Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

CAIS AM ADNODD TRAWSNEWID GWASANAETH I'R GWASANAETH PLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Neilltuo £34,382 o Gronfa Cynllun y Cyngor i ariannu swydd swyddog trawsnewid am gyfnod penodol o flwyddyn yn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynnal adolygiad penodol er mwyn sicrhau fod gwasanaethau’r Adran yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithlon posib.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Neilltuo £34,382 o Gronfa Cynllun y Cyngor i ariannu swydd swyddog trawsnewid am gyfnod penodol o flwyddyn yn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynnal adolygiad penodol er mwyn sicrhau fod gwasanaethau’r Adran yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithlon posib.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd yn adran uchelgeisiol. Mynegwyd eu bod yn awyddus i gynnal adolygiad o waith yr adran er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio yn effeithlon. Ychwanegwyd fod derbyn yr adnodd am sicrhau tystiolaeth er mwyn herio, nid yn unig, prosesau’r adran ond prosesau partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol yn ogystal. Mynegwyd fod adnabod cyfleoedd cydweithio ar draws y Cyngor a phartneriaid yn rhan allweddol o’r gwaith, a'i fod yn cyd-fynd a’r weledigaeth ehangach fel datblygu Strategaeth Cefnogi Teuluoedd. Ategwyd y bydd manteision ariannol i’r adran yn dilyn yr adolygiad ond pwysleisiwyd nad hyn yw prif amcan yr adran, ond yn hytrach i sicrhau fod yr adran yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithlon posib.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd fod trafodaethau wedi eu cynnal er mwyn i’r adran symud tuag at weithio yn fwy effeithlon, gan nodi yn hanesyddol nad yw’r gwasanaeth wedi gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i  wireddu effeithlonrwydd. Ategwyd mai rhan allweddol o’r gwaith fydd i newid diwylliant ac i atgyfnerthu meddylfryd Ffordd Gwynedd, a drwy hyn cynnig y gwasanaeth gorau i drigolion Gwynedd. Mynegwyd fod yr adran wedi derbyn archwiliad Cenedlaethol llawn o’i gwasanaethau'r llynedd ac felly mae’r adran yn ymwybodol eu bod yn eu prosesau yn gadarn ac effeithiol. Mynegwyd fod y cais ar gyfer Swyddog Rhan Amser 3 diwrnod yr wythnos, am gyfnod penodol a fydd nid yn unig yn gwneud yr adolygiad ond yn adnodd i wireddu’r argymhellion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd y byddai cael rhywun a’r secondiad i’r swydd yn syniad da gan fod y staff yn deall meddylfryd Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd fod secondiad yn ogystal yn cynnig cyfle i swyddogion ddatblygu eu sgiliau yn ogystal.

-        Trafodwyd adolygu prosesau gan nodi ei fod yn bwysig os yn dod o hyd i heriau tu hwnt i brosesau’r Cyngor ei bod yn bwysig fod yr adran yn eu herio.

-        Nodwydd y bydd yr ymarfer yn un gwerthfawr a fydd ac oblygiadau tu hwnt i’r Cyngor yn y maes Plant.

 

Awdur: Marian Parry Hughes

6.

CYNLLUN PRENTISIAETHAU - BID I'R GRONFA CYNLLUN Y CYNGOR pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

a)    Cymeradwyo sefydlu cynllun prentisiaethau.

 

b)    Ymrwymo £300,000 o’r Gronfa Cynllun y Cyngor er mwyn sefydlu cynllun prentisiaethau i gyflogi o leiaf 20 prentis newydd yn 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Cymeradwyo sefydlu cynllun prentisiaethau.

 

b)    Ymrwymo £300,000 o’r Gronfa Cynllun y Cyngor er mwyn sefydlu cynllun prentisiaethau i gyflogi o leiaf 20 prentis newydd yn 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun yn un syml ond arloesol a blaengar. Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn datblygu’r cynllun. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet ar y weledigaeth wleidyddol sydd tu ôl i’r cynllun.

