Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 6 - Dyfodol
Darpariaeth Addysg Gynradd Dalgylch Bangor Derbyniwyd
datganiad o fuddiant gan Cyng. Dafydd Meurig oherwydd bod ei chwaer yn rhedeg
meithrinfa ar safle Ysgol y Faenol. Roedd yn fuddiant sydd yn rhagfarnu a bu
iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. Bu i’r Aelod Lleol
ar gyfer yr eitem uchod – Cyng. Richard Medwyn Hughes – ddatgan buddiant gan ei
fod yn un o Lywodraethwyr Ysgol Coed Mawr ac Ysgol Glanadda. Nid oedd yn
fuddiant sy’n rhagfarnu ac felly roedd modd iddo ddatgan ei farn. Eitem 7 –
Ailfodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid Derbyniwyd
datganiad buddiant gan Cyng. W Gareth Roberts, gan fod ei fab yng nghyfraith yn
gyflogedig gan y Gwasanaeth. Roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly bu
iddo adael y cyfarfod. Eitem 12 - Rhyddhad
Dewisol Treth Annomestig Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Dyfrig Siencyn, Cyng. Mair
Rowlands, Cyng. Peredur Jenkins a’r Pennaeth Cyllid, Dafydd Edwards, gan eu bod
hwy yn ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr ar amrywiol glybiau a mentrau sydd yn
cael rhyddhad treth. Cynghorodd Iwan
Evans, Swyddog Monitro ar y buddiannau personol a phwysleisio nad oeddent yn
fuddiant sy’n rhagfarnu, ac felly fod gan yr aelodau a’r swyddog hawl i gymryd
rhan y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYFARFOD CABINET A GYNHALIWYD AR 13 CHWEFROR PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 13 Chwefror 2018,
fel rhai cywir |
|
DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD YN NALGYLCH BANGOR PDF 197 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd:
ii.
Cynnal rhag-ymgynghoriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn ymwneud a
chynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth
Ysgolion 2013 ac adrodd ar y canlyniadau i’r Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd yr
eitem gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD Penderfynwyd:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad
oedd cael caniatâd i fwrw ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol parthed y
broses o ad-drefnu ysgolion Bangor. Ychwanegwyd fod y Llywodraeth Cymru yn
niwedd 2016 wedi hysbysu Awdurdodau Lleol gyda’r capasiti,
fod modd ymgeisio am fwy o arian i gyflawni prosiectau ychwanegol oddi mewn
Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Yn
dilyn gwneud cais bu i’r Adran Addysg dderbyn cadarnhad fod yr arian wedi ei
glustnodi mewn egwyddor. Yn ychwanegol at hyn, mae datblygiad tai newydd ym Mangor.
Un o’r amodau cynllunio pan gytunwyd i’r cais oedd bod y cwmni yn ymrwymo i
gyfrannu arian tuag at ddarpariaeth
addysg oed cynradd ym Mangor. Drwy gyfuno arian gan Lywodraeth Cymru a’r Cwmni
Datblygu Tai mae cyllideb o oddeutu £13.8m. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud yn edrych ar yr opsiynau
posib, a nodwyd o’r 9 Ysgol Gynradd ym Mangor fod dwy ysgol gyda’r niferoedd
uchel dros y capasiti a 2 yn weddol wag. Bydd angen
ymgynghori ar yr opsiwn sydd wedi ei ffafrio gan yr adran. Yr opsiwn ffafredig yw cynyddu capasiti
Ysgol y Faenol, i adeiladu Ysgol newydd i Ysgol y Garnedd gan gynyddu’r capasiti o 210 i 420 ac i Gau Ysgol Coed Mawr a
Glanadda. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Cafwyd sylwadau gan yr Aelodau Lleol a nodwyd eu
bod yn llongyfarch y Cyngor ar dderbyn yr arian yma. Awgrymodd fod yr Adran yn
ail edrych ar yr opsiynau ac yn ffafrio opsiwn 10, sef i gynyddu capasiti Y Faenol, rhoi Ysgol newydd a chynyddu capasiti y Garnedd ac i addasu safle Glanadda i dderbyn
