Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd W. Gareth Roberts a Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd buddiant gan y Cynghorydd Gareth Thomas ar gyfer eitem 6 gan fod ganddo berthynas yn gweithio i’r Gwasanaeth Llyfrgell. Roedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH 2017 pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 7fed Mawrth, 2017, fel rhai cywir.

 

6.

PEIRIANNAU HUNANWASANAETH LLYFRGELLOEDD pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cais am £74,412 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer prynu a mewnosod 9 peiriant hunan wasanaeth yn y 9 prif lyfrgell.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r cais am £74,412 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer prynu ac mewn osod 9 peiriant hunan wasanaeth yn y 9 prif lyfrgell.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod y Cabinet wedi mabwysiadu Strategaeth “Mwy na Llyfrau 2016-2020” ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell, sydd yn arwain at newid yn y ddarpariaeth lyfrgell drwy symud o ddarparu 17 llyfrgell i 9 brif lyfrgell. 

 

Mae trafodaeth wedi bod gyda defnyddwyr gwasanaeth y Llyfrgelloedd ac maent wedi nodi eu bod eisiau hwyluso eu hymweliad. Bydd y peiriannau yn rhoi mwy o amser i staff i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth. Pwysleisiwyd mai nod y cynllun oedd codi safon y gwasanaeth yn hytrach na gwneud unrhyw arbedion. Nodwyd fod dau beiriant hunan wasanaeth ar gael yn sir ar hyn o bryd sydd wedi dangos gwerth y peiriannau i’r gwasanaeth.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Holwyd os bydd defnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth yn orfodol, ond nodwyd y bydd staff ar gael er mwyn gwneud y gwaith yn ogystal os bydd yr angen yn codi.

-       Nodwyd  y bydd yn moderneiddio’r gwasanaethau a hyrwyddo mynediad i wasanaethau.

-       Nodwyd fod yr hen beiriannau yn dod i ddiwedd ei hoes, ac felly ni fydd modd eu defnyddio mewn lleoliadau eraill ond byddant yn cael ei ailgylchu.

 

Awdur: Catrin Thomas

7.

CYNLLUN Y CYNGOR 2017/18 - CEISIADAU AM ADNODDAU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies & Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Ymrwymo £121,255 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio , ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Cydymdrechu yn erbyn tlodi’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  2. Ymrwymo £117,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio, ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Swyddi gwerth uchel ac o ansawdd’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  3. Ymrwymo £23,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  4. Ymrwymo £42,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio, ar gyfer ymestyn y cynllun ‘ Digwyddiadau Proffil Uchel a Strategol’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas a Cyng. Mandy Williams-Davies

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Ymrwymo £121,255 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Cydymdrechu yn erbyn Tlodi’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  2. Ymrwymo £117,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Swyddi Gwrth Uchel ac o Ansawdd’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  3. Ymrwymo £23,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  4. Ymrwymo £42,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Digwyddiadau Proffil Uchel a Strategol’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.

 

TRAFODAETH

 

Ar gyfer yr holl gynlluniau darparodd yr aelod cabinet perthnasol wybodaeth ar lafar ynglŷn â faint o adnodd a ddarparwyd ar gyfer y cynlluniau yma yn y gorffennol a faint oedd ar ôl yn parhau i’w wario.

 

              I.        Nodwyd fod yr adroddiad yn pwysleisio’r prif ddeilliannau a gweithgareddau sydd o Gynllun Cydymdrechu yn erbyn tlodi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Yn dilyn trafodaethau gyda phartneriaid, nodwyd fod ffigyrau yn yr argymhelliad wedi newid i’r hyn sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Mynegwyd fod y cynllun yn cynnwys rhaglen o ymyraethau sy’n cynnwys darparu sgiliau i ymdopi a rheoli incwm, sgiliau i gael mynediad at wybodaeth a mynediad ar waith ac i atal segurdod economaidd. 