 

  1. Iaith - mynegwyd y bydd y cynllun yn rhoi mwy o gyfle i dderbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau ac arbenigedd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithir y bydd hyn yn annog cynnydd o ddefnydd y Gymraeg.
  2. Gwlad - nodwyd fod cynllun prentisiaethau yn amcan cenedlaethol. Yn ychwanegol at hyn, mynegwyd, mae’n gyfle i Gyngor Gwynedd ddangos esiampl i gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill o botensial y cynllun.
  3. Pobl - esboniwyd fod linc bendant rhwng y cynllun hwn a gwella bywydau trigolion Gwynedd. Ymhelaethwyd drwy nodi mai dim yn unig i’r ugain a fydd yn cael y prentisiaethau ond yn  y gymuned yn fwy ehangach. Ychwanegwyd gan nodi y bydd yn ysgogi ymdeimlad o obaith a hyder yng nghymunedau Gwynedd
  4. Plant - Nodwyd y bydd y cynllun yn gyfle i herio sterioteips cymdeithasol. Mynegwyd y bydd yn daith hir ond bydd yn gyfle i blant allu anelu at eu swydd ddelfrydol.

 

Mynegwyd fod modd i adrannau fod yn rhan o’r cynllun, a bydd angen i benaethiaid gysylltu er mwyn gweld beth yw cyfloed yn eu gwasanaethau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd fod yr eitem yn amserol wrth feddwl am Wylfa. Mynegwyd y bydd cael prentisiaethau o fewn yn sicr yn rhoi cyfle i bobl ifanc i aros yn yr ardal ac i ddefnyddio’r Gymraeg.

-        Nodwyd fod angen cofio fod arian ar gael i gynlluniau arloesol er yr holl son am arbedion. Amlygwyd pwysigrwydd cadw pobl ifanc yn yr ardal er mwyn cynnal cymunedau cynaliadwy.

-        Pwysleisiwyd pwysigrwydd roi cyfleoedd a buddsoddi mewn pobl ifanc.

 

Awdur: Geraint Owen

7.

CAIS AM ADNODDAU CYNLLUN Y CYNGOR I DRAWSNEWID Y GYFUNDREFN ADDYSG pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Ymrwymo £103,492 o Gronfa Cynllun y Cyngor am gyfnod o ddwy flynedd i ariannu swydd Rheolwr Prosiect a fyddai’n galluogi’r Adran i ymateb a gweithredu ar brosiectau unigol i drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn amserol ac fel maent yn codi ac yn unol â’r egwyddorion addysg mabwysiedig.

 

b)    I adolygu’r sefyllfa pan ddaw’r ddwy flynedd gychwynnol i ben, a/neu os rhagwelir cynnydd yn nifer y prosiectau unigol pellach fydd angen eu gweithredu i drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn sgil mabwysiadu’r egwyddorion addysg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Ymrwymo £103,492 o Gronfa Cynllun y Cyngor am gyfnod o ddwy flynedd i ariannu swydd Rheolwr Prosiect a fyddai’n galluogi’r Adran i ymateb a gweithredu ar brosiectau unigol i drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn amserol ac fel maent yn codi ac yn unol â’r egwyddorion addysg mabwysiedig.

 

b)    I adolygu’r sefyllfa pan ddaw’r ddwy flynedd gychwynnol i ben, a/neu os rhagwelir cynnydd yn nifer y prosiectau unigol pellach fydd angen eu gweithredu i drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn sgil mabwysiadu’r egwyddorion addysg.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gan yr adran Addysg nifer o gynlluniau cyffroes yn rhan o Gynllun y Cyngor. Nodwyd fod yr Adran yn gyfrifol am nifer o brosiectau lefel uchel sydd yn cwmpasu o amgylch trawsnewid y gyfundrefn, cryfhau arweinyddiaeth a moderneiddio addysg. Ychwanegwyd fod yr adran wedi mabwysiadu Egwyddorion Addysg newydd a fydd yn sail i wireddu gweledigaeth yr adran.

 

Nodwyd fod gan yr adran gynlluniau di-gyfalaf fydd angen sylw o dan arweiniad y Swyddogion Addysg Ardal. Ategwyd fod y cynlluniau yn cyd-fynd a’r egwyddorion megis:

·         Sefydlu trefniaint federal ffurfio rhwng Ysgol Brynaerau ac Ysgol Talysarn

·         Newid oedran mynediad Ysgol dyffryn Ardudwy ac Ysgol Llanbedr

·         Dyfodol Cwm y Glo.

 

Mynegwyd y bydd angen i bob un o’r prosiectau ddilyn proses statudol gyflawn, sydd yn drwm waeth pa mor fychan yw’r cynllun. Nodwyd ei bod yn gyfnod gydag amryw o newidiadau o fewn yr adran addysg ac mae’n bosib y bydd cyfloed di-gyfalaf eraill yn codi. Er mwyn galluogi’r Adran i ymateb a dilyn yr egwyddorion, eglurwyd, bydd angen sicrhau adnodd ychwanegol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

Nodwyd fod yr arian yn mynd i sicrhau fod prosiectau yn cael eu cwblhau ac yn symud y gyfundrefn addysg yn eu blaen

 

Awdur: Garem Jackson

8.