plant o Ysgol Coed Mawr. Nododd fod lefel addysg Glanadda a Coed Mawr wedi bod
yn y categori coch, ond ers cael Pennaeth dros dro mae’r ysgol wedi codi i
gategori oren. -
Ychwanegodd yr Aelodau Lleol ei bod yn
gamgymeriad i fynd am opsiwn 3 gan fod Ysgol Cae Top a Glancegin,
sydd wedi cael eu datblygu yn ystod y 8 mlynedd diwethaf dros capasiti yn barod. Gyda’r wardiau yn tyfu a mwy o alw am
dai i deuluoedd bydd niferoedd yn yr ysgolion yn parhau i godi. - Trafodwyd diogelwch y plant ar y ffordd i’r ysgol, nodwyd fod y ffordd yn un prysur ond fod plant yn teithio arni yn ddyddiol. Yn ychwanegol codwyd y broblem traffic ar y ffyrdd sydd yn bodoli yn barod, gan fod 5 ysgol ac Ysbyty yn yr un ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Diane Jones |
|
AILFODELU'R GWASNAETH IEUENCITD PDF 414 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Penderfynwyd:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o resymau dros ail-fodelu’r
Gwasanaeth Ieuenctid. Nodwyd fod disgwyliad gan Lywodraeth Cymru fod Cyngor
Gwynedd yn ail-fodelu’r gwasanaeth. Yn ychwanegol yn dilyn ymgynghoriad Her
Gwynedd penderfynodd y Cyngor Llawn i dorri £200,000 o gyllideb y Gwasanaeth,
ynghyd a chyflawni targed effeithlonrwydd o £70,000. O ganlyniad i hyn,
mynegwyd eu bod yn amhosib i’r gwasanaeth barhau yn y strwythur sydd ar hyn o
bryd. Bu i ymgynghoriad gael ei gynnal gyda phobl ifanc, sydd wedi nodi eu bod
eisiau model gwahanol. Bydd y strwythur newydd yn un arloesol a chyffroes a
fydd yn rhoi'r un ddarpariaeth ieuenctid i bob person ifanc ar draws y sir. Ychwanegwyd fod elfennau negyddol i’r ail-strwythuro, gan fod rhai o’r
bobl ifanc eisiau parhau i fynychu eu clwb ieuenctid lleol. Nodwyd yn ogystal y
bydd grantiau i gefnogi cyrff gwirfoddol sydd yn gweithio yn y maes yn terfynu
ymhen 9 mis. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod gwaith ymgysylltu wedi ei wneud gyda’r bobl ifanc a bod dros 3,000 wedi
cymryd rhan. Ymgynghoriad wedi pwysleisio fod pobl ifanc eisiau gweithwyr
ieuenctid sydd ar gael yn gyson. -
Teithio
yw un o brif broblemau pobl ifanc, a sut bydd modd cael mynediad at y
gwasanaeth. Bydd y model yma sicrhau fod y gweithiwr ieuenctid yn mynd allan at
y bobl ifanc yn hytrach na'r bobl ifanc yn mynd at y gweithiwr. -
Rhai
ardaloedd am i’r clybiau barhau yn eu cymunedau, nodwyd fod angen gwneud gwaith
ymgysylltu yn lleol i weld os yw’r Cynghorau Cymuned yn awyddus i gymryd y clwb
neu wirfoddolwyr. Ychwanegwyd y bydd staff ar gael i roi cymorth ac i gefnogi
gwirfoddolwyr. -
Trafodwyd
yr amserlen a nodwyd fod y ddarpariaeth yn dod ben yn flynyddol ym mis Ebrill
ac yn ailgychwyn ym mis Medi, bydd y cylch yma yn digwydd eto. Bydd y clybiau
yn cau ym mis Ebrill a bydd y ddarpariaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Bydd
hyn yn rhoi cyfle i'r adran i ddad-gymalu’r hen
strwythur ac i adnabod anghenion lleol ac i drafod a phartneriaid. -
Mynegwyd
pwysigrwydd ieuenctid i’r sir, a phwysigrwydd i gadw’r bobl ifanc yma. Credwyd
fod modd i’r gwasanaeth newydd allu cyd-weithio yn agos a’r Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd. - Nodwyd fod terfynu grantiau cefnogi'r mudiadau gwirfoddol yn mynd i fod yn anodd, gan fod y ddau brif fudiadau yn gwneud gwaith da. Bu i’r aelodau gydnabod gwaith da'r mudiadau a gofyn i’r swyddogion i weithio yn agos a’r mudiadau. Mynegwyd unwaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Sioned Williams |
|
ADOLYGIAD SENEDDOL IECHYD A GOFAL YNG NGHYMRU PDF 321 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan a Cyng. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: i.
