Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Morwena Edwards.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Catrin Wager ar gyfer eitem 8 gan fod y Crwner yn aelod o’i theulu.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHARFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 EBRILL 2019 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y rhestr o’r Cynghorwyd presennol yn y cyfarfod diwethaf gan nodi fod camgymeriadau i’w gweld yno, nodwyd fod angen diweddaru'r rhestr. Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y  2 Ebrill 2019, fel rhai cywir.

 

6.

STRATEGAETH TOILEDAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 231 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a mabwysiadu’r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Catrin Wager  

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a mabwysiadu’r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei diolch am ddod yn rhan o dîm y Cabinet. Mynegwyd fod rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn rhoi gofyn statudol i’r Cyngor lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol. Fel rhan o’r broses i ddatblygu’r strategaeth, pwysleisiwyd fod ymarferiadau ymgynghori wedi digwydd. Pwysleisiwyd fod 1,200 o ymatebion wedi ei derbyn yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus a bod y prif negeseuon o’r ymgynghoriad wedi creu amcanion clir i’r strategaeth.

 

Nodwyd fod ymgynghoriad wedi ei gynnal ar yr amcanion a nodwyd y canlyniadau’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd fod y cyhoedd wedi nodi eu bod yn fodlon i gyfrannu at gost o gadw toiledau cyhoeddus. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud sicrhau fod datblygiadau yn cael ei wneud fel bod y Cyngor yn cyrraedd safonau’r amcanion. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adran wedi dechrau gwneud gwaith o uwchraddio rhai o’r toiledau.

 

Nodwyd y llynedd fod risg mawr i gau nifer uchel o doiledau cyhoeddus, ond oherwydd gwaith yr adran i weithio gyda chymunedau, mynegwyd bellach fod 63  o doiledau cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd. Mynegwyd fod hyn yn golygu fod Gwynedd yr ail sir yng Nghymru o ran nifer uchaf o doiledau cyhoeddus ac y trydydd drwy Brydain. Diolchwyd i staff yr adran ac i’r cynghorau Cymuned am gadw cymaint o doiledau ar agor. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Tynnwyd sylw at waith caled yr adran yn creu'r adroddiad. Mynegwyd fod niferoedd o doiledau wedi gostwng cymaint ar draws y wlad ond fod gwaith calonogol wedi ei wneud i sicrhau toiledau yn y sir.

-        Nodwyd cefnogaeth i’r strategaeth ond tynnwyd sylw at Gynllun Grantiau Toiledau Cymunedol. Mynegwyd nad yw’r defnydd o’r grant ddim yn ddigonol a bod adborth wedi nodi nad yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol o’r cynllun. Mynegwyd nad oedd y wefan ar gyfer y cynllun ddim yn hawdd i’w ddefnyddio ond ychwanegwyd fod yr adran yn edrych ar ffyrdd eraill i rannu’r wybodaeth.

-        Mynegwyd fod aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu ag un o’r Aelodau Cabinet yn nodi nad oes biniau misglwyf ar gael mewn toiledau cyhoeddus ar draws y sir. Nodwyd fod diffyg yn y ddarpariaeth ar draws y sir a bydd gwaith yn cael ei wneud yn y misoedd nesaf.

-        Diolchwyd i Gynghorau Cymuned a Thref am fod mor barod i addasu ac i gynnal gwasanaethau.

Awdur: Steffan Jones

7.

CYNLLUN Y CYNGOR: CAIS AM ADNODDAU DATBYLGU TECHNOLEG I GEFNOGI FFORDD GWYNEDD pdf eicon PDF 51 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo dyraniad am £341,046 (tua £113,000 y flwyddyn am dair blynedd) o’r Gronfa Trawsffurfio i gwrdd â chynnydd sylweddol mewn galw i ddatblygu systemau cyfrifiadurol i wella gwasanaethau ar draws Cyngor Gwynedd yn sgil darganfyddiadau ymarferion Ffordd Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo dyraniad o £341,046 (tua £113,000 y flwyddyn am dair blynedd) o’r Gronfa Trawsffurfio i gwrdd â chynnydd sylweddol mewn galw i ddatblygu systemau cyfrifiadurol i wella gwasanaethau ar draws Cyngor Gwynedd yn sgil darganfyddiadau ymarferion Ffordd Gwynedd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen cefnogi y cais am arian i gwrdd â chynnydd sylweddol mewn galw i ddatblygu systemau cyfrifiadurol i wella gwasanaethau ar draws y Cyngor yn sgil darganfyddiadau ymarferion Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd fod yr Uned Datblygu Technoleg Gwybodaeth yn datblygu systemau cyfrifiadurol ar gyfer holl wasanaethau’r Cyngor a bod y galw am gynnych yr uned yma’n hanesyddol uchel. Ategwyd yn dilyn llwyddiant ymarferion ffordd Gwynedd ar draws y Cyngor fod galw’n llawer uwch na’r gallu i gyflenwi.

