Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Craig ab Iago a Cyng. W Gareth Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 GORFFENNAF pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 18 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD PERFFOMRIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y ffigyrau sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad wedi dyddio gan fod y cyfarfodydd perfformiad wedi eu cynnal yn ystod mis Gorffennaf. Nodwyd ei fod yn croesawu aelodau’r Pwyllgor Craffu yn rhan o’r cyfarfod perfformiad.

Mynegwyd fod graffiau yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf i adrodd ar nifer o’r mesurau er mwyn sicrhau fod gwybodaeth yn cael ei gyflwyno mewn ffordd dealladwy a gweledol. Edrychwyd ar un o fesurau’r Uned Eiddo Corfforaethol a nodwyd fod cyfradd dyddiau a gymer i ymateb i gais am waith cynnal a chadw yn parhau o amgylch 9 diwrnod, ond fod newid yn y dull cyfrif wedi bod ddechrau’r flwyddyn ac felly bydd angen cadw golwg ar hyn.

 

Pan yn edrych ar gwynion yr adran nodwyd fod cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion, pwysleisiwyd fod y camau priodol wedi cael ei wneud i ddelio â’r cwynion. Yn ychwanegol nodwyd fod y ffigyrau yn cynnwys ymholiadau yn ogystal ac o hyn ymlaen mai dim ond cwynion fydd yn cael eu cyfri.

 

Pwysleisiwyd fod C9 – Cyrraedd cam allweddol yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol bellach yn cael ei dynnu oddi ar y mesurau perfformiad gan fod y Cynllun wedi cael ei dderbyn gan y Cyngor Llawn yn ystod mis Gorffennaf.

 

Nodwyd ei fod yn hapus â’r perfformiad a bydd yn cadw golwg ar agweddau penodol yn ystod y chwarter nesaf.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd y bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn creu Cynlluniau Atodol, a bod y Cynllun Iaith yn brif flaenoriaeth. Bydd drafft o’r Cynllun Iaith erbyn diwedd mis Hydref, ac yna bydd cyfnod ymgynghori.

-        Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a thargedau’r Uned Eiddo, pwysleiswyd mai anelu at berffeithrwydd y dylai adrannau’r Cyngor ei wneud ac nid anelu at dargedau rhifyddol artiffisial. Nodwyd fod hyn ac adrodd ar sail graffiau yn rhan amlwg o’r hyfforddiant datblygu sy’n cael ei gynnig i reolwyr ar hyn o bryd. Bydd Aelodau Cabinet yn cael gwahoddiad i’r sesiynau hyfforddiant i gael gwell dealltwriaeth o beth sy’n cael ei drafod.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

7.

ADRODDIAD PERFFOMRIAD AELOD CABINET DATBLYGU'R ECONOMI pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a diolchwyd i Mandy Williams-Davies am ei gwaith yn y maes yn ystod ei chyfnod yn gynghorydd.

 

Nodwyd fod gwaith yn mynd rhagddo wrth edrych ar brosiect Swyddi Gwerth Uchel ac o Ansawdd. Mae’r Llywodraeth yn gefnogol o’r cais am Ganolfan Awyrofod Llanbedr. Nodwyd yn ogystal fod Gwynedd Ddigidol yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru a BT i gyflawni prosiect Cyflymu Cymru, ond pwysleisiwyd fod 82% o gartrefi a busnesau yn gallu derbyn band eang cyflym yn y Sir ond dim ond 42% sy’n tanysgrifio.

 

Trafodwyd y bydd y prosiect Safle Treftadaeth y Byd yn canolbwyntio ar Safleoedd Treftadaeth y Byd presennol Cestyll Edward I yn Harlech a Caernarfon yn ogystal â statws safle Treftadaeth y Byd i dreftadaeth y diwydiant llechi. Mae’r prosiect yn symud yn ei flaen ac mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan ond mae angen gwneud mwy o waith.

