ond fod modd eu cynnwys.

Awdur: Iwan Evans