skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i Cyng. Gareth Thomas ddatgan buddiant personol yn ystod Eitem 8 - Cyllideb 2019/20 pan ddaeth i’r amlwg fod arbedion Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cael ei drafod, a’i fab yng nghyfraith yn gweithio i’r gwasanaeth. Nid oedd y cynghorydd yn teimlo ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y 15, 22 A 29 IONAWR pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 15, 22 a’r 29 Ionawr fel rhai cywir.

 

6.

ADOLYGU CYNLLUN Y CYNGOR 2018-23 pdf eicon PDF 84 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2018-23 (Adolygiad 2019/20) i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 7fed o Fawrth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2018-23 (Adolygiad 2019/20) i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 7fed o Fawrth

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Cynllun y Cyngor wedi ei fabwysiadu fel Cynllun pum mlynedd y Cyngor fis Mawrth y llynedd. Mynegwyd fod aelodau wedi cael cyfle i ystyried cynnwys y Cynllun, a nodwyd fod ychydig newidiadau wedi eu gwneud yn dilyn adolygiad o’r Cynllun.

 

Tynnwyd sylw at brosiectau sydd wedi eu cwblhau neu wedi trosglwyddo i fod yn rhan o waith dydd i ddydd adrannau a oedd yn cynnwys trawsnewid y gyfundrefn ysgolion, rhiantu corfforaethol a gwireddu arbedion. Ychwanegwyd fod cynlluniau newydd wedi eu hychwanegu o dan Flaenoriaeth Gwella 1 Creu Economi Hyfyw a Ffyniannus - sef Cynllun Hybu Canol Tref yr adran Economi a Chymuned a Chynllun Prentisiaethau. Mynegwyd fod Darpariaeth Ol-16 a Dalgylch Ysgol Treferthyr wedi eu hychwanegu o dan Flaenoriaeth Gwella 2 -  Pob disgybl yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial gan yr adran Addysg.

 

Nodwyd fod rhan cynlluniau wedi newid gan ymhelaethu ar Flaenoriaeth 3, Lleihau Anghydraddoldeb o fewn y Sir, gan ategu fod y cynllun Trechu Tlodi wedi ei addasu bellach. Er mwyn sicrhau fod y pwyslais ar y maes ataliol a’r gefnogaeth a gynnir er mwyn cynnwys pob adran mae’r teitl y cynllun bellach yn Cefnogi Llesiant Pobl. Tynnwyd sylw ar newid mewn teitl ar gyfer Lleihau’r Bwlch Cyflog rhwng Merched a Dynion i Ferched mewn Arweinyddiaeth. Nodwyd fod y gwaith yn parhau ar Dai Addas a Fforddiadwy ac Adnabod a Hyrwyddo Cynlluniau a Mentrau Tai yn parhau ond o dan y teitl newydd Strategaeth Cantrefi i Bobl Gwynedd ym Mlaenoriaeth Gwella 4 sef Mynediad ar Gartref Addas.

 

Mynegwyd fod y cynlluniau i’w gweld yn rhaglenni gwaith y Cyngor, er hyn fod y cynlluniau’n ddibynnol ar adnoddau’r Cyngor, o ganlyniad i’r  wasgfa ariannol sydd ohoni. Ychwanegwyd y bydd y Cynllun yn mynd yn ei blaen i’r Cyngor Llawn ar y 7 Mawrth, yn dilyn y penderfyniad y Cabinet.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Tynnwyd sylw at fan newidiadau i’r adroddiad a nodwyd fod y ddogfen yn un byw a fydd yn cael ei adolygu. Ychwanegwyd fod y dudalen sydd yn dangos uchelgais a blaenoriaethau’r Cyngor yn pwysleisio blaenoriaethau’r Cyngor am y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones

7.

STRATEGAETH GOFALWYR GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 101 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts a Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyried a derbyn y Strategaeth Gofalwyr a sicrhau fod trefniadau addas yn eu lle i fonitro perfformiad y Cyngor yn erbyn y mesurau o fewn y strategaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y Strategaeth Gofalwyr a sicrhau fod trefniadau addas yn eu lle i fonitro perfformiad y Cyngor yn erbyn y mesurau o fewn y strategaeth.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Strategaeth wedi deillio o ganlyniad i hinsawdd Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dilyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ychwanegwyd fod y Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi blaenoriaethu gofalwyr i sicrhau fod y rhanbarth yn daprau’r gofynion ar eu cyfer sydd i’w gweld yn y ddeddf. Mynegwyd fod y strategaeth wedi ei ysgrifennu gan y bartneriaeth ond fod angen i bob awdurdod ei dderbyn yn unigol.

