Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dilwyn Morgan.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 EBRILL 2017 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 25 Ebrill, 2017, fel rhai cywir.

 

6.

ADDODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2016/17 pdf eicon PDF 113 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2016/17 gyda’r newidiadau a nodwyd gan y swyddogion ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cael ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

  • Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2016/17 gyda’r newidiadau a nodwyd gan y swyddogion ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cael ei fabwysiadu..

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad sydd adrodd ar berfformiad y Cyngor am y flwyddyn a aeth heibio. Nodwyd ei fod yn ofyn statudol i gyflwyno adroddiad blynyddol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn ystod mis Hydref yn ôl yr arfer, ond yn dilyn trafodaethau penderfynwyd symud y dyddiad yn nes at ddiwedd y flwyddyn ariannol. O ganlyniad i hyn nodwyd fod man waliau teipio a man newidiadau i’r ystadegau yn yr Adroddiad.

 

Manylwyd ar y newidiadau angenrheidiol canlynol –

·         Adroddiad

o   Tud..21 - Gofal - Paragraff olaf ar yr ochor dde - ffigwr cywir ar gyfer cyfradd oedi 2016/17 yw 4.91% nid 4.44%. Newid hwn yn berthnasol i’r 4ydd mesur ar dudalen 40 yn y tabl mesurau.

o   Tud.26 - Tlodi, Amddifadedd, Economi a Tai - Trydydd paragraff ar ochor dde - gwariant Caffel y Cyngor i fusnesau lleol yn uniongyrchol neu drwy is-gontractau yn werth £59.8m

o   Tud.30 - Paragraff cyntaf ochor dde'r dudalen - wedi lleihau ôl troed carbon o 30.1% ers 2005 ac wedi llwyddo i gyflawni arbedion cronnus o £3.67m

·         Tabl Mesurau

o   Tud.40 – Gofal – Nifer y defnyddwyr gwasanaeth oedolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol – Ffigwr cywir 121 – tuedd felly yn codi yn hytrach na gostwng

o   Tud.44 – Y Gymraeg – Bydd data 2016/17 ar gael i fesur cyntaf ar gael ar ddechrau mis Gorffennaf.

o   Tud.44 - Y Gymraeg - Ail fesur - Canran Ysgolion Uwchradd sydd wedi sefydlu gwaelodlin o ddefnydd cymdeithasol pobl ifanc Blwyddyn 7 o’r Gymraeg - Ffigwr 2016/17 yw 100 ac o ganlyniad tuedd yn aros yn gyson.

o   Tud.42 - Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai - ail fesur mae dau fesur gwahanol ar ddata ‘canran gwawriant y Cyngor gyda busnes’ felly gwybodaeth fel a ganlyn:

o    

Canran o wariant caffael y Cyngor sydd yn mynd i gwmnïau sydd a’u pencadlys yng Ngwynedd

40.33

41.1

39.5

39.1

ê

Canran o wariant caffel y Cyngor sydd yn mynd i gwmnïau sydd â phencadlys neu gangen yng Ngwynedd, sydd wedyn yn gwario’n lleol drwy is-gontractau

-

52

52

50

ê

 

Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled i ddod ar adroddiad at ei gilydd.

 

Mae’r adroddiad wedi ei baratoi yn seiliedig ar adroddiadau perfformiad unigol aelodau’r Cabinet. Gan fod yr adroddiad yn cael ei chyhoeddi yn gynt eleni ni fydd modd cymharu perfformiad Gwynedd a gweddill Cymru na’r ‘Teulu’ o gynghorau cyffelyb gan na fydd data ar gael.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Tynnwyd sylw at waith da'r adran Ofal. Pwysleisiodd fod mwy o waith yn cael ei wneud a fydd yn datblygu gwasanaethu i drigolion Gwynedd. Nododd fod angen pwysleisio'r gwaith sy’n digwydd yn y maes Gofal i wella’r sefyllfa o ran trosglwyddiadau o ysbytai .

-        Holwyd er bod 74% yn nodi fod Gwynedd yn le da i fyw a oes cwestiynau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Janet Roberts

7.

RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

  • cynnydd £136,000 mewn defnydd o fenthyca heb gefnogaeth
  • cynnydd £190,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
  • cynnydd £319,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
  • cynnydd £136,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
  • lleihad £297,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu

 

Cymeradwyo’r dyraniad o £100,000 ar gyfer gwaith rhagbaratoi a chynllunio i adolygu’r ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor, i’w ariannu o arian sydd eisoes wedi ei dderbyn yn sgil taliadau cytundeb 106 gan gwmni Redrow, ynghlwm i safleoedd datblygu tai ym Mangor. Bydd hyn yn golygu cynnydd o £100,000 yn y rhaglen gyfalaf 2017/18.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

