skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Nia Jeffreys, gan fod ei gwr yn gweithio fel Swyddog Tân rhan amser, nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

ADRODDIAD YMATEB CYNGOR GWYNEDD I'R PAPUR GWYN: YMGYNGHORIAD AR DDIWYGIAD TREFNIADAU LLYWODRAETHU A CHYLLIDO AWDURDODAU TAN AC ACHUB CYMRU pdf eicon PDF 89 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynodd y Cabinet i ganiatáu swyddogion i ffurfio ymateb terfynol i’r ymgynghoriad uchod yn seiliedig ar yr ymateb drafft sydd wedi ei baratoi ar ran y Cyngor i’r Ymgynghoriad ar ddiwygio trefniadau llywodraeth a chyllido Awdurdodau Tan ac Achub Cymru a gyflwynwyd yn Atodiad 1, gan addasu i newid y cyfeiriad at y “Gogledd Cymru” i gyfeirio at “y Gogledd” ac i nodi pe na fyddai’r trefniadau cyllido yn newid i drefniadau praesept yn dilyn yr ymgynghoriad, y byddai angen ystyriaeth bellach i aelodaeth yr Awdurdod Tan ac Achub er mwyn sicrhau fod gan y Cynghorau lais uniongyrchol yn y penderfyniadau cyllidol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynodd y Cabinet i ganiatáu swyddogion i ffurfio ymateb terfynol i’r ymgynghoriad uchod yn seiliedig ar yr ymateb drafft sydd wedi ei baratoi ar ran y Cyngor i’r Ymgynghoriad ar ddiwygio trefniadau llywodraeth a chyllido Awdurdodau Tan ac Achub Cymru a gyflwynwyd yn Atodiad 1, gan addasu i newid y cyfeiriad at y “Gogledd Cymru” i gyfeirio at “y Gogledd” ac i nodi pe na fyddai’r trefniadau cyllido yn newid i drefniadau praesept yn dilyn yr ymgynghoriad, y byddai angen ystyriaeth bellach i aelodaeth yr Awdurdod Tan ac Achub er mwyn sicrhau fod gan y Cynghorau lais uniongyrchol yn y penderfyniadau cyllidol.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlinellu ymatebiad Cyngor Gwynedd i’r ymgynghoriad ar ddiwygio trefniadau llywodraethu a chyllido Awdurdodau Tan ac Achub Cymru. Mynegwyd y drefn ar hyn o bryd a nodwyd fod 5 aelod etholedig yn aelodau o’r Awdurdod Tan. Nodwyd fod yr ymatebiad y Cyngor yn cefnogi parhau i gadw'r Awdurdodau unigol fel y maent ac i beidio greu un Awdurdod ar gyfer Cymru gyfan. Ategwyd fod angen Awdurdod sydd yn adnabod ac yn gweithredu yn lleol i’r Gogledd.

 

Nodwyd fod awgrym i’r Awdurdodau Tan ac Achub gael eu roi o dan Gomisiynydd yr Heddlu, esboniwyd nad oedd yr ymateb yn cytuno a hyn a bod angen sicrhau aelodaeth y Cyngor ar yr Awdurdod er mwyn sicrhau llais Cyngor Gwynedd. Ategwyd y byddai modd cael trafodaeth bellach ar efallai lleihau'r niferoedd o aelodau etholedig.

 

Nodwyd mai’r elfen bwysicaf yn yr ymgynghoriad yw’r elfen gyllidol gan ei fod yn drafodaeth sydd yn codi’n flynyddol. Mynegwyd fod cyfraniad y cyhoedd i’r Awdurdod Tan ac Achub yn cael ei nodi o dan cyfraniad at Cyngor Gwynedd ar y bil Treth Cyngor. Esboniwyd y byddai yn syniad i godi praesept fel mae’r Heddlu yn ei wneud, sydd yn sicrhau atebolrwydd i’r Cyngor yn ogystal. Ychwanegwyd os bydd praesept yn cael ei godi angen eglurdeb a chytundeb dros Gymru gyfan.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Tynnwyd sylw at addasiadau ieithyddol gan nodi fod agen newid y cyfeiriad at y “Gogledd Cymru” i gyfeirio at “y Gogledd”.

