skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Dilwyn Morgan ac y Prif Weithredwr Dilwyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. W Gareth Roberts ar gyfer eitem rhif 6, gan fod ei fab yng nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaeth Ieuenctid, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Peredur Jenkins ar eitem 7, gan fod y ddau yn llywodraethwyr yn Ysgol Bro Idris, nid oedd hwn yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 MAI 2018 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 22 Mai 2018, fel rhai cywir

6.

AIL-FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn  yr adroddiad a neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu cronfa i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer Ebrill 1af 2019

 

2.    Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn  yr adroddiad a neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu cronfa i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer Ebrill 1af 2019

 

2.    Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr aelodau yn ymwybodol o gefndir yr eitem. Ychwanegwyd fod Rhybudd o Gynnig wedi ei gyflwyno yn ystod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth a oedd yn gofyn i’r Cabinet ail-ystyried elfennau o’r model newydd. Bu i’r Cabinet edrych ar bob elfen yn unigol.

 

Newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolyn

Pwysleisiwyd mai newid statudol gan y Llywodraeth yw bod y Gwasanaethau Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc gyda’u dysgu a’u haddysgu, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sydd ddim mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg. Er hyn, nodwyd fod y gwasanaeth newydd am fod yn cynnig gwasanaeth i bawb ac nid i’r unigolion yma yn unig.   Ychwanegwyd fod 14% o bobl ifanc yn mynd i glybiau ac felly nodwyd yr angen am dargedu mwy o bobl ifanc ar draws y sir.

 

Ychwanegwyd:

-        Fod ymgynghoriad wedi ei gynnal gan yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn holi beth sydd yn bwysig i bobl ifanc - nodwyd y tri pheth a oedd ar y brig oedd Iechyd Meddwl, Tai a Phroblemau Alcohol a Chyffuriau, a oedd yn cyd-fynd a’r sylwadau a gafwyd pan drafodwyd a phobl ifanc am y Gwasanaeth Ieuenctid.

-        Nodwyd fod gweithgareddau wedi digwydd ym Mhorthmadog a bod yr adborth yn foddhaol ond holwyd sut beth oedd yr adborth ar draws y sir. Mynegwyd fod rhaglen o weithgareddau wedi ei threfnu ar gyfer yr haf, a'u bod yn ganol trefnu fforymau fel bod modd cael trafodaeth am y math o weithgareddau gyda phobl ifanc.

-        Codwyd Connections yn Lloegr, prosiect a fethwyd. Nodwyd fod y prosiect hwn yn un cenedlaethol a oedd yn benodol ar gyfer gyrfaoedd ac nid ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid. Bu iddo fethu ond fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig llawer mwy ‘na gyrfaoedd yn unig.

 

Effaith ar ardaloedd difreintiedig

Nodwyd fod Maesgeirchen a Caernarfon yn cael ei gweld fel yr ardaloedd difreintiedig yn unol â diffiniad Llywodraeth Cymru, ond ychwanegwyd fod ardaloedd difreintiedig ar draws y sir. Er hyn, ychwanegwyd, fod yr Asesiad Cydraddoldeb mewn adnabod yr effaith sydd am fod ar y ddwy ardal ac fod y gwasanaeth yn gweithio gyda’r Cyngor Tref yng Nghaernarfon er mwyn edrych ar opsiynau ac eu bod yn gobeithio gwneud yr un peth ym Maesgeichen.

 

Ychwanegwyd:

-        Mae dwy ddeiseb wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yng Nghaernarfon yn benodol am Gaernarfon. Nodwyd fod prosiect SPLASH yn parhau yn ystod y gwyliau a bod gweithgareddau am gael eu cynnal yn fwy aml yn yr ardal.

-        Holwyd pa fath  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Catrin Thomas

7.

