Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Dilwyn Morgan ar gyfer eitem 6, oherwydd bod ei ŵyr yn mynychu Ysgol Bro Tegid. Roedd yn fuddiant sydd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 13 MAWRTH pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 13 Mawrth 2018, fel rhai cywir

 

6.

DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH Y BERWYN pdf eicon PDF 391 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2018 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2019 a sefydlu Campws Dysgu 3-19, Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2018 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2019 a sefydlu Campws Dysgu 3-19, Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar 13 Chwefror, bu i’r Cabinet gymeradwyo i’r cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn yn 31 Awst 2019 a Sefydlu’r Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019. Yn dilyn hyn bu cyfnod o wrthwynebiad a cyhoeddwyd rhybuddion statudol ar y cynnig i gau’r ysgolion. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.

 

Ychwanegwyd mai hwn fydd cam olaf yn y broses o agor y Campws newydd. Nodwyd y byddai Bwrdd Llywodraethu Cysgodol yn cael ei ffurfio yn dilyn penderfyniad y Cabinet a fydd yn penodi Pennaeth newydd i’r Campws Dysgu. Esboniwyd y bydd yr adeilad yn barod fis Medi 2018,  bydd cyfnod pontio ble fydd modd i’r ysgolion ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn yr adeilad newydd.

 

Awdur: Garem Jackson

7.

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADAOL GWYNEDD pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod ein bod yn cyfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw y wardiau ym Mangor yn sgil mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a Menai.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod ein bod yn cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw y wardiau ym Mangor yn sgil mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a Menai.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr ymatebiad drafft i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol, wedi ei greu ar sail y cyfarwyddyd clir a roddwyd yn y Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi penderfynu ymateb i’r cynigion drafft gan gynnig cynigion amgen yn benodol ar gyfer Gerlan ac Ogwen a Dolgellau ac i ail ddatgan cynigion y Cyngor.

 

Esboniwyd fod gwaith sylweddol wedi ei wneud yn ymgysylltu gyda’r aelodau ac yn benodol gyda’r Aelodau lleol yn y llefydd hynny ble mae’r aelodau lleol yn ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr adroddiad yn cynnig atebion synhwyrol i Gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau. Wrth edrych ar ardal Porthmadog mae’r ffiniau sydd wedi eu cynnig yn diystyru ffiniau hanesyddol yr hen siroedd sydd wedi codi anfodlonrwydd yn lleol.

-        Nodwyd fod sylwadau wedi eu derbyn yn nodi fod y Comisiwn wedi anwybyddu’n llwyr y nifer myfyrwyr fyddai yn ward Garth a Menai y rhan fwyaf o’r flwyddyn a bod angen cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad.

 

Awdur: Vera Jones

8.

CYNLLUN GOLEUADAU STRYD pdf eicon PDF 123 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Griffiths

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo ceisio am arian o gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill goleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo ceisio am arian o gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill goleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn awyddus i geisio cais am fuddsoddiad o £1,398,795 o Gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn newid 7778 o oleuadau stryd i dechnoleg LED. Nodwyd mai benthyciad ariannol yw hwn a fydd i’w ad-dalu yn ddi-log i’r Llywodraeth. Ychwanegwyd fod y cais cyntaf am yr arian wedi ei gymeradwyo, a bod angen sêl bendith y Cabinet cyn symud ymlaen a’r cais.

 

Nodwyd mai dilyniad i’r cynllun 4 blynedd, £1.4m presennol fydd y cynllun yma, a oedd yn cael ei ariannu drwy ddefnydd cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Yn rhan o’r prosiect hwn bydd y Cyngor erbyn Medi 2018 wedi newid 10,279 o oleuadau stryd i dechnoleg LED.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun, a chafwyd trafodaeth am bris yr allyriadau carbon y bunt o ystyried y gwahaniaethau rhwng yr allyriadau carbon y byddem yn ei arbed i’r dyfodol o’i gymharu a’r gorffennol, a’r arbediad ariannol gymharol o wneud hynny.

 

Awdur: Gwyn Morris Jones

9.

CYNLLUN GWYNEDD 2018-2023 Adnoddau i'r Cynllun 'Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion' pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

      i.        Ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’.

    ii.        Adolygu cynnydd y weithgaredd ac ymrwymiadau pellach i gefnogi gweddill oes y Cynllun cyn diwedd 2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’.
  2. Adolygu cynnydd y weithgaredd ac ymrwymiadau pellach i gefnogi gweddill oes y Cynllun cyn diwedd 2018.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais i ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod 2018-19 oedd y cais er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu budd Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’. O ganlyniad i’r prosiect dros y bum mlynedd diwethaf nodwyd fod £3.13m o wariant yn uniongyrchol yng Ngwynedd gan drefnwyr digwyddiadau. Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod £163,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi digwyddiadau wedi digwydd yn sgil cyfraniad gan Gyngor Gwynedd, a bod budd economaidd o £24.24m i Wynedd wedi ei gynhyrchu gan ddigwyddiadau.

 

Mynegwyd nad yw’n fwriad yn y dyfodol i Gyngor Gwynedd roi ‘grantiau’ i drefnwyr digwyddiadau ond yn hytrach i gydweithio gyda hwy i fuddsoddi yn eu digwyddiadau er mwyn cael y deilliannau gorau i’r sir. Nodwyd os na fydd cyllideb ar gael ar gyfer buddsoddi mewn digwyddiadau, ni fydd modd i’r Cyngor gydweithio mor effeithlon gyda threfnwyr na dylanwadu cystal er mwyn cynyddu’r buddion i’r Sir.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd os oedd yr ardaloedd sydd yn cael buddsoddiad drwy ddigwyddiadau mawrion yn ymwybodol fod y Cyngor yn buddsoddi. Nodwyd fod presenoldeb y Cyngor i’w gweld yn y digwyddiadau ac ar holl ddeunydd marchnata’r digwyddiad, ond efallai fod lle i wella. Nodwyd yn rhan o’r cynllun fod y staff yn ceisio codi proffil y Cyngor ac annog trefnwyr i wario yn lleol.

 

10.

BLAENRAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd y blaen raglen gan nodi y bydd rhai ychwanegiadau i’r Blaen raglen yn nes ar y dyddiadau.