skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Craig ab Iago.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

ADRODDIAD PERFFOMRIAD AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ac i leihau’r targed arbedion ar gyfer arbedion teithio o £390,000 i £240,000 a symud y flwyddyn cyflawni o 2018/19 i 2019/20 ond gan ofyn i’r cynllun gael ei weithredu cyn 1 Ebrill 2019 os yw’n barod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDEFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ac i leihau’r targed arbedion ar gyfer arbedion teithio o £390,000 i £240,000 a symud y flwyddyn cyflawni o 2018/19 i 2019/20 ond gan ofyn i’r cynllun gael ei weithredu cyn 1 Ebrill 2019 os yw’n barod.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn un sy’n nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adran. Pwysleisiwyd wrth edrych ar sefyllfa ariannol fod yr adran bellach wedi gwireddu neu ar drac gyda 97% o’r Cynlluniau Arbedion Cyfredol. Er hynny, esboniwyd y bydd ychydig lithriad yn bosib mewn dau gynllun sef Adolygiad Rhent Manddaliadau a Gwarchod y Cyhoedd - Codi Ffi am Gynnig Cyngor ond rhagwelir y bydd  yr arbedion wedi eu gwireddu yn llawn erbyn 2018/19.

 

Yn ychwanegol i ddarganfod arbedion yr adran mae’r Adran Amgylchedd yn gyfrifol am arwain prosiect ar draws y Cyngor i leihau costau teithio i’r dyfodol. Yn dilyn derbyn Adolygiad Allanol o’r costau awgrymwyd gan gwmni allanol fod swm potensial o arbediad o £390,000. Dengys gwaith ychwanegol a wnaed yn fewnol fod y swm yma wedi ei or-ddatgan a bod angen gostwng y swm felly i £240,000 a nodwyd fod gwaith pellach angen ei wneud cyn y gellir ei wireddu ac felly ‘roed angen ail broffilio’r arbediad.

 

Wrth edrych ar berfformiad yr adran nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddatblygu graffiau wrth edrych ar berfformiad. Edrychwyd yn benodol ar graff canran o gwsmeriaid a ddywedodd eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn a’r lefel gwasanaeth Cynllunio. Mynegwyd fod cwymp wedi bod yn ystod y cyfnod ond ar y cyfan mae’r ymateb cronnus yn dangos darlun gwell os sut mae’r adran yn perfformio. Esboniwyd pan mae newid mawr yn y graffiau fod modd gofyn pam ac edrych yn fanylach ar y data.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd bodlonrwydd cwsmeriaid a lefel gwasanaeth cynllunio, yn benodol pam fod rhai ceisiadau wedi cymryd blynyddoedd. Pwysleisiwyd fod y ceisiadau yma yn rai mawr a defnyddiwyd stad Redrow ym Mangor fel enghraifft.

-    Holwyd o ran arolygu glendid bwyd, ble mae Gwynedd o ran staffio ac amser o’i gymharu â siroedd eraill. Nodwyd y byddai’r Aelod Cabinet yn dlyn hyn fyny gyda’r gwasanaeth.

-    Holwyd a oedd y gostyngiad mewn perfformiad o ganlyniad i’r toriadau mae’r adran wedi ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gofynnwyd a oedd hyn yn fater y dylem brydeu amdano yn fwy cyffredinol. Nodwyd mai ychydig o dan y rhaglen oedd y gwasanaeth yn yr enghraifft yma ac ni fyddem yn gallu gweld gwir effaith hyd nes y byddem wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn.  Pe byddem yn gweld perfformiadyn methu dal i fyny, yna efallai y byddai angen gofyn a ydym wedi mynd rhy bell, ond os ydym yn gallu dygymod erbyn diwedd y flwyddyn neu os ydym o fewn trwch blewyd i berfformiad blaenorol yna rhaid derbyn fod lleihau adnodd am lesteirio perffomriad.  Beth yw’r goblygiadau yw’r cwestiwn i ofyn..

