skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 MAI pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 8 Mai 2018, fel rhai cywir

6.

RHAGLEN ADFYWIO NEWYDD LLYWODRAETH CYMRU - TRIP pdf eicon PDF 133 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

-        Gymeradwyo’r Strategaeth Adfywio Rhanbarthol ddrafft er mwyn ei chyflwyno I Lywodraeth Cymru

-        Gofyn fod ymrwymiad o fewn y Strategaeth ddrafft bod gwaith adnabod ac ymateb I faterion sy’n ymwneud ag amddifadedd gweledig yn derbyn sylw yn ystod 2018/19

-        Fod gwaith pellach yn cael ei wneud er mwyn ystyried cyfleoedd posib or Rhaglen TRI gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach I’r Cabinet yn amlinellu cynigion arfaethedig.

-        Ofyn i swyddogion  adolygu’r strwythur llywodraethu  er sicrhau bod ei fod  yn fwy clir ac eglur

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas 

PENDERFYNWYD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi gan fod yr eitem yn un rhanbarthol ac y bydd angen ei drafod ym mhob un o’r Cynghorau ar hyd Gogledd Cymru. Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r angen am Gynllun Adfywio Rhanbarthol, ac y bydd angen cyflwyno a chymeradwyo’r Cynllun cyn y byddai’r Llywodraeth yn derbyn ceisiadau am fuddsoddiad. Nodwyd mai nod y rhaglen yw i gefnogi prosiectau sydd yn hyrwyddo adfywiad economaidd, ac y bydd y rhaglen yn gallu ystyried cyfraniad buddsoddiad cyfalaf o hyd ar 70%.

Ymhelaethwyd ar flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod ar gyfer y Strategaeth Adfywio gan nodi er mwyn adnabod ardaloedd o angen fod y Strategaeth ddrafft yn cyfeirio’n bennaf ar ddata Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru. Pwysleisiwyd fod y strategaeth yn argymell y blaenoriaethau prosiectau adfywio canol tref y 4 anheddle sef Rhyl, Wrecsam, Bangor a Bae Colwyn.

Ychwanegwyd fel rhan o’r gwaith paratoi ym Mangor fod Partneriaeth Dinas Bangor wedi ei sefydlu, ac mae gwaith pellach wedi ei wneud i baratoi strategaeth adfywio ar gyfer y ddinas sy’n seiliedig ar dair prif thema. Nodwyd fod angen gwaith rhagbaratoi  pellach ar gyfer datblygu cynigion amlinellol yn prosiectau manwl, ac ychwanegwyd fod y rhaglen waith yn cael ei adolygu gan y Bartneriaeth.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd gyda dyraniad ariannol sydd wedi yn rannu yn dri rhan, a fydd modd i arian gael ei rannu ar draws y sir ar gyfer ail neu’r trydydd rhan, nodwyd y bydd modd datblygu prosiectau tu hwnt i’r lleoliadau sydd wedi ei nodi fel blaenoriaethau.

-        Trafodwyd y Cronfa Datblygu Prosiect ar gyfer pob rhanbarth, a fydd yn darparu cyfraniad 50% ar gyfer costau prosiectau’n gynnar, holwyd os mai y Cyngor fydd angen dod o hyd i’r 50% arall. Ymatebwyd gan nodi nad yw’r arian yn gorfod dod gan y Cyngor, yn dibynnol ar y prosiect bydd modd gofyn i sefydliad arall sydd yn rhan o’r bartneriaeth i gyfrannu’r 50%.

-        Tanlinellwyd y ffaith y byddai angen darganfod 30% o gost unrhyw gynllun ac felly pe byddai hynny yn disgyn ar y Cyngor byddai’n rhaid iddo gystadlu yn erbyn cynlluniau eraill yn y Cynllun Asedau.

-        Nodwyd fod y strwythur yn y strategaeth i’r gweld yn un cymhleth, mynegwyd fod gwaith pellach i’w wneud ac y bydd elfen o atebolrwydd i’w gweld ar bob cyngor. Nodwyd fod angen i’r Strwythur fod yn fwy clir.

-        Nodwyd y bwriad i gyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Llyr B Jones

7.