ADRODDIAD YSGOL BRO IDRIS pdf eicon PDF 99 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn gyffredinol, mabwysiadu’r  argymhellion yn deillio o adroddiad annibynnol  Gareth Williams er mwyn galluogi’r Adran Addysg i’w hymgorffori fel rhan greiddiol o brosesau ad-drefnu a weithredir ganddi ar y cyd a rhan-ddeiliaid eraill mewn dalgylchoedd eraill i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Yn gyffredinol, mabwysiadu’r  argymhellion yn deillio o adroddiad annibynnol  Gareth Williams er mwyn galluogi’r Adran Addysg i’w hymgorffori fel rhan greiddiol o brosesau ad-drefnu a weithredir ganddi ar y cyd a rhan-ddeiliaid eraill mewn dalgylchoedd eraill i’r dyfodol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai’r prif reswm dros gynnal yr arolwg annibynnol ar y drefn o ddatblygu Ysgol Bro Idris oedd er mwyn dysgu gwersi yn arbennig yn sgil y ffaith fod ehangder a maint y cynllun. Ategwyd fod y comisiwn hefyd yn gyfle i gyfarch rhai pryderon ymysg cyn-aelodau o staff am rai o agweddau'r broses o sefydlu’r ysgol.

 

Mynegwyd fod y drefn o sefydlu ysgol yn bartneriaeth rhwng yr Awdurdod a’r Corff Llywodraethu Cysgodol. Ychwanegwyd fod yr Awdurdod yn gyfrifol am benderfyniad i agor ysgol a chyflawnai’r adeilad ond y Corff Llywodraethol sy’n gyfrifol am y camau i sicrhau fod yr ysgol mewn trefn a phennaeth wedi ei benodi a strwythur staffio yn weithredol. Cydnabuwyd fod ysgol ddilynol aml-safle yn arwain at ragor o heriau yn sgil effaith trefniadau ar leoliadau ffisegol. Nodwyd fod yr adran wedi ystyried yr holl argymhellion ac wedi eu derbyn. Mynegwyd o fabwysiadu’r argymhellion, bydd modd i’r Adran ar y cyd a rhan ddeiliaid eraill yn eu hymgorffori fel rhan greiddiol o brosesau ad-drefnu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr ysgol yn un arloesol a bod camau yn eu lle er mwyn egwyddorion Dyfodol Disglair. Ychwanegwyd, er y problemau sydd wedi codi, diolchwyd i’r Pennaeth ac athrawon am eu gwaith.

-        Mynegwyd pan mae pethau yn mynd o’i le mae angen sicrhau fod yr adran yn dysgu eu gwersi a sicrhau fod pethau yn cael ei wneud yn wahanol.

 

Awdur: Debbie Ann Williams Jones

8.

BAND B RHAGLEN YSGOLION UNFED GANRIF AR HUGAIN pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

-        Cymeradwyo mewn egwyddor blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain yn unol â’r adroddiad.

 

-        Aros am ganlyniad y broses o sefydlu Cynllun Rheoli Asedau’r Cyngor cyn mabwysiadu’r rhaglen derfynol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

-        Cymeradwyo mewn egwyddor blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain yn unol â’r adroddiad.

 

-        Aros am ganlyniad y broses o sefydlu Cynllun Rheoli Asedau’r Cyngor cyn mabwysiadu’r rhaglen derfynol

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru bellach yn dod i ddiwedd gwedd gyntaf y prosiect (Band A). Ychwanegwyd fod Cyngor Gwynedd wedi ei gydnabod fel un o’r awdurdodau mwyaf llwyddiannus yn cyflawni eu rhaglen a hyd yma ac o ganlyniad mae’r Llywodraeth wedi cyfeirio dyraniad ychwanegol o £12m o arian gweddilliol i Wynedd er mwyn adolygu’r ddarpariaeth addysg gynradd ym Mangor.

 

Esboniwyd fod y Llywodraeth bellach yn cyfeirio’i golwg ar yr ail wedd a fydd yn cychwyn yn Ebrill 2019. Derbyniwyd cais gan y Llywodraeth yn gofyn i’r Awdurdodau i sefydlu eu blaenoriaethau ar fyr rybudd. Nodwyd y bydd angen i’r Cyngor gyfrannu 50% o’r arian, a tynnwyd sylw yn ogystal ei bod yn braf gweld plant yn cael eu Dysgu efo’r adnoddau diweddaraf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd mai talcen caled y prosiect fydd i ddod o hyn i’r arian gan fod gofynion gwario’r Cyngor am fod yn uwch ond bydd angen blaenoriaethu.

Awdur: Garem Jackson a Dafydd Gibbard

9.

