skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr Aelodau Cabinet - Cyng. Craig ab Iago, Cyng. W Gareth Roberts a’r Cyng. Ioan Thomas.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr Aelodau Lleol - Cyng. Gareth A Roberts, Cyng. Mair Rowlands a Cyng. Elin Walker-Jones ar gyfer eitem 7.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Aelodau etholedig ar yr Awdurdod Tan -  Cyng. Annwen Daniels, Cyng. John B Hughes a Cyng. Dilwyn Lloyd ar gyfer eitem 10.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 A'R 18 MEDI pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 11 a 18 Medi 2018, fel rhai cywir

 

6.

CYNLLUN TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: Y DDOGFEN GYNNIG pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a buddion ariannol i’w ystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno i’r Cyngor am gymeradwyaeth:

 

Fod y Cabinet yn cadarnhau’r Ddogfen Gynnig i’w chymeradwyo i’r Cyngor ei mabwysiadu fel

1.   Sail strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd

2.   Cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a’r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam Penawdau’r Telerau gyda’r Llywodraeth.

 

Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i Benawdau’r Telerau gyda’r Llywodraethau law yn llawn ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a chynrychioli ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau’r Telerau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a buddion ariannol i’w ystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno i’r Cyngor am gymeradwyaeth:

 

Fod y Cabinet yn cadarnhau’r Ddogfen Gynnig i’w chymeradwyo i’r Cyngor ei mabwysiadu fel

1.   Sail strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd

2.   Cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a’r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam Penawdau’r Telerau gyda’r Llywodraeth.

 

Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i Benawdau’r Telerau gyda’r Llywodraethau law yn llawn ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a chynrychioli ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau’r Telerau.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Ddogfen Gynnig yn ffrwyth llafur misoedd o waith rhanbarthol dros y gogledd. Ychwanegwyd fod y Cynllun yn brosiect partneriaeth sydd yn cynnwys 6 Awdurdod Lleol, 2 Brifysgol a 2 o Golegau Addysg Uwch. Ategwyd fod rôl y sector breifat yn ganolog i’r Cynllun gyda sawl sesiwn wedi ei gynnal i drafod y Cynllun gyda hwy.

 

Mynegwyd yn hanesyddol fod 15 i 20 Cynllun Economaidd ar draws y rhanbarth, ond o ganlyniad i’r Cynllun TWF dim ond un Cynllun fydd. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth a’r uchelgais y cynllun yn glir sef i ledaenu prosiectau a chynlluniau TWF ar draws rhanbarth y Gogledd. Ychwanegwyd fod y Ddogfen sail i annog adnoddau pellach i fuddsoddi er mwyn datblygu economi’r Gogledd am y blynyddoedd i ddod.

 

Nodwyd fod 16 prosiect yn sail i’r cynllun, a drwy hyn mae’n sicrhau y bydd buddsoddiad yn cael ei rannu ar draws y gogledd. Manylwyd ar y prosiectau gan nodi y bydd rhai ar gyfer safleoedd penodol a rhai ar gyfer y rhanbarth gyfan.

 

Esboniwyd fod y Ddogfen wedi bod yng nghyfarfod Craffu Addysg ac Economi a bod y craffwyr wedi ei gymeradwyo ar ôl trafodaeth adeiladol a chwestiynau heriol. Ychwanegwyd fod sesiynau wedi eu cynnal ar sector breifat, sydd wedi dangos brwdfrydedd i’r cynllun.  Mynegwyd y bydd y Ddogfen Gynnig yn mynd o flaen y Cyngor Llawn cyn diwedd y mis, ond pwysleisiwyd mai cefnogaeth i’r ddogfen y bydd angen gan y Cyngor ac ni fydd y penderfyniad cyfredol yn golygu ymrwymiad ariannol, a daw argymhelliad dilynol gerbron y Cyngor eto, gyda gwybodaeth mwy pendant am y gost. Drwy gefnogi’r Ddogfen Gynnig bydd modd sbarduno’r drafodaeth am y Cynllun gyda Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, ac y bydd un llais cryf yn trafod yr economi dros ranbarth y Gogledd. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun a bod angen denu arian a swyddi i Wynedd, ond codwyd y cwestiwn o sut y bydd modd denu adnoddau yn benodol i Dde'r sir. Ategwyd mai amcan y Cynllun yw bod prosiectau yn cael eu lledaenu ar draws y Gogledd. Ychwanegwyd fod rhai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Iwan Trefor Jones

7.

