Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. W Gareth Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 31 GORFFENNAF PDF 81 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 31 Gorffennaf 2018,
fel rhai cywir |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD PDF 143 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. b)
Gofyn
i’r Prif Weithredwr ymchwilio i’r sefyllfa gyda’r amser a gymerir i gael DBS i weld a yw’n broblemus i wasanaethau eraill
y Cyngor ac os yw, a ellir gwneud rhywbeth am y broblem. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD a)
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. b)
Gofyn
i’r Prif Weithredwr ymchwilio i’r sefyllfa gyda’r amser a gymerir i gael DBS i weld a yw’n broblemus i wasanaethau
eraill y Cyngor ac os yw, a ellir gwneud rhywbeth am y broblem. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn adlewyrchu trafodaethau a gynhaliwyd yng Nghyfarfod Herio
Perfformiad yr Adran. Ychwanegwyd fod peth o’r wybodaeth bellach wedi dyddio
gan fod y cyfarfod wedi ei gynnal ym mis Gorffennaf. Nodwyd fod cyfartaledd penderfyniadau
ceisiadau cynllunio wedi bod yn weddol sefydlog tan eleni. Esboniwyd fod yr
Aelod Cabinet wedi holi beth yw’r rheswm dros hyn a nodwyd eu bod wedi cymryd
amser i arfer a’r Cynllun Datblygu Lleol. Ychwanegwyd fod y Cynllun Dirprwyo
Cynllunio bellach wedi ei diwygio ac mae gobaith y bydd hyn yn lleihau llwyth
gwaith y Pwyllgor a fydd yn cyflymu’r broses penderfyniadau cynllunio. Trafodwyd mesurydd sydd yn nodi pa mor sydyn
mae’r holl achosion gorfodaeth ar gyfartaledd yn cymryd i’w datrys gan nodi nad
oedd y gwasanaeth na’r Aelod Cabinet yn hyderus mai hwn yw’r mesurydd cywir. Yr
ymdeilad yw fod mesur os yw’r gwaith achosion gorfodaeth yn cael ei wneud yn
gywir yn fwy pwysig i bobl Gwynedd na’r amser mae’n cymryd i’w ddatrys, gan fod
hynny yn gallu amrywio o achos i achos. Nodwyd wrth edrych ar fesurydd adran
Hylendid Bwyd fod y ffigyrau yn isel o ran sefydliadau sydd wedi cael eu
hadolygu. Esboniwyd mai o ganlyniad i ddiffyg adnodd staff oedd y rheswm am
hyn. Ychwanegwyd fod dwy swydd ychwanegol bellach wedi eu creu a bydd canlyniadau
hyn i’w gweld yn yr adroddiad Perfformiad nesaf. Mynegwyd fod yr Uned Difa Pla
bellach wedi cynyddu eu hincwm a bellach yn ariannol hunangynhaliol.
Ychwanegwyd fod canran bodlonrwydd y cwsmeriaid yn 100%. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Nodwyd fod nifer y tai sydd wedi eu
cymeradwyo gan yr adran gynllunio yn isel iawn am y chwarter. Ychwanegwyd fod
45% o’r tai a gymeradwywyd yn dai fforddiadwy. - Trafodwyd y mesurydd Achosion Gorfodaeth gan
holi os yw’r mesurydd yn cyd-fynd a mesurydd y Llywodraeth. Nodwyd ei fod ac
nad yw’r mesurydd yn ychwanegu gwerth i
drigolion Gwynedd. - Trafodwyd y dyddiau a gymerir i benderfynu
cais Trwydded Tacsi gan nodi mai un o’r ffactorau sydd yn effeithio yn
sylweddol ar amser yw’r amser mae hi yn cymryd i’r Gwasanaeth DBC cenedlaethol
gymryd i brosesu tystysgrif DBS. Ychwanegwyd fod hyn yn broblem yn yr adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yr adran
Addysg. Penderfynwyd fod angen gofyn i’r Prif Weithredwr i ymchwilio er mwyn gweld
os y gellir gwneud rhywbeth i wella’r sefyllfa. Awdur: Dilwyn Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Derbyn gohirio gweithrediad y cynllun
