Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 RHAGFYR pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 18 o Ragfyr fel rhai cywir

 

6.

CYNLLUN GWYNEDD 2018-2023 - ADNODD I'R CYNLLUN 'CYNYDDU BUDD DIGWYDDIADAU MAWRION' pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Ymrwymo £50,000 O Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20 er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’.

 

  1. Adolygu cynnydd y weithgaredd ar ymrwymiadau pellach i gefnogi gweddill y Cynllun cyn diwedd 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

  1. Ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20 er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’.

 

  1. Adolygu cynnydd y weithgaredd ar ymrwymiadau pellach i gefnogi gweddill y Cynllun cyn diwedd 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod digwyddiadau mawrion yn hynod bwysig nid yn unig i economi Gwynedd ond er mwyn sicrhau fod Gwynedd yn le da i fyw ar gyfer trigolion y sir. Ategwyd fod y buddsoddiad wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac nad oedd yr arian yma yn mynd tuag at ariannu swydd Rheolwr Digwyddiadau ond yn hytrach am arian fydd ar gael ar gyfer digwyddiadau. Nodwyd mai cyfraniad bychan sydd yn cael eu cynnig i drefnwyr digwyddiadau drwy’r gronfa. Ymhelaethwyd gan nodi fod dylanwad ac effeithiau yn sgil buddsoddiad y Cyngor yn sicrhau cyfleoedd i fusnesau lleol fanteisio ar gytundebau, creu cyfleoedd i bobl ifanc a chymunedau gyfrannu a bod lle canolog i iaith a diwylliant Gwynedd.

 

Nodwyd fod buddsoddiad o £51,750 o arian gan y Cyngor y llynedd gan ategu fod yr arian wedi denu £217,000 o arian gan Lywodraeth Cymru i ddigwyddiadau ac roedd cyfanswm y gyllideb dros £4.6m. Mynegwyd fod hyn yn dangos fod gwerth yn y buddsoddiad yma.

 

Tynnwyd sylw at uchafbwyntiau 2018-19 o ran digwyddiadau gan nodi fod Bwrlwm Bermo wedi denu 1,000 o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiad allan o dymor ym mis Hydref. Soniwyd am ddigwyddiad Red Bull gan nodi eu bod wedi cytuno i ddefnyddio Plas Tan  y Bwlch fel llety ar gyfer Red Bull Hardline. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr ar gyfer Diwylliant a Chymunedau pwysigrwydd y dylanwad mae’r Cyngor yn ei gael wrth fuddsoddi mewn digwyddiad gan nodi fod dylanwad o ran iaith, cyfleodd i ddefnyddio cwmnïau lleol ac i sicrhau'r deilliannau gorau ar gyfer y Cyngor a'i thrigolion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd sut mae’r Cyngor yn monitro a gwerthuso digwyddiadau , nid yn unig y rhai sydd yn derbyn buddsoddiad ond y rhai nad ydynt yn ei dderbyn yn ogystal. Mynegwyd fod yr atodiadau i’r adroddiad yn dangos y llwyddiant economaidd, ac efallai fod angen ehangu ar y monitro yn benodol wrth edrych ar iaith, nifer yr unigolion yn gwirfoddoli ac effaith diwylliannol. Gofynnwyd i’r adran wneud hyn ac i adrodd yn ôl ar y rhain y flwyddyn nesaf

Awdur: Roland Evans

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fod yr Aelod Cabinet, ar y cyfan yn hapus a pherfformiad yr adran Amgylchedd. Ategodd fod yr amser mae hi yn cymryd i benderfynu a’r cais cynllunio wedi bod yn ansefydlog ar ddechrau eleni, ychwanegodd fod effaith y Cynllun Dirprwyo newydd yn dechrau ymddangos yw hyn ac y bydd yn sefydlogi gan ei fod yn cael ei fonitro drwy gofnodi ar wahân gan y bydd y niferoedd y ceisiadau fydd angen mynd i bwyllgor yn lleihau.

 

Tynnwyd sylw ar Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd gan nodi fod y gwasanaeth yn parhau i fod y tu ôl o ran arolygiadau Hylendid Bwyd a Safonau Bwyd. Ychwanegwyd fod swyddogion ychwanegol bellach wedi eu penodi, ac mae’r gwasanaeth wedi mabwysiadau trefniadau mwy effeithlon drwy gynnal archwiliadau hylendid a safonau bwyd yn yr un ymweliad ble mae hyn yn bosib.

 

Mynegwyd fod perfformiad cyfartaledd y dyddiadau a gymerir i benderfynu cais trwydded tacsi wedi gwella o’i gymharu â’r adroddiad diwethaf. Nodwyd fod cyfartaledd prosesu trwyddedau gyrwyr wedi gostwng yn ogystal. Ychwanegwyd wrth herio perfformiad y gwasanaeth nodwyd fod trwydded ar gyfer cwmnïau a cherbydau tacsis yn cael eu prosesu yn gyflym iawn ac o fewn 2 ddiwrnod ar gyfartaledd, ond fod nifer cynnydd yn y nifer o drwyddedau ar gyfer gyrwyr. Nodwyd fod y drefn o wneud gwiriad DBS yn gallu bod yn araf a bod y drefn o drefnu gwrandawiadau o flaen Is-bwyllgor Trwyddedu yn gallu ychwanegu oediad i’r broses.

