Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Peredur Jenkins. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Aelod Lleol
ar gyfer yr Eitem 6 – Cyng. Richard Medwyn Hughes – ddatgan buddiant gan ei fod
yn un o Lywodraethwyr Ysgol Coed Mawr ac Ysgol Glanadda wedi ei benodi gan y
Cyngor. Nid oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu. Bu i’r Cynghorydd
Dafydd Meurig ddatgan buddiant oherwydd cysylltiad a darpariaeth meithrin
ar safle Ysgol y Faenol. Nid oedd yn
fuddiant oedd yn rhagfarnu |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 MEHEFIN PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 12 Mehefin 2018,
fel rhai cywir |
|
AD-DREFNU DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD YM MANGOR PDF 190 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: -
Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a
Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y
Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y
Garnedd i 420. -
Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig
uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Roberts PENDERFYNWYD -
Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a
Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y
Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y
Garnedd i 420. -
Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig
uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran wedi sicrhau buddsoddiad o £12.7miliwn ar gyfer
moderneiddio darpariaeth addysg ym Mangor. Nodwyd fod yn gyfle i wella'r
ddarpariaeth sydd ar gael. Ychwanegwyd yn ystod y Cabinet ym mis Mawrth y
penderfynwyd fod modd cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau ysgolion
Glanadda a Choedmawr a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd. Nodwyd fod yr
ymatebion wedi codi pryder ynglŷn â materion traffig. Nodwyd y byddai
cynllun penodol yn edrych ar hyn ac y bydd trafodaeth bellach ar y mater.
Mynegwyd pryderon am faterion Ieithyddol ac am barhad ethos y Gymraeg yn Ysgol
y Garnedd, ond ychwanegwyd fod ymateb gan Estyn yn nodi fod gan Ysgol y Garnedd
brofiad llwyddiannus o hybu a defnyddio’r Gymraeg o fewn ysgol. Mynegwyd fod y
pennaeth dros dro sydd yn Ysgol Glanadda a Choedmawr o fis Medi ymlaen yn mynd
i roi 50% o’i hamser i ddysgu ac o ganlyniad mae angen cysoni’r ddarpariaeth
sydd i’w gael ar hyn o bryd. Nododd yr Aelod
Lleol ei fod yn anghytuno gyda’r syniad o fynd am opsiwn 3 yn hytrach ‘nag
opsiwn 10. Nododd y bydd y ddwy ysgol ar un safle ym mis Medi, a'u bod mewn
adeilad o ansawdd da iawn. Ychwanegodd fod Glanadda wedi gwneud cynnydd
sylweddol yn y defnydd o’r Gymraeg a bod y ddwy ysgol wedi symud i fandiau lliw
uwch yn ddiweddar. Atebwyd y sylwadau
gan nodi fod yr adran yn ceisio lleihau llefydd gweigion mewn ysgolion a
sicrhau fod Penaethiaid yn rhydd am hyd at 80% o’i hamser. Ychwanegwyd fod
nifer uchel o blant ardal Coedmawr yn mynd i ysgolion eraill yn y dalgylch yn
hytrach nag Ysgol Coedmawr a Glanadda. Nododd Aelod Lleol nad yw trigolion Rhodfa Penrhos yn hapus
gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio eu ffordd er mwyn adeiladu yr ysgol newydd.