arbedion Canolfannau Ailgylchu (PB5) yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol gan
ymdrin â’r bwlch sy’n cael ei greu wrth ystyried arbedion 2019/20 ymlaen, a
hefyd yn cymeradwyo gweddill y cynigion a nodir yn rhan 6.3 yr adroddiad i
gyfarch y bylchau mewn cynlluniau arbedion eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Derbyn
gohirio gweithrediad y cynllun arbedion Canolfannau Ailgylchu (PB5) yr Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol gan ymdrin â’r bwlch sy’n cael ei greu wrth ystyried
arbedion 2019/20 ymlaen, a hefyd yn cymeradwyo gweddill y cynigion a nodir yn
rhan 6.3 yr adroddiad i gyfarch y bylchau mewn cynlluniau arbedion eraill. TRAFODAETH Diolchwyd a dymunwyd yn dda i Gyn-bennaeth yr Adran -
Gwyn Morris Jones - ar ei ymddeoliad ddiwedd Awst. Croesawyd Steffan Jones i’w
rôl fel Pennaeth yr Adran dros dro. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi yn wyneb y ffaith fod yna ddewisiadau eraill gyda llai o
ardrawiad ar bobl Gwynedd ar gael, fod
yr adran yn awyddus i ohirio gweithrediad y cynllun arbedion Canolfannau
Ailgylchu gan ymdrin â’r bwlch sydd yn cael ei greu wrth ystyried arbedion
2019/20 ymlaen. Mynegwyd fod mesur o Lendid ac Edrychiad Strydoedd eleni yn
dangos gwelliant ar berfformiad diwedd blwyddyn 2017/19. Nodwyd fod
Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu fod yr Aelod Cabinet yn fodlon a’r
perfformiad ar gyfer y Gwasanaeth. Ychwanegwyd fod 1.21 miliwn o gasgliadau
gwastraff wedi ei wneud yn y cyfnod Ebrill i Fehefin a bod 3,067 o gwynion wedi
eu derbyn. Cydnabuwyd fod y ffigwr yn isel o’u gymharu â nifer y casgliadau.
Nodwyd fod yr Aelod Cabinet wedi gofyn i’r adran gyflwyno gwybodaeth i adnabod
y rhesymau dros unrhyw fethiant i roi sylw i’r agweddau y bydd modd dylanwadu
arnynt. Trafodwyd y
Cynllun Peilot ar Orfodaeth Stryd a gomisiynwyd cwmni allanol i gynnal treial
gorfodaeth stryd am flwyddyn. Nodwyd fod y treial wedi para ychydig ddyddiau ym
mis Chwefror. Mynegwyd fod yr adran yn edrych i ddechrau peilot arall gan
ddefnyddio adnoddau mewn i dargedu ardaloedd ble mae problemau parhaus.
Ychwanegwyd y bydd yr adran yn diweddaru'r Cabinet ar y mater unwaith y bydd y
cynllun peilot ar waith. Mynegwyd mai un o brif fesurau Ymgynghoriaeth Gwynedd yw adnabod elw yn
erbyn target. Nodwyd fod y lefel incwm yn îsl ar gyfer y chwater ond, o edrych
ar batrymau hanesyddol, fod y ffigwr hwn yn
is am y chwarter cyntaf. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Trafodwyd y Peilot Gorfodaeth Stryd gan holi
os oes trafodaethau yn cael eu cynnal a siroedd eraill. Nodwyd fod trafodaethau
cychwynnol wedi bod a siroedd y Gogledd a byddant yn edrych am opsiynau posibl.
- Mynegwyd fod y mesur o Lendid ac Edrychiad
Strydoedd yn drefn genedlaethol a bod yr adran a Chadw Cymru yn Daclus yn rhoi
sgôr am y lefel Glendid. - Holwyd os oes cynnydd wedi bod mewn Graffiti
Hiliol, nodwyd nad oedd cynnydd a'i fod yn parhau, fwy neu lai, ar yr un lefel.
- Nodwyd am eleni fod nifer ymwelwyr i’r sir wedi bod yn sylweddol uwch, ac felly diolchwyd i’r staff am gadw strydoedd yn lan gan nodi ei fod wedi bod yn dasg anodd. Nodwyd fod angen edrych ar y strwythur gan fod llawer mwy o bwysau ar y gwasanaeth yn ystod misoedd yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dilwyn Williams |