CYLLIDEB REFENIW 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

-        Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r Gyllideb Refeniw, a nodi y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

-        Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

 

-        Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet 29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

-        Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet (Cabinet 29/01/19).

 

-        Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf.

 

-        Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol,

·         gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

·         (£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.

·         gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar gyllidebau'r Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

-        Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r Gyllideb Refeniw, a nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

-        Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

 

-        Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet 29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

-        Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet (Cabinet 29/01/19).

 

-        Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf.

 

-        Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol,

·         gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

·         (£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.

·         gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar gyllidebau'r Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw a’r rhagolygon at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod y darlun yn gymysg gyda rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor. Ychwanegwyd fod gorwariant sylweddol yn cael ei ragweld yn yr Adran Addysg, Plant a Chefnogi Teuluoedd a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Tynnwyd sylw y bydd pum adran ynghyd a chyllidebau Corfforaethol yn tanwario, ond bydd y pum adran arall yn gorwario. Mynegwyd fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario o ganlyniad i orwariant yn y gwasanaeth Darparu a llithriad yn y cynlluniau arbedion. Ychwanegwyd y bydd lleihad yn y gorwariant o ganlyniad i ddefnydd o arian grant.

 

Nodwyd fod gorwariant yn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd yn dwysau, er hyn mae derbyn grant diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi lleihau’r gorwariant ychydig. Esboniwyd mai cludiant tacsis a bysus ysgolion sydd yn parhau i greu gorwariant o fewn yr Adran Addysg.  Wrth edrych ar yr adran Economi, nodwyd mai llithriad yn y cynllun arbedion yn y maes Hamdden a gostyngiad yn y rhagolygon incwm yw’r rhesymau dros y gorwariant. Mynegwyd fod yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi cychwyn ar gymryd camau i leihau’r gorwariant yn y maes Gwastraff.

 

Nodwyd wrth edrych ar gyllidebau corfforaethol fod y rhagolygon yn ffafriol, ac mai 2018/19 yw’r flwyddyn gyntaf o gasglu’r Premiwm Treth Cyngor. Ychwanegwyd fod y rhagolygon o gynhaeafu’r dreth ychwanegol yma’n uwch, ond fod ôl-ddyddio trosglwyddiadau eiddo o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Treth Busnes yn lleihau’r incwm.

 

Sylwadau yn codi o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd L Edwards

9.

RHAGLEN CYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

-        £9,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

-        £3,502,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £488,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        £220,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

-        £9,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

-        £3,502,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £488,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        £220,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu. Nodwyd fod dadansoddiad yn yr adroddiad o’r rhaglen gyfalaf gwerth £51m am y dair blynedd nesaf.

 

Ategwyd fod yr adroddiad yn manylu ar y ffynonellau, yn bennaf grantiau wedi’u denu, i ariannu’r cynnydd net dros £4m ers yr adolygiad diwethaf.

 

Nodwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant yn eu lle er mwyn buddsoddi oddeutu £28.5 miliwn eleni, ac mae £6.9milibwn ohono wedi’i ariannu drwy grantiau.

 

 

Awdur: Dafydd L Edwards

10.

TROSOLWG ARBEDION 2018/19 - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn nodi cynnydd ar wireddu cynlluniau arbedion y Cyngor yn flynyddol. Tynnwyd sylw ar yr atodiad sydd yn dangos fod dros 95% o’r arbedion ar gyfer 2015/16 - 2017/18 wedi’u gwireddu. Ategwyd gan nodi fod ychydig o lithriad ar 15 cynllun a saith ohonynt gan yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ble mae her o wireddu'r cynlluniau yn parhau. Ychwanegwyd fod pedwar cynllun yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, ble mae’r Cabinet wedi cytuno i ohirio eu gweithredu ar gynllun ‘Canolfannau Ailgylchu’. Nodwyd fod un cynllun sef ‘Dechrau I’r Diwedd’ yn cael ei lithro gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.

 

Nodwyd fod cynlluniau gwerth dros £2.5miliwn o arbedion gan y Cyngor yn Strategaeth Ariannol 2018/19. Ychwanegwyd fod 64% o’r cynlluniau wedi’u gwireddu, gyda 7 ar drac i gyflawni o fewn amser, a 5 cynllun yn llithro.