-    Tynnwyd sylw at y ffaith fod llawer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

Awdur: Dilwyn Williams

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 266 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ynghyd a chymeradwyo i ail-broffilio gwireddu £263,000 o’r cynllun “Arbedion Ychwanegol Ysgolion”, oedd i wireddu £4.3m o arbedion yn y cyfnod 2015/16 i 2018/19, trwy lithro £65,000 i’w wireddu yn 2021/22 a £198,000 i’w wireddu yn 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ynghyd a chymeradwyo i ail-broffilio gwireddu £263,000 o’r cynllun “Arbedion Ychwanegol Ysgolion”, oedd i wireddu £4.3m o arbedion yn y cyfnod 2015/16 i 2018/19, trwy lithro £65,000 i’w wireddu yn 2021/22 a £198,000 i’w wireddu yn 2020/21.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn gyffyrddus ar berfformiad ar y cyfan ond fod rhai meysydd angen mwy o waith. Tywysodd yr Aelod drwy’r adroddiad gan amlygu rhai materion. Nodwyd wrth edrych ar Wella a Chysoni Safonau Addysg y Cyfnod Sylfaen fod canlyniadau’r haf 2017 yn statig am y drydedd flwyddyn a bod Gwynedd wedi ei osod yn y 15 safle yn Genedlaethol. Mynegwyd y dylai Gwynedd fod yn y 4ydd neu’r 5ed safle, ac felly fod y canlyniadau yn rhai siomedig. Mae’r Adran wedi comisiynu GwE i ystyried y sefyllfa.

 

Wrth edrych ar Raglen Rhwydwaith o Ysgolion Hyfyw i’r Dyfodol: Prosiect Bangor nodwyd fod y trafodaethau wedi ei gynnal gyda’r penaethiaid, llywodraethwyr a chynghorwyr yr ardal i drafod opsiynau. Bellach mae opsiwn ffafredig wedi ei adnabod yn y Pwyllgor Adolygu’r Dalgylch a bydd y yn cael ei gyflwyno yn y Cabinet ym mis Chwefror.

 

Trafodwyd canlyniadau’r haf gan nodi fod perfformiad Cynllun Allweddol 4 a chanlyniadau TGAU yn siomedig eleni gan fod cwymp wedi bod yn y perfformiad. Ond pwysleisiwyd fod y canlyniadau yma yn adlewyrchu’r cwymp yn Genedlaethol. Prif reswm am y cwymp yma yw’r newidiadau i’r drefn arholi a’r fanyleb ar gyfer pynciau megis Mathemateg a Saesneg sydd wedi effeithiol yn sylweddol ar y canlyniadau TGAU i Gymru.

 

Nodwyd fod yr arbedion disgwyliedig fyddai’n deillio o gynlluniau ad-drefnu am wireddu yn hwyrach na’r disgwyl ond yn hytrach na gofyn i’r ysgolion wynebu’r baich yn y cyfamser, nodwyd y byddai’n fwy synhwyrol i ail broffilio’r arbediad disgwyliadwy.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Nodwyd fod Gwella a Chysoni Safonau Addysg yn sylfaen i’r adran ac yn un o’r prif brosiectau. Mae’r canlyniad yn isel yn benodol yn y Cyfnod Sylfaen a holwyd pryd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn sicrhau fod safon addysg yn gwella. Mynegwyd fod yr adran wedi comisiynu GwE i edrych ar y mater ond fod peth oedi wedi bod ar wneud y gwaith. Yn ychwanegol nodwyd wrth edrych ar Safonau Cyfnod Sylfaen fod y canlyniadau yn is o ganlyniad i Iaith. Mae’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae amryw o’r plant yn dod o gartrefi di-gymraeg ac efallai heb gael gafael ar yr iaith erbyn eu bod yn 7 oed. Ond nodwyd wrth edrych ar safonau plant 11 oed mae’r lefelau yn llawer yn uwch o ganlyniad iddynt gael gafael ar yr iaith erbyn yr oed yma.