Derbyn yr adroddiad a’r atodiad
gan nodi plethant yn y cynlluniau sydd eisoes yng Nghynllun Corfforaethol y
Cyngor gyda’r cyfeiriad a nodi’r yn yr adolygiad. ii.
Gofyn i’r Arweinydd a Prif
Weithredwr gysylltu yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru, yn ychwanegol i
Aelodau Cynulliad a’r WLGA i amlygu’r cwestiwn o sut bydd modd symud ymlaen yn
dilyn yr adolygiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan a Cyng. W Gareth Roberts PENDERFYNIAD Penderfynwyd:
i.
Derbyn yr adroddiad a’r atodiad gan nodi
plethant yn y cynlluniau sydd eisoes yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor
gyda’r cyfeiriad a nodi’r yn yr adolygiad.
ii.
Gofyn i’r Arweinydd a Prif Weithredwr
gysylltu yn uniongyrchol a Llywodraeth Cymru, yn ychwanegol i Aelodau Cynulliad
a’r WLGA i amlygu’r cwestiwn o sut bydd modd symud ymlaen yn dilyn yr
adolygiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr Adolygiad Seneddol yn cadarnhau fod y newidiadau
mae’r Adrannau Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi ei wneud
yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Ychwanegwyd fod y Cyngor yn cael ei weld fel
Awdurdod sydd ar flaen y gad. Nodwyd
fod y gwaith o weithio yn integredig yn yr adrannau wedi cael ei chynnwys fel
arferion da. Mynegwyd fod yr adroddiad yn dangos yn glir y ffordd ymlaen, gan
bwysleisio fod angen cadw penderfyniadau yn lleol. Er hyn mae llawer o
drafodaethau yn rhai cenedlaethol, ond fod angen i’r gwaith gychwyn yn
lleol. Ychwanegwyd fod yr amserlen i
adrodd yn ôl yn brin ac mae hyn yn destun pryder. Nodwyd ei bod yn bwysig i
beidio rhytho ac i sicrhau ei bod yn glir beth sydd angen ei newid yn
rhanbarthol, a bod y rhai yn gwau i mewn i’w gilydd. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
mai cychwyn y daith yw hyn ond fod yr adroddiad yn tanlinellu fod Gwynedd o
flaen y gad. Ychwanegwyd fod Adroddiad Williams yn codi pryderon ac yr amserlen
dynn. - Angen trafodaeth a’r Aelodau Cynulliad er mwyn adeiladu ar yr adroddiad a sicrhau fod y dinasyddion yn ganolog. Angen pwysleisio fod angen ymateb yn bwyllog ac i dalu sylw i sicrhau ateb i'r argymhellion. Ychwanegwyd i’r Prif Weithredwr ac Arweinydd i lunio neges i’r Llywodraeth, Aelodau Cynulliad a WLGA i amlygu’r cwestiwn o sut bydd modd symud ymlaen yn dilyn yr adolygiad Awdur: Morwena Edwards |
|
CYNLLUN RHANBARTHOL ASESIAD O BOBLOGAETH GOGLEDD CYMRU 2018 I 2023 PDF 216 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r Cynllun Rhanbarthol
Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru 2018 i 2023 Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. W Gareth Roberts PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r
Cynllun Rhanbarthol Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru 2018 i 2023 TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i gymeradwyo’r Cynllun Rhanbarthol i
sicrhau fod y Cyngor yn cydymffurfio a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Pwysleisiwyd fod hwn yn gynllun rhanbarthol a'i bod yn
ddogfen fyw a fydd yn datblygu dros amser, ond gofynnwyd y cwestiwn sut y bydd
Asesiad Lleol yn dod i mewn i hwn. Nodwyd fod
y Cynllun wedi dilyn trefn y ddeddf o wneud y cynllun rhanbarthol ar y cyd, ac
yn creu un lleol. I’r dyfodol efallai ei bod yn syniad i wneud Asesiad Lleol i
gychwyn ac yna cyfuno i greu un rhanbarthol. Mae sicrwydd fod Asesiad Lleol ar
gael i’r sir, ond er hyn mae agweddau lleol Gwynedd i’r gweld yn y Cynllun
Rhanbarthol. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd fod y Cynllun yn un syml i’w ddarllen, ond er hyn mae amlygu nad
yw’r Strwythur Rhanbarthol Trawsnewid ddim yn glir. -
Ychwanegwyd fod y gwahaniaethau amlwg rhwng
gweithio yn rhanbarthol ac yn lleol y Ddeddf ac Adolygiad Seneddol yn peri
tyndra. Awdur: Rhion Glyn |
|
NEWID I AMODAU GWAITH LLEOL Y CYNGOR PDF 398 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
newidiadau arfaethedig i Amodau Gwaith Lleol y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Mair Rowlands PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r newidiadau
arfaethedig i Amodau Gwaith Lleol y Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r newidiadau arfaethedig sydd i’r Amodau Gwaith Lleol.
Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r undebau cydnabyddedig ers Hydref
2015, er hyn nid oes modd sicrhau cytundeb torfol er mwyn gwireddu'r arbediad o
ganlyniad i Swyddfa Genedlaethol Unsain yn gwrthod i unrhyw gangen leol fynd i falot ar gynnig sy’n ymwneud a dirywiad mewn amodau gwaith. Ychwanegwyd fod
gwaith ymgynghori gyda staff wedi ei wneud ac mae 116 o’r 6,000 o wedi ymateb,
a nodwyd y prif ymatebion. Pwysleisiwyd nad oedd Gofalwyr Cymdeithasol
Cymunedol yn cael ei gynnwys yn yr addasiad i ad-dalu costau teithio gan mai eu
cartref yw eu lleoliad gwaith. Yn ychwanegol at hyn ni fydd gweithwyr graenu na phriffyrdd yn cael eu cynnwys yn yr amod i
leihau’r taliad i fod ar ddyletswydd tu allan i oriau gwaith arferol. Er hyn roedd nifer
o sylwadau a dderbyniwyd yn adlewyrchiad o’r farn gyffredinol sef fod y pecyn
dan ystyriaeth, er ddim yn ddymunol, yn gam sydd angen ei gymryd. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth -
Nodwyd
gwerthfawrogiad i’r cydweithio agos rhwng staff y Cyngor a’r Undebau. Awdur: Geraint Owen |
|
YMATEB CYNGOR GWYNEDD I'R YMGYNGHORIAD STATUDOL AR GYNLLUN LLESIANT DRAFFT GWYNEDD A MON PDF 281 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo yr ymateb
drafft sydd wedi ei baratoi ar ran y Cyngor i’r Ymgynghoriad Statudol ar
Gynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwyo'r ymateb drafft sydd wedi ei baratoi ar ran y
Cyngor i’r Ymgynghoriad Statudol ar Gynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod Cynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn wedi ei gyhoeddi.
Ychwanegwyd fod y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi cael craffu'r Cynllun a bod eu
hymatebion wedi eu hymgorffori o fewn yr ymateb drafft a oedd yn cael ei
gyflwyno. Nodwyd fod yr ymateb yn nodi fod angen cryfhau rhai elfennau o fewn
yr amcanion llesiant a blaenoriaethau a bod diffyg gwybodaeth yn y cynllun am y
dulliau gweithredu. Mynegwyd fod yr
ymateb yn un teg ac mai cam nesaf y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Gwynedd a Môn
fydd i benderfynu ar sut bydd modd gweithredu ar y cynllun. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth Nodwyd mai‘r blaenoriaethau yw cael cymunedau iach ac i rymuso’r cymunedau. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig sicrhau nad oes dyblygu yn digwydd a bod cyd-weithio ar sut mae’r amcanion yn cael eu cyflawni Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
RHYDDHAD DEWISIOL TRETHI ANNOMESTIG PDF 244 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu’r Fframwaith
ar gyfer Caniatáu Rhyddhad Dewisol rhag Trethu Annomestig sy’n ymddangos yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan y
Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r Fframwaith ar gyfer
Caniatáu Rhyddhad Dewisol rhag Trethi Annomestig sy’n ymddangos yn Atodiad 1
i’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod yn amserol i’r Cyngor gynnal adolygiad cynhwysfawr
o’i Bolisi Rhyddhad Dewisol, gan fod y fframwaith wedi ei sefydlu ers sawl
blwyddyn a bod angen sicrhau ei fod yn parhau’n addas yn sgil newidiadau
deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ym Medi 2017 i
sefydlu Grŵp Ymchwil i adolygu’r Fframwaith presennol. Cyfarfu'r Grŵp dwywaith a’r canlyniad oedd bod y
Grŵp ar y cyfan yn fodlon â’r fframwaith oedd yn ei le ond amlygwyd rhai
addasiadau. Ymhelaethwyd ar yr
holl addasiadau oedd yn cynnwys diddymu’r rhyddhad ychwanegol i Fudiadau o
Ddiddordeb Arbennig i Rai sydd wedi’u cofrestru fel elusen ond heb gysylltiad
lleol. Roedd yr addasiadau yma o ganlyniad i gytuno ar egwyddor na ddylai arian
trethdalwyr Gwynedd dalu i lenwi’r bwlch treth pan nad oes budd lleol. Yn
ogystal, nodwyd argymhelliad y Grŵp Ymchwil y dylai’r rhyddhad ychwanegol
dewisol a roddir yn ddiofyn i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y RSPCA a’r
RSPB ddod i ben. Eglurwyd mai cyfiawnhad hyn yw na ddylid ymdrin â’r elusennau
cenedlaethol hyn yn wahanol i elusennau eraill, ac o ganlyniad bydd angen i
eiddo’r elusennau hyn fel pawb arall gael eu hystyried yn unol â’u haeddiant. Awdur: Dafydd Edwards |
|
STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2018 PDF 113 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y
fersiwn ymgynghori o Strategaeth Iaith 2018. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y fersiwn ymgynghori
o Strategaeth Iaith 2018. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod angen sicrhau'r cytundeb ar gynnwys y strategaeth a’r
flaenoriaethau, a’u bod yn cyd-fynd gyda blaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod
mewn cynlluniau eraill megis Cynllun y Cyngor. Ymhelaethwyd fod angen i’r
strategaeth nodi targed ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg
yn y sir. Pwysleisiwyd fod y
Cyngor o flaen y gad o ran strategaeth iaith o ran Cymru, ond fod y polisi
iaith yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’r
iaith. Ychwanegwyd fod y strategaeth yn adeiladu ar y gwaith o hybu defnydd y
Gymraeg. Nodwyd fod y strategaeth angen mynd i ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod
Mawrth ac Ebrill ac i ganlyniad yr ymgynghoriaeth
gael ei drafod ym mis Ebrill. Bwriedir i’r strategaeth ddod yn ôl i’r Cabinet
ym mis Mehefin, cyn mynd i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf Awdur: Gwenllian Williams |
|
ADRODDIAD AR RAGLEN ARBEDION ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 324 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: a)
Cyfuno rhai cynlluniau (sydd wedi eu cymeradwyo) i ffrydiau gwaith
sydd yn cyflawni arbedion o’r un cyllidebau, ac yn ail broffilio cyfwerth a
£270,000 o arbedion 2018/19 I 2019/20 fel yr amlinellir yn rhan 7 o’r
adroddiad. b)
Cynyddu’r targed arbedion mewn rhai meysydd sy’n cyflawni mwy na’r
targed gwreiddiol, sef £195,000 yn 2018/19 a £200,000 yn 2019/20, fel yr
amlinellir yn rhan 8 o’r adroddiad. c)
Cynyddu’r targed arbedion o gynlluniau newydd sef £390,000 yn
2018/19 a £570,000 yn 2019/20, fel yr amlinellir yn rhan 9 o’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. W Gareth Roberts PENDERFYNIAD Penderfynwyd: a) Cyfuno
rhai cynlluniau (sydd wedi eu cymeradwyo) i ffrydiau gwaith sydd yn cyflawni
arbedion o’r un cyllidebau, ac yn ail broffilio cyfwerth a £270,000 o arbedion
2018/19 I 2019/20 fel yr amlinellir yn rhan 7 o’r adroddiad. b) Cynyddu’r
targed arbedion mewn rhai meysydd sy’n cyflawni mwy na’r targed gwreiddiol, sef
£195,000 yn 2018/10 a £200,000 yn 2019/20, fel yr amlinellir yn rhan 8 o’r
adroddiad. c) Cynyddu’r
targed arbedion o gynlluniau newydd sef £390,000 yn 2018/19 a £570,000 yn
2019/20, fel yr amlinellir yn rhan 9 o’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r rhaglen arbedion arfaethedig. Nodwyd fod y rhaglen
arbedion blaenorol wedi llithro o ganlyniad i newid yn y maes gofal yn
genedlaethol. Yn dilyn amser yn ail strwythuro a rhesymoli y rhaglen, mae
cynlluniau newydd wedi eu cynnig.
