Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

DEDDF YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, TROSEDDU A PHLISMONA 2014: DIWYGIO PWERAU YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad chytunwyd a’r argymhellion canlynol:

·         Gadael i’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus newid i fod yn Gorchymyn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar 19 Hydref 2017

·         I adolygu’r gorchmynion, gan ystyried yr agweddau a nodwyd ym mhwynt 3.02 yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad chytunwyd a’r argymhellion canlynol:

  • Gadael i’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus newid i fod yn Gorchymyn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar 19 Hydref 2017
  • I adolygu’r gorchmynion, gan ystyried yr agweddau a nodwyd ym mhwynt 3.02 yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr arddodiad gan nodi mai newid yn y ddeddfwriaeth, sydd yn effeithio ar y gorchmynion penodol sydd yn eu lle ar hyn o bryd, yw’r rheswm tu ôl i’r argymhelliad o newid  y gorchmynion. Pwysleisiwyd fod ymgynghoriad a’r adran Gyfreithiol a’r Heddlu yn sail i’r argymhelliad i newid gorchmynion i fod yn Orchymyn Mannau Cyhoeddus Dynodedig, ond byddant yn cael eu hadolygu’n unigol.

 

Nodwyd fod y pwerau Gorchmynion Mannau Cyhoeddus Dynodedig yn galluogi awdurdod i ddyrannu mannau ble mae cyfyngiadau ar yfed yn gyhoeddus yn gyfredol, a bu i’r heddlu gyflwyno tystiolaeth i gefnogi’r 7 gorchymyn sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Mynegwyd fod rhai o’r gorchmynion presennol yn rhai hanesyddol a bod y sefyllfa wedi newid bellach. Bydd y gorchmynion newydd yn taclo llawer mwy nac alcohol yn unig, bydd yn taclo pobl sydd yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn ogystal.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Gofynnwyd os y bydd unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i’r newid mewn gorchymyn – nodwyd y bydd ychydig o gostau gydag arwyddion ond wedi gofyn i’r heddlu am gymorth gyda hyn.

 

Awdur: Catherine Roberts

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd ei fod yn gyfforddus a’r perfformiad y prosiectau a bod camau priodol wedi ei gymryd er mwyn gwella’r perfformiad.

 

Mynegwyd fod Sianel Ddigidol a Hwyluso Cysylltu gyda’r Cyngor yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a bydd y sianel yn cael ei ail-lansio yn yr Hydref. Nodwyd fod offer cyfrifiadurol newydd wedi ei gyflwyno ym mis Mai i aelodau, a bod rhywfaint o broblemau wedi codi wrth eu cyflwyno. Yn dilyn trafodaeth gydag aelodau bydd mwy o hyfforddiant yn cael ei gynnig er mwyn gwneud y mwyaf o’r offer.

 

Mynegwyd fod canran archwiliadau yn y Cynllun Archwilio sydd un ai wedi eu cau neu sydd ag adroddiad terfynol wedi ei ryddhau wedi ei leihau i 3.33% ar gyfer chwarter cyntaf o’i gymharu â 17.5% yn yr un cyfnod y llynedd. Nodwyd fod hyn o ganlyniad i broblemau staffio a olygwyd diffyg o ddau archwiliwr llawn amser yn ystod y cyfnod. Ymhellach i broblemau systemau cyfrifiadurol y Cyngor am ddiwrnod ym mis Mehefin, nodwyd byddai addasiad i fesur er mwyn cofnodi hyn yn well.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Holwyd wrth edrych ar fesurau hawliau yswiriant os yw canran yn ffordd gywir o’i fesur perfformiad, a pe bai ffigwr penodol yn fwy cywir. Eglurwyd ei fod yn faes anodd i fesur perfformiad cyfredol, gan allasai hawliadau cyfredol fod am ddigwyddiadau blynyddoedd yn ôl. Nodwyd hefyd fod yr adran wedi treialu amrywiol ffyrdd o fesur hyn ond nodwyd y byddem yn edrych arno eto yn y cyfarfod herio perfformiad nesaf.

-        Mynegwyd fod y ffigwr yn gyson wrth edrych ar Ddiogelwch arian y Cyngor wrth adnau arian mewn banciau. Nodwyd fod hynny yn adlewyrchu’r flaenoriaeth i gadw arian yn saff, a’i bod yn anodd dod o hyd i lefydd sy’n talu llog rhesymol.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AR GYFER PLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, gan nodi y dylid cael adroddiad penodol i’r Cabinet i adrodd ar gynigion y Rhaglen Ymyrraeth Gynnar / Ataliol ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc bregus Gwynedd yn hytrach na’i gynnwys fel rhan o’r  adroddiad perfformiad nesaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, gan nodi y dylid cael adroddiad penodol i’r Cabinet i adrodd ar gynigion y Rhaglen Ymyrraeth Gynnar / Ataliol ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc bregus Gwynedd yn hytrach na’i gynnwys fel rhan o’r  adroddiad perfformiad nesaf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan bwysleisio ei bod yn bleser cyflwyno adroddiad perfformiad cyntaf fel aelod Cabinet. Mynegwyd mai'r prif bryder yw’r tuedd sy’n parhau o ran cynnydd mewn nifer y plant mewn gofal. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gan ymgynghorydd annibynnol i werthuso’r rhaglen gyfredol ar gyfer Ymyrraeth Gynnar / Atalion ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc bregus Gwynedd. Bydd yn adnabod modelau o ymarfer da.