-        Holwyd os arian ar gyfer yr Awdurdod Tan ac Achub yn dod drwy’r cynghorau holwyd pan nad oes Cydbwyllgor fel ar gyfer meysydd eraill fel Addysg. Esboniwyd for yr Awdurdod Tan ac Achub yn Awdurdod Cyhoeddus ar ben ei hun, ac ar hyn o bryd yn cael rhan o arian drwy’r Cyngor ac o ganlyniad fod aelodau etholedig yn rhan o’r Awdurdod. Nodwyd os byddai’r drefn cyllidol presennol yn parhau yn dilyn yr ymgynghoriad y bydd angen ystyriaeth bellach i aelodaeth yr Awdurdod Tan ac Achub er mwyn sicrhau llais Cyngor Gwynedd wrth drafod elfennau cyllidol.

-        Nodwyd pwysigrwydd mai'r Cyngor sydd yn dewis yr aelodau i fod yn rhan o’r Awdurdod.

Awdur: Vera Jones

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 97 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran wedi bod yn cymryd camau er mwyn ailgyflwyno ac ail edrych ar sut maent yn cynnig gwasanaethau i drigolion Gwynedd. Ychwanegwyd fod yr adran wedi bod yn arloesol ac yn weithgar a'u bod parhau i ddatblygu er mwyn cyrraedd pen y daith. Ategwyd mai yn y dyfodol mai gwaith ataliol fydd yn cael blaenoriaeth er mwyn cyrraedd dyheadau pobl ac i wneud ymyrraeth fuan.

 

Mynegwyd fod gwaith ataliol yn cyfarch y problemau cyllidol yr adran. Nodwyd fod yr adran wedi derbyn arian ar gyfer prosiectau dros dro gan y Llywodraeth, ond yn aml fod y buddion yn rhai tymor hir a bod disgwyliad i’r prosiectau barhau yn dilyn y grant drwy’r gyllideb graidd. Mynegwyd fod hyn ddim bob amser yn bosibl.

 

Pwysleisiwyd mai prif her yr adran yw bod trigolion yn byw yn hyn a niferoedd uwch a’r cyflwr dementia. Ychwanegwyd fod gwaith wedi ei wneud i gyfarch yr heriau mewn rhai ardaloedd ac yn benodol ar ddarparu cefnogaeth dementia o safon uchel. Mynegwyd pwysigrwydd sicrhau’r gofal yma ym mhob ardal yng Ngwynedd er mwyn sicrhau fod cefnogaeth ar gael yn agos i gartrefi'r unigolion. Ychwanegwyd fod y gwaith yma ar y cyd a’r Maes Iechyd, a'u bod yn gweithio fel un gwasanaeth i gefnogi anghenion yr unigolyn.

 

Nodwyd fod niferoedd unigolion sydd methu eu rhyddhau yn amserol o’r ysbyty oherwydd rhesymau cymdeithasol wedi lleihau dros y tri mis diwethaf. Nodwyd mai cydweithio a datblygiad y timau adnoddau cymunedol yw’r rheswm dros hyn. Ynghyd a datblygu cynlluniau gofal cartref yn ardal Tywyn a Pwllheli. Ychwanegwyd fod Hafod y Gest, sydd yn dai gofal ychwanegol ym Mhorthmadog, bellach wedi agor.  Mynegwyd fod cynllun y prosiect ‘Pontio’r Cenadaethau’ yn carlamu yn ei blaen. Cynllun sydd yn dod a phlant, pobl ifanc a phobl hyn at ei gilydd yw hon. Ategwyd fod yr unigolion sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau.