 

Yn aml, nodwyd oherwydd natur Ffordd Gwynedd o roi pobl Gwynedd yn ganolog mae’r datrysiadau ar gyfer gwasanaethau’n unigryw ac angen teilwra’n bwrpasol yn unol â darganfyddiadau’r ymarferion Ffordd Gwynedd. Ategwyd fod yr adran o ganlyniad i hyn wedi bod yn arloesol ac yn aml yn creu systemau cyfrifiadurol i gyd fynd a’r angen am wasanaeth wedi ei deilwra’n bwrpasol.

 

Mynegwyd na fydda’i chais am arian yn diwallu yn llwyr ond y bydda’i sicrhau fod y gwaith yn ysgafnhau. Ychwanegwyd y byddai swydd prentis gradd yn cael ei greu yn ystod yr haf. Nodwyd y byddai’r arian yn hwb i wella'r ddarpariaeth technoleg Gwybodaeth sydd a’r gael i’r gwasanaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at y Cyngor yn creu systemau cyfrifiadurol newydd holwyd oes modd gwerthu’r gwasanaethau i gwmnïau a chynghorau eraill.

¾     Mynegwyd fod angen i’r adran fod yn fentrus a'i bod yn uchelgais i’r adran fod ar flaen y gad o ran Technoleg Gwybodaeth

 

 

Awdur: Huw Ynyr

8.

TREFNIADAU TAL CRWNER pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid, i gytuno ar drefniadau i dalu cyflog i’r Uwch Grwner, a ffi i’r Crwner Cynorthwyol yn unol a’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid, i gytuno ar drefniadau i dalu cyflog i’r Uwch Grwner, a ffi i’r Crwner Cynorthwyol yn unol a’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn un technegol. Nodwyd fod Deddf y Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn darparu fod gan uwch grwneriaid hawl i gyflog, tra telir ffi i grwneriaid cynorthwyol. Mynegwyd gan fod Deddf 2009 wedi dod a newidiadau mawr i strwythur y gwasanaeth, ychwanegwyd yr angen am sail newydd ar gyfer talu’r uwch grwneriaid ynghyd a’r crwneriaid cynorthwyol. Cynhaliwyd trafodaethau Cenedlaethol, a chyhoeddwyd canllaw tal newydd yng Nghylchlythyrau 61 a 62.

 

Mynegwyd fod mwyafrif o grwneriaid yn llawn amser ond nodwyd fod Gwynedd a Môn yn boced ble mae Crwner rhan amser. Nodwyd fod y Cylchlythyr yn nodi mai tan sylfaenol Uwch Grwneriaid Rhan-amser yw £20,000 sydd yn cynnwys gwaith ‘ y tu allan i oriau’ statudol, ac yna taliadau ar gyfer pob diwrnod a weithir. Yn dilyn trafodaethau a’r Uwch Grwner daethpwyd i gytundeb a fyddai’n golygu y byddai’r sail y’i teilir arno yn wahanol i’r dull a nodwyd yn y Cylchlythyr. Nodwyd fod y dull yn asesu nifer tebygol y dyddiau y disgwylir i’r Uwch Grwner weithio bob blwyddyn a throsi i ffigwr blynyddol gan gynnwys yr elfen gyflog sylfaenol yn ogystal. Ychwanegwyd y bydd gofyn am adolygiad cyfnodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd nad oedd gan y Cyngor lawer o reolaeth dros y mater gan ei fod yn fater i’r goron. Ychwanegwyd gan ei fod ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn fod cyfraniad Cyngor Gwynedd ychydig yn uwch o ganlyniad i’r boblogaeth. 

 

Awdur: Iwan Evans

9.

ADOLYGIAD RHEOLAETHOL pdf eicon PDF 136 KB

Mae atodiad ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig.

 

Mae’r atodiad yn eithriedig o dan Baragraff 12 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn ag unigolyn penodol.

