Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Craig ab Iago a Dilwyn Williams (Prif
Weithredwr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan ar
gyfer eitem 6 gan fod ganddo wyr yn mynychu un o’r ysgolion yn nalgylch Y Bala.
Roedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROS OLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION O GYFARFOD A GYNHALWYD AR 6 MEHEFIN 2017 PDF 255 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y
Cabinet a gynhaliwyd ar y 6 Mehefin, 2017, fel rhai cywir. |
|
DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH Y BERWYN PDF 313 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
I.
Tynnu’r cynnig i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol
a Reolir (VC, Eglwys yng Nghymru) yn ei ôl, yn unol ag adran 55 (5) o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
II.
Gofyn am adroddiad pellach argymhelliad ar gyfer Medi
2017 i gyflwyno model amgen ar gyfer ymgynghoriad sy’n cyfarch a chyd-fynd a
gofynion yr Achos Busnes sydd wedi ei gymeradwyo gan y Llywodraeth
III.
Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet Addysg gynnal
rhag-ymgynghoriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth
Ysgolion 2013 ac adrodd ar y canlyniadau i’r Cabinet ym mis Medi 2017. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD
I.
Tynnu’r cynnig i sefydlu Campws
Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir (VC, Eglwys yng Nghymru) yn ei ôl, yn unol ag
adran 55 (5) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
II.
Gofyn am adroddiad pellach
argymhelliad ar gyfer Medi 2017 i gyflwyno model amgen ar gyfer ymgynghoriad
sy’n cyfarch a chyd-fynd a gofynion yr Achos Busnes sydd wedi ei gymeradwyo gan
y Llywodraeth
III.
Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet
Addysg gynnal rhag-ymgynghoriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn unol â gofynion
Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013 ac adrodd ar y canlyniadau i’r Cabinet ym mis
Medi 2017. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet gan nodi mai pwrpas cyflwyno’r
adroddiad oedd i adrodd yn ôl. Yn Mawrth 2016 bu i’r Cabinet gytuno ar
argymhelliad i ymgynghori a chyrff llywodraeth ysgolion dalgylch y Berwyn ar yr
opsiwn i dynnu’r cynnig i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir yn ei
ôl. Nodwyd fod y gwaith o ymgynghori gyda’r cyrff llywodraethu wedi ei wneud ac
fod yr ymatebion gan y 6 ysgol yn cefnogi’r cynnig presennol i dynnu’r cais yn
ei ôl. Nodwyd yn glir mai mater llywodraethol a rheolaethol yw’r materion yma
ynglyn a newid statws yr ysgol. Pwysleiswyd yn ogystal fod y gwaith adeiladu yn
mynd rhagddi ac yn dilyn yr amserlen a osodwyd. Mynegwyd nad yw newid statws yr
ysgol yn amharu ar yr Achos Busnes sydd wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac
mai mater technegol yw i newid statws yr Ysgol. Ychwanegwyd fod yr Egwys wedi parchu barn y Llywdoraethwyr ac wedi
ysgrifennu llythyr ac wedi nodi eu bod yn derbyn nad yw cyrff llywodraethol
dalgylch y Bala yn gefnogol o’r cynnig peresennol. Pwyslesiwyd mai eu prif
flaenoriaeth yw anghenion disgybion ac o ganlyniad yn cytuno a cais y Cyrff
Llywodraethol ynghylch statws campws dysgu 3-19 newydd. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd ei bod yn newyddion da fod yr eglwyd yn dangos
cefnogaeth i’r cais a fod cytundeb ar draws y bwrdd. -
Mynegwyd eu bod yn newyddion da fod y gwaith adeiladu yn
mynd rhagdi ac y bydd yr adeilad yn barod yn unol ar amserlen. -
Ychwanegwyd fod y campws yn fuddsoddiad mawn i addysg
plant y dyfodol yn nalgylch ysgol y Berwyn. Awdur: Garem Jackson |
|
DARPARIAETH TOILEDAU CYHOEDDUS YNG NGHWYNEDD PDF 75 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet gan nod fod yr eitem wedi bod yn cael
ei drafod ers dros flwyddyn. Yn dilyn ymarferiad Her Gwynedd, bu i’r Cyngor
Llawn ym Mawrth 2016 argymell gwneud toriad a oedd yn golygu cau 50 allan o 73
o doiledau cyhoeddus y Sir. Yn dilyn hyn bu i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau
argymell i’r Cabinet i addasu’r penderfyniad drwy yn gyntaf ymgeisio i sefydlu
partneriaethau gyda’r cymunedau lleol er mwyn osgoi cau’r cyfleusterau tra’n
cyflawni’r un swm o doriad. Nodwyd mewn gwireddu’r Cynllun Partneriaethu rhagwelir gallu cadw o leisaf
51 o doiledau yn agored drwy gefnogaeth a chydweithrediad Cynghoriau Cymuned a
Thref. Pwysleiswyd fod angen cyflawni’r toriad ac y bydd angen cau y toiledau
ble nad oes bwriad neu ddiddordeb gan y gymuned i gyfranu a phartneriaethu.