COD GWIRFODDOL ARWYDDION AR OSOD BANGOR pdf eicon PDF 80 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth o arwyddion ar osod ym Mangor a dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwyr Gwasanaeth Cynllun a Gwarchod y Cyhoedd i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer gweithredu’r Cod Gwirfoddol.

 

Bod llwyddiant y Cod Gwirfoddol yn cael ei fonitro a’i asesu cyn diwedd Mawrth 2020 a’r casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet cyn Medi 2020.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadwyd y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth o arwyddion ar osod ym Mangor a dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwyr Gwasanaeth Cynllun a Gwarchod y Cyhoedd i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer gweithredu’r Cod Gwirfoddol.

 

Bod llwyddiant y Cod Gwirfoddol yn cael ei fonitro a’i asesu cyn diwedd Mawrth 2020 a’r casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet cyn Medi 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod poblogaeth Bangor yn dyblu yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i fyfyrwyr yn symud i’r ddinas. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd, mae’r nifer o dai ar gael i’w gosod. Mynegwyd fod trigolion lleol yn teimlo fod yr arwyddion i fyny drwy gydol y flwyddyn ac o ganlyniad yn cael effaith negyddol difrifol ar ardaloedd penodol ac effaith negyddol ar ddelwedd y Ddinas a’r Brifysgol fel lle i fyw, gweithio ac astudio.

 

Mynegwyd fod ymgyrchoedd lleol wedi ei chynnal i newid hyn ac yn dilyn gwaith pellach mae’r adran bellach mewn lle i fabwysiadau Cod i Asiantaethau Tai. Ychwanegwyd nad yw rheoliadau wedi’u diweddaru ers 1992 ac felly nid ydynt wedi ymateb i’r newidiadau sydd wedi bob i’r math o lety sydd yn cael ei osod na’r drefn o hysbysebu. Esboniwyd fod gwaith ymgynghori wedi ei gynnal yn trafod y cod gyda’r asiantaethau sydd wedi nodi pryd fydd modd hysbysebu, pa strydoedd y bydd y cod yn ei effeithio a ble fydd modd hysbysebu ar dai. Ychwanegwyd na fydd cost ychwanegol i’r Cyngor o ganlyniad i’r Cod ond bydd angen monitro’r sefyllfa a bydd yr adran yn dod ag adroddiad yn nodi’r newidiadau ym mis Medi 2020.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

- Ychwanegodd yr Aelod Lleol - fod trigolion yn teimlo yn gryf am yr eitem hon. Nodwyd fod rhai strydoedd ble mae arwyddion Ar Osod i’w gweld ym mhob tŷ gan ategu ei fod yn anfon y ddelwedd anghywir o Fangor. Esboniwyd nad yw’r tai ble mae'r arwyddion i’w gweld gan amlaf yn wag, a bod yr arwyddion yn cael eu defnyddio fel hysbysebion yn unig. Mynegwyd fod tai sydd a’r arwyddion Ar osod o flaen eu tai yn ddwywaith fwy tebygol o gael rhywun yn torri i mewn i’w tŷ. Mynegwyd  ei bod yn gobeithio y bydd y cynllun yn gweithio gan fod Bangor yn hwb economaidd angen sicrhau nad yw’n edrych fel bod pob tŷ Ar Osod.

-    Nodwyd ei fod yn syniad da a bod sut mae’r adran yn ymdrin â’r broblem yn ffordd lesol. Trafodwyd sut y bydd y cynllun yn cael ei fonitro, a sut y bydd sicrhau y bydd yr hysbysebion yn rhai dwyieithog. Ychwanegwyd y bydd monitro yn digwydd gan yr adran.

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams

8.

STRATEGAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU: TRAIS YN EDRBYN MENYWOD, TRAIS YN Y CARTREF A CAMDRINIAETH RHYWIOL pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Strategaeth Gogledd Cymru ar gyfer Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn ffurfiol fel un o’r awdurdodau cyfrifol a ddynodwyd dan ddeddfwriaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu Strategaeth Gogledd Cymru ar gyfer Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn ffurfiol fel un o’r awdurdodau cyfrifol a ddynodwyd dan ddeddfwriaeth.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod y Ddeddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaethau Tan ac Achub i weithredu ar y ddeddfwriaeth hon. Nodwyd fod y Llywodraeth yn ffafrio dull rhanbarthol o ran y gofynion deddfwriaethol ac felly mae’r strategaeth ar gyfer Gogledd Cymru.