 

Mynegwyd mai un o’r llithriadau yw’r Cynllun ‘Dechrau I’r Diwedd’ a bod adolygiad o’r cynllun wedi ei gynnal gan yr Adran Plant, gyda swyddogion Cyllid a’r Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth yn ail ymweld â thybiaethau’r model gwreiddiol.

 

Esboniwyd fod gwireddu bron i £27m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn amser heriol i’r Cyngor a diolchwyd i staff ac i’r holl Aelodau Cabinet am eu gwaith.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Diolchwyd am y gwaith, gan ychwanegu ei bod yn dda fod y Cyngor yn gweithredu’n effeithlon. Ategwyd fod y Cyngor yn wynebu gorfod gwireddu mwy o arbedion, ond fod angen sicrhau lles pobl Gwynedd wrth wneud y penderfyniadau yma.

 

Awdur: Dafydd L Edwards

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma ail adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet. Tynnwyd sylw at brosiectau'r adrannau gan bwysleisio rhai prosiectau penodol. Wrth edrych ar y prosiect o hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn Gwasanaethau’r Cyngor nodwyd ei bod yn falch fod y Cyngor yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ategwyd fod y Cyngor yn sicrhau fod cefnogaeth ar gael i ddarparu’r gwasanaeth gorau i drigolion Gwynedd. Nodwyd fod cefnogaeth i swyddogion a rheolwyr yn ogystal i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol bellach gan fod Swyddog Dysgu a Datblygu penodol ar gyfer y Gymraeg.  A diolchwyd i’r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant am eu gwaith caled yn sicrhau fod deunyddiau’r cwrs IOSH bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mynegwyd fod cynnydd o 4% o wariant refeniw a chyfalaf y Cyngor, a phwysleisiwyd pwysigrwydd o daro’r balans rhwng sicrhau gwerth am arian a’r budd o wario gyda chwmnïau lleol. Tynnwyd sylw at y cynllun ‘Lleihau’r Bwlch Cyflog Rhwng Merched a Dynion’ sydd yn ceisio hybu’r nifer o ferched o fewn arweinyddiaeth y Cyngor. Nodwyd fod angen dileu unrhyw elfen o’r amodau gwaith o fewn y Cyngor sydd yn rhwystr i ferched ymgeisio am swydd arweiniol.

 

Tynnwyd sylw at ddatblygiad Hunanwasanaeth ar wefan y Cyngor sydd yn rhoi mynediad at wybodaeth i drigolion 24 awr y dydd. Mynegwyd fod niferoedd o gyfrifon hunanwasanaeth yn parhau i gynyddu gyda 36,197 cyfri bellach. Nodwyd fod dau ‘digwyddiad gwybodaeth’ wedi ei gynnal rhwng Gorffennaf a diwedd Hydref ble mae gwybodaeth wedi ei anfon i gyfeiriad anghywir neu wybodaeth wedi ei ddwyn/colli. Nodwyd y rhesymau dros hyn gan nodi fod trefniadau wedi eu tynhau ers mwyn sicrhau na fydd yn digwydd eto.

 

Nodwyd fod yr Aelod Cabinet yn hapus a chynnydd yn y Gwasanaeth Cyfreithiol, a bu i’r Aelod longyfarch y Gwasanaeth am lwyddo i gynnal safon LEXCEL, sydd yn safon cydnabyddedig Cymdeithas y Gyfraith o ran “Excellence in Legal Practive Management and Client Care”. 

 

Materion yn codi o’r drafodaeth

-    Tynnwyd sylw at y nifer o ddiffygion wedi eu hamlygu mewn archwiliadau rhaglenedig yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol, a nododd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol y bydd yn trafod y data a’r adran.

-        Trafodwyd App Gwynedd gan holi am niferoedd sydd yn defnyddio’r ap, mae 386 wedi ei lawr lwytho hyd yma, ond ychwanegwyd nad yw wedi cael ei lansio yn llawn eto.

 

Awdur: Dilwyn Williams

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AEOD CABINET DROS DDATBYLGU'R ECONOMI pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad wedi ei greu yn dilyn cyfarfodydd herio perfformiad yr adran sydd ag aelodau o’r Pwyllgor Craffu yn rhan o’r panel. Trafodwyd prosiectau Cynllun y Cyngor gan dynnu sylw yn gyntaf at gynllun Busnesau sy’n cael Cymorth i Ffynnu. Nodwyd fod rhai busnesau yn cael trafferth i gysylltu â’r Cyngor, mynegwyd fod Cyngor Dinbych bellach ac un aelod o staff i ddelio ac unrhyw ymholiadau ynglŷn â datblygu’r economi gan fusnesau. Mynegwyd fod yr Aelod Cabinet yn awyddus symud ymlaen i ddatblygu cynllun o’r fath yng Ngwynedd.

