skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFODYDD A GYNHALWYD AR 5 MEDI A 12 MEDI 2017 pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 5ed o Fedi a’r 12fed o Fedi 2017, fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET TAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno gwybodaeth gyfredol ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni yn y maes gan amlinellu’r diweddaraf ar y materion hynny oedd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Strategol, y mesurau perfformiad a’r diweddaraf o ran cynllun arbedion a thoriadau.

 

Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn aelod newydd i’r Cabinet ac wedi bod yn brysur yn ymgyfarwyddo ei hun gyda gwaith y gwasanaethau. Mynegwyd bod nifer o’r gwasanaethau yn mynd drwy gyfnod o newid ac ailfodelu ond ei fod yn gyffredinol, yn hapus gyda’r perfformiad. Roedd yn awyddus i weld y gwasanaethau yn parhau i lwyddo er gwaethaf yr holl heriau fydd yn eu hwynebu yn y dyfodol agos. Ategwyd mai ei flaenoriaeth am y cyfnod nesaf fydd sicrhau cydweithio trawsadrannol er mwyn mynd i’r afael a thlodi ac amddifadedd.

 

Tynnwyd sylw at brosiect strategol ‘Cydymdrechu yn erbyn Tlodi’ a nodwyd bod gwaith  da wedi ei wneud i gynnal digwyddiadau ‘Call efo’r Geiniog’ ar draws y Sir fel modd i drigolion Gwynedd gael gwybodaeth am sut i gael y gorau o’u harian.

 

Amlygwyd pryder mewn newidiadau yn y maes lles a budd-daliadau a’r newid i’r Credyd Cynhwysol (gweithredol o Ebrill 2018) fydd yn debygol o effeithio oddeutu 300+ aelwyd yn y Sir. Adroddwyd bod sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer staff rheng flaen i rannu gwybodaeth a pharatoi ar gyfer yr addasiadau hyn.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

 

-       A yw cyfrifoldebau newydd o fewn Deddfwriaeth Digartrefedd yn rhoi baich ychwanegol ar amser staff i gadw cofnodion manwl o’r broses asesu yn ychwanegu gwerth i’r gwasanaeth?

-       Nad yw perfformiad Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn ddigonol (er yr ystyriaeth sydd yn cael ei roi i gyfnodau trefnu a chodi estyniadau).

-       Yng nghyd–destun Credwyd Cynhwysol awgrymwyd y dylid amlygu’r pryderon i’r Aelodau Seneddol Lleol gan y gall trefniadau gweinyddu’r credyd yn ganolog gan y Llywodraeth amlygu pryderon pellach.

-       Croesawu awydd yr Aelod Cabinet i gydweithio yn drawsadrannol i ymdrin â thlodi

-       Bod angen diweddariad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr agenda Trechu Tlodi. Ymddengys nad yw bellach yn flaenoriaeth

-       Bod angen mesur effaith prosiectau megis Cyfeirio at Ymarfer a Dementia Go wrth ystyried trosglwyddo Canolfannau Hamdden i gwmni newydd wedi ei reoli gan y Cyngor.

 

Mewn ymateb i sylw am y ddarpariaeth ddigartrefedd, amlygodd y Pennaeth Gwasanaeth bod gofynion ychwanegol gan y Llywodraeth a Phartneriaethau ar yr Uned am wybodaeth. Derbyniwyd y sylw bod angen adolygu'r broses o ystyried bydd cynnydd pellach a’r ofynion yr Uned o ganlyniad i newidiadau mewn budd-daliadau.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Trechu Tlodi, nodwyd bod y Llywodraeth yn ail edrych ar y maes yn ei gyfanrwydd a bod y strategaethau yn cael eu hadolygu. Awgrymwyd y byddai cyhoeddiad gan y Llywodraeth yn Nhachwedd 2017.

 

 

Mewn ymateb i sylw am y prosiectau Cyfeirio at Ymarfer a Dementia Go, nodwyd bod y prosiectau hyn yn bwysig iawn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Iwan Trefor Jones

7.

DARPARU CYFLEUTERAU HAMDDEN - SEFYDLU CWMNI WEDI EI REOLI GAN Y CYNGOR pdf eicon PDF 494 KB

Mae’r atodiadau ar wahan ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig.

Mae’r eitemau yn eithredig o dan Paragraffau 14 ac 16 o Atodiad 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth yn ymwuneud a materion ariannol, busnes  a chyfreithiol).