 

Nodwyd gweledigaeth y strategaeth, sef i bobl Gogledd Cymru allu byw bywydau diogel, cyfartal, di-drais, mewn cymunedau heb drais, yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ychwanegwyd fod natur y ddeddf gan Lywodraeth Cymru yn pwysleisio fod angen i gymdeithas fod yn ymwybodol o beth sydd yn dderbyniol o fewn cymdeithas.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd sut y bydd codi ymwybyddiaeth, nodwyd fod cynllun gweithredu wedi ei greu sydd yn nodi cynlluniau a hyfforddiant fydd yn cael ei gynnal a bydd y strategaeth yn cael ei roi ar y wefan.

 

Awdur: Catherine Roberts

9.

TREFNIADAU AR GYFER CYNNAL YR ADOLYGIAD RHEOLAETHOL pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y syniad fod y Cabinet yn eistedd mewn ar sesiynau herio y mae’r Prif Weithredwr yn bwriadu eu cynnal a'u bod yn cydsynio i’r syniad o wahodd Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu (gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio) i’r sesiynau hyn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y syniad fod y Cabinet yn eistedd mewn ar sesiynau herio y mae’r Prif Weithredwr yn bwriadu eu cynnal a'u bod yn cydsynio i’r syniad o wahodd Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu (gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio) i’r sesiynau hyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn y Cabinet 22 Mai eleni, trafodwyd rhagolygon ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor am y cyfnod i ddod. Comisiynwyd Adroddiad Rheolaethol er mwyn ystyried a oes angen cyfyngu mwy ar y swyddogaeth reolaethol o fewn y Cyngor.

 

Nodwyd fel rhan o lunio adroddiad bydd y Prif Weithredwr yn cynnal sesiynau herio priodol gyda Phenaethiaid Adran eu mwy herio'r trefniadau perthnasol. Ychwanegwyd er mwyn bod mor gynhwysol â phosib nodwyd fod y Prif Weithredwr yn awyddus i’r aelodau Cabinet, Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu fod yn rhan o’r sesiynau herio er mwyn cael eu barn cyn llunio ei argymhellion.

 

Awdur: Dilwyn Williams

10.

YMGYNGHORIAETH YR AWDURDOD TAN pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cabinet adnabod egwyddorion ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru, a phenderfynwyd y bydd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn llunio ymateb llawn i’r ymgynghoriad o fewn yr amserlen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet adnabod egwyddorion ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru, a phenderfynwyd y bydd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn llunio ymateb llawn i’r ymgynghoriad o fewn yr amserlen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Awdurdod Tan wedi bod yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor Llawn yn trafod eu hymgynghoriad cyhoeddus. Ychwanegwyd cyd-destun yr ymgynghoriad yw, gan fod yr Awdurdod dan bwysau ariannol, yw cynyddu’r ardoll o 6%.

Ychwanegodd yr Aelod Etholedig sydd yn cynrychioli’r Cyngor ar yr Awdurdod Tan fod yr awdurdod dan bwysau yn ariannol a bod angen dod o hyd i £1.9miliwn os bydd y gwasanaeth yn parhau ar yr un lefel. Ychwanegwyd os na fydd yr Awdurdod yn dod o hyd i’r arian ychwanegol bydd angen lleihau'r gwasanaeth sydd ar gael. Ategwyd fod yr ymgynghoriad yn ysgogi trafodaeth o beth yw gwerth y gwasanaeth, ac os yw’r cyhoedd am barhau ar yr un lefel o wasanaeth neu leihau. Nodwyd drwy godi’r ardoll o 6% gall olygu 0.5% ychwanegol ar y dreth Cyngor.

 

Esboniwyd fod y setliad sydd wedi ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi nodi gostyngiad i’r Cyngor a all olygu y y bydd angen i’r Cyngor ddod o hyd i fwlch ariannol o hyd at £13miliwn yn ystod 2019/20. Pwysleisiwyd y bydd unrhyw  doriadau yn gwneud gwahaniaeth mawr i lefel y gwasanaeth sydd ar gael i drigolion Gwynedd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod y gwaith mae’r Awdurdod tan yn waith gwych ond teimlwyd fod angen i’r Awdurdod wneud gwaith pellach yn edrych ar arbedion effeithlonrwydd.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

11.