 

Tynnwyd sylw at un her fawr sydd i’w gweld ar draws y Gogledd y diffyg nifer o seiciatryddion, yn benodol ym Meirionydd ac Arfon. Mynegwyd fod wedi ei uchafu i’r Bwrdd Iechyd am drafodaeth bellach.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os oes modd cyfuno dau brosiect - Hafod y Gest, Porthmadog a Pontio y Cenedlaethau,  gan fod Ysgol Eifion Wyn mor agos i adeilad Hafon y Gest. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal a Grŵp Cynefin am y mater, ac ychwanegwyd fod lleoliad Hafod y Gest yn Hwb sydd ar gael i’r gymuned gyfan. Ychwanegwyd fod modd i’r unigolion a fydd yn aros yno hefyd barhau i fynychu gweithgareddau o fewn y gymuned yn y llyfrgell a’r ganolfan hamdden gan fod yr adeilad mor ganolog.

-        Tafodwyd os byddai modd defnyddio pobl ifanc yn eu harddegau yn ogystal ar gyfer y cynllun Pontio’r Cenedlaethau’ ac nid plant ifanc yn unig.

Tynnwyd sylw ar y Bwrdd Iechyd yn ail asesu holl gynlluniau’r Cyngor Iechyd Cymunedol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Morwena Edwards

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 256 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ond yn wyneb y gorwariant sylweddol a adroddwyd yn ystod yr adolygiad cyllidol diwethaf, gofyn i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn â hwy.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ond yn wyneb y gorwariant sylweddol a adroddwyd yn ystod yr adolygiad cyllidol diwethaf, gofyn i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn â hwy.

 

TRAFODAETH

 

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd yn amlinellu'r diweddaraf am yr adran, a diolchwyd i’r aelodau craffu a oedd yn rhan o’r cyfarfod herio perfformiad am eu cyfraniad. Mynegwyd fod yr Aelod Cabinet, ar y cyfan, yn hapus a pherfformiad yr adran, ond fod ambell i lithriad ond nid yw un o’r llithriadau yn achos pryder o ran diogelwch o fewn yr adran.

 

Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r adran gan nodi fod y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd yn datblygu gwasanaethau mwy integredig o fewn y Cyngor a gyda phartneriaid. Mynegwyd fod gwaith mapio yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Ychwanegwyd fod y gwaith o ddatblygu’r strategaeth a’r cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i uno eu grantiau atalion wedi rhoi cyfle i’r adran adelwyrchu ar eu cyfeiriad. Ategwyd ei bod yn gyfnod cyfores iawn. Mynegwyd bellach fod gan y Cyngor Fwrdd Cefnogi Llesiant, a fydd yn hybu gweithio yn drawsadrannol ar gyfer lles trigolion Gwynedd.  Tynnwyd sylw yn ogystal at Strategaeth Rhiantu Corfforaethol, gan nodi fod grwpiau tasg wedi eu sefydlu i geisio adnabod lle sydd angen ei wella ac i adnabod ymarfer da. Mynegwyd fod y gwaith yn un uchelgeisiol iawn.

 

Tynnwyd sylw at adolygiad ‘Dechrau I’r Diwedd’ sydd yn gynllun arbedion sydd wedi bod yn waith ar y cyd rhwng yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd, Cyllid a’r Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth. Nodwyd fod yr adolygiad yn nodi cynnydd yn y nifer o blant mewn gofal fesul categori. Ategwyd fod lleihad yn y nifer o blant ag anableddau Dysgu / anghenion dwys ond fod cynnydd yn y nifer o fewn categorïau eraill.  Ychwanegwyd fod gwaith yn parhau i edrych ar y sefyllfa.

