skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a swyddogion i’r  cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. W Gareth Roberts a Cyng. Annwen Hughes, fel Aelod Lleol, ar gyfer eitem 7.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys i’w drafod

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 TACHWEDD pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 21 Tachwedd 2017, fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL ADNODDAU DYNOL pdf eicon PDF 714 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyd yr Adroddiad Blynyddol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad diweddaraf yn tynnu sylw at y prif heriau sy’n wynebu Adnoddau Dynol. Tynnwyd sylw at ddatblygu’r Cynllun Prentisiaethau y mae’r Cyngor wedi’i adnabod fel blaenoriaeth  yn y flwyddyn ddiwethaf, a bod y rhaglen waith o fewn y Cynllun Pobl angen ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu hyn.

 

Nodwyd yn ogystal ei bod yn briodol nodi ers yr adroddiad gael ei chyhoeddi fod y Cyngor wedi derbyn asesiad Iechyd Aur eto eleni. Esboniwyd fod nifer dyddiau salwch wedi codi yn ystod y flwyddyn, ond er hyn mae’r nifer o aelodau o staff sydd heb golli diwrnod o waith i salwch hefyd wedi codi yn ogystal.

 

Amlinellwyd fod canran o ferched sydd yn gweithio yn y Cyngor yn llawer uwch ‘na dynion ar hyn o bryd mae’r canran yn 75%. Pwysleisiwyd fod y canran yn uwch mewn adrannau ble mae’r cyllidebau mwyaf. Ond er hyn mae proffil oedran y Cyngor yn uwch a bydd angen cadw golwg ar hyn. Pwysleisiwyd mai dim adroddiad blynyddol Adnoddau Dynol yw hwn ond yn hytrach adroddiad o gyflogaeth y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-Holwyd os oes modd cael mewnbwn y Maes Plant, ac yn benodol Plant mewn Gofal wrth edrych ar Brentisiaeth i weld os oes modd i bobol ifanc mewn gofal gael mynediad i’r swyddi. Nodwyd fod trafodaeth wedi bod am hyn yn y Tîm Rheoli Adrannol ac wedi cytuno ar wneud hyn

Awdur: Geraint Owen

7.

GWELLIANAU ISADEILEDD MYNEDIAD CANOLFAN AWYROFOD ERYRI, LLANBEDR pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig a Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i

  1. Cefnogi’r egwyddor fod Cyngor Gwynedd yn cymryd rôl Corff Arweiniol i’r prosiect

 

  1. Yn amodol ar dderbyn cadarnhad o’r cyfraniadau eraill:

                              i.        Bod y Cabinet yn rhoi sêl bendith i benderfyniad yr adran Economi a Chymuned i ymrwymo £250,000 o’i Cronfa Cydariannu tuag at cynllun oddeutu £25,000,000 i ddatblygu isadeiledd priodol i gefnogi datblygiad Canolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr.

                             ii.        Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo £250,000 arall i’r cynllun ymlaen llaw o’r Cynllun Rheoli Asedau arfaethedig.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

  1. Cefnogi’r egwyddor fod Cyngor Gwynedd yn cymryd rôl Corff Arweiniol i’r prosiect

 

  1. Yn amodol ar dderbyn cadarnhad o’r cyfraniadau eraill:

                              i.        Bod y Cabinet yn rhoi sêl bendith i benderfyniad yr adran Economi a Chymuned i ymrwymo £250,000,o’i Cronfa Cydariannu tuag at cynllun oddeutu £25,000,000 i ddatblygu isadeiledd priodol i gefnogi datblygiad Canolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr.

                             ii.        Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo £250,000 arall i’r cynllun ymlaen llaw o’r Cynllun Rheoli Asedau arfaethedig.

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod fod angen buddsoddiad pellach ar y lleoliad. Amcangyfrifir y gall datblygu Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer datblygu a threialu cerbydau a reolir o bell arwain bell arwain at greu 100 o swyddi. Nodwyd i alluogi datblygiad y safle mae angen buddsoddiad pellach gan gynnwys gwelliannau i’r cyfleusterau ar y maes awyr a ffordd mynediad newydd yn osgoi canol pentref Llanbedr.

 

Pwysleisiwyd fod y Maes Awyr yn ased sylweddol a all ddatblygu economi Meirionnydd drwy greu swyddi gwerth uchel. Mae’r safle yn ogystal yn rhan o Ardal Fenter Eryri, ac mae Cyngor wedi bod yn gweithio yn agos a’r cwmni sy’n gweithredu’r safle a Llywodraeth Cymru i’w ddatblygu. Pwysleisiwyd mai Llywodraeth Cymru sy’n berchen y safle ac maent wedi llesu'r safle i gwmni Snodonia Aerospace ar gytundeb hirdymor.             

 

Pwysleisiwyd yn glir fod cyfraniad Gwynedd yn mynd yn gyfan gwbl ar wella mynediad i’r safle fydd yn cynnwys gwelliannau i lonydd lleol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-           Nodwyd fod llawer o unigolion a mudiadau yn holi os bydd buddsoddiad i’r cwmnïau sydd wedi ei lleoli ar y safle - gan fod cwmnïau sydd yn datblygu arfau, Pwysleisiwyd eto y bydd arian y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r ffordd ac nid ar y lleoliad ei hun.

-           Nodwyd fod Meirionydd wedi gweld gwymp yn nifer y swyddi Gwerth Uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nodwyd fod angen buddsoddi mewn isadeiledd er mwyn cael swyddi gwerth uchel a galluogi pobl leoli i aros yn yr ardal. Ychwanegwyd fod 10 cwmni lleol yn defnyddio’r safle ac mae’r ffordd bresennol yn un gwael, angen buddsoddi yn y ffordd i alluogi cwmni lleol i ehangu.

-           Holwyd pam mai Cyngor Gwynedd a fydd yn cymryd y rôl Arweiniol - nodwyd oherwydd mai oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr arian gan Ewrop, ac felly yn methu rhoi'r arian iddynt eu hunain ac nid oes profiad gan y Cwmni sy’n rhedeg y safle ac felly'r Cyngor yw’r unig opsiwn.

-           Holwyd beth mae’r cwmni sydd a’r les yn ei wneud - nodwyd fod y cwmni yn y broses o ddatblygu cynllun busnes er mwyn gallu llogi rhannau o’r lleoliad i gwmnïau lleol, i uwchraddio safleoedd ar y safle ac maent yn gwneud cais i fod yn Ganolfan Awyrofod. Nodwyd eu bod yn anelu i gynnal y safle ac i ddyrchafu gwerth y safle a chael mwy o denantiaid.

-           Trafodwyd er gyfer rheolaeth y dyfodol ac a fydd y datblygiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Sioned Williams a Dafydd Williams

8.

BLAENRAGLEN CABINET pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd y flaen raglen gan nodi y bydd rhai ychwanegiadau i’r Flaen raglen yn nes ar y dyddiadau.