ADRODDIAD PERFFORIMAD AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 107 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl faterion eisoes wedi bod yn destun trafodaeth ac wedi ei graffu mewn cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran. Ychwanegwyd fod yr adran wedi cychwyn gweithredu Cynllun y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at y sefyllfa ariannol gan nodi fod llithriad mewn gweithredu’r cynllun codi ffi ar gyfer gofal cyn amser cychwyn brecwast am ddim 2017/18 a rhagwelir cyflawni’r targed incwm ffi gofal yn llawn erbyn 2018/19. Ychwanegwyd fod £3,738,010 wedi ei wireddu o’r cynllun ‘Arbedion Effeithiolrwydd Ysgolion o’r £4.3m. Ategwyd fod y Cabinet eisoes wedi cytuno i ohirio gweithredu arbediad Ysgolion Uwchradd o £298,990 o’r flwyddyn gyllidol 2017/18 i 2019/20. Ychwanegwyd fod yr ysgolion yn gwbl ymwybodol o amseriad diwygiedig y toriad.

 

Nodwyd fod y Maes Cludiant yn un cymhleth, gan fod yr adran yn parhau i orwario yn y maes. Nodwyd fod amrywiol resymau pam fod plant yn cael cludiant i’r ysgolion ac ychwanegwyd eu bod yn rhesymau teilwng. Mynegwyd fod yr adran wedi comisiynu gwaith i roi sylw manwl i’r gorwariant ac mae argymhellion cychwynnol mewn lle a chamau gweithredu. Ategwyd fod gwaith ychwanegol angen ei wneud ac edrych yn drawsadrannol ar y ddarpariaeth o gludiant.

 

Trafodwyd canlyniadau'r Haf a nodwyd fod gostyngiad cenedlaethol yng nghanlyniadau’r cyfnod sylfaen. Ychwanegwyd fod Cyfnod Allweddol 2 a 3 a pherfformiad da ar y cyfan. Er hyn, nodwyd fod newidiadau sylweddol i batrwm a chanlyniadau TGAU Saesneg gyda gostyngiad o 12.1%. Mae hyn o ganlyniad i newidiadau i’r ffin marciau o 20 marc. Ychwanegwyd fod trafodaethau wedi bod gyda Chymwysterau Cymru am y mater.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd canlyniadau TGAU Saesneg - gan nodi fod holl benaethiaid Gwynedd, Awdurdodau Cymru a GwE wedi cysylltu â Chymwysterau Cymru am y mater. Ychwanegwyd fod ymatebiad wedi ei dderbyn sydd yn nodi nad oedd yr 20 marc o wahaniaeth yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl ifanc. Ychwanegwyd y bydd y mater yn mynd ymhellach at Lywodraeth Cymru, gan nodi fod y sefyllfa yn un annheg ac anffodus sydd yn ei gwneud yn anodd i ysgolion a'r adran i gymharu un flwyddyn i’r llall.

-    Tynnwyd sylw ar y ffaith nad yw cynnig presennol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn addas i bwrpas gan ategu fod yr adran yn gweithio gyda GwE er mwyn datblygu cynllun hyfforddiant. Ychwanegwyd fod llawer o’r swyddi arweiniol o fewn ysgolion yn rhai newydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

-    Tynnwyd sylw at Ysgol Tywyn a enillodd Wobr Daily Post ar gyfer Ysgol Orau yn y Gymuned a’r ganmoliaeth sydd wedi ei wneud i’r ethos o gynyddu’r defnydd o Gymraeg o fewn yr ysgol.

-        Gwaith yn parhau i annog ysgolion i chwifio'r Faner Genedlaethol tu allan i’r ysgolion.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo i ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden am swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 1af 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Morwena Edwards ac Iwan Trefor Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo i ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden am swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 1af 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl faterion wedi ei drafod yn y cyfarfodydd perfformiad. Ychwanegwyd mai’r brif elfen wrth edrych ar y maes tai yw'r bwriad o ddod a Strategaeth Tai i’r Cabinet. Ychwanegwyd fod y cynllun yn rhedeg hwyr a gobeithir y bydd yn cael ei drafod yn y misoedd nesaf. Mynegwyd fod angen cael dealltwriaeth glir o anghenion ardaloedd gan sicrhau fod y strategaeth amlinellu’r brif flaenoriaeth ar gyfer y Maes Tai. Cydnabuwyd fod angen edrych yn fanylach yn benodol ar y maes Digartrefedd.