 

Ychwanegwyd fod y strategaeth yn nodi be y dylai gofalwyr ei ddisgwyl fel cefnogaeth, ynghyd a’r gwasanaeth a ddarperir i ofalwyr drwy weithio mewn partneriaethau a gwasanaethau cymdeithasol a iechyd. Ategwyd nad oes dim oblygiadau ariannol i’r strategaeth, ond wrth uchafu gwasanaethau efallai y bydd costau yn codi ond ni fydd yn hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i’r strategaeth.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y maes wedi ei uchafu i fod yn  faes blaenoriaeth yn dilyn yr asesiad poblogaeth. Ategwyd mai hwn yw’r strategaeth gyntaf cyd cynrychiolaeth mor dda o ofalwyr yn rhan o’r broses, a diolchwyd iddynt am eu gwaith er mwyn cynhyrchu’r ddogfen. Mynegwyd fod yr ymgynghori wedi digwydd gyda gofalwyr i bobl hyn neu ar gyfer anableddau, ond fod angen sicrhau fod lleisiau gofalwyr ifanc yn cael ei glywed yn ogystal ag bod gwaith angen ei wneud i sicrhau hyn. Nodwyd y bydd rhwystrau yn codi ar hyd y daith, ond fod y strategaeth yn rhoi gofalwyr yn ganolog i beth mae’r holl wasanaethau yn ei gynnig ac y bydd mwy o waith ataliol yn cael ei wneud i gynllunio cyn i argyfyngau godi. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd sut y bydd y strategaeth yn cael ei weithredu, nodwyd y bydd dim llawer o newid i’r gwasanaeth sydd ar gael ond y bydd angen meddwl ymhellach i mewn sut y bydd tystiolaeth yn cael ei gasglu fel bod y mesuriadau perfformiad yn cyd-fynd a’r strategaeth. Ychwanegwyd y bydd angen gweithio yn agos gyda’r Maes Iechyd gan fod llawer o ofalwyr yn cael eu hadnabod yno.

-        Croesawyd y strategaeth gan nodi fod yn arbennig o dda fod pawb yn ymrwymo i’r un safonau.

-        Trafodwyd mesur y perfformiad gan nodi y bydd y mesurau yn cyd-fynd a meddylfryd Ffordd Gwynedd a bydd yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd herio perfformiad yn yr adran Blant a Chefnogi Teuluoedd, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn yr Adran Addysg.

 

Awdur: Morwena Edwards

8.

CYLLIDEB 2019/20 pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)   Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2019) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £248,013,890 ar gyfer 2019/20 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £176,551,790 a £71,462,100 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.8%.

 

2.    Ychwanegu £18,316,130 at y rhaglen gyfalaf i’w wario yn 2019/20 er mwyn sefydlu rhaglen gyfalaf gwerth £34,991,250 erbyn 2019/20 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

(b)   Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3 oni bai am 8 cynllun sef:

-        Cynllun 4.4 – Parcio am ddim dros y Nadolig

-        Cynllun 4.19 - Codi ffi am finiau wedi’u difrodi

-        Cynllun 6.2 – Gwasanaeth Llyfrgelloedd i Ysgolion

-        Cynllun 6.11 - Lleihau’r Llyfrgell Deithiol

-        Cynllun 6.16 – Grantiau i’r Celfyddydau

-        Cynllun 6.17 – Cronfa Llyfrau’r Llyfrgelloedd

-        Cynllun 6.22 – Cymorth i Ferched

-        Cynllun 6.25 - Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

         er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

(c)   Nodi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

(a)   Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2019) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £248,013,890 ar gyfer 2019/20 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £176,551,790 a £71,462,100 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.8%.