 

Nodwyd fod Canran adeiladau gyda system diogelwch cyflawn wedi dirywio yn sylweddol o 91% i 73%. Esboniwyd fod aelod staff wedi bod yn absennol oherwydd salwch, ac nad oedd aelod arall staff gyda’r arbenigedd i wneud y gwaith. Mynegwyd fod camau yn ei le bellach i sicrhau fod y Gwasanaeth yn gallu parhau i wneud y gwaith yn absenoldeb aelod staff. Nodwyd fod cynlluniau arbedion wedi ei gwireddu ac amlinellwyd blaenoriaethau Cynllun y Cyngor gan nodi fod y rhain wedi ei datblygu yn dilyn trafodaethau a chynghorwyr am eu wardiau. Mynegwyd fod camau yn cael eu cymryd er mwyn cwblhau’r blaenoriaethau. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod pryder am ddiffyg parcio yn ardal y Bala sydd yn un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor bellach wedi ei ddatrys.

-        Trafodwyd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor am ddiogelwch tu allan i’r ysgolion yng Nghaernarfon gan nodi fod angen edrych ar y safle i gyd gan fod y Ganolfan Hamdden a'r Ganolfan Dennis ar yr un safle.

-        Trafodwyd mesurydd perfformiad yr adran am gwynion trafnidiaeth gan nodi fod amryw wedi canmol y bysus yn dilyn newid cwmni. Nodwyd fod y mesurydd yma yn edrych ar gwynion gan nodi sut mae’r adran wedi ymateb i’r cwynion.

 

Awdur: Dilwyn Williams

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwelliant i berfformiad Gwasanaethau Stryd eleni, y gwasanaeth sydd yn cadw strydoedd y sir yn lan a thaclus. Ychwanegwyd fod y mesurydd glendid ac edrychiad strydoedd hyd yma eleni yn 74.1% sydd yn dangos cynnydd o berfformiad y llynedd a oedd yn 71.95%. Mynegwyd fod canran strydoedd sydd â safon B, B+ ac A wedi gweld cynnydd o 94.1% yn 2017/18 i 98.5%. Tynnwyd sylw at y newid yn y mesurydd perfformiad ar gyfer canran tipio anghyfreithlon a gliriwyd o fewn 5 diwrnod. Nodwyd fod y perfformiad ar gyfer y mesurydd newydd yma yn dangos ar gyfartaledd ei bod yn cymryd 1.7 diwrnod i’r adran glirio unrhyw dipio anghyfreithlon,  ac ar y cyfan  mae’r adran yn gweld hwn yn berfformiad eithaf da ac yn un gellir ei ddefnyddio fel gwaelodlin.

 

Mynegwyd fod canran y gwastraff trefol a anfonir i dirlenwi yn is eleni yn y cyfnod o Ebrill i Hydref sef 17.98% o’i gymharu â 24.33%. Mynegwyd fod y gwelliant hwn o ganlyniad i’r ffaith fod mwy o wastraff wedi cael ei drin drwy’r drefn llosgi ac o ganlyniad ddim wedi’i anfon i dirlenwi.

 

Trafodwyd safon y ffyrdd gan nodi fod Prif Ffyrdd dosbarth A a B mewn cyflwr cymharol a bod gwelliant i’r weld y ffigyrau cymariaethau cenedlaethol. Mynegwyd fod dosbarth C sydd mewn cyflwr gwael wedi gwaethygu ond mynegwyd fod yr adran wedi derbyn arian gan y Llywodraeth a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i lonydd dosbarth C. Nodwyd fod angen i’r adran greu mesur ar gyfer ffyrdd di-ddosbarth gan and yw’r ffyrdd yn rhan o’r mesuriadau cenedlaethol. Ategwyd gan fod cynifer o ffyrdd y Sir yn rhai di-ddosbarth mae cyflwr y ffyrdd yma yn hanfodol bwysig i drigolion Gwynedd.

 

Tynnwyd sylw at doriadau a chynllun cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y sir gan nodi fod angen llunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus erbyn Mai 2019, a bydd yn dod i’r Cabinet i gael ei drafod. Ar y cyfan, nodwyd fod yr aelod cabinet yn hapus ar y sefyllfa ariannol ac arbedion. 

 

Mynegwyd fod yr Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cyrraedd ei brif fesur wedi ei gyrraedd, a bod tafluniad y sefyllfa NET ddiweddaraf yn dangos elw o £23,583. Nodwyd fod yr adran wedi ennill Gwobr Genedlaethol am Gydweithio yn ddiweddar. Nodwyd fod yr aelod yn hapus iawn gyda’r ddwy adran.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Tynnwyd sylw at gynllun Lampau LED’s a nodwyd nid yn unig ei fod yn arbediad arian ond ei fod yn arbed ar garbon, a'i fod yn cyd-fynd ar agenda gostwng carbon.

-        Mynegwyd ei bod yn syniad da i ddechrau mesur ffyrdd di-ddosbarth gan fod llawer o’r lonydd yma yn yr ardaloedd gwledig ar draws y sir a fydd yn gymorth i’r trigolion.

-        Nodwyd ei bod yn anodd cael mesurydd ar gyfer baw ci, ond efallai y gall fod adroddiad byr tro nesaf a holwyd os oes  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dilwyn Williams

9.

BLAENRAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 68 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y blaen raglen.