Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 MEDI 2019 PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Medi
2019 fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i ddiwygio’r cofnod gwreiddiol fel a
ganlyn (ychwanegiad mewn italic): Pwysleisiwyd nad yw Llywodraeth Cymru yn adnabod Ysgol Abersoch fel
Ysgol Wledig, ond bydd yr Adran Addysg yn dilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion, gan ddefnyddio’r un canllawiau a thrin yr
ysgol fel petai. |
|
GORCHYMUN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS BANGOR PDF 103 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1) Cymeradwyo
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer Dinas Bangor
am gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd
i’r adroddiad. 2) Diddymu
Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer ardaloedd
Bangor a Chaernarfon Cyngor Gwynedd 2004 (y Gorchymyn Presennol) wrth sefydlu'r
GDMC i'r graddau ei fod yn berthnasol i Fangor; 3) Awdurdodi
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â chyflwyno'r Gorchymyn
Arfaethedig a diddymu'r Gorchymyn Cyfredol. Cofnod: Cyflwynwyd gan y
Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD 1) Cymeradwyo
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer Dinas Bangor
am gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd
i’r adroddiad. 2) Diddymu Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer ardaloedd Bangor a Chaernarfon Cyngor Gwynedd 2004 (y Gorchymyn Presennol) wrth sefydlu'r GDMC i'r graddau ei fod yn berthnasol i Fangor; 3) Awdurdodi Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â chyflwyno'r Gorchymyn Arfaethedig a diddymu'r Gorchymyn Cyfredol. TRAFODAETH Cyflwynwyd gan nodi
fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet ar 16eg Gorffennaf 2019 i gymeradwyo
ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Gorchymun Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn
ardal benodol o Fangor. Bu ymgynghori trylwyr gydag Aelodau Lleol a’r Heddlu,
yn ogystal a’r ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniwyd ymateb da i’r ymgynghoriad ac
‘roedd canlyniadau yr ymgynghoriad yn nodi bod nifer o drigolion Bangor yn
bryderus am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddinas. Yn dilyn yr ymgynghoriad
ac ar sail tystiolaeth yr Heddlu penderfynwyd ehangu ardal y gorchymun. Y camau
nesaf oedd i godi arwyddion i hysbysu’r cyhoedd, a byddai’r heddlu hefyd yn
hyrwyddo’r gorchymyn. Derbyniwyd sicrhad hefyd na fyddai’r Gorchymun yn cael ei
ddefnyddio er mwyn targedu pobl ddigartref ym Mangor. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Nodwyd ei fod yn amlwg fod gwaith trylwyr wedi ei wneud er mwyn paratoi’r Gorchymun. ¾ ‘Roedd grwpiau oedd yn gweithio i hyrwyddo’r Ddinas yn gefnogol iawn o’r gwaith ac yn gweld ei angen fel rhan o jig-so datblygiad ffyniannus Bangor. Awdur: Catherine Roberts |
|
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL PDF 126 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1)
Derbyn yr
Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i
Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019. 2)
Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad
Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru 3)
Rhoi’r
hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet
Amgylchedd i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD 1)
Derbyn yr
Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i
Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019. 2)
Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad
Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru 3) Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet Amgylchedd i ymgymryd ag unrhyw newidiadau sydd yn
deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ma dyma oedd yr adroddiad monitro cyntaf ar gyfer y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd, gan adrodd ar y cyfnod rhwng Awst 2017 a diwedd Mawrth
2019. ‘Roedd yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau
a’r Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn ogystal a’i gyflwyno mewn
gweithdai i Aelodau. Nid oedd eto wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini na
Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Mon. Nodwyd bod yr
adroddiad yn rhan o greu sail tystiolaeth er mwyn adolygu’r Cynllun maes o law,
gan adrodd ar 69 dangosydd perfformiad tra’n gosod gwaelodlin ar eu cyfer.