CYNNIG GOFAL PLANT 30 AWR AR GYFER PLANT 3-4 OED pdf eicon PDF 176 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

-        Cytuno i’r uned gofal plant Gwynedd a Môn, Adran Plant a Theuluoedd cydweithio gyda Chyngor Conwy gan weithredu fel Awdurdod Arweiniol i weinyddu gofal plant 30 awr ar gyfer plant 3-4 oed gan weithredu yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.

-        Fod gweithredu hyn  yn amodol fod yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc yn cadarnhau'r trefniadau llywodraethu rhwng-awdurdod a sicrhau fod cytundeb partneriaeth briodol mewn lle gyda Chyngor Gwynedd a Chynghorau Ynys Môn a Conwy.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

-        Cytuno i’r uned gofal plant Gwynedd a Môn, Adran Plant a Theuluoedd cydweithio gyda Chyngor Conwy gan weithredu fel Awdurdod Arweiniol i weinyddu gofal plant 30 awr ar gyfer plant 3-4 oed gan weithredu yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.

-        Fod gweithredu hyn  yn amodol fod yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc yn cadarnhau'r trefniadau llywodraethu rhwng-awdurdod a sicrhau fod cytundeb partneriaeth briodol mewn lle gyda Chyngor Gwynedd a Chynghorau Ynys Môn a Conwy.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y prosiect yn gweithredu bellach ers bron i flwyddyn ac ers Ebrill 2018 mae’r Llywodraeth wedi cynnwys yr holl ardaloedd yng Ngwynedd a Môn. Ychwanegwyd fod y prosiect wedi bod yn un poblogaidd gyda llawer o deuluoedd yn cymryd y cyfle i gael darpariaeth gofal am ddim i blant 3-4 oed. Mynegwyd fod y sector yn ogystal wedi cymryd y cyfle ac mae datblygiad wedi ei weld yn y maes.

 

Esboniwyd drefn yr ail wedd o’r prosiect, gan nodi fod y Llywodraeth yn awyddus i Wynedd a Môn gymryd y rôl adweinyddol gyda Conwy yn ymuno a’r prosiect.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Bu i’r aelodau longyfarch y tîm ar eu gwaith, gan bwysleisio ei bod yn arbennig fod y tîm yn gallu defnyddio meddalwedd i sicrhau fod arian yn cyrraedd y busnesau yn y sector ar amser a bod hyn wedi arwain ar ddatblygiad yn y sector.

-        Holwyd os yw Gwynedd yn cymryd y rôl arweiniol a fydd angen penodi mwy o staff. Nodwyd y bydd Swyddog Gweinyddol ychwanegol a bydd un o’r swyddogion sy’n gweithio ar y prosiect yn cael ei phrynu gan Gyngor Conwy er mwyn gwneud y gwaith sefydlu’r system yno.

-        Ychwanegwyd fod y prosiect yn un sy’n cael ei groesawu gan ei fod yn annog mamau i fynd yn ôl i’r gwaith. Mynegwyd fod y Llywodraeth yn y broses o wneud gwaith ymchwil i weld beth yw’r canlyniadau y flwyddyn gyntaf y prosiect.

 

Awdur: Sioned Owen a Rachel Jones

10.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23: CAIS AM ADNODDAU O'R GRONFA DRAWSFFURFIO pdf eicon PDF 85 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I neilltuo £104,747 o’r Gronfa Trawsffurfio, sef £51,690 yn 2018/19 a £53,057 yn 2019/20 i gefnogi gweithrediad y flaenoriaeth ‘Gwireddu Arbedion’ o fewn cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

I neilltuo £104,747 o’r Gronfa Trawsffurfio, sef £51,690 yn 2018/19 a £53,057 yn 2019/20 i gefnogi gweithrediad y flaenoriaeth ‘Gwireddu Arbedion’ o fewn cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais yw hwn er mwyn cyflogi Rheolwr Prosiect am gyfnod o 2 flynedd er mwyn cefnogi’r rhaglen gwireddu arbedion newydd. Nodwyd fod yr arian yn dod o’r gronfa draws ffurfio ac mae buddsoddi arian un tro er mwyn dod o hyd i arbedion parhaol yw pwrpas y swydd.

 

Sgwadiau yn codi o’r drafodaeth

-        Ychwanegwyd fod angen sicrhau fod yr unigolyn yn dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a bod yn arloesol er mwyn gwarchod gwasanaethau.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones