skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. W Gareth Roberts

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYDRADDOLEB 2017-18 pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor, yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, i ddiddymu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng y rhai sydd yn rhannu nodwedd warchodedig, nai rhai sydd ddim yn rhannu’r nodweddion rhain. Mynegwyd ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i greu Cynllun Cydraddoldeb Strategol pob pedair blynedd ac adrodd yn flynyddol ar y mater.

 

Esboniwyd fod y Cyngor wedi creu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn 2016 a bod pedwar amcanion y Cyngor wedi ei nodi yn y Cynllun. Pwysleisiwyd er bod angen Cynllun ei bod yn ogystal yn bwysig sicrhau fod diwylliant o gydraddoldeb yn cael ei wreiddio yn ddwfn i mewn i wasanaethau’r Cyngor. Ychwanegwyd fod cydraddoldeb yn ganolog i holl benderfyniadau’r Cyngor ac ategwyd fod e-fodiwl wedi ei greu i greu i godi ymwybyddiaeth staff.

 

Cafwyd crynodeb yn nodi rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn gan bwysleisio fod pumed amcan wedi ei hychwanegu i’r Cynllun Cydraddoldeb sef i “Wella ein darpariaeth gwybodaeth ar gyfer pobl sydd ddim yn defnyddio Cymraeg a Saesneg fel iaith gyntaf neu sydd angen gwybodaeth mewn fformatau gwahanol”. Mynegwyd fod peth gwaith wedi ei wneud ond fod angen mwy o  wybodaeth ynghylch â’r mater. Mynegwyd fod bwriad i ymgysylltu â mudiadau perthnasol i ganfod y gofyn ac i fod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi fod ychydig dros draean o staff y Cyngor dros hanner cant, a gofynnwyd ai adlewyrchiad o’r gymdeithas yw hyn neu a yw’n golygu fod llai o gyfleoedd i bobl ifanc. Mynegwyd fod Cynllunio Gweithlu yn un o’r elfennau mae’r Tîm Dysgu a Datblygu yn canolbwyntio arno. Nodwyd fod gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn enwedig gyda Chynlluniau Prentisiaethau, Hyfforddeion ac Arbenigwyr at y dyfodol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc.

Awdur: Delyth Gadlys

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Hybu’r Gymraeg a'r Rhaglen Waith cychwynnol ar gyfer gweithredu’r blaenoriaethau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Cynllun Hybu’r Gymraeg a'r Rhaglen Waith cychwynnol ar gyfer gweithredu’r blaenoriaethau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw ar fformat y cynllun, gan nodi fod y fformat newydd yn glir o ran trefn, yn gryno ac yn hawdd i’w ddeall. Ychwanegwyd fod gofyn Statudol ar y Cyngor o dan Safon 145 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 i gynhyrchu strategaeth 5 mlynedd ynglŷn â hybu’r Gymraeg. Nodwyd fod hanes hir gan Gyngor Gwynedd o hybu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg gan nodi yng nghyfrifiad 2011, fod 65% o boblogaeth Gwynedd yn gallu siarad Cymraeg. Ategwyd fod cynnydd o ran canran siaradwyr Cymraeg i’w gweld yn rhai ardaloedd o Wynedd gan dynnu sylw at y ffaith fod y cynnydd dros y trothwy o 70% yn ward Clynnog.

 

Er y cynnydd, nodwyd fod gostyngiad yn gyffredinol yn nifer y wardiau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, gyda 39 o 71 ward ar ôl yn ôl y cyfrifiad. Pwysleisiwyd heriau hybu’r Gymraeg gan bwysleisio heriau ynghyd a dylanwad technoleg. Pwysleisiwyd beth yw gobaith tymor hir y Cyngor ynghyd a beth yr hoffai’r adran i weld yn ystod cyfnod y Strategaeth gan nodi fod y Cynllun Gweithredu yn cyd-fynd â’r cynlluniau. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod cwymp wedi bod yn y nifer o siaradwyr Cymraeg dros 65 oed ond fod y cynnydd mwyaf i’w weld ymysg y trigolion ieuengaf un, yn y grwpiau oed 3-4 oed a 5-15 oed. Ychwanegwyd fod angen parhau â’r gwaith da ac i weithio yn agos â Phrifysgolion a Chyrff eraill.

-        Mynegwyd fod y Siarter Iaith wedi bod yn ganolog i hybu’r iaith o fewn ysgolion. Esboniwyd fod y Siarter Iaith Gynradd bellach i’w gweld ar draws Cymru a bod gwaith yn parhau gyda Siarter Iaith Uwchradd. Nodwyd pwysigrwydd nid yn unig dysgu’r iaith i blant ond yn hytrach eu hannog i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol.

-        Holwyd sut y bydd y gwaith o hybu’r Gymraeg yn cael ei fesur a’i fonitro, nodwyd y bydd y Swyddog yn adrodd yn ôl drwy’r gyfundrefn herio perfformiad. Ychwanegwyd ei bod yn mynd i fod yn anodd mesur ond mai'r cam cyntaf fydd i gael y prif bartneriaid o amgylch bwrdd er mwyn rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Awdur: Gwenllian Mair Williams

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi, fel Aelod Cabinet newydd ar gyfer yr adran, ei bod wedi treulio’r haf yn mynd i ymweld â thimau a chyfarfod staff. Diolchwyd i’r staff am eu croeso cynnes. Tynnwyd sylw at rai o brosiectau Cynllun y Cyngor. Nodwyd fod y gwaith o ddefnyddio’r Gymraeg o fewn gwasanaethau’r Cyngor yn parhau ond nodwyd fod gwendidau wedi eu hamlygu yn y broses recriwtio. Mynegwyd nad yw gofynion iaith swyddi yn eglur bob tro ac mae camau yn eu lle er mwyn helpu’r sefyllfa. Ychwanegwyd fod cefnogaeth ar gael i staff sydd eisiau gwella neu loywi eu hiaith.

 

Esboniwyd fod rheolwyr a rhai swyddogion bellach wedi derbyn hyfforddiant er mwyn eu harfogi i roi Ffordd Gwynedd ar waith. Pwysleisiwyd yr angen am ddilyniant ac anogwyd yr aelodau i herio eu hadrannau er mwyn galluogi’r Cyngor i roi pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn y maent yn ei wneud.

 

Trafodwyd perfformiad yr adran a nodwyd fod y Gwasanaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn parhau i dderbyn sylwadau positif iawn. Ychwanegwyd fod y gwasanaeth yn teimlo yn ogystal nad oeddent yn mesur effeithlonrwydd cyfathrebu’r Cyngor ac mae’r gwasanaeth, o ganlyniad, am fod yn edrych ar ffyrdd o fesur effaith datganiadau cyhoeddus y Cyngor. Mynegwyd fod Gwasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg y Cyngor yn datblygu ymhellach ac yn ddiweddar wedi ennill cytundeb tendr gan GwE.

 

Esboniwyd datblygiad diweddaraf y Cyngor, yn dilyn cynnydd yn y nifer sydd yn defnyddio gwasanaeth ar-lein, sef “ap Gwynedd”. Ychwanegwyd fod yr ap bellach yn fyw a bod unigolion wedi dechrau lawr lwytho’r ap.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd mesur llwyddiant Ffordd Gwynedd. Esboniwyd fod hyn yn gwestiwn anodd gan mai newid diwylliant mae Ffordd Gwynedd, a bod hyn am fod yn anodd ei fesur. Ychwanegwyd fod angen i reolwyr ddeall fod angen gwreiddio'r diwylliant Ffordd Gwynedd yn eu timau gan bwysleisio fod yr atebolrwydd gan y rheolwyr. Mynegwyd fod taith Ffordd Gwynedd i’w weld mewn timau ar draws y Cyngor ond fod y timau ar gamau gwahanol ar y daith. Esboniwyd mai gwir fesur Ffordd Gwynedd fydd fod yr holl unedau yn mesur y pethau cywir ar gyfer Trigolion Gwynedd a bod y canrannau mor uchel ac y gallant fod.

-    Nododd yr Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd fod y mesurydd “Nifer o ddiffygion sydd wedi eu canfod mewn archwiliadau rhaglenedig” o safbwynt Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn awgrymu fod bylchau mawr yn ei adran a holodd os yw’r adran yn ymwybodol o hyn. Nodwyd fod hyn wedi ei godi o fewn adrannau ac y bydd angen eu trafod yn y Fforymau adrannol i drafod Iechyd, Diogelwch a Llesiant.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DDATBLYGU'R ECONOMI pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan C Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod i ffigyrau sydd ar gael yn yr adroddiad yn rhai ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn. Nodwyd fod Prosiectau Cynllun y Cyngor bellach wedi dechrau. Codwyd pryder am nifer o swyddi gwrth uchel bellach wedi symud o Barc Menai ym Mangor i Ynys Môn. Mynegwyd fod gwaith o ddatblygu safle Llanbedr yn parhau ond bod y perchennog yn parhau i ddisgwyl am gadarnhad o arian gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegwyd pryder am brosiect Arloesi Gwynedd wledig ar sut y bydd y prosiect yn symud ymlaen. Nodwyd fod y prosiect WiFi am ddim yn Aberdaron wedi bod yn llwyddiannus a bod ardaloedd eraill yn awyddus i dreialu’r prosiect.

 

Mynegwyd siom fod Gŵyl Rhif 6 yn cymryd hoe'r flwyddyn nesaf  ond gobeithir y bydd gŵyl arall yn cael ei gynnal yn ystod yr un cyfnod. Ychwanegwyd fod digwyddiad Red Bull Hard Line wedi bod yn llwyddiannus ac ategwyd fod ymroddiad a chydweithio agos wedi bod rhwng yr Uned Digwyddiadau Mawrion a Red Bull.

 

Esboniwyd fod yr Adran Economi a Chymuned am gynnal gweithdy gyda’r sector dwristiaeth yn ystod mis Medi er mwyn canfod eu barn ar wella a chynnal cyrchfannau Gwynedd a chodi safonau’r sector twristiaeth. Ychwanegwyd fod trafodaeth yn cael ei gynnal ynglŷn â Hafan a Harbwr Pwllheli ynghylch ei ddyfodol, ynghyd a Pharc Gwledig Glynllifon.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Ategwyd at y gofid o golli Gŵyl Rhif 6, ond esboniwyd fod y trefnwyr eisiau ail edrych ar y trefniadau. Mynegwyd ymroddiad y trefnwyr i Bortmeirion ac y bydd y Cyngor yn cyd-weithio â’r trefnwyr ar gyfer pob opsiwn.

-        Trafodwyd fod tuedd swyddi wedi ei greu gan fentrau yn derbyn cymorth yn lleihau. Nodwyd mai'r rheswm dros hyn yw lleihad yn yr adnoddau ac adeiladau  sydd gan y Cyngor i’w gynnig i fusnesau sydd eisiau ehangu. Mynegwyd fod hyn yn neges gyson sydd i’w weld ar draws y gogledd, sef nad oes lleoliadau ac adeiladau pwrpasol ar gael ar gyfer busnesau preifat. Ychwanegwyd fod Cynllun TWF Gogledd Cymru yn edrych ar hyn a bod trafodaethau am gyd-fenter gyda’r Llywodraeth i wella'r cyflenwad o dir neu adeiladau pwrpasol.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr aelod Cabinet yn hapus gyda pherfformiad yr adran a bod camau priodol wedi eu cymryd er mwyn gwella perfformiad. Esboniwyd fod oes y Strategaeth Technoleg Gwybodaeth bresennol yn dod i ben a bod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn cynllunio strategaeth newydd. Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod yr adran yn cydweithio â swyddogion o’r Adran Addysg er mwyn datblygu strategaeth newydd fydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth cefnogi Technoleg Gwybodaeth orau i ysgolion Gwynedd.

 

Nodwyd fod perfformiad yr adran yn gyffredinol dda, ond tynnwyd sylw at rai problemau oedd wedi codi. Nodwyd fod rhai o staff ategol ysgolion wedi derbyn cyflog anghywir yn ystod mis Ebrill. Ychwanegwyd y adnabuwyd y broblem yn syth ac i’r Gwasanaeth ymateb i’r broblem yn briodol. Esboniwyd fod camau yn eu lle bellach i sicrhau na fydd yr un broblem yn digwydd eto.

 

Mynegwyd fod tri achlysur wedi codi yn ystod y flwyddyn ble gwelwyd amhariad sylweddol ar allu staff y Cyngor i weithredu oherwydd colli mynediad at wasanaeth Technoleg Gwybodaeth. Ategwyd fod hyn wedi arwain ar yr adran yn comisiynu asesiad annibynnol er mwyn edrych ar bensaernïaeth y rhwydwaith TG ac fe fyddant yn adrodd yn ôl ar y casgliadau ymhen amser.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod y graff a ddangosir ar gyfer yr Uned Cyflogau yn dangos Diwylliant Ffordd Gwynedd o fewn yr Adran drwy’r ffaith eu bod yn agored am eu perfformiad ac yn dysgu o’r problemau sydd wedi codi. Ychwanegwyd fod esboniadau clir i’w gweld a bod camau wedi eu cymryd i sicrhau na fydd yr un problemau yn codi eto.

-        Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg bu oedi cyn i ysgolion dalu anfonebau dros y blynyddoedd, o ganlyniad i wyliau ysgol, ond bellach fod yr adran Addysg wedi ei newid eu trefn ac o ganlyniad mae’r ffigyrau yn llawer gwell.

-        Nodwyd nad oedd ffigyrau ar gyfer Buddsoddi a Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y chwarter, gan nad oeddent ar gael ar gyfer y cyfarfod herio perfformiad. Nodwyd bu dychweliadau llawer gwell na’r disgwyl ar fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn a gobeithir y bydd modd gallu cynnig gostyngiad mewn cyfraddau cyfraniad pensiwn rhai cyflogwyr erbyn 2020.

-        Trafodwyd ansicrwydd Brexit a'i effaith ar y Gronfa Bensiwn. Nodwyd fod mwyafrif asedau’r Gronfa wedi eu buddsoddi tramor, a bod cwymp y bunt yn erbyn doler yr UDA yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi golygu fod gwerth yr asedau tramor wedi cynnyddu wrth i’r bunt wanhau.  Mae’r Pennaeth Cyllid wedi gofyn am ddadansoddiad gan actiwari’r Gronfa faint o’r cynnydd yng ngwerth y Gronfa Bensiwn sydd oherwydd gwir gynnydd yng ngwerth yr asedau rhwng 2015 a 2018, a faint sydd oherwydd y newid yn y gyfradd gyfnewid, a bydd yn adrodd ar hynny i gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gronfa Bensiwn ar 10 Hydref. Ategwyd fod y Gronfa Bensiwn bellach wedi ei hariannu’n llawn. Trafodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Dilwyn Williams