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-   Trafodwyd rheswm dros y llithriad o bron i £74,000 a ddylid fod wedi ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol. Nodwyd mai’r rheswm dros hyn oedd bod cais am arian wedi mynd i Gronfa’r Loteri gan y partneriaid a'u bod yn parhau i aros am yr ymateb gan y gronfa.

 

              I.        Mynegwyd fod budd mewn codi ymwybyddiaeth i’r swyddi gwerth uchel ac amlygu fod angen y gefnogaeth o fewn y sir. Nodwyd fod newid i’r ffigyrau yn yr argymhelliad o’i gymharu â’r hyn sydd wedi ei nodi yn ar adroddiad.

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-   Nodwyd fod twf mewn pobl ifanc sy’n cychwyn busnesau yn y sir a phwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi’r busnesau yma.

 

            II.        Mynegwyd fod y Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig  yn un sy’n rhoi cyfleoedd cyffroes yn yr ardal ac yn un sy’n bwysig iawn i’r ardal. Nodwyd fod angen y cyllid er mwyn parhau’r cynllun am flwyddyn ychwanegol.

 

Sylwadau’r o’r drafodaeth

-   Nodwyd mai arian Ewropeaidd yw’r arian hwn, ac mae’n tanlinellu'r risgiau mwyaf o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae cyfnod heriol yn wynebu’r Cyngor wrth edrych ar arian Ewropeaidd, ond mae cyfle i’r prosiect hwn barhau am flwyddyn ychwanegol.

 

           III.        Mae’r prosiect hwn yn cefnogi digwyddiadau proffil uchel ac mae’n gyfle i gydweithio ac mewn partneriaeth â mudiadau eraill. Nodwyd fod angen i’r Cyngor newydd gael trafodaeth ar beth a ystyrir yn waith craidd adrannau a beth sy’n brosiectau.

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-   Nid yr arian sy’n bwysig wrth edrych ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Catrin Thomas & Dylan Griffiths

8.

CYNLLUN Y CYNGOR 2017/18 P9 POBL IFANC A'R DERFNYDD O'R GYMRAEG YN GYMDEITHASOL pdf eicon PDF 367 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas & Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ymrwymo £40,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn gweithredu Strategaeth Iaith Uwchradd er mwyn arwain at gynnydd pellach mewn defnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Ymrwymo £40,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn gweithredu Strategaeth Iaith Uwchradd er mwyn arwain at gynnydd pellach mewn defnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg.

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod y Siarter Iaith Gynradd wedi ennill ei blwy yn Genedlaethol. Wedi iddo fod yn brosiect arloesol yng Ngwynedd, erbyn hyn mae  wedi ei ledaenu yn Genedlaethol. Bellach mae’r plant mewn ysgolion cynradd oedd yn manteisio o’r Siarter yn symud i ysgolion uwchradd.  Nodwyd fod cwmni Trywydd wedi paratoi adroddiad yn edrych ar ddefnydd yr iaith Gymraeg yn yr ysgolion uwchradd. Mae’r argymhellion oedd i’w gweld yn yr adroddiad hwn wedi eu hymgorffori yn y Strategaeth Iaith Uwchradd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Nodwyd fod newid mawr yn digwydd yn gymdeithasol rhwng y Cynradd a’r Uwchradd,  gyda pwysau i ddefnyddio’r Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg. Mae her sylweddol i wrthwneud hyn.

-       Pwysleisiwyd fod angen dilyniant o’r Cynradd i’r Uwchradd ac mae’n gam pwysig ymlaen.

-       Holwyd os oes ystyriaeth wedi bod o wneud y cam o Siarter Iaith Uwchradd i Siarter Iaith Cyflogwyr, gan mai dyma le mae’r angen am ddefnydd o’r Gymraeg (e.e. yn y siopau lleol).  Mae angen rhoi'r siarter iaith yn ei gyd-destun a’i fod yn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol y Gymraeg yn gyffredinol, nid gan blant yn unig. 

 

Awdur: Garem Jackson

9.