‘Roedd yn ofynnol i adolygu’r Cynllun pob 4 mlynedd, ond cyn adolygu’r Cynllun
byddai rhaid cyhoeddi o leiaf 3 adroddiad monitro. Ychwanegwyd fod polisi tai
marchnad leol y Cynllun yn arloesol fel yr unig un o’i fath yng Nghymru. Mewn perthynas a
sefyllfa Wylfa nodwyd mai pwyllo a monitro fyddai orau am y tro nes i’r
sefyllfa sefydlogi. Pwysleisiwyd hefyd fod y polisïau oedd yn y Cynllun yn rhai
cadarn a bod rhaid i ddatblygwyr brofi’r angen am ddatblygiadau fel rhan o gais
cynllunio. Awdur: Rebeca Jones |
|
CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 82 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r Gyllideb Refeniw, gan: 1)
Nodi
fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, a chan
fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r
Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn
cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb, fel sydd yn digwydd ym maes
gofal Plant. 2)
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl
Ifanc, ynghyd â'r Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd, i fynd at wraidd
gorwariant yr Adran a chymryd camau i ddod a’r sefyllfa o fewn rheolaeth ac o
fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb. 3)
Caniatáu yr Adran Amgylchedd i neilltuo (£220k)
o danwariant yr adran yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar o gynllun cyfalaf yn
ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr, o ganlyniad i resymau tu hwnt i reolaeth y
Cyngor, gan ei roi mewn cronfa benodol i'r pwrpas. 4)
Gweithredu’r trosglwyddiadau canlynol ar
gyllidebau Corfforaethol, -
(£240k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf. -
(£995k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a
chadw. -
tanwariant net o (£1,632k) ar gyllidebau
Corfforaethol i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i leddfu'r risg
gorwariant adrannau'r Cyngor yn 2019/20. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r Gyllideb Refeniw, gan: 1)
Nodi
fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, a chan
fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r
Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn
cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb, fel sydd yn digwydd ym maes
gofal Plant. 2)
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl
Ifanc, ynghyd â'r Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd, i fynd at wraidd
gorwariant yr Adran a chymryd camau i ddod a’r sefyllfa o fewn rheolaeth ac o
fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb. 3)
Caniatáu yr Adran Amgylchedd i neilltuo (£220k)
o danwariant yr adran yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar o gynllun cyfalaf yn
ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr, o ganlyniad i resymau tu hwnt i reolaeth y
Cyngor, gan ei roi mewn cronfa benodol i'r pwrpas. 4)
Gweithredu’r trosglwyddiadau canlynol ar gyllidebau
Corfforaethol, -
(£240k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf. -
(£995k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a
chadw. -
tanwariant net o (£1,632k) ar gyllidebau
Corfforaethol i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i leddfu'r risg
gorwariant adrannau'r Cyngor yn 2019/20. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno
adolygiad diwedd Awst ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor. ‘Roedd yr adolygiad yn
dangos darlun cymysg gan adrodd fod rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o
adrannau’r Cyngor. Fodd bynnag amlygwyd y pwysau oedddd ar rai o’r adrannau yn
dilyn gwerth £32 Miliwn o arbedion ers 2015 wedi ei gyplysu gyda chynnydd yn y
galw am wasanaethau. Oherwydd
graddfa’r gorwariant a ragwelwyd yn yr adrannau Plant (£2.9 miliwn) ac Oedolion
(£1.6 miliwn) daethpwyd i’r canlyniad bod angen mynd i wraidd eu hanallu i gadw
at eu cyllidebau. Nodwyd bod galw uwch na’r disgwyl ar wasanaethau y ddwy
adran, ac ‘roedd yr adran Oedolion hefyd wedi methu gwireddu gwerth bron i
filiwn o bunnau o arbedion. Er mwyn ceisio dod a’r sefyllfa o dan reolaeth
‘roedd y Prif Weithredwr eisioes wedi cynull cyfarfodydd gyda’r adrannau er
mwyn dechrau ar y gwaith yma, gyda’r bwriad o adrodd yn ol i’r Cabinet maes o
law. Ychwanegwyd
bod oddeutu £733k o orwariant gan yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Nid oedd
fodd bynnag yn achosi pryder ga ei fod yn cynnwys costau trosiannol oedd yn
deillio o newid trefniadau ym maes gwastraff. ‘Roedd
yn ddarbodus trosglwyddo arian oedd ar gael oherwydd tanwariant ar gyllidebau
Corfforaethol er mwyn lleddfu’r risg gorwariant ar gyfer adrannau’r Cyngor ar
gyfer 2019/20. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Nodwyd pryder
am y lefel o orwariant yn yr adrannau Plant ac Oedolion, gan nodi mai dyma oedd
canlyniad blynyddoedd o lymder a gwasgfa ariannol. ¾
Nodwyd pryder
bod y cynnydd yn y galw yn annisgwyl o uchel yn y sector gofal. ¾ Nodwyd bod yma neges glir i Lywodraeth Cymru yn dilyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 104 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2019 o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85
miliwn, sef : Defnydd o £8.304 miliwn o
amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19 Cynnydd yn y defnydd o £5.936 miliwn o
fenthyca £3.411 miliwn yn
y grantiau a chyfraniadau £82
mil o dderbyniadau cyfalaf £154
mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill Lleihad o £37 mil o
gyfraniadau refeniw Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r rhaglen gyfalaf, a
chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85 miliwn, sef : Defnydd o £8.304 miliwn o
amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19 Cynnydd yn y defnydd o £5.936 miliwn o fenthyca £3.411 miliwn yn y grantiau a chyfraniadau £82 mil o dderbyniadau cyfalaf £154 mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill Lleihad o £37 mil o gyfraniadau refeniw TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31
Awst 2019) ar gyfer rhaglen gyfalaf y Cyngor fel rhan o drefn adolygu cyllideb
2019/20. ‘Roedd rhaid sicrhau trefniadau ariannu priodol ar gyfer cynlluniau’r
Cyngor i wario ar gyfalaf, ac ‘roedd rhaid i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf a’r
ffynonellau ariannu. ‘Roedd y Cyngor mewn sefyllfa i fedru buddsoddi
£39.7miliwn ar gyfer cyfalaf yn 2019/20, gydag £17.9miliwn ohono yn deillio o grantiau Er mai mater o drefn oedd ymgorffori ariannu trwy grant, ‘roedd angen
hefyd delio gyda sefyllfaoedd lle bu newid rhwng blynyddoedd mewn proffil
gwario a newid mewn gwerth cyfraniadau a derbyniadau cyfalaf. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 59 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn er gwybodaeth. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae copi
ar wahan o’r adroddiad wedi
ei ddarparu i aelodau’r Pwyllgor
yn unig. Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid
cau allan y wasg a’r cyhoedd
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem
ganlynol gan ei bod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithredig fel y’i
diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf llywodraeth leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny) Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn
â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn
â chytundebau gyda chwmni masnachol ynglŷn â phrosiect a ariennir gan grant. Mae natur y wybodaeth yn sensitive i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad
ar eu buddiannau
masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitive o’r math yma hefyd yn
gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y Cyngor. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr
am gefnogaeth ariannol. Am
y rhesymau yma mae’r balans yn
gorwedd gyda ystyried y mater fel eitem eithriedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf llywodraeth
leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd
adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag
fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â
chytundebau gyda chwmni masnachol ynglŷn â phrosiect a ariennir gan grant.
Mae natur y wybodaeth yn sensitive i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad
ar eu buddiannau masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitive o’r
math yma hefyd yn gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod
at y Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a
trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol. Am y
rhesymau yma mae’r balans yn gorwedd gyda ystyried y mater fel eitem eithriedig. |
|
CYTUNDEB GYDA SNOWDONIA AEROSPACE LLP I WIREDDU CYNLLUNIAU ISADEILEDD CANOLFAN AWYROFOD ERYRI LLANBEDR Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1) Ar sail yr
adroddiad, yr asesiad risg a’r cyngor arbenigol sydd wedi ei dderbyn, awdurdodi
gwireddu cynllun Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr. 2) Awdurdodi’r
Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r
Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fydd yn
gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys cyfyngiadau
ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig. 3) Bod y
cytundeb yn sicrhau y defnydd sifil o’r datblygiad drwy gynnwys
cymal fydd yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau
sydd yn cael eu gwella drwy’r prosiect
arian Ewropeaidd Cofnod: Cyflwnwyd gan Cyng.
Gareth Thomas. PENDERFYNIAD 1) Ar sail yr adroddiad, yr asesiad risg
a’r cyngor arbenigol oedd wedi ei dderbyn, awdurdodi gwireddu cynllun
Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr. 2) Awdurdodi’r Pennaeth Economi a
Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fyddai
yn gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys
cyfyngiadau ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig. 3) Bod y
cytundeb yn sicrhau y defnydd sifil o’r datblygiad drwy gynnwys
cymal fyddai yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau
fyddai’n cael eu gwella drwy’r prosiect arian Ewropeaidd TRAFODAETH Nodwyd bod pecyn ariannu cyflawn bellach yn ei le ar gyfer cynllun
Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, oedd yn gynnwys £7.5M o arian Ewrop.
Pwysleisiwyd mai ar gyfer datblygu adeiladau ar gyfer y Ganolfan oedd y pecyn
ariannu. Cyngor Gwynedd oedd y corff atebol ar gyfer yr arian Ewrop ond
lesddeiliaid / gweithredwyr Canolfan Awyrofod Eryri - Snowdonia Aerospace LLP –
oedd yn gyfrifol am y gwaith oedd i’w gyflawni ar safle maes awyr Llanbedr. Cyn belled ag y bo modd, roedd angen sicrhau buddiannau’r Cyngor drwy
sefydlu cytundeb cyfreithiol gyda Snowdonia Aerospace LLP fyddai’n adlewyrchu
ac yn ymateb i’r risgiau i’r Cyngor yn deillio o wireddu’r cynllun gan gynnwys
cyfyngu’r defnydd o’r ganolfan i ddefnydd sifil yn unig. Awdur: Sioned Williams |