TROSOLWG ARBEDION 2017/18: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion yn ystod 2017/18

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

PENDERFYNIAD

Nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion yn ystod 2017/18

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar ddiwedd blwyddyn ariannol fod angen trosolwg o’r arbedion a gyflawnwyd. Cychwynnwyd gan nodi fod y cynlluniau adrannol ar gyfer 2016/17 mai dim ond dau gynllun sydd bellach yn disgwyl i gael ei gwireddu yn ystod 2018/19, ac yn nhermau ariannol mae dros 99% o arbedion 2015/16  a 2016/17 bellach wedi’u  gwireddu. Edrychwyd ar gynlluniau arbedion 2017/18, ac o’r 122 o gynlluniau mae 108 wedi eu gwireddu’n llawn neu yn rhannol yn amserol. Nodwyd yn nhermau ariannol, roedd 81% o’r arbedion wedi’u gwireddu.

Ymhelaethwyd ar y cynlluniau sydd wedi llithro a nodwyd fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi cyflwyno eu cynlluniau arbedion newydd i’r Cabinet a rhagwelir y bydd yn galluogi’r adran i wneud cynnydd sylweddol tuag at wireddu’r arbedion sydd wedi llithro. Nodwyd wrth edrych ar y Adran Plant a Cefnogi Teuluoedd ac yr Adran Priffyrdd fod angen cyflwyno adroddiad i’r Cabinet sy’n amlinellu’r cynlluniau amgen i wireddu arbedion ariannol perthnasol.

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid roedd cynnydd boddhaol ar draws y Cyngor i wireddu tua £6 miliwn o arbedion yn 2017/18.

O ran cynlluniau sydd ar y gweill i’w gwireddu yn 2018/19 nodwyd fod y cynlluniau yn edrych yn addawol, ac fod yr Aelod Cabinet yn fodlon iawn gyda’r cynnydd sydd wedi ei wneud i wireddu’r cynlluniau arbedion 2017/18.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Bu i’r tri aelod Cabinet, ble mae cynlluniau wedi llithro, nodi  fod gwaith yn cael ei wneud i ail edrych ar eu cynlluniau ac fod camau yn ei lle ar gyfer gwireddu’r arbedion sydd wedi llithro.

-        Gofynnwyd i’r Prif Weithredwr gyfleu diolchiadau’r Cabinet i holl staff y Cyngor am eu gwaith yn dod o hyd i’r arbedion a’u gwireddu tra ar yr un pryd yn llwyddo i gadw ansawdd uchel y gwasanaethau a ddarperir i bobl Gwynedd gan gydnabod nad yw’n broses hawdd.

Awdur: Dafydd L Edwards

8.

CYFRIFON TERFYNOL 2017-18 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1  Ystyried a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18.

1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant

Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

0

Economi a Chymuned

(35)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amylchedd (Rheoleiddio gynt)

(100)

Ymhynghoriaeth Gwynedd

(82)

Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(66)

Cyllid

(66)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(67)

1.3 Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u

egluro yn Atodiad 2) –

  • Trosglwyddo £457k, cyfwerth â grant cefnogi gwasanaethau cymdeithasol dros y gaeaf i gronfa benodol er mwyn cefnogi hyblygrwydd a hwyluso trawsffurfio yn y maes Oedolion i'r dyfodol.
  • Cynaeafu (£37k) o'r tanwariant sef y swm uwchlaw (£100k) Oedolion, Iechyd a Llesiant, i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.
  • Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £676k i leddfu rhan helaeth o orwariant 2017/18, gan ganiatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2018/19.
  • Trosglwyddo £207k ei ddileu gorwariant yr Adran Addysg, tra fod polisiau a threfniadau cludiant yn cael eu hadolygu.
  • Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £203k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2018/19.
  • Trosglwyddo £378k o danwariant 2017/18 yr Adran Amgylchedd i gronfa benodol, yn ymwneud â bysus a chost llwybrau, i'w ddefnyddio yn 2018/19.
  • Cynaeafu (£89k) o danwariant yr Adran Amgylchedd sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.
  • Cynaeafu (£894k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol (ar Ostynigiad Treth Cyngor, bidiau a chyllidebau a ddychwelwyd gan adrannau ac ar benawdau eraill), a’i drosglwyddo i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2017/18.
  • Trosglwyddo £66k o'r Gronfa Cynorthwyo'r Strategaeth Ariannol, sef y balans sydd angen, i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario.

1.4  Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, sef:

  • Cynaeafu (£2.915m).
  • Neilltuo £2.749m ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·         Neilltuo £166k ar gyfer materion gwastraff

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

PENDERFYNIAD

1.1   Ystyried a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18.

1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant

Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

0

Economi a Chymuned

(35)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amylchedd (Rheoleiddio gynt)

(100)

Ymhynghoriaeth Gwynedd

(82)

Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(66)

Cyllid

(66)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(67)

1.3 Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

  • Trosglwyddo £457k, cyfwerth â grant cefnogi gwasanaethau cymdeithasol dros y gaeaf i gronfa benodol er mwyn cefnogi hyblygrwydd a hwyluso trawsffurfio yn y maes Oedolion i'r dyfodol.
  • Cynaeafu (£37k) o'r tanwariant sef y swm uwchlaw (£100k) Oedolion, Iechyd a Llesiant, i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.
  • Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £676k i leddfu rhan helaeth o orwariant 2017/18, gan ganiatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2018/19.
  • Trosglwyddo £207k ei ddileu gorwariant yr Adran Addysg, tra fod polisiau a threfniadau cludiant yn cael eu hadolygu.
  • Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £203k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2018/19.
  • Trosglwyddo £378k o danwariant 2017/18 yr Adran Amgylchedd i gronfa benodol, yn ymwneud â bysus a chost llwybrau, i'w ddefnyddio yn 2018/19.
  • Cynaeafu (£89k) o danwariant yr Adran Amgylchedd sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.
  • Cynaeafu (£894k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol (ar Ostynigiad Treth Cyngor, bidiau a chyllidebau a ddychwelwyd gan adrannau ac ar benawdau eraill), a’i drosglwyddo i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2017/18.
  • Trosglwyddo £66k o'r Gronfa Cynorthwyo'r Strategaeth Ariannol, sef y balans sydd angen, i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario.

1.4  Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, sef:

  • Cynaeafu (£2.915m).
  • Neilltuo £2.749m ar gyfer Cynllun y Cyngor.
  • Neilltuo £166k ar gyfer materion gwastraff.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen i’r Cabinet i gymeradwyo’r sefyllfa ariannol derfynol 2017/18 er mwyn ir Adran Gyllid symud ymlaen i gynhyrchu, ardystio a chyhoeddi’r datganiadau ariannol statudol cyn 30 Mehefin. Ymhelaethwyd gan nodi fod sefyllfa ariannol mwyafrif o’r adrannau yn tanwario am 2017/18. Ychwanegwyd fod gwelliant sylweddol i sefyllfa ariannol yr Adran Oedolion yn ystod y chwarter olaf yn dilyn derbyniad grant gan Lywodraeth Cymru yn hwyr yn y flwyddyn.

Nodwyd fod gorwariant ar wasanaethau penodol yn yr Adran Plant a Cefnogi Teuluoedd, Adran Addysg a Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Ychwanegwyd yn y mwyafrif o’r cyllidebau lle bu gorwariant yn 2017/18, mae ystyriaeth briodol i’r anghenion a chyfleon perthnasol yng nghylch cyllidebau 2018/19 ac o ganlyniad mae mwyafrif o’r materion hyn eisoes wedi’u cyfarch yn y strategaeth ariannol ar gyfer 2018/19. 

Ychwanegwyd fod tanwariant un tro yn nifer o benawdau y gyllideb gorfforaethol ddiwygiedig am 2017/18, a nodwyd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd L Edwards

9.

RHAGLEN GYFALAF 2017-18 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN pdf eicon PDF 72 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad sef:

·         Cynnydd £4,514,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

·         Cynnydd £326,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·         Lleihad £371,000 mewn defnydd o fenthyca arall

·         Lleihad £335,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

·         Lleihad £53,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

·         Lleihad £65,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad sef:

     Cynnydd £4,514,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

     Cynnydd £326,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

     Lleihad £371,000 mewn defnydd o fenthyca arall

     Lleihad £335,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

     Lleihad £53,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

     Lleihad £65,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod dadansoddiad fesul adran o’r rhaglen gyfalaf £51.733m i’w gweld yn rhan 3 o’r adroddiad. Ychwanegwyd fod cynnydd net o £4.016m ers yr adolygiad diwethaf ac fod hyn yn adlewyrchiad o waith caled yr adrannau. Nodwyd fod £15.6m o’r gyllideb gwariant yn llithro o 2017/18, ond pwysleisiwyd nad oedd unrhyw golled ariannu grant o ganlyniad i hyn.

Diolchwyd i staff yr Adran Gyllid am eu gwaith caled yn cau y cyfrifon ac hynny wrth i’r amserlen gael ei gwtogi.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith dros drigolion Gwynedd a hynny yn wyneb arbedion.

-        Ychwanegwyd fod yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi derbyn grant ychwanegol o £2m gan y Llywodraeth ar gyfer lonydd, a bydd y gwaith yn cychwyn gyda Lonydd dosbarth C.

-        Y bu gwariant cyfalaf sylweddol ar Ysgolion / Addysg, a’i fod yn disgyn o ganlyniad i gynllun Llywodraeth Cymru dod i ben.

Awdur: Dafydd L Edwards

10.

PARATOI AT DDYFODOL ARIANNOL ANEGLUR pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

-        Ddygymod gyda’r sefyllfa ariannol aneglur yr ydym yn ei wynebu o 2019/20 ymlaen drwy ddilyn y drefn a nodir yng nghymal 10 yr adroddiad

-        Gosod cyfundrefn yn ei le er mwyn sicrhau fod pob Adran wedi edrych ymhob twll a chornel am arbedion effeithlonrwydd

-        Comisiynu adolygiad o haenau rheolaethol o fewn y Cyngor (gan gynnwys Craffu yn y broses honno) I’w cwblhau yn ystod y flwyddyn galendr ei mwyn sicrhau fod ei nhrefniadau rheolaethol yn addas at ei bwrpas.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd i:

-        Ddygymod gyda’r sefyllfa ariannol aneglur yr ydym yn ei wynebu o 2019/20 ymlaen drwy ddilyn y drefn a nodir yng nghymal 10 yr adroddiad

-        Gosod cyfundrefn yn ei le er mwyn sicrhau fod pob Adran wedi edrych ymhob twll a chornel am arbedion effeithlonrwydd

-        Comisiynu adolygiad o haenau rheolaethol o fewn y Cyngor (gan gynnwys Craffu yn y broses honno) I’w cwblhau yn ystod y flwyddyn galendr ei mwyn sicrhau fod ei nhrefniadau rheolaethol yn addas at ei bwrpas.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi nad oes argoel ar hyn o bryd fod y cyfyngiadau ariannol mae’r Llywodraeth yn eu gosod ar Llywodraeth Leol am ddod i ben yn fuan. Ychwanegwyd fod angen edrych ar arbedion er mwyn blansio’r llyfrau ond ceisio gwneud hynny heb effeithio yn andwyol ar bobl Gwynedd.

Ychwanegwyd fod trefn posib wedi ei nodi yn y Cyngor Llawn ym mis Hydref 2017 a oedd yn golygu dechrau amlygu’r dewisiadau posib ar gyfer arbedion. Yn dilyn trafodaeth gyda Cadeiryddion ac Is gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu nodwyd fod angen efallai edrych ar ffordd wahanol o ddygymod gyda’r sefyllfa.

Esboniwyd y drefn newydd gan nodi fod y drefn yma yn taro’r balans rhwng sicrhau nad yw’r Cyngor yn gor ymateb, ond fod y Cyngor yn barod i gwrdd a’r amrediad o bosibiliadau ariannol allasai godi yn flynyddol. Ychwanegwyd fod angen sicrhau fod pob gronyn o arbedion effeithlonrwydd hefyd wedi ei wasgu allan, a bydd gofyn ar pob adran i sicrhau fod yr arbedion yn cael eu gwneud.  Yn ychwanegol at hyn, argymhellwyd fod y Cabinet yn comisiynau adolygiad o’r drefn rheolaethol. Tanlinellwyd y ffaith na ddylid rhagdybio fod hyn am arwain at unrhyw arbediad ariannol ond ‘roedd yn arferiad da i gymryd golwg ar y mater i sicrhau fod ein trefniadau rheolaethol yn addas at bwrpas ac yn gyson draws yr adrannau.

Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn paratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf o ran arbedion, ond gobeithio am y gorau. Ymhelaethwyd y bydd yr union arbedion fydd eu hangen yn ddibynnol ar faint y bwlch y bydd angen ei gyfarch yn ddibynnol ar y grant y Llywodraeth, a daw hynny’n amlwg yn yr hydref.

Awdur: Dilwyn Williams