 

Tynnwyd sylw ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth gan bwysleisio fod y Llyfrgell ar ei newydd wedd wedi agor yn Y Bala. Mynegwyd fod ymateb positif wedi bod i’r Llyfrgell newydd. Nodwyd fod Llyfrgelloedd wedi bod yn treialu peiriannau hunanwasanaeth a bod hyn yn rhyddhau amser staff. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi bod yn casglu gwybodaeth am yr ymholiadau maent yn eu cael mewn llyfrgelloedd sydd wedi dangos fod hanner y bobl sydd yn dod i’r Llyfrgelloedd ddim yn dod i fenthyg llyfr. Esboniwyd fod y llyfrgelloedd bellach yn cael ei defnyddio fel ‘siop un stop’ i bob pwrpas.

 

Nodwyd fod caran o blant sydd yn 11 oed sydd wedi cyrraedd safon nofio’r Cwricwlwm yn codi yn flynyddol a bod gwaith arbennig wedi ei gyflawni yn nalgylch Canolfan Bro Dysynni. Ychwanegwyd fod gofyn i’r Cabinet gymeradwyo ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden oherwydd na fyddant yn cael eu cyflawni yn 2018-19 gan nad yw’r Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 2019.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Tynnwyd sylw at y dangosydd nifer o ddyddiau calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i roi grant cyfleusterau anabl a nodwyd yn 170 o ddyddiau. Ychwanegwyd fod y nifer o ddyddiau yn rhai hir ac ychwanegwyd fod angen edrych yn fanylach ar y nifer o ddyddiau gan ychwanegu fod yr adran yn awyddus i ddod o hyd i'r ffordd symla o weithio.

-    Trafodwyd niferoedd sydd yn ymweld â’r Llyfrgell gan nodi fod angen adolygu’r ffigwr. Ychwanegwyd fod angen cyd-weithredid a chymunedau lleol i weld parhad i ddarpariaeth y Llyfrgelloedd.

 

 

Awdur: Iwan Trefor Jones a Morwena Edwards

13.

CYLLIDEB REFENIW 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

-    Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2018 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

-    Gofyn i’r Aelodau Cabinet ar gyfer gwasanaethau Plant, Addysg a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol sicrhau fod yna gynllun gweithredu clir gan yr adrannau i gymryd camau i leihau’r diffyg ariannol ac i drafod y cynlluniau hynny gyda mi er mwyn cael hyder eu bod yn rhesymol.

-    Digolledu’r Adran Economi a Chymuned £40k sef y golled incwm yn dilyn cau pwll nofio Arfon dros yr haf.

-    Cynaeafu (£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol, gyda (£40k) i’w defnyddio i ddigolledu’r Adran Economi a Chymuned am y golled incwm tra bu Pwll Nofio Arfon ar gau. Gyda’r gweddill sef (£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un tro ar gyllidebau’r Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

. Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2018 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

-    Gofyn i’r Aelodau Cabinet ar gyfer gwasanaethau Plant, Addysg a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol sicrhau fod yna gynllun gweithredu clir gan yr adrannau i gymryd camau i leihau’r diffyg ariannol ac i drafod y cynlluniau hynny gyda mi er mwyn cael hyder eu bod yn rhesymol.

-    Digolledu’r Adran Economi a Chymuned £40k sef y golled incwm yn dilyn cau pwll nofio Arfon dros yr haf.

-    Cynaeafu (£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol, gyda (£40k) i’w defnyddio i ddigolledu’r Adran Economi a Chymuned am y golled incwm tra bu Pwll Nofio Arfon ar gau. Gyda’r gweddill sef (£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un tro ar gyllidebau’r Cyngor.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw'r Cyngor ynghyd a rhagolygon ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol. Ychwanegwyd ers 2015 fod y Cyngor wedi cael cyfnod heriol gydag arbedion o £27miliwn yn ystod y cyfnod.

