skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Craig ab Iago.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

PRYDLES CANOLFAN HENBLAS Y BALA I GWMNI PUM PLWY PENLLYN pdf eicon PDF 317 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

-        ddefnyddio grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu Adeilad Henblas, Y Bala, yn uniongyrchol i Gwmni Pum Plwy Penllyn Cyf am lai na gwerth y farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

-        Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Adran Eiddo i gytuno ar y telerau gyda’r cwmni.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

-        ddefnyddio grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu Adeilad Henblas, Y Bala, yn uniongyrchol i Gwmni Pum Plwy Penllyn Cyf. am lai na gwerth y farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

-        Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Adran Eiddo i gytuno ar y telerau gyda’r cwmni.

 

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater hwn yn fater gweddol syml. Mynegwyd fod Cwmni Pum Plwyf Penllyn Cyf. a phrydles 5 mlynedd ar yr adeilad yn y Bala ers 2013 maent wedi gwneud gwaith adeiladu sylweddol i’r adeilad ers cael y brydles. Bellach mae’r Cwmni yn awyddus i dderbyn y brydles am 25 mlynedd er mwyn cael cyflwyno cais i ariannu’r gwaith o uwchraddio gweddill yr adeilad.

 

Pwysleisiwyd fod yr adeilad yn cynnig gofod addas sydd yn hwyluso presenoldeb gwasanaethau iechyd, lles ac eiriolaeth wirfoddol yn yr ardal. Drwy’r adeilad mae modd i drigolion ardal Y Bala gael mynediad am wasanaethau a ddarperir gan gyrff trydydd sector. Pwysleisiwyd fod y cais hwn yn gofyn i’r Cyngor benderfynu fod yr eiddo yn cael ei osod yn benodol er mwyn hwyluso partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chwmni Pum Plwy Penllyn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ardal pum plwyf. Yn ychwanegol at hyn mae hawl cyfreithiol gan y Cyngor yn unol â grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i osod am lai na phris y farchnad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-          Nodwyd fod trigolion Y Bala a chwmnïau lleol yn gefnogol iawn o’r cais.

Awdur: Dafydd Gibbard

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn cynadleddau  achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn achosion achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas .

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod yr Aelod Cabinet yn fodlon a’r mwyafrif o brosiectau. Pwysleisiwyd fod nifer o’r mesuryddion perfformiad yn dangos cynnydd cyffredinol o ganlyniad i gynnydd mewn nifer plant mewn gofal sydd yn cael ei weld yn genedlaethol.

 

Nodwyd fod yr adran yn wynebu cyfnod cyffroes wrth lunio gwasanaeth ffres i’r dyfodol. Yn y gorffennol mae grantiau Llywodraeth Cymru wedi cael gwario, yn orfodol, mewn pocedi o feysydd neu ardaloedd. Mynegwyd y bydd Strategaeth newydd yr adran yn sicrhau mwy o integreiddio ac yn galluogi’r adran i roi blaenoriaethau a chyfeiriad newydd fydd yn un uchelgeisiol ac arloesol. Bydd y strategaeth yn trawsnewid meysydd traddodiadol o ddarparu gwasanaethau a fydd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar.

 

Mynegwyd fod gwaith yn mynd rhagddi ar gyfer ail gomisiynau rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, mae’r darparwyr gwasanaeth a’r Cyngor wedi bod yn cyfarfod i drafod bwriad y Cynllun Newydd ac mae’r broses dendro yn cael ei ddilyn ar hyn o bryd.

 

Nodwyd ar y cyfan wrth edrych ar berfformiad fod yr Aelod Cabinet yn eithaf bodlon, a ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i wella gwasanaeth ble mae angen. Mae’r adran wedi bod yn gweithio ar greu pwrpasau newydd er mwyn miniogi a sicrhau fod mesurau yn mesur y pethau cywir. Nodwyd fod perfformiad y Cynadleddau Amddiffyn Plant wedi dangos dirywiad, ac amryw o resymau dros hyn ond nodwyd fod diffyg ymrwymiad yr Heddlu i fynychu’r Cynadleddau yn brif reswm. Pwysleisiwyd wrth leoli plant fod cynnydd yn y perfformiad, ond o ganlyniad i anghenion gofal mwy dwys mae hyn yn dylanwadu ar y ffigyrau. Ond pwysleisiwyd nad yw hyn yn sefyllfa unigryw i Wynedd a bod y mater wedi ei uchafu i’r Bwrdd Comisiynau Rhanbarthol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Holwyd pam fod Asesiadau SOGS bellach yn amherthnasol, a nodwyd mai penderfyniad y Llywodraeth oedd gollwng y Mesur.

-        Trafodwyd y dirywiad mewn Cynadleddau Amddiffyn Plant. Pwysleisiwyd mai o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad yr Heddlu i fynychu mae wedi arwain at gyfarfodydd heb ‘Cworwm’ sydd angen bod yn eu lle er mwyn iddynt ddigwydd. Nodwyd fod hyn wedi ei uchafu i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn barod. Ystyriwyd sut y byddai modddatrus y mater ac a ddylid anfon at y Comisiynydd . Awgrymwyd y byddai’n syniad yn y lle cyntaf i ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn achosion achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas.

-        Croesawyd defnydd o’r system wybodaeth ‘Capita’ sydd yn cynorthwyo i adnabod anghenion ac i wella trefniadau trosglwyddo plentyn o addysg Meithrin i Gynradd. Nodwyd fod system tracio wedi ei greu ac mae’r adran mewn trafodaeth gyda’r Adran Addysg i gynorthwyo i ddatblygu’r system.

-  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Morwena Edwards

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS ADRAN PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHRIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn fodlon gyda’r perfformiad yn yr Adrannau. Nodwyd fod gwaith Uned Gwasanaeth Stryd yn sirchau fod strydoedd yn lan a thaclus, ond mae gostyngiad yn y perfformiad wedi bod yn bendodol wrth edrych ar Lendid ac Edrychiad Strydoedd. Gellir priodoli’r gostyngiadau hyn i effaith y toriadau.

 

Wrth edrych ar lefelau gwastraff mynegwyd fod gostyngiad wedi bod mewn cyfraddau ailgylchu/compostio gan fusnesau. Mae gofynion cenedlaethol wedi ei gwneud yn orfodol i fasnachwyr ddidoli eu gwastraff, mae Grŵp Tasg wedi ei sefydlu er mwyn edrych ar y broses a chynllun gwaith er mwyn ei wneud yn fwy deniadol yn ariannol i’r cwmni er mwyn codi perfformiad y mesur hwn.

 

Pwysleisiwyd gyda chynllun Leihau Amlder Torri a Threfn Casglu Gwair Trefol, fod pryder y byddai goblygiadau parhau i dorri’r gyllideb yn debygol o fod yn fwy na’r hyn y rhagwelwyd. O ganlyniad i hyn bydd trafodaeth gan y Pwyllgor Craffu ar gyfer opsiynau amgen er mwyn gwireddu’r arbediad.

 

Nodwyd fod tafluniad y sefyllfa NET ddiweddaraf yr Adran Ymgynghoriaeth yn dangos elw uwch na’r targed o £9,470, ac o ganlyniad mae’r sefyllfa gadarnhaol. Diolchwyd i staff am eu gwaith da yn benodol yn ei ward - Y Felinheli - yn dilyn tirlithriad cyn y Nadolig.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Diolchwyd i weithwyr yr adran ac yn benodol am fynd y filltir ychwanegol.

-        Trafodwyd lefelau ailgylchu/compostio masnachol a pwysleisiwyd mai bwyd yn benaf sydd yn cael ei gompostio. Nodwyd er fod y perfformiad yn 40% a fod hynny yn dda, mae lle i wella. Nodwyd ei bod yn anodd cael busnesau i ailgylchu mwy ond yn y broses o edrych ar y ffioedd i weld os oes modd ei wneud yn fwy dieniadol i’r cwmniau.

-        Wrth edrych ar ganlyniadau ailgylchu, mae’n dangos fod trigolion y sir yn barod i ailgylchu. Nodwyd y bydd llosgi gwastraff yn dod a’r sir ar y targed ailgylchu. Nodwyd er bod y niferoedd yn dda mae lle i wella yn enwedig wrth edrych ar gasgliadau bwyd.

 

Awdur: Dilwyn Williams

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABIENT DROS GYLLID pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gyfforddus gyda pherfformiad y prosiect gweithredu’r Strategaeth  Technoleg Gwybodaeth. Nodwyd fod datblygiadau wedi bod yn Sianel Ddigidol y Cyngor gan ei fod wedi ei lansio yn ddiweddar. Cam nesaf y datblygiad fydd rhyddhau ‘”app” a fydd yn galluogi’r cyhoedd i yrru lluniau gan gynnwys gwybodaeth ddaearyddol er mwyn adrodd ar broblemau.

 

Nodwyd fod y System Reoli Dogfennau a Chofnodion Electronig yn parhau i fynd rhagddi, ond mae lledaenu’r defnydd i’r Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phlant a Chefnogi Teuluoedd wedi golygu gwaith mwy cymhleth nac oedd wedi ei ragweld. Golyga hyn fod yr amserlen wedi llithro a gobeithir y bydd y system iGwynedd wedi ei ledaenu i holl adrannau’r Cyngor erbyn diwedd haf 2018. Nodwyd yn ogystal fod problemau cyfrifiadurol yn ystod yr Haf, a nodwyd mai problemau gyda chyfnewidfeydd ffon oedd wedi achosi dau o’r pedwar problem. Esboniwyd fod gwaith ar wella gwydnwch y rhwydwaith yn parhau.

 

Nodwyd fod cynnydd wedi bod wrth edrych ar berfformiad mesur Amddiffyn budd ariannol y trethdalwr: Canran o hawliadau atebolrwydd cyhoeddus a wnaed gan yr Uned Yswiriant. Nodwyd fod yr adran wedi amddiffyn 6 allan o 7 hawliad yn llwyddiannus, roedd 1 hawliad yn ymwneud a difrod wnaed i gerbyd un o drigolion Gwynedd wrth wneud gwaith cyfagos.

 

Awdur: Dilwyn Williams