skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Gareth Griffith a’r Cyng. Craig ab Iago.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr Arweinydd ei fod wedi cytuno i drafod dwy eitem frys er gwybodaeth brys.

 

1.         Llongyfarchwyd Geraint Thomas ar ei fuddugoliaeth yn ras y Tour de France, Pennaeth y tîm Syr David Brailsford, yn enedigol o Wynedd. Diolchwyd I’r ddau am eu hymroddiad i’w gwlad ac ymfalchïwyd yn eu llwyddiant.

 

2.         Adroddodd y Cynghorydd Peredur Jenkins fod y Cyngor wedi cael trafferthion gyda’i systemau cyfrifiadurol yn ystod yr wythnos diwethaf, ond llwyddwyd i adfer y systemau mewn trefn blaenoriaeth. Mynegwyd fod y cynllun adfer trychineb a’r dechnoleg berthnasol wedi bod yn allweddol wrth gael y prif systemau yn ôl. Ychwanegwyd fod Gwasanaeth TG y Cyngor yn parhau’n ddygn gyda’r gwaith o adfer rhai systemau, ac y bydd yn parhau i weithio i wella gwydnwch y systemau i’r dyfodol. Ymhellach, bydd y Pennaeth Cyllid yn comisiynu barn arbenigol annibynnol ar bensaernïaeth y dechnoleg er mwyn gweld a oes yna ffyrdd o osgoi sefyllfa debyg i’r dyfodol.

 

 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 03 GORFFENNAF pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 3 Gorffennaf 2018, fel rhai cywir

 

6.

ADOLYGU LEFEL ADNODDAU GWASNAETH GWARCHOD Y CYHOEDD pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1. Derbyn yr adroddiad

 

2.  Cymeradwyo  cyfeirio £70,000 o incwm presennol yr adran i gynyddu adnodd staffio er cyfarch gofynion gorfodaeth cyfraith bwyd yn unol a’r adroddiad. Gan ganiatáu’r Adran Amgylchedd i:

 

¾    Wireddu un o’r cynlluniau arbedion arfaethedig (yn ymwneud ag incwm yn sgil trefniadau cau ffyrdd) yn gynnar 9h.y. gweithredu yn ystod 2018/19 yn hytrach nac erbyn 2019/20.

¾    Cynhaeafu £70,000 o incwm ychwanegol o’r cynllun arbediad hwnnw yn adrannol, ar gyfer gweithredu trosglwyddiad cyllideb barhaol er mwyn ariannu 2 swydd yn y gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNWYD

 

1. Derbyn yr adroddiad

 

2.  Cymeradwyo  cyfeirio £70,000 o incwm presennol yr adran i gynyddu adnodd staffio er cyfarch gofynion gorfodaeth cyfraith bwyd yn unol â’r adroddiad. Gan ganiatáu’r Adran Amgylchedd i:

 

-        Wireddu un o’r cynlluniau arbedion arfaethedig (yn ymwneud ag incwm yn sgil trefniadau cau ffyrdd) yn gynnar 9 y.h. gweithredu yn ystod 2018/19 yn hytrach nac erbyn 2019/20.

-        Cynhaeafu £70,000 o incwm ychwanegol o’r cynllun arbediad hwnnw yn adrannol, ar gyfer gweithredu trosglwyddiad cyllideb barhaol er mwyn ariannu 2 swydd yn y gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gofyn i symud £70,000 o incwm presennol er mwyn gallu cyfarch gofynion gorfodaeth cyfraith bwyd yn dilyn adolygiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Nodwyd fod yr Uned Lles, Iechyd a Diogelwch y gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn daprau'r gwasanaeth gorfodi cyfraith bwyd. Mynegwyd fod yr uned yn gyfrifol am orfodi gofynion diogelwch bwyd mewn dros 2000 o fusnesau bwyd yng Ngwynedd.

 

Yn dilyn ymarfer Her Gwynedd, nodwyd fod yr Adran Amgylchedd wedi derbyn toriad ariannol, ychwanegwyd fod ymgais wedi ei wneud gan yr Uned i weithio mewn ffyrdd gwahanol, ond bellach fod y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd dan straen er mwyn cyrraedd holl ofynion  gan gynnwys dyletswyddau archwilio bwyd newydd bellach mewn grym. Ychwanegwyd fod Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datgan barn  fod angen i’r Cyngor roi mwy o adnoddau tuag at archwilio hylendid bwyd a safonau bwyd. Pwysleisiwyd nad gofyn am arian mae’r Adran, ond yn gofyn am ddargyfeirio arian o fewn yr adran er mwyn cyflawni’r angen.

