skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Nia Jeffreys ar gyfer eitem 6 gan ei bod yn aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd, ond nid oedd yn fuddiant  oedd yn rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 10 Ebrill 2018, fel rhai cywir

 

6.

GWERTHIANT CYN SALFE YSGOL ABERDYFI pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo hawl i’r Uwch Reolwr Eiddo ddefnyddio pwerau Caniatad Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i werthu cyn safle Ysgol Aberdyfi yn uniongyrchol i Cartrefi Cymrunedol Gwynedd (CCG) am lai ‘na gwerth y farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economiadd ac amgylcheddol. Clustnodi’r dderbyneb cyfalaf ar gyfer ariannu cyfraniad y Cygnor tuag at wella adeiladau ysgolion o dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNWYD

Dirprwyo hawl i’r Uwch Reolwr Eiddo ddefnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i werthu cyn safle Ysgol Aberdyfi yn uniongyrchol i Gartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) am lai ‘na gwerth y farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Clustnodi’r dderbynneb cyfalaf ar gyfer ariannu cyfraniad y Cyngor tuag at wella adeiladau ysgolion o dan y Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr ysgol wedi cau yn 2013 a bod y plant bellach yn mynychu Ysgol Penybryn. Ychwanegwyd ers cau’r ysgol fod ymdrechion wedi bod i chwilio am ddefnydd amgen o’r safle. Nodwyd fod Cartrefi Cymunedol yn awyddus i brynu’r tir er mwyn adeiladu11 o dai fforddiadwy.

 

Esboniwyd fod y Prisiwr Dosbarth wedi nod fod gwerth y safle ar y farchnad agored yn £320,000, ond nodwyd fod y Cyngor yn teimlo pris o £187,000 yn swm addas ar gyfer gwerthiant y tir oherwydd y buddiannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mynegwyd fod angen dybryd am eiddo fforddiadwy yn yr ardal, ac nid oes datblygiad eiddo cymdeithasol wedi bod yn Aberdyfi ers dros 11 mlynedd. Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod darpariaeth am dai fforddiadwy yn flaenoriaeth sydd yw gweld yng Nghynllun y Cyngor ac ym Maniffesto Plaid Cymru.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn gefnogol i’r eitem a bwysleisiwyd angen yr ardal am dai fforddiadwy.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd pa sicrwydd y gall Cartrefi Cymunedol Gwynedd mai pobl leol fydd yn cael y denantiaeth yn y tai newydd, nodwyd fod hyn angen ei nodi yn y cais cynllun a bydd yn rhaid iddo gydymffurfio a’r amodau a pholisïau cynllunio a fydd yn cael ei rhoi gan y Parc Cenedlaethol

-        Nodwyd fod yr adroddiad yma yn nodi fod yr arian o’r gwerthiant yma yn mynd yn ôl i’r Adran Addysg er mwyn gwella adeiladau ysgolion, ond ychwanegwyd fod tair ysgol arall wedi cau yn yr ardal a holwyd ble mae’r arian am y lleoliadau yma wedi mynd ar ôl eu gwerthu. Nodwyd bydd yr adran yn  adrodd yn ôl yn uniongyrchol i’r Aelod Lleol.

 

Awdur: Dafydd Gibbard