Ychwanegwyd fod modd i’r adran gyflawni mwy na’r targed gwreiddiol mewn
rhai meysydd. Er hyn, nodwyd fod
yr her yn parhau, gan y bydd angen lithro rhai cynlluniau. Pwysleisiwyd mai
bwriad yr adran oedd comisiynu yn wahanol ac i newid y gwasanaeth yn hytrach na
lleihau’r gwasanaeth sydd ar gael. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth Cadarnhawyd fod yr arbedion yma yn cyfarch y targedau hanesyddol, ond fod arbedion pellach i’r Cyngor i’w gweld yn y dyfodol, a nodwyd fod yr adran yn rhagweld y bydd modd adeiladu ar y rhaglen arfaethedig Awdur: Aled Davies |
|
CYNLLUNIAU TRETHIANT LLYWODRAETH CYMRU PDF 86 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ymateb
yn gefnogol i fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno trethi newydd, gan nodi
sylwadau a wnaethpwyd yn y drafodaeth ac yn benodol awydd fod nodweddion lleol
yn cael eu pwysleisio yn y gyfundrefn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Ymateb yn gefnogol i fwriad
Llywodraeth Cymru i gyflwyno trethi newydd, gan nodi sylwadau a wnaethpwyd yn y
drafodaeth ac yn benodol awydd fod nodweddion lleol yn cael eu pwysleisio yn y
gyfundrefn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod gan Lywodraeth Cymru'r hawl i ddeddfu i gael trethi
newydd. Ychwanegwyd fod yr eitem yn gyfle i drafod y cynigion ac i benderfynu
ar y camau nesaf ymlaen. Edrychwyd ar bob un o’r trethi yn unigol. Treth ar Dir Gwag Mewn egwyddor mae’r
dreth yn un defnyddiol a fydd yn rhoi diwedd ar gwmnïau mawr yn eistedd ar
diroedd am gyfnod hir. Ychwanegwyd fod angen mwy o wybodaeth a'i fod yn anodd
ei ddiffinio. Nodwyd fod hyn yn digwydd yn barod yn Iwerddon Ardoll Gofal
Cymdeithasol Awgrymwyd fod
posibilrwydd fod gwerth i wneud hyn, gan fod poblogaeth yn byw yn hyn ac angen
cefnogaeth, felly buasai yn bosibl ei ddefnyddio er mwyn gyfarch y galw ar y
gwasanaeth. Treth ar ddeunydd
plastic untro Nodwyd fod cynnig
wedi bod yn y Cyngor Llawn ynglŷn â Phlastig untro. Holwyd gan mai treth
genedlaethol a fuasai hwn ac o ganlyniad holwyd faint fydd modd ei hawlio yng
Ngwynedd. Nodwyd y byddai angen gofyn i ddatganoli’r arian a’i ddosbarthu ar
lefel leol. Treth ar
Dwristiaeth Mynegwyd cefnogaeth
i’r dreth, gan bwysleisio ei fod i’w weld fel treth lleol dramor ar hyn o bryd.
Ychwanegwyd nad yw’n dreth uchel iawn ond y byddai angen i fusnesau weld
manteision lleol o wneud hyn. O ran y cynigion,
nodwyd fod cefnogaeth iddynt i gyd, ond fod angen mwy o wybodaeth a dylid
pwysleisio’r agwedd o dreth lleol. Bydd ymateb yn cael ei greu ar sail y
drafodaeth. Awdur: Dilwyn Williams |