Mae’r adroddiad blaen yn agored ond mae’r atodiadau yn cynnwys gwybodaeth masnachol a chyfreithiol sensitif. Hynny oherwydd y byddai rhyddhau yr atodiadau yn llawn yn caniatáu i gyflenwyr annibynnol o’r Cyngor ddod i gasgliadau ynglyn â pherfformiad ariannol ynghyd â ffioedd rheoli y gwahanol fodelau darparu. Yn sgil hynny, gall rhyddhau danseilio unrhyw drefniadau caffael i’r dyfodol fyddai’n gadael y Cyngor yn agored i risg ariannol o safbwynt rheoliadau caffael .Mae hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol fyddai yn ddarostyngedig i fraint cyfreithiol.

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i

-        argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r achos busnes ar gyfer sefydlu Cwmni a Reolir gan Gyngor Gwynedd i ymgymryd a darpariaeth cyfleusterau hamdden.

-        Argymell i’r Cyngor Llawn awdurdodi sefydlu Cwmni wedi ei reoli gan Gyngor Gwynedd yn unol a’r ffurf sy’n cael ei amlinellu o fewn yr achos fusnes er darparu cyfleusterau hamdden, gan dynnu sylw at sylwadau ac ystyriaethau’r Pwyllgor Craffu.

-        I gymeradwyo’r achos busnes i gytuno i ryddhau cyllid unwaith ac am byth o £165k o’r Gronfa Trawsnewid i sefydlu’r cwmni.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNWYD

 

-       Argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r achos busnes ar gyfer sefydlu Cwmni a Reolir gan Gyngor Gwynedd i ymgymryd â darpariaeth cyfleusterau hamdden.

-       Argymell i’r Cyngor Llawn awdurdodi sefydlu Cwmni wedi ei reoli gan Gyngor Gwynedd yn unol â’r ffurf sy’n cael ei amlinellu o fewn yr achos fusnes er darparu cyfleusterau hamdden, gan dynnu sylw at sylwadau ac ystyriaethau Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a gynhaliwyd 26.9.17

-       Cymeradwyo’r achos busnes i gytuno i ryddhau cyllid unwaith ac am byth o £165k o’r Gronfa Trawsnewid i sefydlu’r cwmni.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad i amlinellu sail dros sefydlu Cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor i ddarparu cyfleusterau hamdden o fewn y Sir. Ategwyd y byddai hyn yn gyfle i gyflawni arbedion effeithlonrwydd heb gael effaith ar bobl Gwynedd. Adnabuwyd nifer o opsiynau posib a derbyniwyd cyngor cyfreithiol ar y modelau ar sail y risgiau gweithredol cysylltiedig. Nodwyd y byddai sefydlu cwmni newydd wedi ei reoli gan y Cyngor yn sicrhau parhad i’r gwasanaeth  presennol ac yn gwireddu gofynion yr arbediad yn llawn.

 

Tynnwyd sylw at y tabl yn yr adroddiad oedd yn crynhoi gwerthusiad yr opsiynau ac er yr ymddengys nad creu cwmni wedi ei reoli oedd y gorau, dyma'r un oedd yn gwarchod y risgiau diwylliannol, yng nghyswllt yr Iaith Cymraeg ac egwyddorion eraill y Cyngor. Pwysleisiwyd na fyddai'r gwasanaeth yn edrych yn wahanol i ddefnyddwyr a staff  - efallai y byddai yn well.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau'r Pwyllgor Craffu Economi ac Addysg (26.9.17) a ddosbarthwyd yn y cyfarfod. Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu yn argymell opsiwn 6 fel cyfeiriad ac yn pwysleisio yn glir bod dewis yr Arweinyddiaeth gywir yn allweddol  i lwyddiant y cwmni. Nodwyd hefyd yr angen am graffu pellach wrth i’r gwaith ddatblygu.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

 

-       Bod y cam yn un rhesymegol a synhwyrol

-       Bod gan y  Cyngor fwy o reolaeth dros y gwasanaethau hamdden yn hytrach na defnyddio cwmni preifat (er y byddai cwmni preifat yn debygol o sgorio yn uwch yng nghyd-destun arbedion)

-       Bod angen sicrhau bod Bwrdd y cwmni yn ymddwyn fel Bwrdd ac nid Pwyllgor gan sicrhau cefnogaeth iddynt.