CYNLLUN ASEDAU'R CYNGOR 2009/10 I 2018/19 pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi canlyniad terfynol tebygol y Cynllun Asedau 10 mlynedd
  2. Cadarnhau nad oes bellach angen £15m ar gyfer Gofal Cymdeithasol fel rhan o Gynllun newydd fydd yn cael ei baratoi gan y Cyngor newydd
  3. Dynodi £200,000 adnodd na fydd bellach ei angen ar gyfer ariannu benthyca heb gefnogaeth i gwrdd a’r bwlch yn ein harbedion ar gyfer 2016/17

   iv.        Defnyddio £800,000 o’r adnodd hefyd i atgyfnerthu’r gyllideb cynnal a chadw o 1 Ebrill 2017 gan adael y gweddill i’r Cyngor newydd ei ystyried wrth drafod arbedion a chynllun asedau’r dyfodol.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Nodi canlyniad terfynol tebygol y Cynllun Asedau 10 mlynedd
  2. Cadarnhau nad oes bellach angen £15m ar gyfer Gofal Cymdeithasol fel rhan o Gynllun newydd fydd yn cael ei baratoi gan y Cyngor newydd
  3. Dynodi £200,000 adnodd na fydd bellach ei angen ar gyfer ariannu benthyca heb gefnogaeth i gwrdd â’r bwlch yn ein harbedion ar gyfer 2016/17
  4. Defnyddio £800,000 o’r adnodd hefyd i atgyfnerthu’r gyllideb cynnal a chadw o 1 Ebrill 2017 gan adael y gweddill i’r Cyngor newydd ei ystyried wrth drafod arbedion a chynllun asedau’r dyfodol.

  

TRAFODAETH

 

Yn 2009 yn dilyn asesiad o anghenion gwariant Cyfalaf y Cyngor, ac o ganlyniad i nad oedd digon o adnoddau gan y Cyngor i gyfarch holl anghenion cynhaliwyd cyfres o weithdai gydag aelodau’r Cyngor i geisio sefydlu beth oedd blaenoriaethau cyfalaf y Cyngor am y 10 mlynedd i ddod. O ganlyniad i hyn sefydlwyd Cynllun Asedau’r Cyngor, a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Nodwyd ei fod yn gynllun hanfodol pwysig a bod disgwyl i’r cyngor newydd greu cynllun yn fuan yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer 2018/19 - 2027/28. Nodwyd mai adroddiad er mwyn adrodd yn ôl a chau pen y mwdwl ar rai agweddau o’r cynllun gwreiddiol. Dros gyfnod y Cynllun roedd y Cynllun yn rhagweld gwariant cyfalaf dros 10 mlynedd o £143.8m.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Wedi bod yn gynllun da sydd wedi caniatâd i fuddsoddi yn y maes ysgolion. Gwaith pwysig wedi ei gyflawni a gwaith pwysig yn parhau i gael ei wneud.

 

Awdur: Dilwyn Williams

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
  2. Cymeradwyo i ail broffilio gwireddu cynllun Clwb Brecwast Plant Ysgolion Cynradd, gan fu llithriad yn yr amser gwireddu. Bydd angen llithro £41,700 i’w wireddu yn 2018/19

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
  2. Cymeradwyo i ail broffilio gwireddu cynllun Clwb Brecwast Plant Ysgolion Cynradd, gan fu llithriad yn yr amser gwireddu. Bydd angen llithro £41,7000 i’w wireddu yn 2018/19.

 

TRAFODAETH

 

Yn dilyn craffu a dadansoddi perfformiad yn ystod yr haf, mae codi safonau Cyfnod Sylfaen wedi ei bwysleisio fel blaenoriaeth. Mae’r Bwrdd Ansawdd Sirol yn parhau i fynd rhagddi ac yn dangos cynnydd.

 

Nodwyd mai dim ond dwy ysgol sydd mewn unrhyw gategori dilyniant ar hyn o bryd a dim ond dwy ysgol mewn categori coch. Mynegwyd bellach nad oes un ysgol mewn category statudol a dim ond dwy ysgol sydd mewn categori Monitro Estyn, mae’r ddwy ysgol wedi gwneud cynnydd disgwyliedig ar y cyflymder priodol.

