Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Dafydd Meurig, Cyng. Dilwyn Morgan ac y Cyng. Cemlyn Williams.  

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Catrin Wager a’r Cyng. Ioan Thomas ar gyfer eitem 7 – Addysg Ôl-16 gan fod y ddau yn aelod o’r llywodraethwyr mewn ysgolion uwchradd yn Arfon.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 CHWEFROR pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 fel rhai cywir.

6.

CYNLLUN BUDDSODDI I ARBED - NEUADD DWYFOR pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

  • Gefnogi’r egwyddor o ddatblygu prosiect cyfalaf buddsoddi i arbed gwerth hyd at uchafswm o £779,314 yn Neuadd Dwyfor er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau, gwella’r cyfleon i godi incwm a sicrhau diogelwch defnyddiwr;
  • Cydnabod y risg o golled incwm o ganlyniad i gau’r Neuadd yn ystod y gwaith adeiladu os bwrir ymlaen;
  • Cefnogi dyrannu cyfraniad un-tro o gyllideb Trawsnewid y Cyngor ar gyfer buddsoddiad – sef hyd at £570,000 (cyfalaf);
  • Cefnogi ail-broffilio arbedion fel a gytunwyd yn wreiddiol i’r proffil a amlinellir yn nhabl 8.1;
  • Cefnogi cyflwyno ceisiadau i gyrff allanol i geisio lleihau cyfraniad y Cyngor ac uchafu gwerth buddsoddiad y Cyngor;
  • Cefnogi adnabod a chydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau lleol all gefnogi’r Neuadd i gyrraedd y targed arbediad llawn o £100,000 yn y tymor canolig yn dilyn y buddsoddiad – a hynny drwy osod her arnynt i leihau’r bwlch ariannol a chynorthwyo’r Cyngor i wneud arbediad parhaol o £100,000 yn y gyllideb erbyn 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

¾     Gefnogi’r egwyddor o ddatblygu prosiect cyfalaf buddsoddi i arbed gwerth hyd at uchafswm o £779,314 yn Neuadd Dwyfor er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau, gwella’r cyfleon i godi incwm a sicrhau diogelwch defnyddiwr;

¾     Cydnabod y risg o golled incwm o ganlyniad i gau’r Neuadd yn ystod y gwaith adeiladu os bwrir ymlaen;

¾     Cefnogi dyrannu cyfraniad un-tro o gyllideb Trawsnewid y Cyngor ar gyfer buddsoddiad – sef hyd at £570,000 (cyfalaf);

¾     Cefnogi ail-broffilio arbedion fel a gytunwyd yn wreiddiol i’r proffil a amlinellir yn nhabl 8.1;

¾     Cefnogi cyflwyno ceisiadau i gyrff allanol i geisio lleihau cyfraniad y Cyngor ac uchafu gwerth buddsoddiad y Cyngor;

¾     Cefnogi adnabod a chydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau lleol all gefnogi’r Neuadd i gyrraedd y targed arbediad llawn o £100,000 yn y tymor canolig yn dilyn y buddsoddiad – a hynny drwy osod her arnynt i leihau’r bwlch ariannol a chynorthwyo’r Cyngor i wneud arbediad parhaol o £100,000 yn y gyllideb erbyn 2025.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adeilad yn cartrefu theatr, sinema a llyfrgell ym Mhwllheli a phwysleisiwyd nad oes buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i’r adeilad na’i adnoddau ers 1996. Mynegwyd fod ymgeision wedi ei wneud yn 2013-14 i drosglwyddo’r Neuadd i fudiad ond oherwydd costau uchel o waith diweddaru ni fu modd cytuno i wneud hyn.

 

Mynegwyd fod y penderfyniad yn gofyn am fuddsoddiad yn yr adeilad a bod arian wedi ei gadarnhau ar gyfer cyfran o’r arian. Ychwanegwyd y bydd yr arian yn gwella cyfleusterau ynghyd â’r cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid eraill yn yr ardal.