 

Wrth edrych ar Fesur Perfformiad nodwyd fod llawer o’r mesuriadau yn rhai statudol wedi ei gosod gan y Llywodraeth, ac mae’r rhain yn cael eu newid ac addasu yn aml. Nodwyd y bydd strategaeth newydd yn ystod y misoedd nesaf a bydd angen edrych ar bwrpas mesurau er mwyn bod yn fwy cyson a chynorthwyo’r adran i ddatblygu.  Nodwyd ei bod yn amser heriol ond cyffroes i ddatblygu’r maes. Pwysleisiwyd fod y strategaeth yn ymgorffori ffordd wahanol o weithio a gweithio’n drawsadrannol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Eglurwyd fod cynnydd mewn gwariant o ganlyniad i gynnydd mewn nifer y plant mewn gofal, a bod gorwariant un-tro eleni er gwaethaf darpariaeth cyllideb ychwanegol. Nodwyd bod disgwyliad i’r Adran gymryd camau priodol er mwyn rheoli’r gwariant yn y tymor canol. 

   Mynegwyd er bod diogelu plant yn sylfaen gadarn gan yr Adran mae angen sicrhau fod cefnogi teuluoedd hefyd yn cael sylw haeddiannol, a dyma’r gwaith mae’r Pennaeth yn ei wneud gyda’i thîm ar hyn o bryd.

-        Wedi cael grantiau dros y blynyddoedd i Gefnogi Teuluoedd, mae yna berygl i ni gael ein gyrru ac arwain gan y grant. Ond beth mae’r ymgynghoriad annibynnol wedi ei danlinellu yw bod angen gwneud y pethau iawn i bobl Gwynedd ac angen mwy o hyblygrwydd gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod angen trafodaeth bellach ar yr ymgynghoriaeth annibynnol, a bydd angen ei gyflwyno mewn adroddiad penodol i’r Cabinet.

 

 

Awdur: Morwena Edwards

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PRIFFYRDD A BWRDEISTEFOL AC YMGYNGHORIAETH pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd fod yr Aelod Cabinet yn fodlon a’r mesurau. Wrth edrych ar yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol nodwyd fod gostyngiad yng nghanrannau lefelau ailgylchu/ compostion masnachol, pwysleisiwyd fod grŵp tasg wedi ei sefydlu sy’n edrych ar brosesau i’w wneud yn fwy deniadol yn ariannol. Mynegwyd fod 1.086 miliwn o gasgliadau gwastraff wedi ei gwneud yn ystod y cyfnod a bod canran y cwynion nad oedd gwastraff wedi ei gasglu yn 0.22%.

 

Mynegwyd wrth edrych ar yr adran Ymgynghoriaeth mai elw yn erbyn targed yw prif fesur yr adran. Nodwyd fod y sefyllfa yn gymharol gadarnhaol ar gyfer cyfnod Ebrill i Fehefin. Pwysleisiwyd fod arolwg bodlonrwydd cwsmer am wasanaeth thollaeth adeiladu wedi codi 0.1 yn ystod y chwarter i fod yn 9.4 allan o 10

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Gofynnwyd pam fod niferoedd gwastraff i’w ailgylchu wedi disgyn a niferoedd gwastraff i’w dir lenwi wedi codi - mynegwyd ei fod y misoedd Ebrill i Fehefin yn hanesyddol yn debyg. Pwysleisiwyd unwaith y bydd Parc Adfer Glannau Dyfrdwy, sydd yn gynllun 5 sir ar draws y Gogledd, a fydd yn llosgi gwastraff yn agor yn 2019 bydd gostyngiad yn y gwastraff i’w dirlenwi yn lleihau i 0% o 35.1%.

-    Nodwyd mai un o’r prif faterion sy’n poeni pobl Gwynedd yw’r ysbwriel ar ôl casglu ailgylchu - nodwyd fod yr adran wedi newid cerbydau erbyn hyn ac y dylai wella’r sefyllfa, yn ychwanegol at hyn mae camau disgyblu os yn casglu ac yn gadael unrhyw ysbwriel.

-    Holwyd gyda'r adran ymgynghoriaeth beth oedd y rhagolygon i ddenu gwaith - mynegwyd fod yr adran yn gweithio yn galed i ddenu cynlluniau gwaith. Nodwyd fod yr adran yn adran unigryw i lywodraeth leol a'i fod yn cyfrannu at gost gwasanaethau ac yn creu swyddi gwerth uchel ac o ansawdd.

 

Awdur: Dilwyn Williams