Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet
a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant gan y Cynghorwyr canlynol: Cyng. Ioan Thomas ar gyfer eitem 3 gan ei fod yn
Gadeirydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr. Cyng. W. Gareth Roberts ar gyfer eitem 6 gan fod ei
fab yng nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaeth Ieuenctid. Cyng. Dilwyn Morgan ar gyfer eitem 7 gan fod ei
wŷr yn mynychu Ysgol Bro Tegid. Roeddent i gyd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y
cyfarfod ar gyfer yr eitemau. |
|||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Roedd
un eitem brys i’w drafod. GORSAF REILFFORDD UCHELDIR CYMRU,
CAERNARFON Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cwmni
Rheilffordd Ucheldir Cymru yn dal llecyn o dir ar ffordd Santes Helen,
Caernarfon ers 1999, ar brydles gan y Cyngor am gyfnod o 1,000 o flynyddoedd.
Roedd y brydles wedi ei roi er mwyn caniatáu i’r cwmni ddatblygu rheilffordd o
Gaernarfon i Dinas, gan ddefnyddio’r llecyn i greu’r orsaf yng Nghaernarfon. Mae cymal penodol yn y brydles yn mynnu nad
oes hawl gan y cwmni i werthu bwyd a diod ar y safle heb gael caniatâd penodol
gan y Cyngor ac y byddai taliad pellach yn daladwy gan y tenant os fyddai’r
Cyngor yn fodlon rhoi caniatâd o’r fath. Mae mecanwaith manwl yn y brydles yn
amlinellu sut y byddai’r taliad yn cael ei gyfrifo. Mae cais wedi dod gan y cwmni yn gofyn i’r Cyngor i beidio â hawlio’r
ffi sy’n ddyledus o dan y brydles am ganiatâd o’r fath ac felly hepgor y swm
unwaith ac am byth. Ystyriwyd y mater yma yn fater brys oherwydd gofynion amserlennu prosiect ac yn unol a pharagraff 7.25.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a gyda chaniatâd Cadeirydd y Cyngor mae’r penderfyniad yn cael ei eithrio o’r drefn galw i mewn ac yn dod i rym ar dyddiad y cyfarfod a’r penderfyniad |
|||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||
COFNODION CYFARFODYDD A GYNHALWYD AR MEDI 19 A HYDREF 3 PDF 290 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y
Cabinet a gynhaliwyd ar y 19 Medi a 3 Hydref, 2017, fel rhai cywir. |
|||
AIL FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID PDF 339 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd
yr adroddiad ac yn awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned i gynnal ymgynghoriad
ar ffurf y Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol, gan adnabod Opsiwn 3 fel yr opsiwn
a ffafrir. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adroddiad ac yn
awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned i gynnal ymgynghoriad ar ffurf y
Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol, gan adnabod Opsiwn 3 fel yr opsiwn a ffafrir.
TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad a nodwyd eu bod gofyn am ganiatâd i ymgynghori ar y model sy’n
cael ei ffafrio. Pwysleisiwyd ers Her Gwynedd fod yr adran wedi bod yn
ymgysylltu a plant a phobl ifanc. Esboniwyd mai opsiwn tri sy’n cael ei ffafrio
gan y bobl ifanc gan ei fod yn rhoi darpariaeth deg i bob person ifanc ar draws
y sir. Nodwyd
fod cau clybiau yn digwydd ar hyn o bryd ac mae hyn o ganlyniad i broblemau
recriwtio staff. Bydd opsiwn tri yn rhoi cyfle i greu swyddi ond rhai llawn
amser a fydd yn rhoi cyfle i’r staff ddatblygu’r gwasanaeth. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth - O drafodaeth a Phobl
Ifanc nodwyd nad oedd y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y bobl ifanc. Nodwyd
fod angen i’r gweithiwr ieuenctid fod ar gael yn ystod y dydd. Pwysleisiwyd fod
angen datblygu y defnydd o dechnoleg. - Holwyd beth fydd rôl y
trydydd sector yn ffurf y gwasanaeth newydd sy’n mynd i ymgynghoriaeth - nodwyd
mai'r realiti yw nad oes cymaint arian a
bod angen bod yn deg a’r mudiadau sy’n derbyn a ddim yn derbyn arian. Mae
trafodaethau wedi bod gyda’r mudiadau trydydd sector. Yn ychwanegol nodwyd fod
blaenoriaethau yn mynd i fod ar anghenion y bobl ifanc ac os bydd opsiwn tri yn