 

Trafodwyd cynllun Creu Swyddi Gwerth Uchel a nodwyd fod gwaith o ddatblygu safle Llanbedr yn parhau. Nodwyd y bydd datganiad gan y Parc Cenedlaethol yn fuan yn rhoi diweddariad ar y cynllunio i adeiladu ffordd newydd yn Llanbedr. Nodwyd fod perchnogion y Maes Awyr Llanbedr fod cynnydd wedi bod yn nifer yr ymholiadau gan fusnesau awyrennau a gofod er mwyn lleoli yn achlysurol ac i sylfaenu o fewn y safle datblygu. Ychwanegwyd fod y gwaith adeiladu yn parhau er mwyn datblygu'r safle ymhellach.

 

Tynnwyd sylw at Raglen Arloesi Gwynedd Wledig gan nodi fod Ysgol Dronau wedi ei redeg yn ystod y cyfnod ble mynydd dros 25 o bobl ifanc am 6 penwythnos o weithgareddau wedi bod yn llwyddiannus. Ychwanegwyd yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i ddarpariaeth WiFi cyhoeddus mewn cymunedau gwledig, fod trefniadau mewn lle ar gyfer gosod offer mewn 7 o gymunedau.

 

Mynegwyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi cadarnhau mai enwebiad Llechi Gwynedd fydd y nesaf i gael ei gyflwyno I Bwyllgor Treftadaeth y Byd o Brydain.

 

Trafodwyd Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig gan fod gwaith carthu basn marina Doc Fictoria wedi bod yn llwyddiannus. Nodwyd ei bod yn amserol i edrych ar ddyfodol Hafan, Pwllheli a nodwyd fod Bwrdd Prosiect wedi ei benodi. Nodwyd fod gwaith o greu Gwefan twristiaeth Eryri Mynyddoedd ac Mor yn parhau gan y Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata Digwyddiadau. Ychwanegwyd fod fersiwn newydd o’r wefan ar fin gael ei ryddhau i’r sector am fewnbwn cyn iddi fynd yn fyw o fewn y misoedd nesaf.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-                    Tynnwyd sylw at ddiffyg gorfod busnes yn parhau i fod yn rhwystr ar gyfer cwmnïau sydd yn awyddus i leoli yn sir. Nodwyd fod trafodaethau am y Cynllun Asedau am y deg mlynedd nesaf ar droed ac efallai bydd modd darparu gofod busnes, ychwanegwyd mai adeiladau mae busnesau yn awyddus i’w cael yn hytrach nac unedau

Awdur: Iwan Trefor Jones

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 113 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlinellu beth sydd wedi digwydd yn yr Adran Gyllid, gan nodi fod yr Aelod Cabinet ar y cyfan yn gyfforddus â’r perfformiad, ond fod camau priodol wedi’u cymryd er mwyn gwella perfformiad pan yn briodol.

 

Wrth edrych ar werth holl ddyledion amrywiol dros 6 mis oed, mynegwyd mai’r Bwrdd Iechyd oedd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o’r dyledion hynny, ac yn dilyn y cyfarfod perfformiad bu trafodaethau gyda swyddogion perthnasol o’r Bwrdd Iechyd er mwyn datrys y broblem.

 

Mynegwyd fod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, fel rhan o ychwanegu gwerth ac i ddenu incwm, wedi darparu gwasanaeth archwilio i 67 o gynghorau tref a chymuned. Ychwanegwyd fod Swyddfa Archwilio Cymru mewn adolygiad cenedlaethol diweddar, wedi arddangos ffurf adroddiad Gwynedd fel ‘arfer da’.

 

Trafodwyd y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth (TG), gan nodi fod Strategaeth TG newydd yn destun trafodaethau, a bydd hwnnw’n dod i’r Cabinet yn ystod mis Mai. Ychwanegwyd fod gwaith wedi cael ei wneud ar y cyd â’r Adran Addysg er mwyn datblygu strategaeth TG newydd i’r ysgolion hefyd. Esboniwyd fod y cyswllt yr ysgolion i’r rhyngrwyd wedi gwella a chyflymu’n sylweddol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Diolchwyd i staff yr Adran am wneud eu gwaith mor effeithiol

Awdur: Dilwyn Williams