skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd buddiant gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan ar gyfer eitem 6 gan fod ganddo wŷr yn mynychu un o’r ysgolion yn nalgylch Y Bala. Roedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR 2, 9, 16 IONAWR 2018 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 2, 9 a 16eg o Ionawr 2018, fel rhai cywir

 

6.

CAMPWS DYSGU 3-19, Y BALA pdf eicon PDF 402 KB

Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

       i.        Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ar 31 Awst 2019 a Sefydlu’r Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.

      ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol a gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

       i.        Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ar 31 Awst 2019 a Sefydlu’r Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.

      ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi cefndir yr eitem hon. Esboniwyd fod y Cabinet, ar Fehefin 27ain, wedi penderfynu tynnu’r cynnig a gymeradwywyd ym mis Medi 2015 i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir (VC Eglwys yng Nghymru) yn ei ôl. Nodwyd fod rhagymgynghroiad wedi bod gyda’r Eglwys yn dilyn y Cabinet ym mis Mehefin a nodwyd mai'r disgyblion oedd eu blaenoriaeth.

 

Yn y Cabinet ar 24 Hydref, penderfynwyd cynnal ymgynghoriad statudol yn unol ag Adran 48 Deddf Safonau Ysgolion Cymru (2013). Daeth 28 o sylwadau yn ôl yn dilyn yr ymgynghoriad, ac ychwanegwyd fod y sylwadau yn cefnogi newid statws yr ysgol i fod yn un Gymunedol. Nodwyd y cam nesaf fydd i gyhoeddi rhybuddion statudol yn cynnig i gau'r ysgolion, ac i’r ysgol newydd agor ym Medi 2019. Mynegwyd y bydd yr adeilad yn barod erbyn Medi 2018, a bod trefniadau yn eu lle i’r ysgolion wneud defnydd o’r ysgol am y flwyddyn cyn ei hagor.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr eitem hon wedi cael ei thrafod ers tymor hir ond yn deall fod yr adran yn gaeth yn gyfreithiol a bod angen mynd drwy’r broses gywir. Nodwyd fod pobl yr ardal yn siomedig fod y gwaith wedi cymryd amser ond er hynny ei fod am wella ansawdd addysg yr ardal.

-        Trafodwyd yr adnoddau cymunedol gan nodi ei fod yn rhywbeth i’w ganmol, ac ychwanegwyd fod y llyfrgell yn ôl ar y safle.

Awdur: Garem Jackson

7.

CYNLLUN Y CYNGOR pdf eicon PDF 370 KB

Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2018-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 1af o Fawrth 2018

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2018-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 1af o Fawrth 2018

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwaith wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf i baratoi Cynllun y Cyngor a fydd yn gosod cyfeiriad i waith y Cyngor am y cyfnod 2018-23. Yn wahanol i’r blynyddoedd sydd wedi bod, nodwyd mai Cynllun y  Cyngor sydd yma ac nid cynllun gwella yn unig. .

 

Mynegwyd er bod y ddogfen yn rhoi cyfeiriad i’r Cyngor am y pum mlynedd nesaf, pwysleisiwyd ei bod yn ddogfen fyw a bydd cyfle i’r Cabinet yn ail edrych ar y ddogfen ystod y cyfnod. Pwysleisiwyd fod gwaith wedi ei wneud ar y diwyg ac iaith i sicrhau ei fod yn ddarllenadwy.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod y Cynllun wedi ei ysgrifennu yn glir a bod yn dda gweld cyflwyniadau i bob adran o’r Cyngor. Pwysleisiwyd y dylai hyn gynorthwyo  aelodau’r Cyngor i dderbyn perchnogaeth o’r Cynllun.

-        Mynegwyd fod yr uchelgais yn amlwg yma ond y realiti yw bod y sefyllfa ariannol yn debygol o lesteirio beth sydd yn gallu cael ei wneud. Ychwanegwyd fod Cronfa ar gael ar gyfer blaenoriaethau’r Cynllun ond efallai y bydd angen neilltuo arian ychwanegol.

-        Cyfeiriodd un aelod at eitem oedd yn ymddangos ar goll o drafodaethau gafwyd yn Ardal Llesiant Bangor

 

Awdur: Dewi W Jones

8.

CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwynwyd gan: Dilwyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a chefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr ail strwythuro ychydig er mwyn rhoi mwy o ffocws ar y gwaith o gefnogi teuluoedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a chefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr ail strwythuro ychydig er mwyn rhoi mwy o ffocws ar y gwaith o gefnogi teuluoedd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi codi yn dilyn datblygu strategaeth cefnogi teuluoedd yr Adran Blant a Theuluoedd. Er mwyn sicrhau fod ffocws ar y gwaith ataliol o gefnogi teuluoedd, credai’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd a’r Pennaeth fod angen penodi Uwch Reolwr ar gyfer canolbwyntio ar y maes yma.

 

Oherwydd y pwysau ariannol sydd ar y cyngor ar angen i ddarganfod arbedion sylweddol, nodwyd fod modd cyflawni’r angen mewn ffordd wahanol drwy drosglwyddo’r Uwch Reolwr Dysgu o’r Gwasanaeth Economi a Chymuned i’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd. Bydd y Uwch Reolwr yn dod a’r Gwasanaeth Ieuenctid gyda hi a bydd yr Uwch Reolwr hefyd yn cymryd y blaen ar gydgordio gwaith yn y maes tlodi. Mae trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r Penaethiaid ac yr Uwch Reolwr dan sylw ac nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r trosglwyddiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cefnogaeth i’r trosglwyddiad ac yn enwedig i’r elfen ei bod yn dod a’r Gwasanaeth Ieuenctid gyda hi gan fod cyswllt clir rhwng gwaith ataliol. Ychwanegwyd fod gwaith ataliol yn flaenoriaeth i’r adran ac i’r Cyngor a bod hwn yn un ffordd o uchafu’r flaenoriaeth yma.

9.

GWASANAETH TELEDU CYLCH CYFYNG pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Sefydlu darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng ar sail cyfundrefn heb ofalwr

    ii.        Neilltuo £489,000 o gyfalaf o Gronfa Buddsoddi i Arbed y Cyngor ar gyfer cyflawni’r newid

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Sefydlu darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng ar sail cyfundrefn heb ofalwr.
  2. Neilltuo £489,000 o gyfalaf o Gronfa Buddsoddi i Arbed y Cyngor ar gyfer cyflawni’r newid

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r argymhelliad. Esboniwyd fod y system sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn destun pryder gan ei fod yn agosáu ar ddiwedd ei oes weithredol a ni ellir ei adnewyddu. Ychwanegwyd yn ystod ymarferiad Her Gwynedd, cwtogwyd y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth i £90k, ac eleni bu i Gartrefi Cymunedol Gwynedd benderfynai beidio cyfrannu £35k yn flynyddol i’r Gwasanaeth ar gyfer monitro stadau Maesgeirchen a Maes Barcer.

 

Nodwyd fod yr adran yn cymeradwyo Opsiwn 2, ond pwysleisiwyd fod effaith sylweddol o ran colli swyddi. Mynegwyd fod trafodaeth gychwynnol wedi bod a staff.

 

Mynegwyd mai'r Heddlu sydd a’r defnydd mwyaf o’r system a gyda’r system newydd bydd modd i’r Heddlu, gyda chyswllt diwifr gael mynediad at y camerâu. Nodwyd er bod yn yr adran yn gofyn am neilltuo £489,000 o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed y Cyngor, pwysleisiwyd fod yr adran yn gobeithio ei gael fel benthyciad ac y bydd yr adran yn talu’r Gronfa yn ôl o fewn rhyw ddwy flynedd a hanner.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd defnydd yr Heddlu o’r system gan holi os oes unrhyw siawns gofyn am arian ychwanegol gan yr Heddlu gan mai hwy sydd yn gwneud y mwyaf o’r system. Ond nodwyd ei bod yn gyfrifoldeb statudol ar y Cyngor ac yn ychwanegol mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i leihau trosedd.