cael ei dderbyn yn dilyn ymgynghoriad, y bydd y trydydd sector yn cael ei
gomisiynu i drafod meysydd penodol o’r gwasanaeth. Bydd hyn yn sicrhau fod
arbenigedd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfarch blaenoriaethau'r bobl ifanc. - Pwysleisiwyd ei bod yn
bwysig fod pob person ifanc yn y sir yn cael yr un gwasanaeth ble bynnag y
maent yn byw. Trafodwyd yr ymgynghoriad sydd am fod ar lein ond nodwyd yn glir na fydd neb yn cael ei gau allan a bydd ymgynghoriadau yn cael ei gynnal mewn dulliau gwahanol er mwyn sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i leisio barn Awdur: Catrin Thomas |
|||
DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH Y BALA PDF 353 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: I gynnal ymgynghoriad
statudol yn unol ar Adran 48 Deddf Safonau Ysgolion (Cymru) 2013, yn nalgylch Y
Berwyn ar y model a ffafrifir, sef cynnig i gau
ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn yn nhref y Bala, a sefydlu
Campws Dysgu 3-19, cyfrwng Cymraeg, statws Cymunedol ar safle presennol Ysgol y
Berwyn yn weithredol o fis Medi 2019. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD I gynnal ymgynghoriad statudol yn
unol ar Adran 48 Deddf Safonau Ysgolion (Cymru) 2013, yn nalgylch Y Berwyn ar y
model a ffafrifir, sef cynnig i gau ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid ac Ysgol y
Berwyn yn nhref y Bala, a sefydlu Campws Dysgu 3-19, cyfrwng Cymraeg, statws
Cymunedol ar safle presennol Ysgol y Berwyn yn weithredol o fis Medi 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
ar 27 Mehefin 2017 y bu i’r Cabinet benderfynu tynnu'r cais i sefydlu Campws
Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir (VC Eglwys yng Nghymru yn ei ôl, a gofyn am
adroddiad pellach i gyflwyno model amgen ar gyfer ymgynghoriad sy’n cyfarch a
chyd-fynd a gofynion yr Achos Busnes. Drwy ddilyn y camau statudol y cam nesaf
yw’r ymgynghoriaeth. Mae rhag-ymgynghoriaeth wedi ei
gynnal gyda’r Eglwys yng Nghymru a nodwyd mai anghenion disgyblion yw eu
blaenoriaeth - o ganlyniad byddant yn gweithio gyda’r ysgol a’r gymuned i ddod
ar mater i derfyn. Nodwyd fod amserlen agor yr
ysgol wedi llithro er y bydd y gwaith adeiladu yn gorffen ar amser. Bydd
blwyddyn o gyfnod pontio ble fydd modd i’r ysgolion wneud defnydd o’r adeilad
newydd cyn iddo agor ym mis Medi 2019. Sylwadau o’r drafodaeth - Nodwyd fod yr ysgolion yn frwdfrydig am y flwyddyn bontio ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r adeilad. Diolchwyd i staff a’r disgyblion am sut maent wedi delio gyda’r mater Awdur: Garem Jackson a Hedd Morlais Tomos |
|||
STRATEGAETH IAITH YSGOLION UWCHRADD GWYNEDD PDF 152 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: I
fabwysiadu Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd fel dogfen sydd yn gosod
cyfeiriad strategol a disgwyliadau clir i holl ysgolion uwchradd y sir i
ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddefnydd cymdeithasol disgyblion o’r Gymraeg y tu
mewn a thu allan i’r ysgol. I’r
Cynghorwyr Mair Rowlands a Gareth Thomas ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion
Cabinet perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddarparu’r £120,000
(£40,000 y flwyddyn am dair blynedd 2018/19 – 2020/21) er mwyn ariannu swydd
Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd i arwain ar gynnydd pellach yn
nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. Os na fydd y
Llywodraeth yn fodlon ariannu, awdurdodi’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid
i’w ariannu o gronfeydd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD I fabwysiadu
Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd fel dogfen sydd yn
gosod cyfeiriad strategol a disgwyliadau clir i holl
ysgolion uwchradd y sir i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddefnydd
cymdeithasol disgyblion o’r Gymraeg y tu
mewn a thu allan i’r ysgol.
