skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Gareth Thomas, Cyng. Ioan Thomas ac Iwan Trefor Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROS OLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 232 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. / Cllr W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn canmoladwy ac yn talu teyrnged i’r staff sydd wedi bod yn gweithio yn galed i arwain yr adran i gyfeiriad iach ac adeiladol. Nodwyd fod gwaith wedi cael ei wneud i weithio’n integredig a’i fod yn gallu bod yn her oherwydd y bydd ffyrdd gwahanol o weithio. Ond er hynny mae’n gyfeiriad gwych i’r adran.

 

Prif fater sy’n codi yw staff yn y maes gofal, yn benodol wrth edrych ar capasiti a chynaladwyedd y gyfundrefn gofal a Iechyd o fewn y maes y bobl hyn. Nodwyd y buasai yn croesawu craffu i edrych yn fanylach i mewn i hyn yn benodol i mewn i recriwtio gweithlu gofal nyrsio – sydd wedi ei nodi yn broblem Genedlaethol.

 

Esboniwyd nad oedd dim i’w boeni pan yn edrych ar fesurau perfformiad ond  manylodd fod cyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal Gwynedd yn 0.71 sy’n cymharu yn dda gyda gweddill Cymru ond fod lle i wella gan fod Conwy yn 0.07 – felly angen dysgu gwersi oddi wrth yr ardaloedd sy’n perfformio yn well. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Wrth edrych ar brosiect Llys Cadfan yr Uned Ddementia Cynnar, gyda cynlluniau yn ei lle am dri uned arall holwyd os oedd bwriad o ddatblygu lleoliadau yn Ne y Sir. Pwysleisiwyd eu bod yn gobeithio y bydd modd sicrhau buddsoddiad o gronfa ICF (Intergrated Core Fund) ar gyfer un o’r prosiectau a bydd angen edrych ble fydd angen y ddarpariaeth.

-        Croesawyd fod y Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Consortiwm Addysg Ôl 16 Gwynedd a Môn. Nodwyd fod prinder staff yn broblem Genedlaethol, ac mae’r pwl staff yn brysur leihau. Tanlinellwyd ei bod yn allweddol datrys y broblem ac ei bod yn sefyllfa argyfyngus. 

 

 

Awdur: Morwena Edwards

6.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Pererdur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r cynnydd calonogol tuag ar wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn adrodd ar gynnydd gwireddu’r arbedion sydd yn y Strategaeth Arbedion 2015/16 – 2017/18. Nodwyd dros y ddwy flynedd diwethaf fod y strategaeth wedi cynllunio £9,201,411 yn ystod 2016/17 ac £7,231,751 pellach yn 2017/18.

 

Esboniwyd wrth edrych ar 2016/17 fod 97% o’r arbedion bellach wedi ei gwireddu, ac fod rhagolwg presennol o gynlluniau ac arbedion 2017/18 yn nodi fod 64% wedi gwireddu ac 20% ar drac. Mynegwyd yn gyffredinol eu fod yn hapus ar gyrhaeddiad ond y bydd angen i’r aelodau Cabinet barhau i fonitro. Diolchwyd i’r staff am y ffordd maent wedi ymdrin ar arbedion ac yn parhau i gynnal gwasanaethau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd pa mor arwyddocaol oedd llwyddiant y Cyngor i gynnal gwasanaethau cystal a bod hynny yn ganlyniad o lawer o ymdrech gan staff, ynghyd â gallu’r Cyngor i reoli cyllidebau.

-    Diolchwyd i’r aelodau Cabinet am eu gwaith ac fod gwireddu’r cynlluniau wedi bod yn gamp. Pwysleisiwyd fod hyn yn dangos trefniadau a sgiliau monitro

Awdur: Dafydd Edwards

7.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Flaen Raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 11, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.Gofynnwyd i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

 

14.10.2 Gwybodaeth EithriedigDisgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd

natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â manylion cytundeb a threfniadau gwerthiant nad yw’n hysbys ar hyn o bryd. Mae’r wybodaeth yn cael ei ystyried yn eithriedig yn unol â chategori 14, gan ei fod yn wybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn penodol.

9.

TIR YN LLANRUG

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd fod angen adroddiad pellach gan yr Adran Addysg i’w gyflwyno yn ystod Cabinet 3ydd Hydref cyn penderfynu’n derfynol ar y pryniant.

 

TRAFODAETH

 

Ar Mawrth 28 2017 bu i’r Cabinet benderfynu i ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Addysg i brynu llain o dir  yn  Llanrug ac yn sgil y pryniant, rheolaeth briodol o’r safle, yn unol â’r adroddiad.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn nodwyd fod materion wedi codi a oedd angen ystyriaeth bellach cyn penderfynu’n derfynol ar y pryniant.

 

Nododd yr Aelod Cabinet ei fod wedi trafod y mater a’r Aelod Lleol.

 

 

Awdur: Dafydd Gibbard