 

Mynegwyd fod y wybodaeth yn yr adolygiad yn amlygu fod achosion bellach yn anodd ei ragweld. Ategwyd ei bod yn anodd rhoi cyllideb bendant gan fod angen bod yn ofalus ac ymateb i achosion mor effeithiol â phosib. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i geisio gwella’r sefyllfa ariannol. Pwysleisiwyd fod yr adran yn ceisio bod yn gyfrifol a chyfrannu at y cyllidebau arbedion. Mynegwyd fod cost lleoliadau preswyl  yn uchel ac felly mae’r lefel gorwariant yn llawer yn uwch, mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal yn rhanbarthol er mwyn edrych ar gost.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod gorwariant o fewn yr Adran Blant yn broblem genedlaethol ond mynegwyd fod pryderon yn codi am nad oes unrhyw oleuni ariannol. Holwyd beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud am y gorwariant cenedlaethol yn y maes. Mynegwyd fod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol newydd yn dymuno cael deialog agored ac i wella’r berthynas  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Morwena Edwards

8.

ADRODDIAD AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at rai prosiectau yn y Cynllun Strategol. Nodwyd fod Egwyddorion Addysg bellach wedi eu mabwysiadau gan y Cabinet a byddant yn cael eu hystyried wrth ymateb i unrhyw gyfleoedd i’r dyfodol. Mynegwyd fod yr adran yn edrych ymlaen at gyd-weithio a GwE er mwyn trefnu hyfforddiant perthnasol ar gyfer cryfhau Arweinyddiaeth o fewn ysgolion.

 

Mynegwyd wrth edrych ar raglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain fod y mwyafrif ohonno i’w gweld, ar hyn o bryd, yn Nalgylch Bangor. Nodwyd fod gwaith adeiladu wedi cychwyn ar Ysgol y Garnedd a thrafodaethau yn parhau gyda chynlluniau Ysgol y Faenol. Wrth edrych ar Ddalgylch y Bala, mynegwyd fod Pennaeth bellach wedi ei phenodi ac y bydd yn mynd ati i benodi’r staff. Mynegwyd fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel gofod cymdeithasol a bod y noswaith wedi bod yn llwyddiannus.

 

Nodwyd fod gwaith o Drawsnewid y Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn mynd rhagddi. Ategwyd fod gwedd 1 o’r gwaith trawsnewid wedi ei gwblhau ond fod angen mwy o sylw ar gyfer Gwedd 2 sydd yn ymwneud a’r ddeddf newydd a phriodoli a chreu trefniadau newydd i brosesau gwaith ar draws yr ysgolion.

 

Mynegwyd nad oes modd cymharu canlyniadau eleni cymaint â’r blynyddoedd sydd wedi mynd heibio o ganlyniad i’r addasiadau i’r polisi cenedlaethol. Trafodwyd fod canlyniad TGAU Saesneg wedi gostwng eleni o ganlyniad i gynnydd sylweddol yn ffiniau’r graddau. Mynegwyd fod Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi adolygiad hynod dechnegol i gyfiawnhau eu prosesau, ategwyd fod y swyddogion a’r Aelod Cabinet o’r farn nad yw’r cyfiawnhad yn ddigonol. Esboniwyd fod trafodaethau yn parhau.

 

Trafodwyd y sefyllfa ariannol gan dynnu sylw at Orwariant Cludiant. Mynegwyd y prif resymau a oedd yn cynnwys

-        £149,000 o ganlyniad i gytundebau newydd yn sgil agos Ysgol Hafod Lon

-        £125,000 o ganlyniad i gytundebau newydd yn y maes cludiant

-        £73,000 o ganlyniad i gynnydd yn unedau ABC Dolgellau a Cymerau gan fod dwy uned ar agor 4 diwrnod yr wythnos, tra bod y ddarpariaeth flaenorol ar agor 5 diwrnod yr wythnos.

-        £69,000 o ganlyniad effaith ail dendro dros yr haf

-        £69,000 o ganlyniad i gytundeb newydd prif lif.

