Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad chytunwyd a’r argymhellion canlynol: ·
Gadael
i’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus newid i fod yn Gorchymyn Mannau
Cyhoeddus Dynodedig ar 19 Hydref 2017 ·
I
adolygu’r gorchmynion, gan ystyried yr agweddau a nodwyd ym mhwynt 3.02 yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Mair Rowlands PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad chytunwyd a’r argymhellion canlynol:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr arddodiad gan nodi mai newid yn y
ddeddfwriaeth, sydd yn effeithio ar y gorchmynion penodol sydd yn eu lle ar hyn
o bryd, yw’r rheswm tu ôl i’r argymhelliad o newid y gorchmynion. Pwysleisiwyd fod ymgynghoriad
a’r adran Gyfreithiol a’r Heddlu yn sail i’r argymhelliad i newid gorchmynion i
fod yn Orchymyn Mannau Cyhoeddus Dynodedig, ond byddant yn cael eu hadolygu’n
unigol. Nodwyd fod y pwerau Gorchmynion Mannau Cyhoeddus
Dynodedig yn galluogi awdurdod i ddyrannu mannau ble mae cyfyngiadau ar yfed yn
gyhoeddus yn gyfredol, a bu i’r heddlu gyflwyno tystiolaeth i gefnogi’r 7
gorchymyn sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Mynegwyd fod rhai o’r gorchmynion
presennol yn rhai hanesyddol a bod y sefyllfa wedi newid bellach. Bydd y
gorchmynion newydd yn taclo llawer mwy nac alcohol yn unig, bydd yn taclo pobl
sydd yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn ogystal. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Gofynnwyd os y bydd unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad
i’r newid mewn gorchymyn – nodwyd y bydd ychydig o gostau gydag arwyddion ond
wedi gofyn i’r heddlu am gymorth gyda hyn. Awdur: Catherine Roberts |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CYLLID PDF 238 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd ei fod yn
gyfforddus a’r perfformiad y prosiectau a bod camau priodol wedi ei gymryd er
mwyn gwella’r perfformiad. Mynegwyd fod Sianel Ddigidol a Hwyluso Cysylltu
gyda’r Cyngor yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a bydd y sianel yn cael ei
ail-lansio yn yr Hydref. Nodwyd fod offer cyfrifiadurol newydd wedi ei gyflwyno
ym mis Mai i aelodau, a bod rhywfaint o broblemau wedi codi wrth eu cyflwyno.
Yn dilyn trafodaeth gydag aelodau bydd mwy o hyfforddiant yn cael ei gynnig er
mwyn gwneud y mwyaf o’r offer. Mynegwyd fod canran archwiliadau yn y Cynllun
Archwilio sydd un ai wedi eu cau neu sydd ag adroddiad terfynol wedi ei ryddhau
wedi ei leihau i 3.33% ar gyfer chwarter cyntaf o’i gymharu â 17.5% yn yr un
cyfnod y llynedd. Nodwyd fod hyn o ganlyniad i broblemau staffio a olygwyd
diffyg o ddau archwiliwr llawn amser yn ystod y cyfnod. Ymhellach i broblemau
systemau cyfrifiadurol y Cyngor am ddiwrnod ym mis Mehefin, nodwyd byddai
addasiad i fesur er mwyn cofnodi hyn yn well. Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth - Holwyd wrth edrych ar
fesurau hawliau yswiriant os yw canran yn ffordd gywir o’i fesur perfformiad, a
pe bai ffigwr penodol yn fwy cywir. Eglurwyd ei fod yn faes anodd i fesur
perfformiad cyfredol, gan allasai hawliadau cyfredol fod am ddigwyddiadau
blynyddoedd yn ôl. Nodwyd hefyd fod yr adran wedi treialu amrywiol ffyrdd o
fesur hyn ond nodwyd y byddem yn edrych arno eto yn y cyfarfod herio
perfformiad nesaf. -
Mynegwyd fod y ffigwr yn gyson
wrth edrych ar Ddiogelwch arian y Cyngor wrth adnau arian mewn banciau. Nodwyd
fod hynny yn adlewyrchu’r flaenoriaeth i gadw arian yn saff, a’i bod yn anodd
dod o hyd i lefydd sy’n talu llog rhesymol. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AR GYFER PLANT A CEFNOGI TEULUOEDD PDF 209 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, gan nodi y dylid
cael adroddiad penodol i’r Cabinet i adrodd ar gynigion y Rhaglen Ymyrraeth
Gynnar / Ataliol ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc bregus Gwynedd yn
hytrach na’i gynnwys fel rhan o’r
adroddiad perfformiad nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, gan nodi y dylid cael adroddiad
penodol i’r Cabinet i adrodd ar gynigion y Rhaglen Ymyrraeth Gynnar / Ataliol
ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc bregus Gwynedd yn hytrach na’i gynnwys
fel rhan o’r adroddiad perfformiad
nesaf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan bwysleisio ei bod yn
bleser cyflwyno adroddiad perfformiad cyntaf fel aelod Cabinet. Mynegwyd mai'r
prif bryder yw’r tuedd sy’n parhau o ran cynnydd mewn nifer y plant mewn gofal.
Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gan ymgynghorydd annibynnol i werthuso’r
rhaglen gyfredol ar gyfer Ymyrraeth Gynnar / Atalion ar gyfer grwpiau o blant a
phobl ifanc bregus Gwynedd. Bydd yn adnabod modelau o ymarfer da. Wrth edrych ar Fesur Perfformiad nodwyd fod llawer
o’r mesuriadau yn rhai statudol wedi ei gosod gan y Llywodraeth, ac mae’r rhain
yn cael eu newid ac addasu yn aml. Nodwyd y bydd strategaeth newydd yn ystod y
misoedd nesaf a bydd angen edrych ar bwrpas mesurau er mwyn bod yn fwy cyson a
chynorthwyo’r adran i ddatblygu. Nodwyd
ei bod yn amser heriol ond cyffroes i ddatblygu’r maes. Pwysleisiwyd fod y
strategaeth yn ymgorffori ffordd wahanol o weithio a gweithio’n drawsadrannol. Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth - Eglurwyd fod cynnydd mewn gwariant o ganlyniad i gynnydd mewn nifer y plant
mewn gofal, a bod gorwariant un-tro eleni er gwaethaf darpariaeth cyllideb
ychwanegol. Nodwyd bod disgwyliad i’r Adran gymryd camau priodol er mwyn
rheoli’r gwariant yn y tymor canol. Mynegwyd er bod diogelu plant yn sylfaen gadarn gan yr Adran mae
angen sicrhau fod cefnogi teuluoedd hefyd yn cael sylw haeddiannol, a dyma’r
gwaith mae’r Pennaeth yn ei wneud gyda’i thîm ar hyn o bryd. -
Wedi cael grantiau dros y
blynyddoedd i Gefnogi Teuluoedd, mae yna berygl i ni gael ein gyrru ac arwain
gan y grant. Ond beth mae’r ymgynghoriad annibynnol wedi ei danlinellu yw bod
angen gwneud y pethau iawn i bobl Gwynedd ac angen mwy o hyblygrwydd gan
Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod angen trafodaeth bellach ar yr ymgynghoriaeth
annibynnol, a bydd angen ei gyflwyno mewn adroddiad penodol i’r Cabinet. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PRIFFYRDD A BWRDEISTEFOL AC YMGYNGHORIAETH PDF 211 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd fod yr Aelod
Cabinet yn fodlon a’r mesurau. Wrth edrych ar yr adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol nodwyd fod gostyngiad yng nghanrannau lefelau ailgylchu/
compostion masnachol, pwysleisiwyd fod grŵp tasg wedi ei sefydlu sy’n
edrych ar brosesau i’w wneud yn fwy deniadol yn ariannol. Mynegwyd fod 1.086
miliwn o gasgliadau gwastraff wedi ei gwneud yn ystod y cyfnod a bod canran y
cwynion nad oedd gwastraff wedi ei gasglu yn 0.22%. Mynegwyd wrth edrych ar yr adran Ymgynghoriaeth mai
elw yn erbyn targed yw prif fesur yr adran. Nodwyd fod y sefyllfa yn gymharol
gadarnhaol ar gyfer cyfnod Ebrill i Fehefin. Pwysleisiwyd fod arolwg
bodlonrwydd cwsmer am wasanaeth thollaeth adeiladu wedi codi 0.1 yn ystod y
chwarter i fod yn 9.4 allan o 10 Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth - Gofynnwyd pam fod
niferoedd gwastraff i’w ailgylchu wedi disgyn a niferoedd gwastraff i’w dir
lenwi wedi codi - mynegwyd ei fod y misoedd Ebrill i Fehefin yn hanesyddol yn
debyg. Pwysleisiwyd unwaith y bydd Parc Adfer Glannau Dyfrdwy, sydd yn gynllun
5 sir ar draws y Gogledd, a fydd yn llosgi gwastraff yn agor yn 2019 bydd
gostyngiad yn y gwastraff i’w dirlenwi yn lleihau i 0% o 35.1%. - Nodwyd mai un o’r prif
faterion sy’n poeni pobl Gwynedd yw’r ysbwriel ar ôl casglu ailgylchu - nodwyd
fod yr adran wedi newid cerbydau erbyn hyn ac y dylai wella’r sefyllfa, yn
ychwanegol at hyn mae camau disgyblu os yn casglu ac yn gadael unrhyw ysbwriel.
- Holwyd gyda'r adran
ymgynghoriaeth beth oedd y rhagolygon i ddenu gwaith - mynegwyd fod yr adran yn
gweithio yn galed i ddenu cynlluniau gwaith. Nodwyd fod yr adran yn adran
unigryw i lywodraeth leol a'i fod yn cyfrannu at gost gwasanaethau ac yn creu
swyddi gwerth uchel ac o ansawdd. Awdur: Dilwyn Williams |