Tynnwyd sylw at farn y Swyddog Cyllid a oedd yn nodi fod y £70,000 yn cael ei gynhaeafu o ganlyniad i incwm ychwanegol sydd eisoes yn dod i law drwy newid sut yr ydym yn codi  ‘incwm am drefniadau cau ffyrdd’.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr adran wedi profi pwysau o arbed arian.

-        Nodwyd fod angen yr adnodd gwrdd â’r anghenion.

-        Cafwyd trafodaeth am y ddau fath o ffrwd gwaith sydd o fewn yr uned.

 

Awdur: Gareth Jones

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH pdf eicon PDF 419 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffrys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo yr adroddiad blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo'r adroddiad blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn llu o ystadegau defnyddiol am y Cyngor. Diolchwyd i staff gan ychwanegu ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd ond fod y staff wedi gwneud popeth er mwyn sicrhau'r safon uchaf o wasanaeth i drigolion Gwynedd. Tynnwyd sylw at broffil oedran y staff gan nodi fod 64% o’r staff dros 40 mlwydd oed, ategwyd fod mwyafrif o’r Grŵp Rheoli Corfforaethol dros 50 mlwydd oed.

 

Nodwyd fod nifer dyddiau salwch staff y Cyngor wedi gostwng i 8.72 diwrnod y flwyddyn. Ychwanegwyd fod y Cyngor ymysg yr awdurdodau lleol isaf o ran dyddiau salwch ar draws Cymru. Esboniwyd fod y Cyngor bellach gam ymhellach o fod yn nes at dalu Cyflog Byw ar gyfer y rhai sydd ar Bwynt 8, sef lleiafswm cyflog y Cyngor. Erbyn Ebrill 2019, nodwyd y bydd yr isafswm cyflog o fewn y Cyngor yn uwch na’r Cyflog Byw.

 

Mynegwyd, fel y gwelir yn gyffredin o fewn cymdeithas, fod y bwlch cyflog rhwng merched a dynion yn bodoli o fewn y Cyngor yn ogystal. Ychwanegwyd fod Cynllun Busnes y Cyngor am y pum mlynedd nesaf yn ymchwilio i sut mae modd lleihau’r bwlch a hybu’r nifer o ferched sy’n cyrraedd y swyddi uchel o fewn y sefydliad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Ychwanegwyd bellach fod Arbenigwyr Addysg, a oedd yn gweithio ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn bellach yn aelodau staff Cyngor Gwynedd a bod Cyngor Môn yn prynu eu gwasanaeth gan y Cyngor.

-        Nodwyd fod llawer o ffeithiau defnyddiol o fewn yr adroddiad a fydd yn sylfaen ar gyfer gwelliannau'r Cyngor.

-        Holwyd wrth edrych ar broffil oedran y Cyngor os oes modd gwneud proffil oedran ar gyfer y sir yn ogystal fod modd cymharu’r ystadegau.

-        Mynegwyd fod nifer y swyddi wedi cynyddu a bod nifer uchel yn ymgeisio am swyddi, ond holwyd pam fod nifer o swyddi yn cael ei ail-hysbysebu. Nodwyd fod nifer uchel o’r swyddi sydd yn cael ei ail-hysbysebu yn rhai yn y maes gofal neu yn swyddi dros dro. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud yn benodol ar ddatblygu gweithlu.

-        Trafodwyd Datblygu’r Arweinyddiaeth, gan holi sut mae’r Coleg Rheolwyr am ddatblygu arweinyddiaeth. Nodwyd gan y Cyngor ffocws ar arwain pobl yn hytrach ‘na rheoli pobl a bod y Coleg Rheolwyr yn rhoi cefnogaeth i reolwyr ennill sgiliau arweinyddiaeth.

 

Awdur: Geraint Owen

8.