 

Ategwyd fod y cyllidebau diwedd Awst yn dangos darlun cymysg gyda rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau. Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi erbyn diwedd Mawrth y bydd 5 adran yn gorwario a 5 adran yn tanwario. O ganlyniad i orwariant, nodwyd y bydd angen i rai adrannau gynnig camau gweithredu pendant er mwyn sicrhau rheolaeth o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2019, sef Adran Addysg, Plant a Chefnogi Teuluoedd, a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod yr aelod Cabinet dros yr adran Addysg wedi nodi ei sylwadau am y tan wariant yn yr adroddiad perfformiad.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd fod cyllideb yr adran yn un hynod heriol. Ychwanegwyd nad yw’r gyllideb ddim yn ymarferol yn benodol wrth edrych ar achosion dwys a chymhleth,. Ymhelaethwyd gan nodi fod gorwariant yn yr adran Blant yn broblem Genedlaethol a Rhanbarthol. Mynegwyd fod yr adran yn ceisio dod o hyd i ateb ac y bydd adroddiad mawl yn cael ei baratoi i wynebu'r heriau er mwyn symud ymlaen.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol fod cynnydd wedi bod mewn costau gweithredol a bod gorwariant cysylltiedig â salwch yn parhau i beri problemau. Ychwanegwyd fod yr adran wedi cymryd camau i geisio datrysiad ond fod gwaith pellach i’w wneud. Ychwanegwyd fod colled incwm wedi bod ar yr ochor gwastraff masnachol o ganlyniad i gystadleuaeth allanol a busnesau yn cau. Nododd ei fod yn gobeithio fod modd gweithredu o fewn y gyllideb bresennol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

 

 

Awdur: Dafydd L Edwards

14.

RHAGLEN GYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 164 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        £8,444,000 mewn amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau o 2017/18

-        £10,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

-        £10,988,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £789,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £187,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        £4,859,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        £8,444,000 mewn amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau o 2017/18

-        £10,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

-        £10,988,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £789,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £187,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        £4,859,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf am 3 blynedd 2018/19 - 2020/21 sydd yn £47.022m. Ychwanegwyd fod cynnydd net oddeutu £25.277m ers y gyllideb agoriadol ac ategwyd fod £8.444m ohono o ganlyniad i lithriadau o 2017/18. Mynegwyd mai grantiau a dderbyniwyd yn hwyr yn ystod y flwyddyn i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol yw’r prif reswm dros y llithriadau.

 

Nodwyd fod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £28.6m yn 2018/19 gyda 34% ohono wedi’i ariannu drwy ddenu grantiau penodol. Diolchwyd i staff yr adrannau am eu gwaith caled.

 

 

Awdur: Dafydd L Edwards

15.

TROSOLWG ARBEDION 2018/19 - ADRODDIAD CYNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod 95%, sef £23m o’r £24m ar gyfer 2015/16 - 2017/18 bellach wedi ei gwireddu. Ychwanegwyd fod ychydig o lithriad ar rai o’r cynlluniau gyda nifer ohonynt o’r adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ble mae her o wireddu rhai cynlluniau yn parhau. Nodwyd yn ogystal fod rhai llithriadau gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol,  bu i’r Cabinet ar 11 Medi 2018 gymeradwyo rhai cynlluniau amgen a gohirio gweithredu ar y cynllun Canolfannau Amgylchu,

 

Mynegwyd wrth edrych ar gynlluniau adrannol am 2018/19, nodwyd o’r 26 o gynlluniau fod 11 eisoes wedi eu gwireddu yn llawn neu’n rhannol, ac yn galonogol dim ond dau gynllun a ragwelir yn llithro. Ategwyd ar y cynlluniau a fydd yn llithro cynllun Dechrau i’r Diwedd a Chynllun Hamdden. Ychwanegwyd o ran weddill y cynlluniau fod y rhagolygon o wireddu yn gyffredinol addawol.

 

Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn dod o hyd i arbedion, gan ychwanegu fod yr adrannau wedi perchnogi’r cynlluniau arbedion. Trafodwyd y sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol eraill gan nodi fod gan Wynedd le i ymfalchïo yn eu hymdrech i ddod o hyd i arbedion.

 

Awdur: Dafydd L Edwards

16.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Seicyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd y flaen raglen.