Nodwyd fod y lon yn un brysur gyda cerddwyr ac nad oedd yn un sydd yn gallu
cael Fan Ailgylchu yno, heb son am loris yn cario deunyddiau adeiladu. Nodwyd
fod hyn yn fater cynllunio a nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar y ffordd
fydd yn cael ei defnyddio er mwyn cyrraedd safle’r ysgol newydd. Bydd y
sylwadau yma yn cael ei hystyried pan yn edrych ar y materion cynllunio. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Nodwyd fod niferoedd yr ymgynghoriad yn isel, a holwyd ble odd Ysgol Faenol yn y darlun llawn. Nodwyd fod Ysgol Faenol yn rhan annatod o’r cynllun i foderneiddio addysg ym Mangor, ond fod hi yn drefn wahanol oherwydd ei bod yn Ysgol sydd yn gysylltiedig â’r Eglwys yng ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Diane Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2017/18 PDF 68 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2017/18
ac i roi argymhelliad i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2017/18 ac i roi
argymhelliad i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi
adroddiad blynyddol yn mesur perfformiad y Cyngor. Ychwanegwyd fod eleni yn
edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi cyflawni gan Gynllun Strategol y Cyngor ers
2013, cyfnod ble gwelwyd gostyngiad ariannol o £26miliwn. Mynegwyd fod y Cyngor
yn ymfalchïo fod gwasanaethau wedi eu cynnal o dan gymaint o her ariannol. Mynegwyd fod yr adroddiad nid yn unig yn adrodd ar lwyddiannau’r Cyngor
ond yn amlygu’r meysydd ble nad yw’r Cyngor yn perfformio cystal. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
wrth edrych ar yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fod y pwyslais ar waith
integredig. Er bod llawer o waith wedi
ei wneud, mynegwyd fod llawer mwy i’w wneud yn y dyfodol. -
Mynegwyd
fod yr Adran Addysg yn gyffredinol yn hapus â’i pherfformiad yn ystod y flwydd
er yn siomedig â chanlyniadau'r Cyfnod Sylfaen; er hyn, mae’r adran yn edrych
ar sut i symud ymlaen. Ychwanegwyd fod £56miliwn wedi ei wario ar adeiladau
newydd i ysgolion Gwynedd ac mae hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i addysg. -
Diolchwyd
i staff am eu gwaith caled a nodi fod yr adroddiad yn cyfarch Amcanion y Ddeddf
Llesiant. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD A TREFN LLYWODRAETHU PDF 123 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
i: a) Nodi a chroesawu cynnydd datblygiad
cais y Cynllun Twf ar gyfer y rhanbarth b) Bod y Cytundeb Llywodraethu, cam cyntaf
a sefydlu Cydbwyllgor ar gyfer y Cynllun Twf yn derbyn cymeradwyaeth yn
ddarostyngedig i gadarnhad y Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf,
2018) o’r trefniadau ar gyfer Craffu. c) Bod drafft terfynol o Gais y Cynllun
Twf yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Hydref 2018 i’w gymeradwyo cyn bod
Penawdau’r Telerau yn cael eu cytuno gyda Llywodraeth Prydain a Llywodraeth
Cymru. d) Bod hawl yn cael ei ddirprwyo i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol mewn
ymgynghoriad a’r Arweinydd i wneud man newidiadau i’r Cytundeb Llywodraethu cam
cyntaf drafft yn ôl yr angen er cwblhau’r cytundeb. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Penderfynwyd i: a)
Nodi a chroesawu cynnydd datblygiad cais y Cynllun Twf ar gyfer y
rhanbarth b)
Bod y Cytundeb Llywodraethu, cam cyntaf
a sefydlu Cydbwyllgor ar gyfer y Cynllun Twf yn derbyn cymeradwyaeth yn
ddarostyngedig i gadarnhad y Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf,
2018) o’r trefniadau ar gyfer Craffu. c)
Bod drafft terfynol o Gais y Cynllun Twf yn cael ei gyflwyno i’r
Cyngor ym mis Hydref 2018 i’w gymeradwyo cyn bod Penawdau’r Telerau yn cael eu
cytuno gyda Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru. d)
Bod hawl yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd i wneud mân
newidiadau i’r Cytundeb Llywodraethu cam cyntaf drafft yn ôl yr angen er
cwblhau’r cytundeb. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gweithdai er mwyn trafod y Cynllun
Twf newydd wedi cael eu cynnal yng Ngwynedd. Ychwanegwyd fod yr aelodau
etholedig wedi bod yn herio'r cynllun. Nodwyd mai adroddiad cynnydd oedd yr
adroddiad hwn a bod trafodaeth ym mynd rhagddi er mwyn creu cytundeb
cyfreithiol rhwng y 6 sir. Nodwyd y bydd y drafodaeth am Gyfundrefn Craffu’r Cynllun yn cael ei
gynnal yn y Cyngor Llawn ddiwedd y mis. Ychwanegwyd fod bwriad o gael Fforwm
Craffu a fydd ar y cyd rhwng y 6 sir, ond bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol.
