skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 12 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir

6.

CYTUNDEBAU INTERGREIDDIO O FEWN Y MAES GOFAL A IECHYD YN RHANBARTHOL pdf eicon PDF 287 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i gytuno i’r Cytundeb Integreiddio fel sydd wedi ei osod allan yn Atodiad 1. Mae’r cytundeb yma yn darparu’r trefniadau llywodraethu i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac i fodloni gofynion deddfwriaethol fel y nodir yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Yn ogystal penderfynwyd fod yr Aelod Cabinet i gymeradwyo cytundebau unigol ar gyfer prosiectau penodol oni bai bod oblygiadau penodol sydd yn addas i gael barn y Cabinet arnynt.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd:

-        Cytuno i’r Cytundeb Integreiddio fel sydd wedi ei osod allan yn Atodiad 1. Mae’r cytundeb yma yn darparu’r trefniadau llywodraethu i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac i fodloni gofynion deddfwriaethol fel y nodir yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

-        Cytunwyd i’r Aelod Cabinet i gymeradwyo cytundebau unigol ar gyfer prosiectau penodol oni bai bod oblygiadau penodol sydd yn addas i gael barn y Cabinet arnynt.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodi fod 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio’n anffurfiol, ers nifer o flynyddoedd, fel cydweithrediad gyda’i gilydd er mwyn sicrhau gwelliannau i’r maes gofal cymdeithasol. Ers 2014 maent wedi bod yn cydweithio gan ddefnyddio Fframwaith y Cydweithrediad i gyfuno’n strategol ar ddatblygiadau gwasanaeth. Mynegwyd fod angen ffurfioli’r trefniadau er mwyn parhau i lywodraethu’n gywir a gweithredu yn unol â’r dyletswyddau a osodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Cod Ymarfer.

 

Nodwyd drwy alluogi’r cytundeb yma bydd modd  creu cronfeydd cyfun rhanbarthol, ond pwysleisiwyd nad oes gorfodaeth ar hyn. Ategwyd mai sefydlu fframwaith a gosod sylfaen ffurfiol i’r rhanbarth mae’r cytundeb hwn ac nid trosglwyddo cyfrifoldebau.

 

Awdur: Morwena Edwards

7.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU ARFAETHEDIG CWMNI HAMDDEN CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

-        Ddirprwyo’r hawl i Bennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi dogfennau cyfansoddiadol cwmni cyfyngedig drwy warant gan ymgorffori y prif faterion ac egwyddorion a argymhellir yn yr adroddiad.

-        Awdurdodi’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyfreithiol i fwrw ymlaen i gofrestru’r Cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau yn unol â gofynion ac amserlen y Prosiect Hamdden a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau hyn.

-        Cadarnhau fod y broses o benodi’r  Bwrdd o Gyfarwyddwyr a Rheolwr Gyfarwyddwr i gychwyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd:

-        Ddirprwyo’r hawl i Bennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi dogfennau cyfansoddiadol cwmni cyfyngedig drwy warant gan ymgorffori'r prif faterion ac egwyddorion a argymhellir yn yr adroddiad

-        Awdurdodi Pennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i fwrw ymlaen i gofrestru’r Cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau yn unol â gofynion ac amserlen y Prosiect Hamdden a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau hyn.

-        Cadarnhau fod y broses o benodi’r Bwrdd o Gyfarwyddwyr a Rheolwr Gyfarwyddwr i gychwyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y 3ydd a’r 5ed o Hydref y bu i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn gymeradwyo sefydlu Cwmni, cyfyngedig drwy warant, wedi ei reoli gan y Cyngor, i ddarparu cyfleusterau hamdden yng Ngwynedd. Eglurwyd mai mater o drefn oedd dod â’r adroddiad i’r Cabinet er mwyn cychwyn ar y gwaith o gychwyn y Cwmni.

 

Ategwyd fod telerau arfaethedig wedi ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Economi a Chymuned ar yr 13eg o Ragfyr ac mae eu sylwadau ac argymhellion wedi’u hystyried o fewn yr adroddiad

Awdur: Sioned Williams

8.