Ychwanegwyd nad oes un plentyn yn cael ei gludo heb yr hawl angenrheidiol. Mynegwyd for yr adran yn gweithio gyda’r Adran Amgylchedd a bydd adroddiad pellach i’r Cabinet yn dilyn.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd y gorwariant yn y gwasanaeth cludiant gan nodi fod nifer o resymau dros y gorwariant. Nodwyd mai beth sydd yn cael ei amlygu yw fod angen edrych ar y broses ac i ddysgu gwersi cyn symud ymlaen. 

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

9.

ADRODDIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN pdf eicon PDF 157 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud gwaith da a chyffroes. Tynnwyd sylw at y gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd gan nodi fod 2,422 o blant wedi cymryd rhan yn Sialens Darllen Haf, a bod 46,851 o lyfrau plant wedi eu darllen dros gyfnod y sialens. Ychwanegwyd fod dros 1,000 o blant wedi mynychu gweithgareddau Hwyl Haf i Blant.

 

Mynegwyd fod strwythur newydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn ei le a bod y sefyllfa bellach yn llawer gwell ac yn bositif. Nodwyd fod y canlyniadau yn galonogol gyda 1,107 o bobl ifanc wedi derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth, gydag amrywiaeth o weithgareddau wedi ei gynnal. Pwysleisiwyd fod y strwythur newydd yn gweithio ac wedi llwyddo, ac mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i gydweithio gyda Chynghorau Cymuned. Tynnwyd sylw at ardal dyffryn Nantlle, gan nodi fod darpariaeth dda wedi ei greu o dan arweiniad yr ieuenctid.

 

Ychwanegwyd fod Cynllun Llysgenhadon Ifanc Gwynedd yn parhau i fod yn llwyddiannus gyda 255 o Lysgenhadon yn rhoi oriau o amser i wirfoddoli’r cynllun. Nodwyd fod 8 o’r Llysgenhadon wedi bod yng Nghaerdydd i’r Gynhadledd Genedlaethol, a bu i’r aelod o staff Hannah Hughes, ennill gwobr Swyddog Llysgenhadon Ifanc y Flwyddyn.

 

Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud ar Strategaeth Tai'r Cyngor, a fydd yn dangos y ffordd i’r gwasanaeth am y 5 mlynedd. Ychwanegwyd fod y strategaeth yn un arloesol. Adroddwyd fod cynnydd yn y galw ar y gwasanaeth digartrefedd, ond fod gwaith yn cael ei wneud i’w leihau. Ychwanegwyd fod Swyddog Ail Sefydlu wedi ei bennod a fydd yn bwynt cyswllt sydd yn darparu gwasanaeth i’r unigolion sydd angen Cymorth.

 

Mynegwyd ar gyfer y dyfodol y bydd y maes yn defnyddio'r drefn craffu yn fwy effeithiol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod llawer o gyfleoedd wedi bod i ieuenctid yn dilyn ail strwythuro'r Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod y dystiolaeth yn dangos fod cyfleoedd i bobl ifanc a'i fod yn wasanaeth hyblyg.

-        Nodwyd ers bod y cyfrannau bodlonrwydd cwsmer yn uchel nodwyd fod y nifer o ddiwrnodau calendr ar gymerwyd i roi grant cyfleusterau anabl yn parhau i fod yn uchel. Nodwyd fod hyn oherwydd fod ystod eang o ddatrysiadau eu hangen. Mynegwyd ar gyfer rhai achosion fod angen cais cynllunio i addasu tai ac eraill dim ond addasiadau o fewn y tŷ. Nodwyd yn sicr fod angen gweithio yn agos ar adran gynllunio a lleihau'r nifer dyddiau.  Esboniwyd fod yr unigolion sydd yn derbyn addasiadau yn deallt pam yr oedi ac mae eglurhad clir yn cael ei gynnig ar hyd y daith.

Awdur: Morwena Edwards ac Iwan Trefor Jones