skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr Aelod Cabinet Cyng. Ioan Thomas.

Dymunwyd adferiad buan i wraig y Cynghorydd yn dilyn llaw driniaeth

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Elin Walker Jones oherwydd ei bod yn Lywodraethwraig yn Ysgol y Garnedd, ond nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 A'R 16 HYDREF 2018 pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 2il o Hydref a’r 16eg o Hydref 2018, fel rhai cywir

 

6.

AD-DREFNU YSGOLION BANGOR pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgol Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

Yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru bod cyfle i Awdurdodau Lleol  gyflawni prosiectau ychwanegol oddi mewn Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif, llwyddodd Gwynedd i sicrhau bid i ad-drefnu ysgolion cynradd yn nalgylch Bangor. Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet (Ionawr 2017) a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal trafodaethau lleol yn unol â’r adroddiad ynglŷn ag adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Ym Mehefin 2017, sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch Bangor i drafod y nifer o opsiynau fyddai’n gwella a chynnal safon addysg.  Cyflwynwyd yr opsiynau i’r Cabinet ym Mawrth 2018 a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y broses o adrefnu’r ysgolion cynradd. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol a derbyniwyd 68 ymateb a chyflwynwyd prif sylwadau’r ymgynghoriad hwnnw i’r Cabinet yng Ngorffennaf 2018. Penderfyniad y Cabinet yn y cyfarfod hwnnw oedd

 

Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.

 

Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

 

Yn dilyn y penderfyniad, cyhoeddwyd, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol 2013, rybudd statudol ar y 4ydd o Fedi 2018 ac fe gynhaliwyd cyfnod o wrthwynebu statudol ar y cynnig (rhwng 4/9/18 a 2/10/18).

 

Amlygwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu oedd yn ymwneud a materion trafnidiaeth, diogelwch plant, cyllid, addysg ag y Gymraeg. Ategwyd bod un ohebiaeth wedi cyrraedd yn hwyr yn y dydd a bod angen cyfarch yr ohebiaeth hynny fel rhan o’r trafodaethau.

 

Gwnaed cais i’r Cabinet gefnogi’r cynnig fyddai yn gwella adnoddau addysg yn sylweddol i blant Ysgol y Garnedd ynghyd a phlant Ysgolion Glan Adda a Coed Mawr.

 

Trafodwyd y gwrthwynebiadau.

 

Mewn ymateb i bryderon yn ymwneud a thraffig ar Ffordd Penrhos nododd  Uwch Reolwr Eiddo (Corfforaethol) bod pob ymgais wedi ei wneud i geisio lliniaru’r sefyllfa sydd yn creu trafferthion yn yr ardal yn ystod y boreau a’r prynhawniau. Nododd bod 30 lle parcio ychwanegol wedi ei gynllunio ar gyfer parcio staff ac ymwelwyr ynghyd a man gollwng fyddai yn cael ei reoli oddi ar y brif-ffordd. 

 

Amlygwyd bod cais cynllunio ar gyfer y datblygiad wedi ei gymeradwyo ym Mhwyllgor Cynllunio 5.11.18 gyda phryderon trafnidiaeth wedi eu trafod. Nodwyd bod yr Adran Trafnidiaeth yn hapus gyda’r cyfuniad newydd o addasiadau fyddai yn cyfarch y problemau.

 

Mewn ymateb i bryderon trafnidiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu amlygwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau unrhyw anghydfod i drigolion lleol. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r trigolion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Diane Jones

7.

RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO: CANOL DINAS BANGOR pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    I gefnogi’r bwriad o dargedu Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau o fewn Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor

b)    Ymrwymo, mewn egwyddor, £250k o’r Gronfa Cydariannu a sefydlwyd i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni ariannol allanol ond gofyn am adroddiad pellach ar y Cynllun terfynol er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd ag amcanion y Cyngor ac yn cynrychioli gwerth am arian.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Cefnogi’r bwriad o dargedu Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau o fewn Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor

b)    Ymrwymo, mewn egwyddor, £250k o’r Gronfa Cydariannu a sefydlwyd i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni ariannol allanol ond gofyn am adroddiad pellach ar y Cynllun terfynol er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd ag amcanion y Cyngor ac yn cynrychioli gwerth am arian.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Reolwr Economi a Chymuned a rhoddwyd crynodeb o gyd-destun a chefndir y rhaglen oedd yn rhagweld  hyd at £22m o gyllideb cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru rhwng 2018 - 2021. 

 

Adroddwyd bod data Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru sydd yn defnyddio methodoleg clwstwr wedi ei ddefnyddio ar gyfer adnabod yr ardaloedd (trefi) hynny gyda chanran uchaf o’r boblogaeth sydd o fewn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. O safbwynt blaenoriaethau’r rhaglen TRI dros y cyfnod 2018 - 2021 blaenoriaethwyd prosiectau adfywio canol tref ar gyfer 4 lleoliad - Rhyl, Bae Colwyn Wrecsam a Bangor.

 

Pwysleisiwyd mai dyraniadau ariannol tybiannol oedd wedi eu cynnig ac y byddai unrhyw ymrwymiad ariannol yn ddibynnol ar gyflwyno Cynlluniau Prosiect fyddai’n cwrdd â gofynion Rhaglen TRI. Nodwyd bod dyraniad rhanbarthol tybiannol Rhaglen TRI yng Ngwynedd yn cynnwys £3m ar gyfer Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor, ynghyd a thua £1.5m ar gyfer thema tai (adnewyddu adeiladau gwag) fyddai yn cyfrannu at flaenoriaethu’r Strategaeth Ranbarthol (a gymeradwywyd gan y Cabinet 22.5.2018).

 

Nodwyd bod Partneriaeth Strategol Dinas Bangor wedi llunio strategaeth Adfywio ar gyfer y Ddinas ac adolygwyd y rhaglen waith yn ystod yr Haf eleni gan gadarnhau blaenoriaethau fyddai yn cyfrannu at brif amcanion a chanllawiau Rhaglen TRI. Cyfeiriwyd at y cynlluniau yn yr adroddiad a mynegwyd bod angen gwaith rhagbaratoi pellach i ddatblygu cynigion manwl. Amlygwyd bod modd cyflwyno ceisiadau am yr arian ar sail prosiectau unigol yn hytrach nag fel un pecyn llawn.

 

O ran ystyriaethau ariannol, atgoffwyd yr aelodau mai cyllideb cyfalaf oedd yn cael ei ddarparu drwy’r Rhaglen TRI ac uchafswm ymyrraeth Llywodraeth Cymru fesul prosiect fyddai 70%. Golygai hyn y byddai angen sicrhau o leiaf 30% o arian cyfatebol. Er y byddai cydweithio gyda phartneriaethau yn nodwedd  amlwg ymhob un o’r prosiectau, y corff arweiniol fyddai’n gyfrifol am ddatblygu manylion y prosiect ynghyd a’r pecyn ariannu arfaethedig a’r arian cyfatebol. Amlygwyd y byddai Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am arwain ar dri o’r prosiectau gyda’r bwriad o gyfrannu / ryddhau £250k o’r Gronfa Cydariannu i gwrdd â’r bwlch ariannol. Ategwyd bod Partneriaethau megis BIPBC, Prifysgol Bangor a CCG yn dymuno arwain / cyfrannu ar brosiectau eraill.

 

Mewn ymateb i’r cyflwyniad, nodwyd nad oedd cyfyngiad gwariant yr arian yn addas a bod angen yr arian ar draws y Sir. Awgrymwyd bod hyn yn esiampl arall o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ddosbarthu ar lefel rhanbarthol ac yna yn cael ei gyfyngu gan ganllawiau tynn.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llwyddiant tebygol y gwariant, nodwyd nad oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Llyr B Jones