RHYDDHAD DEWISIOL RHAG TRETH CYNGOR I BOBL IFANC YN GADAEL GOFAL pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Peredur Jenkins a Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â hawliau’r Cyngor dan Adran 13A(1)(c) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, caniatáu eithriad llawn rhag talu Treth Cyngor i bobl ifanc yn gadael gofal tan y maent yn 25 mlwydd oed, ar ôl ystyried unrhyw ddisgowntiau, eithriadau a/neu ostyngiad Treth Cyngor y maent eisoes yn deilwng iddynt.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan a Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Yn unol â hawliau’r Cyngor dan Adran 12A(1)(c) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, caniatáu eithriad llawn rhag talu Treth Cyngor i bobl ifanc yn gadael gofal tan y maent yn 25 mlwydd oed, ar ôl ystyried unrhyw ddisgowntiau, eithriadau a/neu ostyngiad Treth Cyngor y maent eisoes yn deilwng iddynt.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod ei bod yn bleser cyflwyno'r adroddiad hwn, nid yn unig fel aelod Cabinet ond fel cadeirydd Panel Rhiant Corfforaethol. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cydweithrediad rhwng adrannau. Ychwanegwyd mai cais gan Banel Rhiant Corfforaethol oedd yr adroddiad hwn  a drwy gynnig y rhyddhad yma i’r bobl ifanc sydd yn gadael gofal mae’n gyfle i’w cynorthwyo a'u haddysgu am faterion ariannol ehangach.

 

Ychwanegwyd fod yr Adran Gyllid yn gefnogol iawn i’r adroddiad, gan ychwanegu yr amcangyfrifir na fydd caniatáu’r rhyddhad hwn yn costio mwy na £20,000 y flwyddyn i’r Cyngor. Esboniwyd fod hyblygrwydd ar gyfer ariannu cost y cynllun yn y gyllideb gorfforaethol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Ychwanegwyd nad oes sôn gan y Llywodraeth ar hyn o bryd am ariannu’r cynllun, ond fod y 22 sir yng Nghymru yn awyddus i gysoni hyn ac i roi pwysau ar y Llywodraeth i ysgwyddo’r baich yma.

-        Mynegwyd fod angen cefnogi'r bobl ifanc sydd yn gadael gofal a bod cefnogaeth lawn i’r cynllun yma.

 

Awdur: Dafydd L Edwards

9.

CAU ALLAN Y WASG AR GYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym maragraff 12 o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i aelodau gymryd trosolwg o gais am ymddeoliad cynnar aelod o uwch reolaeth y Cyngor. Er bod budd cyhoeddus mewn cael dealltwriaeth o drefniadau o’r fath er ystyried hyn mewn modd priodol mae angen hefyd derbyn gwybodaeth am gyflogeion unigol. Gall cyhoeddi gwybodaeth o’r fath yn tanseilio hyder aelodau staff i ddod a cheisiadau ymlaen i’w hystyried a thramgwyddo hawliau unigol, yn groes i’r budd cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12  Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â gwybodaeth ynglyn a’g unigolyn penodol . Mae’r adroddiad yn son am faterion yn ymwneud a chyflogaeth aelod o staff, yn arbennig felly cais ymddeol yn gynnar na fydd yn cael ei benderfynu hyd derbyn sylwadau’r Cabinet. Oherwydd ystyrir fod y budd cyhoeddus o beidio datgelu’r wybodaeth yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. 

 

10.

UWCH REOLAETH Y CYNGOR

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn bwriad y Prif Weithredwr a’r sgil effeithiau a nodwyd yn yr adroddiad..

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn bwriad y Prif Weithredwr a’r sgil effeithiau a nodwyd yn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd  adroddiad  oedd yn  nodi yn unol â threfniadau’r Cyngor fod yna  hawl gan y Prif Weithredwr, yn ddarostyngedig i ofynion i ymgynghori a swyddogion ac achos busnes i benderfynu ar geisiadau ymddeoliad cynnar. Ychwanegwyd oherwydd bod y mater yn ymwneud ag Uwch Swyddog ymgynghorwyd a’r Cabinet hefyd ynglŷn â’r cais cyn dod i benderfyniad.

 

Nodwyd ym mis Mai eleni, penderfynodd y Cabinet y dylid cynnal arolwg o drefniadau rheolaethol y Cyngor ac mae’r trefniadau ar gyfer cyflawni hynny ar droed. Yn y cyfamser, mae’r Prif Weithredwr wedi derbyn cais gan un o’r Penaethiaid yn gofyn am ganiatâd i ymddeol yn gynnar (heb ostyngiad yn ei bensiwn) er mwyn hwyluso gallu’r cyngor i gyflawni arbedion. Er bod cost o gytuno i’r cais, byddwn  yn adennill y gost o mewn 12 - 16 mis fan bellaf a byddai’r arbedion ar gael  i  gyfrannu tuag ar fwlch ariannol y Cyngor o ganol y flwyddyn ariannol nesaf ymlaen.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth am ei wasanaeth Cyngor gan nodi y bydd y Cyngor yn colli ei holl brofiad yn y maes.

 

Awdur: Dilwyn Williams