skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Cemlyn Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 RHAGFYR 2019 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 17 Rhagfyr 2019 fel rhai cywir.

 

6.

POLISI IECHYD A DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Polisi Iechyd Diogelwch a Llesiant newydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Polisi Iechyd Diogelwch a Llesiant newydd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan bwysleisio fod cael Polisi Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn ofyniad cyfreithiol. Ychwanegwyd oherwydd maint y Cyngor fod angen i’r polisi fod yn gwbl glir. Mynegwyd fod y polisi cyfredol yn dyddio yn ôl i 2015 ac fod llawer o newidiadau wedi bod dros y pedair blynedd diwethaf. Amlygwyd fod y polisi yn adlewyrchu y newidiadau hyn ac yn symud tu hwnt i’r ymrwymiad cyfreithiol gofynnol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod y maes yn un pwysig ac yn ganolog i waith y Cyngor. Ychwanegwyd pwysigrwydd o gael polisïau cadarn.

¾     Amlygwyd nad oedd sylwad gan yr undeb a gofynnwyd os oedd hyn yn rhywbeth anarferol. Mynegwyd nad oedd ac nad oedd sylwad na gwrthwynebiad i’r polisi.

¾     Tynnwyd sylw at siart llif o’r drefn o gynnal ymgynghoriad gan bwysleisio fod trefn cadarn i’w ddilyn.

¾     Mynegwyd fod digwyddiadau Iechyd a Diogelwch yn digwydd a bod y polisi yno i roi arweiniad i’r staff

Awdur: Geraint Owen

7.

CYNLLUN GWYNEDD 2018-23 - ADNODDAU I'R CYNLLUN 'CYNYDDU BUDD DIGWYDDIADAU MAWRION' pdf eicon PDF 102 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ymrwymo £50,000 o’r Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor er mwyn galluogi’r adran i wireddu’r weledigaeth o gefnogi digwyddiadau yn unol â Chynllun Gwynedd 2018-23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ymrwymo £50,000 o’r Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor er mwyn galluogi’r adran i wireddu’r weledigaeth o gefnogi digwyddiadau yn unol â Chynllun Gwynedd 2018-23.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod swyddog penodol yn edrych ar ddigwyddiadau’r sir. Ychwanegwyd fod rôl benodol er mwyn denu digwyddiadau ac i sicrhau budd gorau i fusnesau Gwynedd. Mynegwyd er mai cyfraniad cymharol fychan sy’n cael ei gynnig i drefnwyr digwyddiadau tynnwyd sylw at y manteision a oedd yn cynnwys cyfleoedd i gymunedau a phobl ifanc a lle canolog i’r Gymraeg a diwylliant Gwynedd.

 

Amlygwyd rhestr o uchafbwyntiau yn y maes digwyddiadau yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ychwanegwyd fod trafodaethau yn cael ei cynnal am mewn amrywiol leoliadau ar draws Gwynedd ac felly nid yw trafodaethau am lleoliad y Faenol yn drafodaeth tu hwnt i’r arferol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Holwyd sut mae digwyddiadau yn derbyn ffigyrau niferoedd. Nodwyd drwy drafodaeth a’r trefnwyr ac yna gwerthuso ac addasu.

¾     Trafodwyd sut mae’r adran yn edrych ar effaith digwyddiadau ar yr iaith. Mynegwyd o ran yr elfen trefnu fod cyfarfodydd yn cael ei cynnal gyda’r trefnwyr ac fod cytundeb yn cael ei arwyddo ganddynt. O ran monitro, nodwyd fod y Swyddog Digwyddiadau yn mynychu rhan helaeth o’r digwyddiadau ac rhoddwyd esiampl o ddigwyddiad ‘Red Bull Hardline’ ble mae mwy o Gymraeg i’w gweld yno yn flynyddol.

¾     Tynnwyd sylw at werth am arian gan amlygu i pob £1 mae’r Cyngor wedi ei fuddsoddi mewn digwyddiadau mae’n dod a elw o £140.26 i’r sir. Holwyd sut oedd modd mesur hyn. Nodwyd fod cyfrifiannell wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru sydd yn cael ei greu ar sail tybiaethau sydd eu hunain yn deillio o waith maintoli budd sy’n deillio o’r fath ddigwyddiadau

Awdur: Roland Evans

8.

CYLLIDEB REFENIW - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

·         Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

·         Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.

 

·         Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.

 

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     (£198k) o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

¾     (£75k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾     (£500k) o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.

¾     (£312k) i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant yn 2020/21.

¾      y gweddill sef (£502k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas 

 

            PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

·         Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

·         Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.

 

·         Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.

 

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     (£198k) o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

¾     (£75k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾     (£500k) o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.

¾     (£312k) i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant yn 2020/21.

¾      y gweddill sef (£502k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod rhai arwyddion o drafferthion cyflawni arbedion yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad. Mynegwyd fod rhai adrannau a fydd yn gorwario a trafodwyd yr adrannau yma yn unigol.

 

Adran Oedolion Iechyd a Llesiant – mynegwyd fod yr rhagolygon diweddaraf yn awgrymu dros £1.8miliwn o orwariant gan yr adran. Ychwanegwyd fod y gorwariant yn cael ei leddfu yn rhannol i £658k yn dilyn derbyniad grant a defnydd o gyllid un tro.

 

Adran Plan a Cefnogi Teuluoedd – nodwyd fod lefel y gorwariant yn yr adran wedi dwysau ymhellach i £3.2miliwn gyda £2.6 miliwn yn y maes lleoliadau, gyda cyfran sylweddol o’r gorwariant yn deillio o leoliadau all sirol. Ychwanegwyd fod tasglu Cyllideb wedi ei sefydlu er mwyn rhoi sylw i faterion ariannol yr adran a nodwyd nad oedd y sefyllfa hon yn anghyffredin os yn edrych ar draws Cymru.

 

Adran Priffyrdd – mynegwyd fod gwariant yn parhau yn y maes casglu a gwaredu gwastraff eleni, gan nodi mae costau trosiannol cyn symud i drefniadau newydd sydd wedi arwain at y gorwariant.

 

Tynnwyd sylw at tanwariant yn maes corfforaethol gyda rhagolygon ffafriol o gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a Premiwm Treth Cyngor er hyn amlygwyd fod parhad yn y tueddiad i ôl ddyddio trosglwyddiadau o Dreth Cyngor i Drethi Annomestig. Pwysleisiwyd yn ogystal fod niferoedd sy’n hawlio gostyngiadau Treth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

RHAGLEN CYFALAF - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD pdf eicon PDF 310 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         £50,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca

·         £1,072,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

·         £114,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·         £23,000 o leihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

·         Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

·         £228,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         £50,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca

·         £1,072,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

·         £114,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·         £23,000 o leihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

·         Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

·         £228,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Amlygwyd fod yr adroddiad diwygiedig yn amlygu cyfanswm o £89.1miliwn dros y tair blynedd nesaf. Ychwanegwyd fod £1.341miliwn o gynnydd yn yr y gyllideb ers y adolygiad blaenorol.

 

Pwysleisiwyd fod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £31.8 miliwn yn 2019/20 ar gynlluniau cyfalaf. Ategwyd fod £13miliwn ohono wedi ei ariannu drwy grantiau. Mynegwyd fod £9.2miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ailbroffilio o 2019/20 i 2020/21 ond nad yw’r newid hwn wedi achosi unrhyw golled ariannol i’r Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Trafodwyd hawliadau gweithwyr sydd yn gweithio ar gynlluniau sydd yn cael eu hariannu yn benodol gan grantiau a mynegwyd fod angen trafodaeth bellach ar y mater.

¾     Mynegwyd fod angen llawenhau yn y £31.7miliwn o gynlluniau cyfalaf ar gyfer 2019/20, a diolchwyd i’r staff am gynllunio prosiectau o flaen llaw fel bod modd manteisio ar arian munud olaf.

¾     Tynnwyd sylw at £1.9miliwn fydd ar gael i wella adeiladau ysgolion a fydd a oblygiadau i’r cynllun asedau.

 

 

 

Awdur: Ffion Madog Evans

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad wedi ei seilio am gyfarfodydd herio perfformiad yr adran ble roedd aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yno hefyd. Tynnwyd sylw at y prif faterion oedd yn cynnwys y Strategaeth Technoleg Gwybodaeth gan nodi fod y cynnydd yn araf ar hyn o bryd gan fod yr adran yn canolbwyntio ar brosiect grant addysg sydd ag amserlen dynn.

 

Nodwyd o ran system rheoli dogfennau a chofnodion electronig fod y cynllun yn mynd yn bositif iawn ond fod ychydig o broblemau wedi codi. Nodwyd fod angen cylchredeg neges i’r holl ddefnyddwyr i ofyn am adborth am y system. Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth Technegol Gwybodaeth a mynegwyd fod amser wedi ei fuddsoddi i hyfforddi’r staff fel eu bod wedi’i harfogi i ymateb a datrys problemau defnyddiwr dros y ffon ar y cyswllt cyntaf. Amlygwyd yn ogystal fod cyfnod o 3 wythnos ym mis Tachwedd fod systemau’r Cyngor wedi gweithredu oddi ar y gweinydd wrth gefn ar dri achlysur oherwydd toriad. Pwysleisiwyd nad oedd y defnyddiwr yn ymwybodol o hynny ac nad oedd unrhyw effaith ar eu gwaith.

 

Mynegwyd fod gwerth holl ddyledion amrywiol dros 6 mis oed gohiriedig a dyledion a gyfeiriwyd am weithrediad pellach i wasanaethau eraill yn uwch ar 30 Medi 2019 ac yr oedd ar 31 Mawrth 2019. Nodwyd mai un o‘r rhesymau dros hyn yw arafwch y Bwrdd Iechyd yn talu gan fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar bwy ddylai fod yn talu.

 

Amlygwyd un o brif ddarnau gwaith yr adran dros y misoedd diwethaf sef prisiant o’r Gronfa Bensiwn. Nodwyd fod cynnydd yn y lefel ariannu’r gronfa o 91% yn 2016 i 108% eleni. Golygiad hyn yw y gallwn weld elfen o leihad yng nghyfraniad y Cyngor fel cyflogwr.

 

Nodwyd fod yr Aelod Cabinet yn fodlon â pherfformiad yr adran ond fod lle i wella.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod busnesau bach yn gwerthfawrogi fod anfonebau yn cael eu talu yn syth gan y Cyngor.

¾     Trafodwyd fod 9 o bobl wedi dod i gyswllt a’r tîm adfer ac a gyfeiriwyd at fudiad CAB am gyngor dyledion sydd yn ffigwr llawer is nag mewn blynyddoedd blaenorol.  Mynegwyd efallai fod angen annog pobl i drafod â’r staff, fel bod modd eu cyfeirio i’r gefnogaeth gywir.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS AMGLYCHEDD pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Grffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud dros y misoedd a fu. Mynegwyd fod y cyfarfod herio perfformiad wedi bod gyda’r Aelod Cabinet ynghyd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Amlygwyd fod yr Adran Amgylchedd wedi sefydlu system newydd, sef Tascomi a fydd yn cael ei ddefnyddio gan amryw o wasanaethau o fewn yr adran a fydd yn rhoi gwasanaethau gwell i’r trigolion. Ychwanegwyd fod arbedion wedi neu ar drac i gael eu gwireddu a bod yr adran yn debygol o danwario am eleni.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at y mesurydd nifer o apeliadau i’r beirniaid annibynnol sy’n cael eu caniatáu gan nodi fod y nifer yn parhau yn 0. Amlygwyd fod hyn yn dangos disgresiwn swyddogion yn gywir. Ychwanegwyd efallai fod angen nodi faint sydd yn mynd i banel pan mae cwyn yn codi.

 

Awdur: Dilwyn Williams

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at y prif bwyntiau yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at un o brif fesuryddion yr adran ‘a wnaethom yr hyn sydd yn bwysig i’r unigolyn?’ a phwysleisiwyd mai hyn sydd yn gyrru’r gwasanaeth.

 

Mynegwyd fod rhai o’r mesurau yn fesurau statudol gan Lywodraeth Cymru megis cyfradd oediad mewn gofal am resymau gofal cymdeithasol. Ategwyd fod y mesur hwn yn gyrru gweithgaredd ond ddim yn adlewyrchu ar brofiad y dinesydd. Mynegwyd fod Gweithlu a Recriwtio yn y maes gofal yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r adran. Ychwanegwyd ar y cyfan fod yr aelod yn hapus a pherfformiad yr adran.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd i’r staff gan aelod o’r Cabinet am y gwasanaeth a gafwyd gan yr adran a’i brofiad ef o hynny oedd ei fod yn wasanaeth clodwiw.

¾     Mynegwyd nad oes gan yr adran unrhyw graffiau yn dangos eu perfformiad ond bod yna straeon fel hyn yn adlewyrchu ar ansawdd y gwasanaeth.

¾     Amlygwyd mai’r gyfrinach fyddai ystyried sut mae modd trosi’r profiadau unigolion yn fesur i dangos ansawdd y gwasanaeth

Awdur: Morwena Edwards

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DDATBYLGU'R ECONOMI pdf eicon PDF 133 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddan gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi eu bod yn nodi’r prif bwyntiau yn yr adroddiad. Mynegwyd fod llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda’r trigolion gyda diweddaru cardiau teithio bws. Ychwanegwyd fod Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi creu darlun calonogol o Lyfrgelloedd Gwynedd.

 

Rhoddwyd diweddariad ar waith Neuadd Dwyfor gan nodi fod tîm defnyddwyr wedi ei sefydlu er mwyn ymgynghori gyda phobl leol. Codwyd pryder am orwariant yn Storiel ond nodwyd fod y gwasanaeth yn adolygu’r trefniadau ar hyn o bryd.

 

Tynnwyd sylw at gynllun ‘busnesau’n cael cymorth i ffynnu’ sydd yn sicrhau dull gweithredu yn y Cyngor sy’n rhoi anghenion busnes yn ganolog ac yn lleihau rhwystrau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at oedi yn gynllun arbedion parcio gan nodi fod rhai adrannau yn credu fod codi incwm yn lleihau’r arbedion. Ychwanegwyd os nad oes codiad mewn incwm fod dod o hyd i ddatrysiad yn gallu bod yn anodd.

 

Awdur: Dilwyn Williams

14.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod yn ddarostyngedig i addasu man addasiadau.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod yn ddarostyngedig i addasu man addasiadau.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod man addasiadau angen ei gwneud i’r blaen raglen cyn ei chyhoeddi ar y wefan. Mynegwyd fod angen i Adrannau adael i’r Tîm Gwasanaethau Democratiaeth wybod am yn amserol am eitemau fydd angen ei rhoi ar y blaen raglen ac os eitemau yn llithro.