I’r Cynghorwyr Mair Rowlands a Gareth Thomas ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol
yn Llywodraeth Cymru yn gofyn
iddynt ddarparu’r £120,000
(£40,000 y flwyddyn am dair
blynedd 2018/19 – 2020/21) er
mwyn ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd i arwain ar gynnydd
pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. Os
na fydd y Llywodraeth yn fodlon ariannu, awdurdodi’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i geisio darganfod
dulliau eraill o gael yr adnodd
amgenrheidiol. TRAFODAETH Mae Siarter Iaith Gynradd y Cyngor bellach wedi ei ledaenu
dros Gymru gyfan ac mae hwn
y cam nesaf i ddatblygu a symud i weithio gyda’r
uwchradd. Nodwyd fod y strategaeth edrych ar y defnydd
o Gymraeg o fewn Addysg a'r tu
allan i’r Ysgol. Esboniwyd fod y Siarter wedi ei
rannu i bedwar
prif faes - Cymraeg Iaith Gyntaf,
Cymraeg Ail Iaith, Y Gymraeg fel Cyfrwng
a Defnydd cymdeithasol pobl ifanc o’r
Gymraeg. Pwysleisiwyd fod y gwaith wedi
ei ddatblygu o’r gwaelod i
fyny drwy drafod gyda phobl
ifanc, athrawon a phenaethiaid. Bu i ddigwyddiad Cymhadledd gael ei gynnal
yn ystod yr wythnos a oedd
yn gynhadledd i ddisgyblion ysgolion
uwchradd Gwynedd er mwyn trafod y siarter.
Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth - Pwysleisiwyd fod y Strategaeth yn holl bwysig a'i
bod yn bwysig adeiladu ar waith
da Siarter Iaith Cynradd. Trafodwyd ariannu’r Swydd a nodwyd ei bod yn syniad cysylltu â’r Ysgrifenyddion perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddarparu £120,000 i ariannu’r swydd. Awdur: Garem Jackson a Debbie Anne Williams Jones |
|||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Awdurdodi
Pennaeth yr Adran Amgylchedd a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi a
gweithredu Cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Mon er mwyn
ailsefydlu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Gwynedd a Chyngor Sir
Ynys Mon yn ffurfiol. Dirprwyo
swyddogaethau’r Cabinet yng nghyswllt y materion y cyfeirir atynt yn rhan 6 yr
Adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Gwynedd a Chyngor
Mon. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Awdurdodi Pennaeth yr Adran
Amgylchedd a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi a gweithredu
Cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys
Môn er mwyn ailsefydlu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar
gyfer Gwynedd a Chyngor Sir
Ynys Môn yn ffurfiol. Dirprwyo swyddogaethau’r Cabinet yng nghyswllt y materion y cyfeirir atynt yn rhan 6 yr
Adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer
Gwynedd a Chyngor Môn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan esbonio
ar 7 Mawrth 2017 bu i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig i barhau i
ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda
Chyngor Sir Ynys Môn sydd wedi ei sefydlu
yn 2011. Ar 31 Gorffennaf daeth rôl y Pwyllgor i ben pan fabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Oherwydd bod y cytundeb a
bod trefniant cydweithio yn parhau mae
angen ailsefydlu rôl y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Pwysleisiwyd fod tebygrwydd yn y cytundeb a’r swyddogaethau
a’r ctyundeb diwethaf ond fod
diwygiad o’r cynllun am ddigwydd pob pedair blynedd.
Nodwyd fod newid i’r aelodaeth
gan y bydd saith aelod o bob sir yn rhan o’r
cynllun ond ni fydd dirprwy
yn cael ei
apwyntio. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: - Esboniwyd fod aelodaeth newydd i’r Pwyllgor Cynllunio ar y Cyd wedi eu penodi ym mis Mai 2017, yn dilyn yr Etholiad Awdur: Gareth Jones |
|||
CAIS Y FARGEN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 169 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: -
Nodwyd a chefnogwyd cynnydd datblygiad cais y Fargen Twf ar gyfer
y rhanbarth. -
Cefnogwyd, mewn egwyddor, y model llywodraethu a
ffefrir o Gydbwyllgor Statudol ar gyfer datblygiad pellach gydag adroddiad
llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl, wedi ei gefnogi gan Gytundeb
Rhyng-Awdurdod, i ddilyn nes ymlaen yn y flwyddyn. -
Awdurdodi yr Arweinydd, yn y cyfamser, i fod yn
aelod Gwynedd o’r Cydbwyllgor Cysgodol -
Bod yr Arweinydd, fel un o Arweinwyr y chwe
Chyngor a gynrychiolir ar Cydbwyllgor Cysgodol, yn cael ei awdurdodi i ddechrau
trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn
a maint ac amlinelliad cynnwys cais y Fargen Twf, gan nodi na fydd unrhyw
ymrwymiadau ariannol nac o fath arall yn cael eu cytuno yng nghamau cyntaf y
trafodaethau. -
Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr wneud
cyfraniad ariannol cychwynnol o hyd at £50,000 yn 2017/18 ar gyfer paratoi cais
am arian o’r Cytundeb Twf -
Nodi fod y Cyngor hwn hefyd yn disgwyl sicrwydd
o ran sefydlu Swyddfa Raglen a cael dealltwriaeth o’r strwythur a dull
ariannu’r Swyddfa honno pan yn cymeradwyo unrhyw gyfansoddiad / cytundeb. Cofnod:
Awdur: Iwan Trefor Jones |