LLUNIO STRATEGAETH ASEDAU NEWYDD 2019-20 I 2028-29 pdf eicon PDF 93 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r drefn ar gyfer sefydlu strategaeth asedau newydd ar gyfer y cyfnod 2019/20 hyd ar 2028/29 a nodir yng nghymalau 18 i 21 yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r drefn ar gyfer sefydlu strategaeth asedau newydd ar gyfer y cyfnod 2019-20 hyd at 2028/29 a nodir yng nghymalau 18 i 21 yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn 2009 bu i’r Cyngor gynnal asesiad o’i anghenion cyfalaf tebygol am y 10 mlynedd i ddod. Yn ystod yr un cyfnod lluniwyd asesiad o’r adnoddau cyfalaf a fyddai ar gael am y cyfnod. Yn dilyn yr asesiadau ac yn wyneb y ffaith nad oedd yr adnoddau am ganiatáu i’r Cyngor gyfarch yn holl anghenion cyfalaf, cynhaliwyd cyfres o weithdai gydag aelodau’r Cyngor i sefydlu blaenoriaethau cyfalaf am y 10 mlynedd.

 

Gan mai 2018/19 fydd blwyddyn olaf y strategaeth bresennol mae angen sefydlu strategaeth newydd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Nodwyd fod adrannau yn meddwl am beth fyddai eu hanghenion cyfalaf am y 10 mlynedd i ddod. Mynegwyd fod y galw yn llawer uwch na’r adnoddau sydd ar gael felly bydd angen blaenoriaethu. Awgrymwyd dilyn trefn debyg i’r un a ddilynwyd y tro diwethaf, sef cynnal cyfres o weithdai i alluogi’r holl aelodau fynegi eu barn cyn i’r Cabinet wneud argymhellion ffurfiol i’r Cyngor Llawn. Bydd y cynllun yn dilyn yr amserlen sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad

Awdur: Dilwyn Williams

9.

CYLLIDEB REFENIW 2017/18 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2017) pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad / rheolaeth.

 

Penderfynwyd i gynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£12k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad grant ac amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor, gyda elfen ohono ar gyfer digolledu effaith gorwariant posib ar gludiant tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad / rheolaeth.

 

Penderfynwyd cynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£12k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad grant ac amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor, gydag elfen ohono ar gyfer digolledu effaith gorwariant posib ar gludiant tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn llawer cynt na’r arfer a bod hyn yn rhan o drefn dynnach o gau cyfrifon y Cyngor diwedd y flwyddyn. Ar y cyfan nodwyd fod y sefyllfa yn weddol debyg i ddiwedd yr ail chwarter. Mynegwyd fod yr adolygiad yma yn adlewyrchu rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor, ond argymhellwyd cyfuniad o gamau gweithredu pendant i’r Adrannau Addysg, Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Chefnogi Teuluoedd a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth a’u cyllidebau erbyn Mawrth 31 2018.

 

Manylwyd ar rai adrannau yn benodol:

 

Adran Plant a Cefnogi Teuluoedd:

Mynegwyd fod yr adran yn ymwybodol o’r gorwariant yn yr adran yn benodol wrth edrych ar leoliadau i bobl ifanc. Nodwyd ei bod yn gofnod heriol ond fod yr adran yn edrych ar ddatrysiad ar gyfer y gorwariant. Pwysleisiwyd fod y lleoliadau yn rhai arbenigol felly mae’r niferoedd yn isel, ac mae’n broblem ar draws siroedd y rhanbarth. Nodwyd fod trafodaethau yn cael ei chynnal yn rhanbarthol i feddwl am y ffordd ymlaen.

 

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Nodwyd mai cynlluniau arbedion sydd heb eu cyflawni yw’r broblem yn yr adran. Pwysleisiwyd fod yr adran yn ceisio gweithio ar ffordd wahanol o weithio, gobeithir y bydd modd ail gyflwyno’r pecynnau cynlluniau arbedion i’r Cabinet yn fuan ac y bydd yn becynnau a fydd yn rhoi gwell gwasanaeth i drigolion Gwynedd.