-       Bod angen canmol yr adran am gyrraedd yr arbediad yn llawn

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phroses sgorio cwmni allanol a’u gallu i gynnig arbedion pellach, nodwyd bod angen ystyried cyfraniadau pensiwn ac amodau gwaith fyddai yn debygol o fod yn wahanol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar broses o hysbysebu swyddi, nodwyd bod opsiwn i’r Cyngor benodi Arweinydd  fyddai yn trosglwyddo i’r cwmni newydd, neu sefydlu cwmni yn gyntaf a chaniatáu i Fwrdd y cwmni wneud y penodiad. Pwysleisiwyd eto bod penodi arweinydd effeithiol yn hanfodol. Ategwyd nad oedd cyfansoddiad y Bwrdd wedi ei benderfynu

 

 

Awdur: Sioned Williams

8.

BWLETIN PERFFORMIAD AWDURDOD LLEOL 2016/17 pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn y Bwletin Perfformiad a sicrhau y bydd aelodau Cabinet yn:

-        Bodloni eu hunain fod camau yn eu lle er mwyn gwella’r sefyllfa gan roi sylw i’r mesurau sy’n ymddangos yn Nhabl 1: Crynodeb perfformiad mesurau cenedlaethol Gwynedd 2016/17 (yn yr adroddiad) yn y cylch nesaf o gyfarfodydd herio perfformiad y gynhelir ym mis Tachwedd.

-        Adrodd yn ôl ar unrhyw sylwadau sy’n crynhoi’r cyd-destun perfformiad ac unrhyw gamau ar gyfer gwella sydd wedi eu cytuno fel rhan o adroddiadau perfformiad Aelodau Unigol yn y cylch adrodd nesaf ym mis Ionawr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

-       Derbyn a nodi’r wybodaeth yn y Bwletin Perfformiad a sicrhau y bydd aelodau Cabinet yn:

Bodloni eu hunain fod camau yn eu lle er mwyn gwella’r sefyllfa gan roi sylw i’r mesurau sy’n ymddangos yn Nhabl 1: Crynodeb perfformiad mesurau cenedlaethol Gwynedd 2016/17 (yn yr adroddiad) yn y cylch nesaf o gyfarfodydd herio perfformiad y cynhelir ym mis Tachwedd.

Adrodd yn ôl ar unrhyw sylwadau sy’n crynhoi’r cyd-destun perfformiad ac unrhyw gamau ar gyfer gwella sydd wedi eu cytuno fel rhan o adroddiadau perfformiad Aelodau Unigol yn y cylch adrodd nesaf ym mis Ionawr.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod Uned Data Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Bwletin Perfformiad ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru sydd yn cymharu set gyfyngedig o ddangosyddion perfformiad. Nodwyd bod y Bwletin diweddaraf wedi ei gyhoeddi ar y 13eg o Fedi yn cynnwys gwybodaeth ar berfformiad set o ddangosyddion perfformiad ar gyfer 2016 – 2017. Ategwyd bod yr adroddiad yn un cadarnhaol o safbwynt Gwynedd

 

Amlygwyd nad oedd rhai o’r mesurau oedd yn cael eu hystyried gan y gwasanaethau yn rhai oedd yn cynrychioli blaenoriaethau Cyngor Gwynedd ac nad oeddynt yn mesur yr hyn sydd yn bwysig i bobl Gwynedd. Nodwyd hefyd bod gan y Gwasanaethau eu trefniadau rheoli a mesur perfformiad eu hunain.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Cais i’r Aelodau Cabinet dynnu sylw at y materion sydd angen sylw yn y cylch nesaf o gyfarfodydd herio perfformiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfleu i’r Llywodraeth annilysrwydd rhai o’r mesurau i Wynedd, nodwyd bod rhaid i Wynedd ddewis mesurau ar gyfer pobl Gwynedd a cytunwyd bod angen adolygu rhai mesurau hanesyddol y Llywodraeth.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones

9.

CYNLLUN BUSNES PROSIECTAU HUNAN-WASANAETH pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo’r Cynllun Busnes y Prosiect Hunan-wasanaeth ac i ryddhau cyllid o £104,794 o’r gronfa Trawsffurfio ar gyfer cwblhau’r gwaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes y Prosiect Hunan-wasanaeth a rhyddhau cyllid o £104,794 o’r gronfa Trawsffurfio ar gyfer cwblhau’r gwaith.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod y Prosiect Hunan Wasanaeth yn un o flaenoriaethau’r Cyngor mewn ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid sydd yn cynyddu’n barhaus. Bydd yr adnodd Hunan Wasanaeth yn galluogi i’r cyhoedd gael mynediad at wasanaeth neu wybodaeth ar adegau sydd yn gyfleus iddynt hwy.

 

Nodwyd bod y cynllun yn un cyffrous a bod y Cynllun Busnes yn cyfarch yr angen gyda rhai elfennau eisoes wedi eu datblygu. Y cam nesaf fydd hyrwyddo a marchnata’r ddarpariaeth yn dilyn lansio’r pecyn cychwynnol yn gyhoeddus yn Nhachwedd 2017. Byddai ychwanegiad i’r ddarpariaeth mewn amser

 

Diolchwyd i’r holl swyddogion oedd ynghlwm a’r gwaith o sefydlu’r broses hunanwasanaeth

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Croesawu’r cynllun – y gwasanaeth yn debygol o hwyluso’r broses i’r defnyddwyr

-       Bod pobl erbyn hyn yn disgwyl y math yma o wasanaeth gyda’r arferiad o ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn cynyddu

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen i greu cyfrif, nodwyd bod angen annog pobl i greu cyfrif er mwyn iddynt ddilyn datblygiadau/ymholiadau. Ategwyd na fyddai angen creu cyfrif i ddefnyddio App Gwynedd sydd yn rhan o’r gwasanaeth.

 

Awdur: Geraint Owen

10.

GWIREDDU'R CYNLLUN CLWB BRECWAST pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i godi ffi o £0.80 am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast, gan roi disgownt i deuluoedd gyda 3 neu ragor o blant gyda’r trefniadau hynny i gychwyn ar y 6 Tachwedd 2017.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Codi ffi o £0.80 am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast, gan roi disgownt i deuluoedd gyda 3 neu ragor o blant gyda’r trefniadau hynny i gychwyn ar y 6 Tachwedd 2017.

 

TRAFODAETH

 

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn (3.3.16) i dorri £100,000 oddi ar gyllideb Cynllun Clwb Brecwast mewn ymateb i doriadau ariannol gan y Llywodraeth, ystyriwyd  dau opsiwn i gyfarch y toriad yma. Adroddwyd bod 75 o ysgolion cynradd Gwynedd yn cynnig gofal plant cyn-ysgol gyda’r Cynllun Brecwast am Ddim Llywodraeth Cymru. Pwysleisiwyd na fyddai’r bwriad yn effeithio dim ar y ddarpariaeth bresennol. Yr opsiynau oedd codi ffi am yr amser gwarchod cyn derbyn brecwast neu beidio derbyn plant cyn brecwast.

 

Tynnwyd sylw at ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghyd ag amlinellu sut yr ystyriwyd y ffi o £0.80. Ategwyd hefyd bod dyletswydd statudol i gynnig brecwast am ddim.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Bod y bwriad i’w groesawu, ond angen cadw llygad ar y cynllun i sicrhau ei fod yn ymateb i’r angen ac i’r nifer fydd yn ei ddefnyddio.

-       Bod cyfanswm y nifer sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad yn galonogol

-       Bod y datrysiad yn un da

-       Croesawu disgownt i deuluoedd gyda 3 neu fwy

Bod yr argymhelliad yn cyd-fynd a’r hyn sydd wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad. Dengys bod y gwaith ymchwil cefndirol a’r ymgynghori sylweddol cyn cyflwyno'r adroddiad wedi sicrhau bod y cynllun ar y trywydd cywir.

Awdur: Owen Owens

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG pdf eicon PDF 213 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno gwybodaeth gyfredol ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni yn y maes gan amlinellu’r diweddaraf ar y materion hynny sydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Strategol, y mesurau perfformiad a’r diweddaraf o ran cynllun arbedion a thoriadau.

 

Adroddwyd bod cynnydd da wedi ei wneud ar y rhan fwyaf o brosiectau’r Cynllun Strategol a bod rhai meysydd angen sylw arbennig gan yr Adran er  mwyn gwella perfformiad. Y prif flaenoriaethau ar gyfer  y misoedd nesaf fydd codi safonau'r cyfnod sylfaen, gwella safonau cyfnod allweddol 4 mewn pynciau penodol a gwella ansawdd y ddarpariaeth ôl-16.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant y Bwrdd Ansawdd Sirol (BAS) sydd yn monitro ansawdd a pherfformiadau ysgolion ar bob lefel. Nodwyd bod y BAS yn profi ei werth yn gynyddol. Tynnwyd sylw hefyd at waith pellach sydd angen ei gwblhau i finiogi’r prosiect Gwella Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Nodwyd bod cais i’r Adran ystyried rhaglen hyfforddiant cynhwysfawr sydd yn mapio'r hyn sydd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru, GwE a Chyngor Gwynedd fel bod hyfforddiant priodol ar gyfer arweinwyr.

