skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad,

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 10 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020 fel rhai cywir.

6.

CAIS AM ADNODDAU I'R ADRAN ADDYSG pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Penderfyniad:

Penderfynwyd ymrwymo £180,000 o gyllid un tro o gronfa trawsffurfio’r Cyngor hyd at diwedd Mawrth 2022 ar gyfer galluogi’r Adran Addysg i gael adnodd ychwanegol ar delerau secondiad am gyfnod o ddwy flynedd er mwyn targedu, cefnogi a chynnig her briodol ac amserol i’r ysgolion uwchradd gan wireddu un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun y Cyngor er mwyn gwella’r deilliannau i blant a phobl ifanc.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd ymrwymo £180,000 o gyllid un tro o gronfa trawsffurfio’r Cyngor hyd at ddiwedd Mawrth 2022 ar gyfer galluogi’r Adran Addysg i gael adnodd ychwanegol ar delerau secondiad am gyfnod o ddwy flynedd er mwyn targedu, cefnogi a chynnig her briodol ac amserol i’r ysgolion uwchradd gan wireddu un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun y Cyngor er mwyn gwella’r deilliannau i blant a phobl ifanc.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais yn gofyn am arian ar gyfer swydd secondiad am gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd fod dwy ran i’r swydd y cyntaf i roi cefnogaeth i ysgolion uwchradd y sir i ymateb i’r problemau sydd yn codi o fewn y maes uwchradd ac yn ail i ryddhau adnoddau i’r gwasanaeth Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain - Moderneiddio Addysg.

 

Nododd y Pennaeth yr Adran Addysg fod yr adran wedi cydnabod fod rhai sefyllfaoedd yn y maes Uwchradd ble mae angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol er mwyn gwella deilliannau ysgolion.  Mynegwyd fod y cynllun hwn yn gysylltiedig â un o flaenoriaethau strategol y Cyngor sef i ddatblygu arweinyddiaeth. Ychwanegwyd  fod heriau i’w gweld yn yr Uwchradd, yn benodol ym Meirionydd, gyda diffyg niferoedd yn ymgeisio am swyddi arweinyddiaeth o fewn ysgolion. Ategwyd o ganlyniad i hyn mae trafodaethau i ail edrych ar recriwtio yn cael ei gynnal gyda’r holl benaethiaid. Mynegwyd fod diffyg adnoddau yn y maes Moderneiddio Addysg  ar hyn o bryd a bydd yr arian yn sicrhau'r adnodd yma. Yn ychwanegol at hyn, nodwyd y bydd yr adnodd ar gael i gynorthwyo gyda heriau newydd o sicrhau fod plant, ac yn benodol plant bregus, yn parhau mewn addysg yn ystod y cyfnod argyfwng hwn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾        Holwyd am y sefyllfa o ran y Gronfa Trawsffurfio, nodwyd fod y sefyllfa yn iach ac ar gael ar hyn o bryd ond ei fod yn ddibynnol ar faint fydd yr angen yn dilyn argyfwng Covid-19.

Awdur: Garem Jackson

7.

DIWEDDARIAD AR YR YMATEB I BANDEMIG COVID-19

Adroddiad llafar

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth a diolch i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r wybodaeth a diolch i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

TRAFODAETH

 

Bu i’r Prif Weithredwr nodi y bydd yn rhoi diweddariad a fydd yn amlinellu beth mae’r Cyngor yn ei wneud  i ymateb i’r argyfwng Covid-19.  Mynegwyd y bydd aelodau  etholedig yn derbyn nodyn diweddariad cyn diwedd yr wythnos.

 

Rhoddwyd cliplun o’r sefyllfa staffio gan nodi fod 137 yn y categori gwarchodaeth y Llywodraeth, 175 o staff yn sâl gyda 46 o’r rheini o ganlyniad i symptomau covid-19. Ychwanegwyd fod dros 1800 o staff bellach yn gweithio o’u cartrefi ac mai dim ond 132 o aelod o staff sydd bellach yn gweithio o swyddfa. Mynegwyd, ar hyn o bryd, fod y maes gofal yn dygymod yn eithaf ond fod achosion wedi codi mewn tri chartref henoed, ond fod y sefyllfaoedd bellach yn cael eu rheoli.

Mynegwyd fod ystadegau yn dangos Gwynedd yn lled llwyddiannus a bod yr achosion ar waelod yr amrediad a amlygwyd yn y senarios posib. Ychwanegwyd unwaith y bydd y rheoliadau yn cael ei lleihau ac y bydd angen cynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf. Nodwyd fod llawer o sôn am gyfarpar diogelwch PPE ond pwysleisiwyd y lefel cyfarpar yng Ngwynedd yn iawn ond fod nifer y masgiad yn peri pryder. Mynegwyd fod cyflenwadau gan y Llywodraeth a nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud i weld lefel y costau ychwanegol a fydd yn wynebu’r sector breifat.

 

Pwysleisiwyd fod cyfundrefn gwirfoddolwyr yn gweithio yn dda, gyda byddin o bobl Gwynedd yn barod i gynorthwyo. Mynegwyd fod addysg yn parhau i warchod plant gweithwyr allweddol a bregus. Pwysleisiwyd fod y gwasanaeth biniau wedi parhau drwy’r cyfnod ond y bydd Canolfannau Ailgylchu yn parhau ar gau ar hyn o bryd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth                                                                   

¾  Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a Prif swyddogion am yrru'r gwaith drwy’r cyfnod. Ychwanegwyd fod yr aelodau Cabinet wedi bod yn cyfarfod yn anffurfiol yn gyson.

¾  Nododd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ddiolch i staff yr adran am eu gwaith yn ystod y cyfnod yn benodol i staff Technoleg Gwybodaeth i sicrhau fod modd i staff weithio o’u cartrefi. Pwysleisiwyd yn ogystal na fydd unrhyw dreth cyngor yn cael ei adennill hyd ddiwedd Mehefin a mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn mesur effaith y cyfnod yn ariannol ar y Cyngor.

¾  Pwysleisiwyd fod y cyfnod hwn yn un argyfyngus ble mae taro pawb yn wahanol i’r argyfyngau sydd wedi taro'r sir o’r blaen, ble mae cymunedau penodol wedi eu taro. Mynegwyd o ran y maes Oedolion fod y staff yn gweithio yn galed a diolchwyd am eu gwaith o dan yr amodau heriol.

¾  Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol i’r staff am fod yn barod i weithio ac i sicrhau gwasanaeth i drigolion Gwynedd. Mynegwyd fod tipio wedi bod yn codi pryder ond fod lefel yr achosion sydd wedi bod ddim llawer yn uwch nac arferol.

¾  Nodwyd fod yr unigolion sydd yn ddigartref bellach wedi eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dilwyn Williams