 

Adran Addysg

Nodwyd mai cynnydd mewn gwariant ar gludiant tacsis ysgolion yw prif reswm dros y gorwariant. Mynegwyd fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal a’r Pennaeth Amgylchedd i feddwl am ffyrdd gwahanol i gynnig cludiant er mwyn lleihau costau.

 

Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Nodwyd yn dilyn y drafodaeth flaenorol am orwariant yn y Cabinet mae’r adran wedi gallu lleihau’r gorwariant o £600,000 i £400,0000. Pwysleisiwyd fod yn adran yn gweithio i geisio cael y ffigwr i lawr erbyn diwedd mis Mawrth

Awdur: Dafydd Edwards

10.

RHAGLEN GYFALAF 2017/18 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2017) pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad y trydydd chwarter (sefyllfa Rhagfyr 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        (£21,000) lleihad mewn defnydd o fenthyca

-        £567,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £27,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £71,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        £132,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad y trydydd chwarter (sefyllfa Rhagfyr 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        (£21,000) lleihad mewn defnydd o fenthyca

-        £567,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £27,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £71,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        £132,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ddadansoddiad o’r cyllidebau cyfalaf 2017/18. Pwysleisiwyd mai y prif gasgliadau yw bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £30.6m yn 2017/18, gyda £5.8m ohono wedi ei ddenu drwy grantiau penodol, sydd gyfystyr a 19%. Diolchwyd i adrannau am sicrhau fod y drefn gyfalaf yn mynd yn ei blaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd wrth edrych ar y rhaglen arfaethedig ddiwygiedig o’r rhaglen gyfalaf o 2017/18 i 2019/20 a’r ffaith fod arian cyfalaf yn gostwng neu ddim cynlluniau yn eu lle sy’n golygu’r lleihad mewn arian cyfalaf. Nodwyd yn y dyfodol fod lefel ariannu rhywfaint yn llai ond fod llawer o resymau yn effeithio arian cyfalaf.

-        Trafodwyd cynlluniau i’r dyfodol a phwysleisiwyd pwysigrwydd cael cynlluniau aeddfed yn eu lle. Mynegwyd y bydd modd cael grantiau Ewropeaidd am y ddwy flynedd nesaf a nodwyd pwysigrwydd cael prosiectau aeddfed yn eu lle yn barod ar gyfer manteisio yn llawn ar yr arian yma. Nodwyd fod gan y Cyngor hanes da iawn o dderbyn arian yn llwyddiannus gan Ewrop.

 

Awdur: Dafydd Edwards

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn hapus efo’r perfformiad ar y cyfan. Tynnwyd sylw at rai prosiectau yn benodol. Nodwyd fod y gwaith o newid ac ail fodelu'r gwasanaeth Ieuenctid a gwasanaeth Hamdden yn mynd rhagddi. Soniwyd am waith datblygu sydd wedi bod yn digwydd yn Neuadd Buddug, Y Bala, Neuadd Dwyfor, Pwllheli a Stroiel ym Mangor.

 

Pwysleisiwyd fod blaenoriaeth i’r prosiect cydymdrechu yn erbyn tlodi ac yn benodol y cyd weithio a phartneriaid allanol, i weithio gyda’i gilydd wrth i’r sir symud i’r Credyd Cynhwysol. Pwysleisiwyd fod y cynllun Credyd Cynhwysol wedi llithro ychydig a bydd y gwasanaeth yn cael ei rholio allan i’r canolfannau gwaith ar hyd Gwynedd (ac eithrio Caernarfon ym mis Gorffennaf yn hytrach na Mis Mawrth fel yr oedd y syniad gwreiddiol. Ategwyd fod staff yn cael ei hyfforddi er mwyn delio ac unrhyw broblem fydd yn codi o ganlyniad i’r Credyd Cynhwysol.

 

Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud gan yr adran ddigartrefedd, yn ychwanegol at hyn mae Bwrdd Aml Asiantaeth wedi cael ei greu yn benodol i edrych ar dai. Nodwyd fod y cyfarfod cyntaf wedi bod a'i fod yn gyfarfod postif’ ac adeiladol.

 

Ar y cyfan mae’r Aelod yn hapus a’r perfformiad. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gyda’r adrannau er mwyn ystyried mesurau ystyrlon. Mynegwyd fod angen i’r mesurau fod yn rhai clir mae trigolion Gwynedd yn ei ddeall, a bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar y mesurau yma.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd yr Uned Ddigartrefedd a nodwyd fod achosion yn cynyddu. Mynegwyd fod dirywiad yn y mesuryddion, ond fod disgwyliadau y Llywodraeth yn llawer uwch a lleihad yn y lefel ariannu. Nodwyd fod yr adran yn llwyddo ond fod llawer o waith i’w wneud. Pwysleisiwyd ei fod yn broblem genedlaethol ond fod Gwynedd ar y cyfan yn perfformio yn dda yn genedlaethol.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AR GYFER DATBLYGU'R ECONOMI pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd ar y cyfan fod yr aelod yn hapus gyda pherfformiad y mwyafrif o brosiectau gyda phob un ar y trywydd cywir. Tynnwyd sylw at brosiectau penodol. Mynegwyd gyda Swyddog Gwerth Uchel ac o Ansawdd fod y rhaglen waith yn parhau ac ers yr adroddiad blaenorol fod 10 swydd gwerth uchel wedi’u creu yn y Sir a 92 swydd gwerth uchel wedi eu diogelu. Nodwyd fod llawer o’r swyddi wedi eu creu/diogelu yn ardal Arfon, ac mai'r prif reswm am hyn yw oherwydd bod y sectorau gwerth uchel yn fwy aeddfed yn Arfon. Er hynny mae sylfaeni yn cael ei gosod i alluogi datblygiadau sylweddol yn yr ardaloedd Meirionydd a Dwyfor.

 

Trafodwyd Gwynedd Ddigidol a nodwyd fod peth oedi yn y cynllun newydd sydd ar y gwell gan y Llywodraeth, ond fod cadarnhad diweddar yn nodi y byddai Cyflymu Cymru 2 yn cychwyn yn 2018. Erbyn hyn mae 86% o gartrefi a busnesau sydd yn derbyn band eang cyflym yn y sir.

 

Nodwyd gyda phrosiect Safle Treftadaeth y Byd fod gwaith yn parhau yn Harlech a Chaernarfon. Nodwyd fod y gwaith o gefnogi partneriaid lleol yn Harlech i ymateb i’r anghenion ac wedi cymryd cam ymlaen gydag adroddiad ar flaenoriaethu cyfleoedd strategol yn yr ardal bellach wedi ei gwblhau. Nodwyd yn ogystal fod y Sir wedi bod yn llwyddiannus i ddenu buddsoddiad i ddigwyddiad Beicio Mynydd Red Bull Hardline, Dinas Mawddwy wedi ei sicrhau yn y sir.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd cynllun Gwynedd Ddigidol. Nodwyd ei fod yn ymwybodol ar ddiwedd y cynllun yma fod modd i dai unigol gysylltu i ofyn am fand eang mewn tŷ unigol. Holwyd os oes adnodd o fewn y cyngor i grwpiau ddod at ei gilydd i wneud cais dros ardal benodol. Pwysleisiwyd mai'r bwriad yr ail gam yw cael gwe cynt i’r ardaloedd sydd dal heb ei gael. Cadarnhawyd fod data ar gael o’r ardaloedd sy’n parhau i beidio derbyn y we band eang - fel bod modd targedu'r rhain yn ystod yr ail gam.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw fod yr aelod cabinet yn fwy na chyfforddus gyda pherfformiad yr adran. Nodwyd fod trefniadau cadarn yn eu lle a diolchwyd i’r Pennaeth a Staff am eu gwaith caled.