 

Nodwyd fod yr adeilad yn gartref i’r Llyfrgell yn ogystal a mynegwyd fod rheolaeth yr adeilad a'r llyfrgell yn hanesyddol wedi bod yn ddwy swydd ar wahanol. Pwysleisiwyd ym mis Rhagfyr fod rheolaeth y ddau dîm bellach yn adrodd i’r un rheolwr. Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant fod gwaith ymgynghori wedi ei wneud i weld beth yw dyheadau’r trigolion lleol a bod yr ymgynghoriad hwn wedi bod yn sylfaen i’r cynllun busnes. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd fod y newidiadau sydd wedi ei gwneud a gobeithir ei gwneud am sicrhau fod yr holl adeilad yn gweithio yn fwy effeithlon, gyda thimau yn gweithio yn nes ac y bydd modd i ehangu ar oriau agor y llyfrgell.

 

Mynegodd yr Aelod Lleol fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gymaint yn fwy ‘na sinema a bod y Cyngor yn rhoi buddsoddiad yn yr adeilad yn ffordd ymlaen. Ychwanegodd pe bai’r Cyngor yn penderfynu ei gau y byddai llawer o wariant cynnal a chadw ar yr adeilad. Ategodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r ardal yn 2021 ac y bydd defnydd yn cael ei wneud o’r adeilad yn ystod yr wythnos honno. Pwysleisiodd fod y Neuadd yn agos at galon trigolion yr ardal a bod gwerth yn ei gadw a buddsoddi ynddo.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd fod llawer o staff ifanc yn gweithio yn y Neuadd a bod cyfleodd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Roland Evans

7.

ADDYSG ÔL-16 pdf eicon PDF 677 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd rhoi caniatâd i’r adran gynnal trafodaethau gyda rhan-ddeiliad er mwyn ystyried y ddarpariaeth bresennol ac amlygu’r ystyriaethau allweddol er mwyn cyd-adnabod y cyfeiriad a chyfleodd i gryfhau’r ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Arfon.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd rhoi caniatâd i’r adran gynnal trafodaethau gyda rhan-ddeiliad er mwyn ystyried y ddarpariaeth bresennol ac amlygu’r ystyriaethau allweddol er mwyn cyd-adnabod y cyfeiriad a chyfleodd i gryfhau’r ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Arfon.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen am gyfundrefn ôl-16 newydd o ganlyniad i fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddf newydd yn ystod 2020. Ychwanegwyd y bydd hyn yn codi trafodaeth yng Ngwynedd gan fod seiliau’r gyfundrefn yn dyddio yn ôl 40 mlynedd, ac o ganlyniad i hyn mynegwyd ei bod yn amserol i fod yn edrych ar y gyfundrefn. Pwysleiswyd y bydd y ffocws yn benodol ar ardal Arfon ble mae’r ddarpariaeth yn parhau mewn ysgolion, er hyn bydd yr adran yn edrych ar y ddarpariaeth y sir.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu’r achos dros newid gan fod llawer o wahaniaethau o ran safonau ac mewn meysydd penodol. Amlygwyd ar hyn o bryd fod y ddarpariaeth yn Arfon yn cael ei wneud drwy gonsortiwm ac o ganlyniad fod angen trafodaeth agored ac adeiladol i greu cyfundrefn i’r dyfodol. Ychwanegwyd fod angen cryfhau’r cyfleoedd i astudio pob pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mynegwyd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut maent yn ariannu cyfundrefn ôl-16 ac mae penderfyniad fod angen edrych ar y ddarpariaeth cyn cael cadarnhau’r arian. Nodwyd mai newid cwricwlwm addysg yw’r prif newid ac y bydd y ffocws yn cael ei bwysleisio dysgu a phrofiadau pellach. O ganlyniad i hyn, mynegwyd fod angen edrych ar y ddarpariaeth i barhau’r daith datblygu yma. Ychwanegwyd fod angen edrych o ran anghenion cyflogwyr fel bod modd astudio pynciau penodol ar gyfer meysydd penodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth                                                                   

¾  Croesawyd yr adroddiad gan nodi yn arferol fod yr adran yn dod i’r Cabinet gydag opsiynau ac yna y bydd ymgynghoriad ar yr opsiynau yma, ond eu bod yn bwriadu trafod yn gyntaf cyn mynd i ddatblygu opsiynau.

¾  Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi pryder am ddarpariaeth bresennol a gofynnwyd am esboniad pellach. Esboniwyd fod y gyfundrefn yn ceisio eu gorau ond fod rhai ysgolion yn astudio gwahanol bynciau mewn ysgolion gwahanol ac o ganlyniad yn teithio o un lle i’r llall. Mynegwyd fod angen edrych ar sicrhau fod yr un gefnogaeth a’r un cyrsiau ar draws y sir. Nodwyd ei fod yn gyfle i greu cyfundrefn gyffroes ac addas.

