Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Ioan Thomas, Cyng. Gareth Griffiths a
Cyng. Dilwyn Morgan. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROS OLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION O GYFARFOD A GYNHALWYD AR 27 MEHEFIN 2017 PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y
Cabinet a gynhaliwyd ar y 27 Mehefin, 2017, fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWELLA GWASANAETH A THREFN CWYNION Y CYNGOR PDF 603 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad blynyddol am drefniadau Cwynion a
Gwella Gwasnaeth y Cyngor (Trefn Gorfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol
Oedolion a Phlant). Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Mair Rowlands PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad blynyddol am drefniadau Cwynion a Gwella Gwasnaeth y Cyngor (Trefn Gorfforaethol
a Gwasanaethau Cymdeithasol
Oedolion a Phlant). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod tri adroddiad cwynion i’w gweld yn yr
atodiadau. Pwysleisiwyd fod rhesymau penodol dros gynhyrchu adroddiadau ar wahan, ond fod angen eu hystyried gyda’i gilydd i gael
darlun cyflawn o sefyllfa cwynion y Cyngor. Nodwyd fod niferoedd cwynion y Cyngor wedi lleihau, ac yn parhau i leihau
gan fod y niferoedd wedi gostwng eto yn ystod chwarter cyntaf 2017/18.
Pwysleisiwyd fod newid mewn diwylliant ar dull o ddelio a cwynion yn reswm dros
y lleihad. Yn ychwanegol at hyn mae’r Tîm Cyd-lynnu
Cwynion (Corfforaethol) yn gweithio gyda adrannau i geisio dod o hyd i ffordd o
wella a dysgu o’r cwyn. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Nodwyd fod gwerth mewn cael tîm a sy’n gweithio yn
annibynnol o unrhyw wasanaeth arall ac fod eu pwyslais ar ddatrys problemau.
Mae’r gwaith o ddadansoddi’r problemau yn cael ei amlygu ac mae newid mewn
diwylliant yn yr adrannau yn cael ei adlewyrchu drwy’r gostyngiad mewn
niferoedd cwynion. -
Diffyg ymateb yw’r rheswm amlycaf dros y cwynion; holwyd
beth oedd yn cael ei wneud er mwyn i hyn wella? Nodwyd fod gwaith yn parhau i
fynd rhagddi i wella’r perfformiad a thra bod adrannau yn newid yn raddol, bod
lle i wella. -
Mae adroddiad o’r drefn gorfforaethol yn mynd i’r Tîm
Rheoli Corfforaethol pob chwarter, ac mae’r Swyddog Gwella Gwasanaeth yn gweithio
mewn rôl asiant i’r trigolion ar un llaw, ond ar llaw arall yn cynorthwyo
adrannau i ystyried a oes angen newid trefniadau i sicrhau nad yw’r un gwyn yn
codi unwaith eto. -
Pwysleisiwyd yn yr adran Plant a Chefnogi Teuluoedd fod
cwynion yn cael eu datrys yn ystod Cam 1 sef ar lefel rheolwyr ac nad oes cwyn
wedi ei chyfeirio at Cam 2 ers dros ddwy
flynedd. Awdur: Meinir Williams |
|
STRATEGAETH ARBEDION 2018/19 YMLAEN PDF 546 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd y drefn a nodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad er mwyn cynllunio ar gyfer arbedion pellach o 2019/20 ymlaen. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Derbyniwyd y drefn a nodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad er mwyn cynllunio ar gyfer arbedion
pellach o 2019/20 ymlaen. TRAFODAETH Nodwyd gan ei bod yn dymor newydd o’r Cyngor ei bod yn bwysig sicrhau fod
gennym drefn ar gyfer canfod unrhyw fwlch ariannol sy’n debygol o godi yn y
dyfodol. Pwysleisiwyd fod Cyngor Gwynedd wedi ei canmol gan fudiadau allan am
eu gwaith yn blaen gynllunio. Bydd angen dechrau cynllunio arbedion 2018/19 ac
ymlaen er na fydd yr adran gyllid yn ymwybodol o’r setliad tan yn hwyr ym mis
Hydref. Mae gwaith wedi cael ei wneud gan y Pennaeth Cyllid sydd wedi dod a 46,600
o senarios posibl, mae hyn yn rhoi cyfle i’r Cyngor i gynllunio ar sail
gwybodaeth a tebygolrwydd. Pwysleisiwyd dros y 12 mlynedd diwethaf mae’r Cyngor
wedi cynaeafu £62m o arbedion, ac oherwydd hyn, yn amlwg bydd y dasg o
ddarganfod unrhyw arbedion yn debygol o fod yn llawer anoddach o hyn allan. Yn ystod y cyfnod diwethaf gofynwyd i adrannau
adnabod y cyfleoedd arbedion effeithlonrwydd ac aethpwyd ati i ddarganfod
toriadau wedyn drwy adnabod y posibiliadau a gofyn i’r cyhoedd pa rai y byddent
yn dymuno i’w cadw. Bu i’r holl gynlluniau droi mewn i gyfres o 10 bwced a
gweithredwyd ar doriadau drwy dorri
bwcedi 1 i 4. Un opsiwn yw ail adrodd y drefn a dibynnu ar fwcedi 5-10 os y
bydd angen toriadau. Trafodwyd opsiwn arall o ystyried amrediad o gynigion ar draws holl
wasanaethau’r Cyngor ac effaith y cynigion hynny ar drigolion Gwynedd. Bydd