 

Pwysleisiwyd ei fod yn newydd i’r rôl a bod gwaith angen ei wneud ar y mesurau gan nad yw’r ffigyrau yn cyfleu’r perfformiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod angen i’r adran ddatblygu mesurau i’r dyfodol gan eu bod i weld tu  ôl i adrannau eraill. Nodwyd fod rhai mesurau newydd ond nad yw’n mesur yr effaith neu ansawdd y gwaith. Nodwyd bwriad yr aelod cabinet erbyn tro nesaf y bydd mesurau newydd yn eu lle a newid mewn ffordd mae’r adroddiad yn cael ei gyfleu.

 

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y DIRPRWY ARWEINYDD pdf eicon PDF 414 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

O hyn allan, bod yr Aelodau Cabinet perthnasol yn herio cynnydd gwaith yr Awdit Iaith yn yr Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd ac Adran Economi a Chymuned (Hamdden) wrth herio perfformiad yr adrannau hynny.

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

O hyn allan, bod yr Aelodau Cabinet perthnasol yn herio cynnydd gwaith yr Awdit Iaith yn yr Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd ac Adran Economi a Chymuned (Hamdden) wrth herio perfformiad yr adrannau hynny.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd fod y maes Cefnogaeth Gorfforaethol yn faes eang ac yn newydd i’r Aelod Cabinet.

 

Nodwyd fod hyrwyddo’r Gymraeg yn parhau o fewn cymunedau ym Mangor, Dolgellau a Porthmadog / Pwllheli drwy brosiect Hunaniaith. Mynegwyd fod y prosiect y Gymraeg a’r gwasanaethau cyhoeddus yn symud yn araf. Mae gwaith yn cael ei wneud i weithio gyda Phrifysgol Bangor i lunio pecyn hyfforddi a datblygu i staff i annog defnydd o’r iaith wrth ymdrin â chwsmeriaid.

 

Mynegwyd fod awdit o sefyllfa’r Gymraeg o fewn y Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar ddwy adran sef Ymgynghoriaeth Gwynedd ac Economi a Chymuned a nodwyd fod gwaith wedi cael ei wneud i newid agwedd a rhoi mwy o ystyriaeth i’r iaith. Pwysleisiwyd fod y cynnydd wedi bod yn araf yn yr Uned Hamdden ond fod gwaith yn mynd rhagddi.

 

Nodwyd fod gwaith yn mynd rhagddo yn yr uned Ymgysylltu er mwyn recriwtio pobl ifanc o fod yn aelodau ar-lein o Banel Pobl Ifanc Gwynedd a bellach mae 300 o aelodau. Bydd y panel yn mynd ati i ymchwilio i’r dulliau a thechnegau mwyaf effeithiol i ymgysylltu a phlant a phobl ifanc.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Holwyd os yw’r Canran o waith Caffael y Cyngor sy’n mynd i gwmnïau sydd â phencadlys neu gangen yng Ngwynedd yn codi - pam fod gwariant lleol drwy is-gontractau yn lleihau. Mynegwyd fod hyn oherwydd lleihad yn y cynlluniau cyfalaf ac i sicrhau hyn fod hyn yn glir yn y dyfodol bydd dau fesur ar wahân i wariant refeniw a gwariant cyfalaf.

-    Nodwyd gyda phrosiect Hunaniaith fod llawer o ffigyrau ond dim sôn am beth yw’r effaith - holwyd os oes modd ei fesur. Nodwyd fod ffordd benodol o adrodd yn ôl i’r Llywodraeth ar y prosiect a'i bod yn anodd, fel llawer o feysydd, i fesur yr effaith yn y tymor byr. Nodwyd fod prosiectau angen hyblygrwydd ac angen addasu prosiect fel Hunaniaith wrth edrych ar Wynedd yn benodol.

-          Nodwyd eu bod yn anodd mesur bodlonrwydd cwsmer ac mae angen edrych i weld os oes ffyrdd gwell o gasglu’r wybodaeth.

 

Awdur: Dilwyn Williams