¾  O ran amserlen mynegwyd y bydd ymgynghoriad yn cael ei wneud yn y misoedd nesaf ac y bydd adroddiad i’r Cabinet cyn diwedd yr haf.

 

Awdur: Garem Jackson

8.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB 2020-24 pdf eicon PDF 70 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y ddogfen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys. 

 

            PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y ddogfen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Mynegwyd nad yw’r adroddiad yn un newydd gan ei fod wedi ei gyflwyno er mwyn ymgynghori cyn y Nadolig. Mynegwyd fod y cynllun wedi ei ysgrifennu yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ychwanegwyd fod y Cyngor yn angerddol am gydraddoldeb ac eisiau ei hyrwyddo. Nodwyd fod gwaith ymgysylltu wedi ei wneud ar y Cynllun a bod addasiadau wedi ei gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad. Pwysleiswyd fod y Cynllun yn gryf ac yn arwain at degwch i bobl Gwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolch i’r adran a’r swyddog am eu gwaith yn edrych ar ôl pobl Gwynedd. Ychwanegwyd ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i gael y ddogfen hon

Awdur: Delyth Gadlys

9.

CANOLFAN INTERGREDIG MAESGEIRCHEN pdf eicon PDF 90 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan a'r Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cydweithio gyda’r cymuned ym Maesgeirchen, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac Adra i ddatblygu cynllun posib ar gyfer Canolfan Integredig ar y stad ar gyfer gwasanaethau a darpariaeth cefnogi teulu ac adrodd yn ôl gyda argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Cydweithio gyda’r cymuned ym Maesgeirchen, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac Adra i ddatblygu cynllun posib ar gyfer Canolfan Integredig ar y stad ar gyfer gwasanaethau a darpariaeth cefnogi teulu ac adrodd yn ôl gydag argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gynllun cyffroes sydd yn deillio o waith ymgysylltu gyda thrigolion Maesgeirchen. Ychwanegwyd fod y cynllun yn cael ei arwain gan y Cyngor ond y bydd yn cael ei lunio a’i siapio drwy wrando ar ddyheadau'r trigolion.

 

Ychwanegodd yr Aelod Lleol fod ardal Maesgeirchen yn ardal arbennig, er bod problemau fod cryfderau mawr i’w gweld yno. Mynegwyd yn dilyn colli'r Clwb Cymdeithasol fod cefnogaeth ar gael gan Dŷ Cegin ynghyd â’r ysgol ond nad oes unrhyw grwpiau yn cyfarfod yn y stad sydd wedi arwain at broblemau. Mynegwyd fod colli’r canolfan yma wedi arwain at effaith cymdeithasol ac iechyd i drigolion. Ymhelaethodd fod buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol ac o ganlyniad fod dau aelod o staff bellach yn gweithio ar y stad ond fod angen canolfan gymunedol. Nododd fod y cynllun hwn yn cael ei yrru gan anghenion y trigolion a bod cefnogaeth ar gael gan y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Holwyd o ran cyfraniad ariannol os yw’r arian ar gael. Nodwyd fod yr arian wedi ei glustnodi yn barod ond nad yw’r gyllideb yn rhan o’r drafodaeth gan ei fod yn ddibynnol ar beth yw anghenion y trigolion. Pwysleiswyd fod angen asesiad o beth mae’r gymuned ei angen cyn penderfynu ar gyllideb bendant a bod hyn wreiddiol i sut mae’r Cabinet yma eisiau rhedeg y Cyngor. Pwysleisiwyd fod y cynllun yn amlygu fod y Cyngor yn cefnogi datblygiadau sydd cael eu hadeiladu o’r gwaelod.

¾  Nodwyd ei bod yn wych fod y sgwrs yn cael ei gynnal yn gyntaf i ddeall anghenion y trigolion cyn mynd ymlaen i gynnig opsiynau ac edrych ar gost y cynllun.

¾  Mynegwyd fod angen i’r trigolion fod yn gefnogol  i’r datblygiad.

¾     O ran amserlen, mynegwyd nad oedd un penodol ond fod trafodaeth wedi dechrau i edrych ar anghenion yr ardal

Awdur: Catrin Thomas a Dafydd Gibbard