 

Amlygwyd rhai prosiectau yn benodol. Nodwyd fod y broses o weithio yn integredig rhwng staff Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd bellach yn trosglwyddo i mewn i strwythur newydd. Drwy greu'r timau integredig mae llawer wedi ei ddysgu drwy weithredu egwyddorion Ffordd Gwynedd ac mae'r rhain bellach yn dangos ffrwyth. Mynegwyd fod ychydig o lithro yn amserlen yn y gwaith adeiladu Tai gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog. Er hyn mae 58 o geisiadau wedi ei derbyn ar gyfer y cynllun sydd a 40 o fflatiau.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad blaenorol mae recriwtio staff yn parhau i fod yn broblem gynyddol. O ran Rhan 2 prosiect Llys Cadfan mae risg y bydd methiant gan y Bwrdd Iechyd i recriwtio nyrsys yn yr ardal yn effeithio ar lawn botensial y cynllun. Mae’r adran yn parhau i ymdrechu i ddenu staff a chadw gweithiwyr, ychwanegwyd fod hon yn broblem sydd i’w gweld yn y sector breifat yn ogystal. Cydnabuwyd pwysigrwydd gofalwyr a nodwyd fod camau yn cael eu cymryd i ymgorffori gwaith cefnogi gofalwyr yn yr agenda llesiant / ataliol.

 

Wrth edrych ar berfformiad tynnwyd sylw at gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol, sydd wedi gweld gwelliant yn y perfformiad. Dim ond un achos oedi oedd i’w gweld ym mis Hydref. Nodwyd ei bod yn galonogol fod cynnydd yn parhau yn y canran o achosion sydd wedi derbyn cyfnod o alluogi, gyd cynnydd yn y caran sydd wedi cwblhau’r pecyn galluogi ac sydd yn gallu ymdopi a byw gartref. Nodwyd fod yr adran yn brysur ac yn ceisio sicrhau fod anghenion y trigolion yn ganolog i’r hyn maent yn ei wneud.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd y Tai Gofal ym Mhorthmadog. Holwyd pam fod angen marchnata pan fod 58 o geisiadau wedi dod i mewn ar gyfer 40 o fflatiau. Nodwyd fod angen sicrhau fod anghenion yr unigolyn yn cyd-fynd ar fflatiau, felly maen tebygol na fydd yr holl ymgeiswyr yn gymwys i un o’r fflatiau yma.

-        Nodwyd wrth edrych ar weithio yn integredig fod Ysbyty Alltwen wedi bod yn llwyddiant, a holwyd ble y bydd y datblygiadau gweithio yn integredig nesaf. Esboniwyd fod y sir wedi ei rhannu mewn i bum ardal a bod pob ardal ar wahanol siwrnai, a nodwyd yn Ne Meirionydd fod yr egwyddorion wedi sefydlogi yn gryf o fewn y tîm.

-        Trafodwyd y prinder nyrsys a’r broblem recriwtio yn yr ardal. Mynegwyd ei fod yn fater allweddol a bod angen cydweithrediad ar draws gwasanaethau i edrych ar y sefyllfa. Nodwyd fod Brexit am fod yn fygythiad gan fod yr ardal yn ddibynnol ar symudiad nyrsys o dramor. Pwysleisiwyd fod recriwtio mewn ardaloedd gwledig yn broblem waeth a bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

Awdur: Morwena Edwards

14.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y cynnydd calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y cynnydd calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Strategaeth Ariannol y Cyngor 2017/18 wedi cynllunio £7,414,751 o arbedion yn ystod y flwyddyn. Nodwyd fod y rhagolygon presennol o ran cynlluniau gwireddu yn nodi o’r 122 o gynlluniau fod 103 wedi eu gwireddu yn llawn neu yn rhannol, a 7 bellach ar drac i’w gwireddu yn amserol. Wrth edrych ar gynlluniau adrannol 2016/17 nodwyd fod 99% o’r arbedion bellach wedi ei gwireddu.

 

Nodwyd fod Adran Oedolion am gyflwyno adroddiad yn amlinellu eu cynlluniau i gyfuno amryw o gynlluniau unigol a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror 2018. O ganlyniad i hyn gellir ystyried y bydd swm sylweddol o’r arbedion o fewn cynlluniau 2017/18 yn cael ei wireddu yn amserol. Nodwyd fod un cynllun yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn creu pryder ond fod camau ar y gweill i gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu i ystyried y sefyllfa.

 

Ar y cyfan mae’r aelod yn fodlon a’r cynnydd wedi ei wneud i wireddu’r hyn oedd yn llithro yn y cynlluniau hanesyddol, ac mae’r rhagolygon o ran cynlluniau 2017/18 ar y cyfan yn addawol.

 

Awdur: Dafydd Edwards