 

Mae’r atodiad i’r adroddiad yn son am faterion yn ymwneud a chyflogaeth aelodau a staff penodol, eu hamodau gwaith a thrafodaethau ynglŷn â’r materion yma sydd yn eu hanfod yn gyfrinachol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Yn amodol ar (b), cytuno gydag asesiad y Prif Weithredwr fod y strwythur rheolaethol a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 10 yn addas i bwrpas.

b)    Cytuno i leihau’r nifer uwch o swyddi o fewn y Cyngor o 40 i 37 fel y nodir yng nghymalau 61, 62 a 64 yr adroddiad gan arbed isafswm o £211,000 yn flynyddol. 

c)    Gan nodi’r gofynion ym mharagraff 95 o’r adroddiad, cytuno i greu Adran Tai ac Eiddo newydd er mwyn ein galluogi i roi mwy o ffocws ar gyflawni ein Strategaeth Tai a gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a nodir yn yr adroddiad o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd pellach. 

ch)  Nodi’r man newidiadau pellach y bwriedi’r eu gweithredu fel y’u hamlinellir yng  nghymalau 76-88 yr adroddiad sy’n cynnwys symud rheolaeth adeiladu i’r adran Amgylchedd er mwyn iddo fod yn agosach at Cynllunio.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

a)    Yn amodol ar (b), cytuno gydag asesiad y Prif Weithredwr fod y strwythur rheolaethol a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 10 yn addas i bwrpas.

b)    Cytuno i leihau’r nifer uwch o swyddi o fewn y Cyngor o 40 i 37 fel y nodir yng nghymalau 61, 62 a 64 yr adroddiad gan arbed isafswm o £211,000 yn flynyddol. 

c)    Gan nodi’r gofynion ym mharagraff 95 o’r adroddiad, cytuno i greu Adran Tai ac Eiddo newydd er mwyn ein galluogi i roi mwy o ffocws ar gyflawni ein Strategaeth Tai a gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a nodir yn yr adroddiad o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd pellach. 

ch)  Nodi’r man newidiadau pellach y bwriedi’r eu gweithredu fel y’u hamlinellir yng nghymalau 76-88 yr adroddiad sy’n cynnwys symud rheolaeth adeiladu i’r adran Amgylchedd er mwyn iddo fod yn agosach at Cynllunio.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol.

 

 

TRAFODAETH

 

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater wedi codi yn dilyn trafodaeth a gynhaliwyd y llynedd wrth ystyried toriadau i wasanaethau. Mynegwyd fod y drafodaeth wedi codi’r cwestiwn os yw’r drefn reolaethol yn un cywir. Ategwyd fod cyhoedd yn aml yn holi faint o reolwyr ac uwch-reolwyr sydd gan y Cyngor ac os yw’r niferoedd yn gywir. Mynegwyd fod y Cabinet wedi comisiynu’r Prif Weithredwr i adolygu’r drefn reolaethol.

 

Tynnwyd sylw at y drefn a ddilynwyd o adolygu’r strwythur bresennol gyda Phenaethiaid, lle cafodd yr Aelodau Cabinet a'r Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Craffu y cyfle i glywed y gwaith herio. Ychwanegwyd fod Rhaglen Ffordd Gwynedd wedi amlygu’r angen am fod yn gliriach ynglŷn â rolau swyddi penodol o fewn y sefydliad, gan amlygu rôl gyda phwyslais gwahanol ac aeddfetach ar gyfer rheolwyr. Ychwanegwyd fod y Prif Weithredwr wedi iddo weld y darlun cychwynnol o strwythurau adrannol wedi dod i’r casgliad fod nifer o swyddi oedd yn dwyn teitl “rheolwr” wedi esblygu dros amser, ac nad oedd oeddent yn arddel swydd rheolwr fel yr oedd yn cael ei ddisgrifio yn y swydd ddisgrifiad diiwygiedig ar gyfer rheolwyr. Ymhelaethwyd drwy nodi fod gwaith herio wedi ei wneud a bellach mae’r nifer o swyddi wedi newid eu teitlau i wneud yn glir nad rheolwyr yn unol â’r diffiniad yw’r swyddi yma. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd, fod y nifer o reolwyr bellach wedi disgyn o 235 i  111.

 

Edrychwyd yn bellach ar stwythur rheolaethol Uwch Swyddogion gan holi os oes gormod o Uwch Reolwyr. Mynegwyd o edrych dros Gymru mai dim ond 5 Cyngor arall sydd a llai o swyddi Penaethiaid a Chyfarwyddwyr na 12. Ychwanegwyd fod gan y Cyngor 43 o swyddi ar lefel Uwch Reolwr neu uwch yn 1996 ac fod y nifer wedi gostwn erbyn 2004 i 40. Holwyd y cwestiwn os yw’r nifer yn parahu i fod yn rhy uchel, nodwyd mai mater o farn a fyddai hyn.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Dilwyn Williams