-    Holwyd os mai diffyg arweinyddiaeth glir  yw’r rheswm dros rhai ysgolion ddim yn cyrraedd y safonau. Mynegwyd fod cynllun i Wella Arweinyddiaeth a Rheolaeth i ddatblygu arweinyddion da ond pwysleisiwyd yn ogystal diffyg yn y nifer sydd yn ymgeisio am y swyddi. Mae’r adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Iwan Trefor Jones

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y DIRPRWY ARWEINYDD pdf eicon PDF 176 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNIAD

 

Er mwyn sicrhau rheoli perfformiad effeithiol a thryloyw mae gofyn i Aelod Cabinet adrodd ar berfformiad y maes y mae’n gyfrifol amdano i’r Cabinet yn gyfnodol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn gyffredinol mae’r Dirprwy Arweinydd yn hapus a’r cynnydd yn y prosiectau'r adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith, wrth edrych ar Gadw’r Budd yn Lleol, fod yr adran bellach yn adrodd ar wariant refeniw yn unig ac yn eithrio gwariant cyfalaf.

 

Nodwyd fod ychydig o gynnydd wedi bod wrth edrych ar Awdit o Sefyllfa’r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd a bod hynny oherwydd amgylchiadau staffio mewnol. Er hyn mae sesiynau ymwybyddiaeth iaith wedi eu cynnal, holiaduron wedi eu rhannu a thrafodaeth i gynllunio hyfforddiant addas. Pwysleisiwyd fod y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth Iaith yn parhau

 

Mynegwyd fod sesiynau hyfforddiant Ffordd Gwynedd ar gyfer rheolwyr yn parhau gyda 70 wedi mynychu erbyn diwedd 2017. Nodwyd y bydd y rheolwyr wedi eu trwytho yn egwyddorion Ffordd Gwynedd gan sicrhau dealltwriaeth o’r cysyniadau perthnasol. Bwriedir fod yr holl reolwyr wedi bod ar y cwrs erbyn diwedd 2017/18.

 

Ers i’r Cabinet dderbyn Cynllun Busnes Prosiect Hunanwasanaeth yn ystod mis Hydref mae nifer o wasanaethau ar gael i drigolion Gwynedd ar y we.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd hyfforddiant Ffordd Gwynedd a nodwyd ei bod yn hynod bwysig fod yr hyfforddiant yn cael ei wreiddio yn iawn a holwyd os bydd hyfforddiant dilynol. Nodwyd fod sesiynau yn cael ei gynnal 4 mis yn dilyn yr hyfforddiant er mwyn gweld sut mae hi yn mynd. Mynegwyd mai un peth yw dealltwriaeth ond rhywbeth arall yw gwneud rhywbeth am y peth. Pan fyddwn yn gwybod pa wahaniaeth y mae’r sesiynau datblygu yn eu cael bydd angen ystyriedble ydan ni’n mynd nesaf.

-        Holwyd os yw hi yn gyfrifoldeb ar Aelodau Cabinet yn y Cyfarfodydd Herio Perfformiad i sicrhau fod gweithrediad o Ffordd Gwynedd yn digwydd. Awgrymwyd ei bod yn syniad holi pa reolwyr sydd wedi bod ar yr hyfforddiant felly pan mae cyfle i herio eu perfformiad a bod modd holi bryd hynny beth sydd wedi ei wneud o ganlyniad i’r hyfforddiant. Mynegwyd fod Ffordd Gwynedd yn ddiwylliant sydd angen ei dreiddio drwy’r Cyngor a bod gan aelodau cabinet rôl i chwarae i ddangos ei fod yn bwysig iddynt hwy..

 

Awdur: Dilwyn Williams