 

Rhoddwyd diweddariad ar ddatblygiadau'r Rhaglen Rhwydwaith o Ysgolion Hyfyw i’r Dyfodol gan nodi bod cyfarfod yn cael ei gynnal yn Y Bala 4.10.17 i drafod statws yr ysgol (y gwaith adeiladau a’r gwariant yn parhau yn unol â’r amserlen). Tynnwyd sylw hefyd at waith y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad sydd yn cael ei weithredu ar y cyd gyda Môn.

 

Nodwyd mai anodd yw mesur canlyniadau arholiadau TGAU 2017 yn erbyn 2016 oherwydd y newidiadau i’r drefn arholi a’r fanyleb. Nodwyd er hynny, bod modd cymharu â lefel rhanbarth. Ategwyd y gall yr ystadegau newid eto o ganlyniad i rai papurau yn cael eu hail farcio.

 

Adroddwyd mai presenoldeb  plant Uwchradd Gwynedd yw y  gorau yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r BAS amlygwyd mai aelodau yw Swyddogion Ardal Addysg y Cyngor ac Ymgynghorwr Her GwE, ac yn atebol i’r Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet. Nodwyd bod cydweithio da a’r berthynas wedi datblygu. Er hynny, heriwyd y ffaith bod un ysgol wedi disgyn i fesurau arbennig yn ddiweddar a pham nad oedd hyn wedi dod i sylw y BAS. Nodwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i adfer y sefyllfa yma.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 11, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.Gofynnwyd i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

 

14.10.2 Gwybodaeth EithriedigDisgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd

natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â manylion cytundeb a threfniadau gwerthiant nad yw’n hysbys ar hyn o bryd. Mae’r wybodaeth yn cael ei ystyried yn eithriedig yn unol â chategori 14, gan ei fod yn wybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn penodol.

 

13.

TIR YN LLANRUG

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd y penderfyniad a wnaethpwyd ar Fawrth 28 2017 i ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Addysg i brynu llain o dir yn Llanrug ac yn sgil y pryniant, rheolaeth briodol o’r safle, yn unol ar adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas

Croesawyd yr Aelod Lleol Llanrug i’r cyfarfod – y Cynghorydd Charles Jones.

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhawyd y penderfyniad a wnaethpwyd ar Fawrth 28 2017 i ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Addysg i brynu llain o dir yn Llanrug ac yn sgil y pryniant, rheolaeth briodol o’r safle, yn unol ar adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Yn dilyn cais am wybodaeth ychwanegol am niferoedd ysgolion dalgylch Brynrefail gohiriwyd y penderfyniad ar y mater yng nghyfarfod y Cabinet 19.9.17. Bellach, gyda’r wybodaeth am niferoedd mewn dosbarth wedi ei rannu gyda’r Aelodau roedd modd ail afael ar y drafodaeth. Roedd y  tir yn parhau ar gael i’w brynu (rhag ofn y byddai ei angen yn y dyfodol agos i’w ddatblygu). Nodwyd mai cyfle unwaith ac am byth oedd yma i brynu’r tir ar gyfer gwella rhai o adnoddau'r ysgol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

 

-       Bod angen buddsoddiad tymor hir i uwchraddio'r safle gan nad oed modd adeiladu ysgol o’r newydd

-       Bod yr adeilad presennol yn is-safonol ac felly angen buddsoddiad tymor hir

-       Bod y safle presennol yn gyfyng iawn – iard yr ysgol yn annigonol ar gyfer nifer y plant

-       Nad oedd capasiti yn fater oedd angen ystyriaeth – ansawdd yr adeiladau oedd y broblem.

-       Bod y safle ddim yn ddigonol petai angen ad-drefnu darpariaeth y dalgylch

-       Nad oedd y dystiolaeth yn ddigonol

-       Bod costau refeniw cysylltiedig ynghyd a chostau cynnal a chadw'r tir

-       Mai diwallu un o’r anghenion yr ysgol fyddai prynu'r tir

-       Bod y pris yn uchel

 

Gwnaed sylw bod angen pwysleisio nad oedd prynu'r tir yn codi gobeithion trigolion lleol ac mai ymateb i gyfle yn unig oedd yma.

 

Awdur: Diane Jones