skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 TACHWEDD pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 27ain o Dachwedd fel rhai cywir

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2017/18 pdf eicon PDF 102 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion, a derbyn yr addasiadau i Gylch Gorchwyl y Panel.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion, a derbyn yr addasiadau i Gylch Gorchwyl y Panel.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ddiweddariad ar beth sydd wedi ei gyflawni gan y Panel Strategol Diogelu yn ystod 2017/18. Ategwyd fod yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith yn gywir a theg, gan nodi ei bod yn hanfodol bod yr aelodau Cabinet yn ymwybodol o waith y Panel ac yn gallu bodoli fod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn drylwyr a chydwybodol.

 

Mynegwyd fod Perfformiad Diogelu Gwynedd yn dda iawn, ac mae hyn wedi ei bwysleisio mewn adroddiad allanol a gafwyd o’r adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ddiweddar. Ychwanegwyd fod y panel wedi ehangu ei ffocws yn ddiweddar i gynnwys materion Diogelwch ehangach megis Trais yn y Cartref a materion gwrth derfysgaeth. O ganlyniad i hyn, nodwyd, fod angen addasu’r Cylch Gorchwyl y Panel er mwyn adlewyrchu’r addasiadau. Nodwyd fod y Cylch Gorchwyl yn ogystal yn amlygu cyfrifoldeb y Panel i fonitro ac i herio perfformiad sydd yn ymwneud a’r maes Diogelu.

 

Diolchwyd i aelodau’r Panel Gweithredol Diogelu am eu gwaith o sicrhau diogelwch o ddydd i ddydd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd Caethwasiaeth Fodern gan nodi fod 3 achos wedi bod yng Ngwynedd, a gofynnwyd am enghraifft o’r math o’r achosion sydd wedi codi. Nodwyd enghraifft o weithiwr mewn lleoliad gwaith nad yw eisiau bod yno ac nad ydyw yn cael ei dalu am ei lafur. Ychwanegwyd ei fod yn faes sydd yn addasu yn aml a bod angen i’r Cyngor fod yn ymwybodol o beth sydd yn digwydd. Mynegwyd mai'r her fwyaf yw cadw ffocws ac i fod yn rhagweithiol.

-        Mynegwyd fod gwaith da yn cael ei wneud o ran diogelu plant, ac mae’r cylch gorchwyl yn galluogi staff i fod yn ymwybodol o ba arwyddion sydd angen cadw golwg amdanynt.

-        Tynnwyd sylw ar hyfforddiant Trais yn erbyn Menywod, cam-drin domestig a Thrais Rhywiol gan nodi mai dim ond 50% o’r hyfforddiant sydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2017. Ychwanegwyd fod hyn oherwydd nad oedd safon iaith Gymraeg y deunyddiau dysgu sydd yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol. Mynegwyd fod angen i’r Llywodraeth roi blaenoriaeth i’r Gymraeg yn enwedig mewn hyfforddiant mewn pynciau mor bwysig. Ategwyd fod Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda’r Llywodraeth er mwyn ceisio goresgyn y rhwystrau.

Awdur: Morwena Edwards

7.

EGWYDDORION ADDYSG ADDAS I BWRPAS pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r egwyddorion addysg canlynol fydd yn sail ar gyfer gwireddu gweledigaeth yr Adran Addysg a datblygu’r gyfundrefn er sicrhau addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gwynedd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sef:

-        Cyfundrefn o ysgolion uwchradd hyfyw

-        Dim mwy na dau ystod oedran o fewn yr un dosbarth yn y cynradd

-        Oddeutu 80% o amser digyswllt i’r Pennaeth i ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn y cynradd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo i’r egwyddorion addysg addas i bwrpas canlynol fydd yn sail ar gyfer gwireddu gweledigaeth yr Adran Addysg a datblygu’r gyfundrefn er sicrhau addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gwynedd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sef:

-        Cyfundrefn o ysgolion uwchradd hyfyw

-        Dim mwy na dau ystod oedran o fewn yr un dosbarth yn y cynradd

-        Oddeutu 80% o amser digyswllt i’r Pennaeth i ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn y cynradd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cydnabod mai arweinyddiaeth gadarn yw sail dda addysg plant. Ychwanegwyd yn dilyn adroddiad y Ffederasiwn Cynradd, sydd yn cynnwys Penaethiaid Ysgolion Cynradd, a oedd yn codi sawl mater fod yr Adran Addysg wedi ail edrych ar amodau addysg.

 

Nodwyd fod adroddiad wedi dod ger bron y Cabinet yn ystod Gorffennaf 2016, a roddwyd caniatâd i’r Adran Addysg ymgynghori a Llywodraethwyr  ysgolion a budd-ddeiliad ehangach  am addasrwydd yr egwyddorion. Mynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad fod materion wedi codi ynglŷn ag amodau Arweinyddiaeth y rhai a nodi’r isod:

·           bod nifer o’n hysgolion uwchradd a chynradd yn rhy fach i allu cynnig digon o amser i benaethiaid, uwch reolwyr a rheolwyr canol arwain yn effeithiol;

·           y gofynion sy’n gwrthdaro ar lawer o benaethiaid cynradd ble mae ganddynt hefyd ymrwymiad sylweddol i addysgu dosbarthiadau ochr yn ochr â’u swyddogaethau rheoli ac arwain;

·           anawsterau o ran recriwtio arweinwyr uwch reolaeth a rheolwyr canol mewn ysgolion uwchradd;

·           anawsterau o ran recriwtio penaethiaid ar gyfer ysgolion cynradd;

·           diffyg ymgeiswyr o’r tu allan i ardal yr awdurdod lleol.