 

2.    Ychwanegu £18,316,130 at y rhaglen gyfalaf i’w wario yn 2019/20 er mwyn sefydlu rhaglen gyfalaf gwerth £34,991,250 erbyn 2019/20 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

(b)   Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3 oni bai am 8 cynllun sef:

-        Cynllun 4.4 – Parcio am ddim dros y Nadolig

-        Cynllun 4.19 - Codi ffi am finiau wedi’u difrodi

-        Cynllun 6.2 – Gwasanaeth Llyfrgelloedd i Ysgolion

-        Cynllun 6.11 - Lleihau’r Llyfrgell Deithiol

-        Cynllun 6.16 – Grantiau i’r Celfyddydau

-        Cynllun 6.17 – Cronfa Llyfrau’r Llyfrgelloedd

-        Cynllun 6.22 – Cymorth i Ferched

-        Cynllun 6.25 - Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

         er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

(c)   Nodi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cyd-destun y gyllideb yw’r setliad ddifrifol sâl mae’r holl awdurdodau wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth, ychwanegwyd fod polisi llymder Llywodraeth Prydain yn parhau ac mae sicrhau rheolaeth dynn a chynllunio ariannol gofalus yn gwbl angenrheidiol i sicrhau gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Mynegwyd ei bod yn mynd yn fwy anodd cyflwyno mantolen cyllideb yn flynyddol, ac ychwanegwyd nad oes balchder mewn cyllideb sydd yn gorfodi arbedion ac yn codi’r Dreth Cyngor. Ond ychwanegwyd fod balchder mewn cael un o’r trefniadau cyllidebol gorau yng Nghymru gan fod hynny yn sicrhau fod effaith hyn oll ar drigolion Gwynedd yn cael ei gadw i’r lleiafswm. Mynegwyd mai dau brif incwm sydd gan y Cyngor sef Grant Llywodraeth Cymru a'r Dreth Cyngor. Mynegwyd fod £13miliwn o fwlch ariannol, a bydd angen dwy elfen i lenwi’r bwlch sef cynnydd yn y Dreth Cyngor ac arbedion. Mynegwyd fod yr arbedion wedi'u craffu ac wedi cael ystyriaeth drylwyr gan yr aelodau drwy gyfres o weithdai a gan y cyhoedd drwy ymgynghoriad.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ar y rhesymau dros y blwch ariannol o £13miliwn. Mynegwyd nad yw’r cynnydd grant gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol ddim yn ddigonol i gwrdd â chynnydd mewn chwyddiant o £7.5m a galw anorfod ar wasanaethau o £4m. Manylwyd ar y bidiau, sydd i’w gweld yn Atodiad 2, sydd â gwerth cyfanswm o £2.5m, gan nodi fod trafodaeth wedi ei gynnal ar y bidiau yma, ble mae’r aelodau’n cytuno fod y gwariant yn anorfod.

Trafodwyd yr arbedion gan nodi y bydd angen i’r Cabinet benderfynu os am weithredu’r holl gynlluniau arbedion arfaethedig sydd yn atodiad 3. Manylwyd ar ffigyrau’r arbedion i ddygymod a’r bwlch ariannu gan nodi fod £2.48m o arbedion eisoes wedi’u cymeradwyo, fod £2.45m o arbedion arfaethedig, £0.5m o arbedion effeithlonrwydd pellach, sydd yn dod a chyfanswm o £5.4m o arbedion i leihau’r bwlch.  Mynegwyd fod gofynion gwario’r Cyngor ar gyfer 2019/20 yn £253.2m, ac wedi tynnu Grant Llywodraeth Cymru a’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd L Edwards

9.

CYNLLUN ASEDAU CORFFORAETHOL 2019-29 pdf eicon PDF 147 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Er mwyn osgoi ôl groniad cynnal a chadw pellach yn ein hadeiladau, ein bod yn trosglwyddo’r gyllideb o £1.1m a roddwyd o’r neilltu ar gyfer ariannu benthyciadau yn y cynllun asedau blaenorol i atgyfnerthu’r gyllideb refeniw cynnal a chadw adeiladau

 

b)    Bod y cabinet yn derbyn yr argymhellion a wneir yng nghymalau 28; 30; 32; 35; 40; 43 a 44 o’r adroddiad