Mynegwyd fod y papur hwn yn mynd i’r 6 Cabinet ar draws y Gogledd, ac y bydd
adroddiad pellach ar Twf yn dod yn nol i’r Cabinet ym mis Medi. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
y clod fod y 6 wedi cyd-dynnu i gyflawni'r llun mawr. Ychwanegwyd fod y
cytundeb yn gofyn i Wynedd weithredu yn y rôl arweiniol tan Ebrill 2019, ond
fod lletya’r Cynllun yn weithredol yn dilyn hyn i’w drafod. Nid oeddem yn rhagweld fod yna unrhyw risgiau
sylweddol o fod yn gwneud hynny tan Ebrill 2019. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
YMATEB CYNGOR GWYNEDD I DDYFODIAD DEDDFWRIAETH DATA DEWYDD PDF 86 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu'r polisi a’r drefn ddiwygiedig fel rhan o’r gwaith o gyfarch gofynion
newydd ym maes diogelu data. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Mabwysiadu'r polisi a’r drefn ddiwygiedig fel rhan
o’r gwaith o gyfarch gofynion newydd ym maes diogelu data. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod newid mawr wedi bod yn y fframwaith
sydd mewn lle yn dilyn Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn dod i rym ac ar yr un
dyddiad cyflwynwyd Deddf Diogelu Data 2018. Nodwyd mai pwrpas y rheolau newydd
yw mynnu fod sefydliadau yn medru profi cydymffurfiaeth a hefyd rhoi mwy o
hawliau i unigolyn. Mynegwyd fod nifer o newidiadau yn rhan o’r ddeddfwriaeth newydd gan
nodi fod gan y Cyngor bellach Swyddog Diogelu Data, a fydd yn monitro
cydymffurfiaeth gyda’r ddeddf a gweithredu fel pwynt cyswllt i Swyddfa’r
Comisiynydd Gwybodaeth a’r cyhoedd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod angen sicrwydd fod y cyngor yn cyflawni gofynion y ddeddf. Esboniwyd fod
gwaith da wedi ei wneud ond y byddai gwaith monitro yn barhaus drwy’r
gyfundrefn moniotro perfformiad a’r asesiadau llywodraethiant a wneir bob
blwyddyn gan y Grwp Llywodraethu er mwyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio. Awdur: Helen Mary Parry |
|
COD YMARFER CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNIO CYFLENWI PDF 102 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd i ymrwymo i’r Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Cytunwyd i ymrwymo i’r Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cod
Ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Ychwanegwyd nod y cod yw
sicrhau fod arferion cyflogaeth dda yn bodoli i holl weithiwr ym mhob cam o’r
gadwyn cyflenwi. Nodwyd fod y cod yn ymdrin â materion cyflogaeth megis
caethwasiaeth fodern a chyflog byw. Mynegwyd drwy wireddu’r holl amcanion y Cod ymarfer mae’n sicrhau fod yr
arfer gorau yn cael ei ddilyn ac yn chwarae ei ran i ddileu unrhyw arferion
cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol. Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud ac mai dechrau’r daith yw hon.
Cefnogwyd yr ymrwymiad i’r maes. Awdur: Geraint Owen |
|
CYNLLUN DYLETSWYDD BIOAMRYWIAETH PDF 131 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu’r
Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Er mwyn cydymffurfio â dyletswydd A6 o Ddeddf
Amgylchedd Cymru, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi
cynllun sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i gynnal a gwella
bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Adran 6, Rhan 1, o Ddeddf yr
Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno dyletswydd ehangach ar fioamrywiaeth a
chydnerthedd ecosystemau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus wrth arfer swyddogaethau
sy’n berthnasol i Gymru. Ychwanegwyd fod cynllun yn ei le yng Ngwynedd er mwyn
cydymffurfio â’r ddeddf a manylwyd ar beth oedd nod Cynllun Dyletswydd
Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd. Ychwanegwyd fod gwaith ymgynghori wedi ei wneud ar y ddogfen gyda holl
adrannau’r Cyngor a gyda’r Cynghorydd Angela Russell yn ei rôl fel Pencampwr
Cefn Gwlad ac Amgylchedd. Awdur: Gareth Jones |
|
LLE I ALW YN GARTREF: EFFAITH A DADANSODDIAD PDF 120 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymerdawyo
camau pellach mewn ymateb i’r arolwg dilynol sydd wedi ei wneud gan y
Comisiyndd Pobl Hŷn o’r adroddioad gwreiddiol – Lle i’w Alw’n Gartref. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. W Gareth Roberts PENDERFYNWYD Cymeradwyo camau pellach mewn ymateb i’r arolwg dilynol
sydd wedi ei wneud gan y Comisiynydd Pobl Hŷn o’r adroddiad gwreiddiol -
Lle i’w Alw’n Gartref. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr eitem yn ymateb i’r arolwg
dilynol sydd wedi ei wneud gan y Comisiynydd Pobl Hŷn o’r adroddiad
gwreiddiol - Lle i Alw’n Gartref. Bu i’r Comisiynydd Pobl Hŷn gyflwyno
canfyddiadau o’i hadolygiad o Gartrefi Gofal yn 2014. Amlygwyd yn glir yr angen
i newid a sicrhau fod ansawdd bywyd y bobl hyn yn ganolog i’r system gofal. Ychwanegwyd fod y Comisiynydd wedi bod gofyn am wybodaeth a oedd yn
tystiolaethu fod yr hyn a gytunwyd arno wedi ei weithredu yn Ionawr 2017.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad wedi cydnabod fod camau pwrpasol a calonogol wedi
eu cymryd a bod y trefniadau yn eu lle o
ran Adroddiad Ansawdd Blynyddol. Mynegwyd fod y dadansoddiad yn un trylwyr a
theg. Nodwyd fod yr adan yn teimlo eu bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir ond fod
angen gwella ar gasglu gwybodaeth a thystiolaethu i’r dyfodol.
Awdur: Mari Wynne Jones a Rhion Glyn |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT PDF 181 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r
Adroddiad Blynyddol Iechyd Diogelwch a Llesiant. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Iechyd Diogelwch a
Llesiant. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai hwn yw y tro cyntaf i adroddiad o’i
fath ddod i’r Cabinet. Nodwyd mai cyfle i roi darlun i’r Cabinet o’r sefyllfa
gyfredol o ran rheolaeth iechyd a diogelwch o fewn y Cyngor. Nodwyd fod gwaith
sylweddol wedi ei wneud i rymuso rheolwyr
i fod yn arwain ar reoli’r risgiau o fewn y Gwasanaeth. O ganlyniad i
hyn mae’r rôl fwy clir i’r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesian fel un
ymgynghorol. Ychwanegwyd fod y Cyngor yn dal y wobr Aur o ran safon iechyd
corfforaethol, yn dilyn ail asesiad llawn gan swyddogion o’r Cynulliad.
Mynegwyd fod ystadegau straen a’r cyfeiriadau i wasanaeth cwnsela wedi codi, ond
credir fod hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y gwaith o hybu iechyd meddwl yn y
gweithle. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod nifer y damweiniau wedi codi yn gyson dros y blynyddoedd ond esboniwyd mai
ymwybyddiaeth o’r angen i adrodd oedd y rheswm. Ychwanegwyd fod y nifer y
methiannau agos wedi codi yn ogystal ac mae hyn oherwydd staff yn fwy parod i
adael i’r tîm wybod. -
Nodwyd
fod yr adran wedi cael braw gyda ffigwr nifer cyfeiriadau MEDRA am y chwarter
diwethaf, ond mae llawer o waith wedi cael ei wneud yn codi ymwybyddiaeth. Yn
ychwanegol nodwyd ei fod yn adlewyrchu newid diwylliant ac mae staff yn fwy
parod i nodi straen ar ffurflen salwch yn hytrach na thicio ‘salwch arall’. Awdur: Geraint Owen |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 61 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod.
TRAFODAETH Cyflwynwyd y flaen raglen.
|