Nodwyd fod bwriad i barhau i drafod gyda’r Cynghorau Cymuned a Thref hyd fis
Hydref er mwyn creu y partneriaethu i
geisio cadw mwy o doiledau yn agored. Adroddwyd fod un newid i’r atodiad fod trafodaethau yn parhau ym
Mhenygroes. Ychwanegwyd fod deiseb wedi ei derbyn o Dywyn wedi arwyddo gan
1,000 o bobl. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd fod neges cadarnhaol fod
cymaint o gynghorau cymuned a thref yn barod i barteneriaethu ac i weithio
gyda’i gilydd i barhau y gwasanaeth. -
Pwysleswyd fod ya sefyllfa yn
edrych yn llawer gwell nac yr oedd hi yn Mawrth 2016 ac nodwyf ei bod yn
ganmoladwy gweld Cynghroau Cymuend yn barod i weithio mewn ffordd wahanol. -
Nodwyd fod balchder yn mewnbwn y
Pwyllgor Craffu Cymunedau sydd wedi arwain er mwyn cadw’r toiledau ar agor. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|
DIOGELU A ROL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU PDF 175 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo ehangu gwaith y Panel Strategol Diogelu i gynnwys gofynion ar yr
Awdurdod sydd yn ymwneud a gwrthderfysgaeth, caethwasiaeth fodern, trais yn y
cartref a diogelwch cymunedol. Dirprwyo’r hawl i’r Panel Strategol Diogelu i adolygu a chytuno newidiadau
angenrheidiol i’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn deillio o fabwysiadu’r newid
i’r cylch gorchwyl. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwyo ehangu gwaith y Panel Strategol Diogelu i gynnwys gofynion ar yr
Awdurdod sydd yn ymwneud a gwrthderfysgaeth, caethwasiaeth fodern, trais yn y
cartref a diogelwch cymunedol. Dirprwyo’r hawl i’r Panel Strategol Diogelu i adolygu a chytuno newidiadau
angenrheidiol i’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn deillio o fabwysiadu’r newid
i’r cylch gorchwyl. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet a pwysleisiwyd pwysigrwydd y gwaith o
fewn y Cyngor. Mae trefniadau’r presennol o ran diogelu ac yn benodol
cyfrifoldeb gorfforaeth i ymarfer ei ddyletswydd i ddiogelu wedi bod yn eu lle
ers rhyw bedair blwynedd. Mae’r panel wedi bod yn gwneud cynnydd da o ran
ymwybyddiaeth a dealltwriawth o faterion diogelu ar draws y Cyngor. Nodwyd yn syml fod yr adroddiad yn holi am ganiatâd i ehangu sgôp y y
panel. Pwysleiswyd fod hyn yn amser gan fod newididau o ran trefniadau
rhanbarthol a newidiadau deddfwriaethol sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: -
Nodwyd fod hwn yn gyfle i fantesio
ar eghanu cyfrifoldebau a lleihau dybylgu yn y maes diogelu. -
Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng y
Panel Strategol Diogelu a’r Panel Gweithredol Diogelu a nodwyd mai swyddogion y
cyhoedd sydd yn rhan o’r panel gweithredol er mwyn sicrhau fod y gwaith yn cael
ei wneud. -
Mynegwyd balchder at y sylw i
ddiogelu plant a oedolion bregus ac fod rôl staff o fewn y Cyngor wedi ei
amygu. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2016/17 PDF 180 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac
Oedolion. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad blyneddol ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant
ac Oedolion. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet sydd a’i bwrpas o ddiweddaru yr hyn sydd
wedi ei gyflawni gan y Panel Strategol Diogelu dros y flwyddyn. Diolchwyd i’r
Cyng. Mair Rowlands am gadeirio ac i Cyng. Gareth Thoams a Cyng. W Gareth
Roberts am fod yn aelod o’r Panel. Nodwyd fod gwaith da wedi ei wneud yn codi ymwybyddiaeth staff o waith
diogelu plant ac oedolion bregus. Yn ychwanegol pwyslesiwyd fod arolygiaeth gan
gyrff allanol wedi nodi twf yng nghwaith y panel. Trafodwyd nod panel i’r dyfodol ac diolchwyd am ddod a
maesydd ychwanegol sydd angen sylw i mewn i waith ac rhaglen y panel. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: -
Croesawyd y syniad fod yr eitem gael ei lle ar raglen y
Cyngor Llawn er mwyn i’r holl aelodau fod yn ymwybodol o’r gwaith mae’r panel
yn ei wneud. -
Holwyd fod y AGGCC wedi nodi fod newidiadau cyffroes –
holwyd beth oedd y newidiadau yma. Pwyslesiwyd fod hyn o ganlyniad i newidiadau
yn y maes oedolion o ganlyniad i dwf mewn cyfeiriadau drwy fuddsoddi mewn tim a
fydd yn sicrhau ansawdd. Awdur: Morwena Edwards |