 

c)    Mabwysiadu’r Cynllun Asedau (atodiad 1 o’r adroddiad) sy’n ymgorffori’r holl ganlyniadau a nodi’r uchod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Er mwyn osgoi ôl groniad cynnal a chadw pellach yn ein hadeiladau, ein bod yn trosglwyddo’r gyllideb o £1.1m a roddwyd o’r neilltu ar gyfer ariannu benthyciadau yn y cynllun asedau blaenorol i atgyfnerthu’r gyllideb refeniw cynnal a chadw adeiladau

 

b)    Bod y cabinet yn derbyn yr argymhellion a wneir yng nghymalau 28; 30; 32; 35; 40; 43 a 44 o’r adroddiad

 

c)    Mabwysiadu’r Cynllun Asedau (atodiad 1 o’r adroddiad) sy’n ymgorffori’r holl ganlyniadau a nodi’r uchod..

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cynllun Asedau presennol wedi dod i ddiwedd ei oes, ac ychwanegwyd fod angen datblygu un newydd ar gyfer cyfnod 2019/20-2029. Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal ar adrannau er mwyn cael nodi beth fydd eu hanghenion tebygol dros y 10 mlynedd nesaf. Ychwanegwyd fod nifer o’r cynlluniau yn ymwneud a gwaith ataliol ac yn edrych i’r hirdymor yn unol â darpariaethau’r ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ychwanegwyd, yn dilyn y trafodaethau yma, fod yr aelodau wedi blaenoriaethu’r cynlluniau sydd yn rhan o’r cynllun.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, fod yr adroddiad yn amlinellu'r camau a gymerwyd er mwyn creu'r Cynllun Asedau. Mynegwyd fod y cynllun asedau yn cyd-fynd a chynlluniau’r Cyngor. Nodwyd fod nifer o gynlluniau yn cynrychioli risgiau coch Iechyd a Diogelwch, ac o ganlyniad ac yn wyneb risg sylweddol i fywyd ac i’r Cyngor, bydd angen dyrchafu'r rhain sydd yn cynnwys Canolfan Hamdden / Tenis Arfon, Parc Padarn a Chanolfan Hamdden Plas Silyn i’r rhestr y bwriedir eu cyflawni. Tynnwyd sylw hefyd at gynlluniau sydd yn cael eu hadnabod yn y categori risg oren, unai o ganlyniad goblygiadau yn eithriadol o ddifrifol, materion cydraddoldeb neu ei fod yn golygu na fyddai modd i’r Cyngor wireddu ei amcanion llesiant. Byddai’n fuddiol i’r Cyngor geisio dod a’r cynlluniau yma i mewn i’r rhaglen yn ogystal.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn argymell symud cynlluniau 28 a 31, sef Darparu Grantiau er mwyn cyllido Cynllun Tai Gwag y Cyngor ac Ariannu Pedwerydd Cynllun Tai Gofal Estynedig, i’w hystyried i gael eu hariannu fel rhan o’r blaenoriaethu ar gyfer y Strategaeth Tai.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd siom nad oes modd i’r Cyngor wneud pob cynllun. Holwyd os bydd ail flaenoriaethu yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd. Nodwyd fod y cynllun blaenorol wedi ei adolygu dwywaith yn ystod y cyfnod a bydd cyfle i ail ystyried ac ail flaenoriaethu wrth i ni symud ymlaen gyda’r Cynllun yma.

 

Awdur: Dilwyn Williams

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym maragraff 14 ac 16 o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu.

 

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at amodau masnachol sensitif sy’n destun negodi ar hyn bryd gyda cwmni Byw’n Iach Cyf a’i gyfreithwyr. Gall cyhoeddi’r adroddiad ac ystyriaethau’r Cabinet yn llawn danseilio gallu’r Cyngor i sicrhau’r amodau gorau ar gyfer gwarchod ei ddiddordebau. Mae hefyd yn ymwneud a chyngor cyfreithiol ar y cytundeb a’r amodau a gynigir o safbwynt y cwmni a materion trethiant.

 

Ymhellach, gall rhyddhau’r crynodeb o amodau arfaethedig ganiatáu i gyflenwyr annibynnol o’r Cyngor ddod i gasgliadau ynglŷn pherfformiad ariannol a gall hynny yn ei dro danseilio unrhyw drefniadau caffael yn y dyfodol fyddai’n gadael y Cyngor yn agored i risg ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 ac 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu.