 

Nodwyd fod gwaith ar Ysgol Bro Idris ac Ysgol Glancegin yn mynd rhagddo. Mae trafodaethau yn parhau gyda Llywodraethwyr am statws ysgol dalgylch Y Bala.

 

Pwysleisiwyd fod dwy ysgol wedi cael ei gwobrwyo gan Estyn am ei rhagoriaeth sef Ysgol Cae Top ac Ysgol Morfa Nefyn a bu i Cyng. Gareth Thomas longyfarch y ddwy ysgol.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-  Nodwyd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn y maes, ac mae newid wedi bod mewn diwylliant. Mae gwell eglurdeb wrth edrych ar eglurdeb a disgwyliadau.

Dymunwyd yn dda i’r Pennaeth Addysg sydd yn gadael ei swydd bresennol i fynd i weithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, a diolchwyd yn fawr am ei waith.

Awdur: Iwan Trefor Jones

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y DIRPRWY ARWEINYDD pdf eicon PDF 338 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad

     ii.        Cymeradwywyd ail broffilio’r Cynllun Arbedion yng nghyllideb y Crwner (DaCh13) i 2018/19 yn hytrach 2017/18 fel y bwriad gwreiddiol a amlinellir ym mhwynt 6.2 yn yr adroddiad.

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng.  Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

      i.        Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn adroddiad

    ii.        Cymeradwywyd ail broffilio’r Cynllun Arbedion yng nghyllideb y Crwner (DaCh13) i 2018/19 yn hytrach 2017/18 fel y bwriad gwreiddiol a amlinellir ym mhwynt 6.2 yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod gwaith hyrwyddo’r Gymraeg mewn cymunedau yn mynd rhagddi ym Mangor, Dolgellau a Porthmadog. Mae’n rhaglen waith sydd wedi ei chyd gytuno gyda Llywodraeth Cymru sy’n cyllido’r gwaith drwy Hunaniaith. Mae trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r Gweinidog er mwyn trafod y syniad o gael datblygu cynlluniau ei hunain, gan fod yr ardal yn wahanol i eraill gan fod mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

 

Nodwyd fod arbedion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol wedi ei gwireddu ac mae un llithriad sef Arbedion yng nghyllideb y Crwner sydd gyfwerth â £13,795.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Nodwyd gyda mesurau perfformio fod nifer pobl Gwynedd sy’n fodlon â gwybodaeth am yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ac am ei wneud yn y dyfodol yn 54%. Mynegwyd ei fod yn isel i feddwl fod Her Gwynedd wedi cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Mae angen parhau'r gwaith yma a meddwl sut i godi ymwybyddiaeth gydag amrywiaeth o bobl.

 

Awdur: Dilwyn WIlliams

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 14, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

 

14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â manylion cytundeb a threfniadau gwerthiant nad yw’n hysbys ar hyn o bryd. Mae’r wybodaeth yn cael ei ystyried yn eithriedig yn unol â chategori 14, gan ei fod yn wybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn penodol. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig ac yn gorbwyso unrhyw fudd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

13.

TIR YN LLANRUG

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Addysg i brynu llain o dir yn Llanrug ac yn sgil y pryniant, rheolaeth briodol o’r safle, yn unol ar adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Addysg i brynu llain o dir  yn  Llanrug ac yn sgil y pryniant, rheolaeth briodol o’r safle, yn unol ar adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Mae cyfle wedi codi i brynu safle yn Llanrug at ddibenion addysg all gyfrannu at ehangu opsiynau ar gyfer cynllunio addysg i’r dyfodol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Nododd yr Aelod Lleol Cyng. Charles Wyn Jones fod cefnogaeth yn lleol i brynu’r tir.

-       Pwysleisiwyd ‘mai prynu tir ar gyfer y dyfodol mae’r Cyngor ac nid oes cynllun penodol ar hyn o bryd 

Mynegwyd fod angen rheolaeth gywir o’r tir ar ôl ei brynu

Awdur: Arwyn Thomas & Diane Jones