amserlen bendant yn unol a’r dyhead i gael mwy o flaen graffu. Mae’r drefn yn
cynnwys Pwyllgorau Craffu o’r cychwyn cyntaf, a byddwn yn cynnwys y cyhoedd a’r
holl aelodau yn y broses o flaenoriaethu. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Ffafriwyd yr opsiwn newydd
gan ei fod
yn dymor newydd ac yn defnyddio’r
drefn craffu o’r cychwyn. Un wers a gadarnhawyd gan ein trefniadau
blaenorol oedd fod cynllunio ddigon
pell o flaen llaw yn arwain
yn gyffredinol at lai o ardrawiad at drigolion. Fodd bynnag gwnaed y pwynt gan ein
bod nawr yn cychwyn o sylfaen lle mae’r arbedion
hawsaf wedi eu cyflawni – ni
fydd unrhyw arbedion i’r dyfodol
yn ddi-boen. -
Nodwyd fod yr opsiwn newydd
yn rhoi mwy
o amser i gynllunio a pwysigrwydd cael trafodaeth eang. Awdur: Dilwyn Williams |
|
CYLLIDEB REFENIW 2017/18 ADNABOD RISGIAU CYNNAR PDF 56 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau cyllidebol sydd
wedi’u hadnabod yn gynnar yn 2017/18 a cytuno dylai’r Aelodau Cabinet a’r
penaethiaid adrannau perthnasol gymryd y camau priodol yn ymwneud a materion o
dan eu rheolaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau cyllidebol sydd wedi’u hadnabod yn gynnar yn
2017/18 a cytuno dylai’r
Aelodau Cabinet a’r penaethiaid
adrannau perthnasol gymryd y camau priodol yn ymwneud
a materion o dan eu rheolaeth. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mae’r dyma’r adroddiad chwarterol cyntaf
ar gyfer 2017/18. Eglurwyd fod amlinelliad fesul adran a sylwadau cryno
ynglŷn a’r prif faterion ble mae gwahaniaethau sylweddol. Nodwyd fod tueddiadau gwariant ddim yn hollol glir eto
gan ei bod yn fuan yn y flwyddyn. Cadarnhawyd fod pob aelod cabinet wedi derbyn adroddiadau gan gyfrifwyr am
eu maes penodol. Nodwyd fod yr adroddiad amlygu pump adran sydd â tueddiad
gorwario, a pwyslleiswyd fod cyfrifoldeb ar bob adran
ac aelod cabinet i reoli eu cyllideb. Cyfeiriwyd at y rhagolwg o orwariant ym maes cludiant ysgolion a holwyd
beth oedd y bwriad i ddygymod gyda hyn. Nodwyd fod yr adran yn bwriadu adolygu pecynnau i weld a oedd yr angen a
adnabuwyd ar un adeg yn parhau i fod yn briodol er mwyn gweld a ellid dod a’r
gyllideb dan fwy o reolaeth. Bydd yr adran yn cymryd camau i ail edrych ar y
sefyllfa. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Nodwyd fod proses barhaus o fonitro cyllidebau, a nodwyd
fod yr adolygiad cyfredol yn rybydd rhag blaen wedi ei roi er mwyn ceisio
datrys unrhyw broblem cyn iddo fynd yn rhy fawr. Awdur: Dafydd Edwards |
|
RHAGLEN GYFALAF 2017/18 ADOLYGIAD CHWARTER 1 PDF 87 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar arolygiad y chwarter cyntaf
(sefyllfa 30 Mehefin 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu
addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef cynnydd o: -
£3,332,000 mewn amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau o 2016/17 -
£3,253,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -
£55,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -
£956,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill -
£428,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar
arolygiad y chwarter cyntaf (sefyllfa 30 Mehefin 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef cynnydd o: -
£3,332,000 mewn amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau
o 2016/17 -
£3,253,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -
£55,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -
£956,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill -
£428,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad chwarterol er mwyn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf a
cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Nodwyd eu bod yn rhagweld rhaglen
gyfalaf werth £46,725,000 am y dair blynedd nesaf. Nodwyd mai prif gasgliadau yw cynlluniau pendant i fuddsoddi £32.7m yn
ystod y flwyddyn ac fod £5.8m wedi ei ddenu drwy grantiau penodol. Yn
ychwanegol nodwyd fod £3.3m ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i
ail-broffilio o 2016/17 i 2014/18. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: -
Er mai adroddiad technegol yw hwn, mae’n bwysig nodi fod
yr arian yma yn gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion Gwynedd. -
Nodwyd fod cwymp sylweddol yn y rhaglen arfaethedig rhwng
2017/18 a 2019/20 gan nad oes sicrwydd pa grantiau fydd ar gael, a beth fydd effaith Brexit
ar gyllidebau a grantiau y Cyngor. Awdur: Dafydd Edwards |