 

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at amodau masnachol sensitif sy’n destun negodi ar hyn bryd gyda chwmni Byw’n Iach Cyf a’i gyfreithwyr. Gall cyhoeddi’r adroddiad ac ystyriaethau’r Cabinet yn llawn danseilio gallu’r Cyngor i sicrhau’r amodau gorau ar gyfer gwarchod ei ddiddordebau. Mae hefyd yn ymwneud a chyngor cyfreithiol ar y cytundeb a’r amodau a gynigir o safbwynt y cwmni a materion trethiant.

 

Ymhellach, gall rhyddhau’r crynodeb o amodau arfaethedig ganiatáu i gyflenwyr annibynnol o’r Cyngor ddod i gasgliadau ynglŷn pherfformiad ariannol a gall hynny yn ei dro danseilio unrhyw drefniadau caffael yn y dyfodol fyddai’n gadael y Cyngor yn agored i risg ariannol.

 

 

11.

CONTRACT CWMNI BYW'N IACH CYF

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)    Derbyn yr adroddiad a chadarnhau fod y cabinet yn fodlon fod y trosglwyddiad arfaethedig yn parhau i gyfarch yr Achos Busnes a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 5ed Hydref 2017

 

2)    Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid:

 

     I.        I gwblhau’r dogfennau cytundebol, Prydlesi ac unrhyw ddogfennaeth gyfochrog neu wasanaethol sydd yn angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo’r  Gwasanaeth

    II.        I gytuno neu wneud unrhyw addasiadau pellach sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r trosglwyddiad o fewn yr Achos Busnes

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

1)    Derbyn yr adroddiad a chadarnhau fod y cabinet yn fodlon fod y trosglwyddiad arfaethedig yn parhau i gyfarch yr Achos Busnes a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 5ed Hydref 2017

 

2)    Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid:

 

i)     I gwblhau’r dogfennau cytundebol, Prydlesi ac unrhyw ddogfennaeth gyfochrog neu wasanaethol sydd yn angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo’r  Gwasanaeth

ii)    I gytuno neu wneud unrhyw addasiadau pellach sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r trosglwyddiad o fewn yr Achos Busnes

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd yn Hydref 2017, bu i’r Cabinet a'r Cyngor Llawn gymeradwyo’r Achos Busnes dros sefydlu Cwmni, cyfyngedig drwy warrant, wedi ei reoli gan y Cyngor, i ddarparu cyfleusterau hamdden yng Ngwynedd. Mynegwyd bellach fod Cwmni Byw’n Iach Cyf, wedi ei sefydlu gyda 6 o Gyfarwyddwr Cwmni.  Ategwyd fod ffrydiau gwaith o sefydlu a throsi’r gwasanaeth i weithredu fel cwmni yn dirwyn i ben a’r bwriad yw trosglwyddo’r gwasanaeth i gyfrifoldeb y cwmni o’r 1af Ebrill 2019.

 

Ychwanegwyd fod gwaith o baratoi’r ar gyfer y trosglwyddiad wedi bod ar waith ers rhai misoedd, ac mae’r ddogfennaeth yn cael ei greu. Er mwyn symud ymlaen a’r trosglwyddiad mae angen cadarnhau fod yr Achos Busnes yn parhau yn gyfredol a bod y Cabinet yn fodlon symud ymlaen a’r trosglwyddiad. Mynegwyd pan fydd y trosglwyddiad ar 1af Ebrill, na fydd newid yn syth i aelodau o’r Ganolfan a ni fydd datblygiadau i’w gweld tan yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd beth fydd y berthynas rhwng y Cyngor a Chwmni Byw’n Iach gan nodi ei fod yn berthynas dwy ffordd a bydd trafodaethau cyson yn cael eu cynnal.

-        Holwyd am gytundebau lefel gwasanaeth yn dilyn trosglwyddo’r gwasanaeth i’r Cwmni newydd, a nodwyd y bydd modd trafod a bod yn hyblyg.

-        Diolchwyd i staff am eu gwaith caled.

 

 

 

Awdur: Sioned Williams