skip to main content

Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

5.

COFNODION CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR 16 AR 23 GORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH pdf eicon PDF 443 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2018/19.

 

7.

YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 562 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd rhoi caniatâd i gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda chorff llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill Ysgol Abersoch, i alluogi llunio ystod o opsiynau posibl yn ymwneud a dyfodol yr ysgol.

 

8.

ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU AR ORFODAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd gweithredu argymhellion ymchwiliad gweithgor Pwyllgor Craffu Cymunedau sy'n cynnwys y canlynol

  • Defnyddio pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) Adrannau 46 i 47ZA sy’n ymwneud a chynhwysyddion gwastraff, i ddirwyo trigolion a busnesau sy’n gwaredu eu gwastraff ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir fel mater o flaenoriaeth
  • Ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu gyda ffocws penodol ar Ddinas Bangor a chydnabod y gwahaniaethau daearyddol a demograffig yn y sir ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
  • Gosod sticeri “QR  code” ar gynhwysyddion ailgylchu er mwyn darparu mynediad 24 i drigolion ar eu diwrnodau casglu gwastraff c ailgylchu a gwybodaeth am eitemau y gellir eu hailgylchu.
  • Ffurfioli trefniadau cydweithio rhwng Adrannau’r Cyngor.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Gwasanaeth Casgliadau Clinigol a’r Gwasanaeth Casglu Arbennig sydd ar gael i helpu pobl hyn a phobl anabl i waredu eu gwastraff. Bydd modd gwneud hyn fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo ehangach.
  • Hyrwyddo rhwydwaith presennol o Ganolfannau Ailgylchu a chynnal ymgyrch benodol ar gyfer y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

9.

TROSOLWG ARBEDION 2019/20: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

 

10.

CYTUNDEB CYLLIDEB GYFUN AR GYFER LLETY CARTREFI GOFAL I BOBL HYN 2019-20 pdf eicon PDF 75 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas a Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r adroddiad ac i nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 o Ddeddf 2014, sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl hyn.

 

Cymerwdwywyd sefydlu cronfa gyfun, nad yw’n rhannu risg, ar gyfer llety cartefi gofal i bobl hyn, fel nodwyd yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel awdurdod lletya, ac i’r trefniadau fod yn weithredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Cymeradwyo i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwe awdurdod lloel y Gogledd i reoleiddio sefydliad, gweithrediad a threfniadau llywodraethu’r gronfa gyfun am gyfnod o dair blynedd.

 

11.

ADOLYGIAD RHEOLAETHOL pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd peidio â llenwi swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol sydd yn wag er mwyn arbrofi i weld a ellir gwneud hebddi.