 

O ganlyniad, datblygwyd egwyddorion sydd yn cefnogi cyfundrefn addas i bwrpas a gyflawnwyd i’r Cabinet. Mynegwyd eu bod yn anodd gwneud newidiadau eang yn syth o ganlyniad i gyllidebau, ond bydd yr egwyddorion yn sail i newidiadau’r dyfodol. 

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd pwysigrwydd ymgynghori a bod yr egwyddorion wedi deillio gan Benaethiaid. Pwysleisiwyd ei bod yn anodd yn y Cynradd ac Uwchradd i gael Penaethiaid gan fod y gofyn yn rhai ysgolion iddynt ddysgu 4.5 diwrnod, ac o ganlyniad nid oes amser i wneud y gwaith o arwain yr ysgol.

-        Mynegwyd fod sefydlu’r egwyddorion yn gam pwysig i’r dyfodol a fydd yn gwella amodau a fydd yn gwella addysg plant.

Awdur: Garem Jackson

8.

CYFARCH Y BWLCH ARIANNOL pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Cynlluniau oedd yn atodiadau 1 i 6, yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, fel rhai y bydd yn rhaid i’r Cyngor eu cyflawni os am geisio sicrhau cyllideb gytbwys yn 2019/20, gan ymgynghori ar y cynlluniau oedd yn atodiadau 3 i 6 yn ystod mis Ionawr .

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu’r Cynlluniau oedd yn atodiadau 1 i 6, yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, fel rhai y bydd yn rhaid i’r Cyngor eu cyflawni os am geisio sicrhau cyllideb gytbwys yn 2019/20, gan ymgynghori ar y cynlluniau oedd yn atodiadau 3 i 6 yn ystod mis Ionawr.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen yn flynyddol i gyllideb y Cyngor fod yn hafal. Ychwanegwyd eleni fod y Cyngor yn rhagweld bwlch ariannol sylweddol ar gyfer 2019/20.

 

Mynegwyd ers dechrau’r haf fod yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r Penaethiaid Adran wedi bod yn ystyried beth fyddai angen ei wneud er mwyn cyfarch y bwlch ariannol. Bu i bob adran nodi sut y byddent yn darganfod 20% o’u cyllideb pe byddai angen gwneud hynny. Mynegwyd fod y broses hon wedi bod yn broses anodd, ond trwyadl a’i bod wedi gorfodi pob Adran i edrych ym mhob twll a chornel am arbedion posibl. Yn ychwanegol at hyn, nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn ymgynghori a thrigolion Gwynedd i ofyn pa bethau mae’r Cyngor yn ei wneud sydd fwyaf pwysig iddynt.

 

Rhoddwyd cyd-destun ariannol gan nodi fod y Pennaeth Cyllid yn parhau i geisio sefydlu cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20 a bu pedwar gweithdy i aelodau etholedig i roi dealltwriaeth o ble maent arni erbyn hyn. Eglurwyd fod y Cyngor wedi derbyn setliad siomedig arall gan Lywodraeth Cymru ble gwelwyd grant a roddir i Lywodraeth Leol yn aros yn ei unfan. Ychwanegwyd er hyn fod pwysau aruthrol yn wynebu'r Cyngor ym meysydd Addysg a Gofal a bod cynnydd sylweddol yn chwyddiant cyflogau ac ar faterion megis ynni. O ganlyniad i hyn, eglurwyd fod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannol sydd yn debygol o fod o gwmpas £12.9m. Esboniwyd y camau posib y gellir eu cymryd i leihau’r bwlch a drwy wneud hyn, nodwyd, fod yr amcangyfrif diweddaraf yn dod a’r bwlch i lawr i tua £6.8m.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai proses fathemategol yw dod o hyd i’r bwlch ariannol sy’n weddill.  Ni ellir ond darganfod mwy o arbedion neu gynyddu’r Dreth Gyngor. Nodwyd fel rhan o’r broses o edrych ar bosibiliadau yn ystod y cyfnod ers diwedd yr haf fod yr Adrannau wedi adnabod arbedion effeithiolrwydd pellach a'u bod i’w gweld yn atodiadau 1 a 2 yr adroddiad. Mynegwyd fod yr arbedion effeithiolrwydd sydd yn cael eu cynnig yma yn arbedion ble na fydd llawer o newid i’r gwasanaeth i drigolion Gwynedd a bod canran ohonynt yn arbedion swyddfa gefn. Roedd atodiadau 3 i 6 wedyn yn amlinellu arbedion fyddai yn debygol ar gael mwy o ardrawiad ar drigolion Gwynedd ond nid i’r un graddfa a llawer o gynlluniau eraill a gafodd ystyriaeth.

 

Bydd yr arbedion yma, ychwanegodd, yn dod at £2.5miliwn a fydda’i dod a’r bwlch i lawr i oddeutu £4.3miliwn.  Ychwanegwyd os byddai modd i ddarganfod £0.5 pellach, byddai hyn yn dod a’r bwlch i lawr i £3.8miliwn, a fyddai cyfystyr a chynnydd yn y Dreth Cyngor o 5.5%.

 

Esboniwyd y bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dilwyn Williams