Nodwyd wrth edrych ar y system sydd yn ei lle ar hyn o bryd fod y lluniau yn aml yn wael o ran safon. Bydd y system newydd yn cynnwys mwy o gamerâu ac felly bydd mwy o luniau o safon ar gael. Nodwyd fod gwerth mewn buddsoddi mewn technoleg i’r dyfodol.

Awdur: Gwyn Morris Jones

10.

CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19-2020/21 pdf eicon PDF 167 KB

Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor (yn y cyfarfod ar 1 Mawrth 2018) y dylid:

      i.        Sefydlu cyllideb o £242,862,930 ar gyfer 2018/19, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £175,127,330 a £67,735,600 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda cynnydd o 4.8%.

    ii.        Sefydlu rhaglen gyfalaf o £8.389m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r adroddiad.

 

Nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Rhan B, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan 32-34 o’r Cynllun.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell i’r Cyngor (yn y cyfarfod ar 1 Mawrth 2018) y dylid:

  1. Sefydlu cyllideb o £242,862,930 ar gyfer 2018/19, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £175,127,330 a £67,735,600 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 4.8%.
  2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £8.389m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r adroddiad.

 

Nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Rhan B, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan 32-34 o’r Cynllun.

 

TRAFODAETH

 

Cafwyd cyflwyniad llawn i’r Gyllideb 2018/19 a Strategaeth Ariannol 2018/19 - 2020/21 roedd yn drosolwg o’r rhagolygon cyllidebol am y blynyddoedd i ddod. Pwysleisiwyd fod trafodaethau gydag aelodau etholedig wedi’u cynnal drwy 4 seminar yng Nghaernarfon, Dolgellau a Pwllheli, ac yn ychwanegol i hyn fod Cyllideb 2018/19 a’r Strategaeth Ariannol wedi bod o flaen y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cael ei graffu.

 

Trafodwyd y rhagolygon cyllidol am y tair blynedd ariannol 2018/19 - 2020/21, roedd wedi’u gosod mewn siart ffan. Wrth edrych ar amrediad o senarios tebygol, nodwyd y bydd angen i’r Cyngor adnabod hyd at £20m o arbedion rhwng 2018/19 a 2020/21.

 

Ychwanegwyd y bydd modd amddiffyn gwasanaethau’r Cyngor i bobl Gwynedd a chyfarch bwlch 2018/19 drwy gynnydd 4.8% yn y Dreth Cyngor a gweithredu’r cynlluniau arbedion a thoriadau ystyriwyd eisoes. 

 

Cyflwynwyd anghenion gwariant ar gyfer 2018/19 gan nodi fod 72% o’r gyllideb yn dod o’r setliad grant cyffredinol i lywodraeth leol. Mynegwyd fod pryder fod y Llywodraeth wedi torri grantiau penodol i ysgolion, ac yn benodol y Grant Gwella Ysgolion sydd yn -£618k. Ychwanegwyd na fydd modd i’r Cyngor lenwi’r bwlch hwn, ac o ganlyniad bydd yr ysgolion yn ysgwyddo toriad y Llywodraeth. 

 

Trafodwyd y gyllideb am 2018/19 a nodwyd drwy adnabod £896k o arbedion effeithlonrwydd, gweithredu’r cynlluniau arbedion a thoriadau a gytunwyd eisoes a cynnydd o 4.8% i’r Dreth Cyngor y bydd hyn yn ddigonol er mwyn mantoli’r gyllideb. Pwysleisiwyd ni fydd angen toriadau ychwanegol yn ystod 2018/19, ac felly y bydd codi’r dreth yn amddiffyn gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod gwerth yn y gyfres o weithdai i aelodau am y gyllideb, teimlwyd ei fod yn gyfle i gael mwy o wybodaeth a chael gwell dealltwriaeth o’r gyllideb.

-        Ychwanegwyd fod newid yn y cyfansoddiad, ac y bydd unrhyw aelod yn y Cyngor Llawn a fydd eisiau cynnig newid i’r gyllideb angen sicrhau fod y cynnig yn glir ac yn hafal yn ariannol. Yn ychwanegol bydd angen i’r cynnig gael ei anfon at y Swyddog Cyllid Statudol o leiaf deuddydd o flaen llaw.

 

Awdur: Dafydd Edwards