  • cynnydd £136,000 mewn defnydd o fenthyca heb gefnogaeth
  • cynnydd £190,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
  • cynnydd £319,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
  • cynnydd £136,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
  • lleihad £297,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu

 

Cymeradwyo’r dyraniad o £100,000 ar gyfer gwaith rhagbaratoi a chynllunio i adolygu’r ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor, i’w ariannu o arian sydd eisoes wedi ei dderbyn yn sgil taliadau cytundeb 106 gan gwmni Redrow, ynghlwm i safleoedd datblygu tai ym Mangor. Bydd hyn yn golygu cynnydd o £100,000 yn y rhaglen gyfalaf 2017/18.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet gan nodi fod cyflwyno’r adroddiad yn rhan o’r broses cau cyfrifon 2016/17. Nodwyd fod y Cyngor wedi gwario dros £29m ar gynlluniau cyfalaf gyda dros £11m ohono wedi ei ariannu drwy ddenu grantiau penodol. Pwysleisiwyd fod yr adrannau yn arbennig o dda i ddenu grantiau gwerth cyn-gymaint o arian a'i fod yn hwb i’r economi leol. Nodwyd y bydd £9.4m o gyllided gwariant yn llithro o 2016/17 ond nodwyd nad oedd unrhyw golled ariannu grant i’r Cyngor ble gwëwyd cynlluniau yn llithro.

 

Nodwyd wrth edrych ar bwynt 5 yn yr adroddiad fod bwriad uchafu’r gwariant yn y flwyddyn ariannol gyfredol o ganlyniad i amserlen gaeth y Llywodraeth fel rhan o gynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Pwysleiswyd yn ogystal fod yr eitem wedi bod yn y Pwyllgor Archwilio yn ystod y bore a'u bod yn fodlon gyda’r adroddiad. Nodwyd yn ogystal y byddai swyddogion yr Adran Cyllid yn gweithredu ar yr argymhellion ac yn symud ymlaen i gyhoeddi’r datganiadau statudol cyn diwedd mis Mehefin.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd wrth edrych ar yr ail broffilio a’r arian grant  - ac os oes potential y gall yr arian grant gael ei dynnu oddi wrth y Cyngor am beidio ei wario ac a ddylid poeni am y llithriad o 2016/17 i 2017/18.  Pwysleiswyd ar  hyn o bryd nad oes unrhyw broblemau gyda gwario'r arian yn ystod y flwyddyn ariannol yma.

-        Nodwyd mewn ymateb hefyd mai mater i’r aelodau Cabinet unigol yn ystod y cyfarfodydd herio perfformiad fyddai ystyried a oes gan unrhyw gynllun sy’n llithro effaith annerbyniol ar drigolion Gwynedd, a bod angen i aelodau Cabinet fod yn fyw i hynny yn ystod eu cyfarfodydd herio perfformiad.

-        Nodwyd ei bod yn bwysig tanlinellu fod £29m wedi ei fuddsoddi yn lleol – ond mae angen cofio fod risg i’r dyfodol o ganlyniad i newid mewn trefniadau grantiau / benthyciadau, a colled posib o i arian  Ewrop.

 

Awdur: Dafydd Edwards

8.

CYFRIFON TERFYNOL 2016/17 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1   Cymeradwyo a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17.

 

1.2    Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

0

Addysg

(48)

Economi a Chymuned

(19)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

0

Amylchedd (Rheoleiddio gynt)

(38)

Ymhynghoriaeth Gwynedd

(96)

Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(45)

Cyllid

(67)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(56)

 

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

 

  • Defnyddio (£46k), sef tanwariant uwchlaw £100k Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyfrannu tuag at ddiffyg mewn adran arall.
  • Clirio gorwariant yr Adran Plant a Theuluoedd er mwyn caniatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant (£46k) a thanwariant Corfforaethol (£151k).
  • Clirio gorwariant yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol er mwyn caniatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant Corfforaethol (£88k).
  • Defnyddio’r tanwariant £939k ar Gyllidebau Corfforaethol am 2016/17 fel a ganlyn:

- £151k i glirio gorwariant Adran Plant a Theuluoedd

- £88k i glirio gorwariant Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

- £700k i’w glustnodi mewn cronfa er mwyn cyfrannu tuag at Strategaeth Ariannol i'r dyfodol.

1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol a rhyddhau’r ddarpariaeth fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o gronfeydd a darpariaethau.

 

1.5 Datgan i’r adrannau mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd y Cabinet yn clirio gorwariant i’r dyfodol, ac y bydd disgwyl i adrannau gario unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol (yn unol a’r drefn o gario tanwariant ymlaen).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

 

1.1   Cymeradwyo a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17.

 

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

0

Addysg

(48)

Economi a Chymuned

(19)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

0

Amgylchedd (Rheoleiddio gynt)

(38)

Ymhynghoriaeth Gwynedd

(96)

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(45)

Cyllid

(67)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(56)

 

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) -

 

  • Defnyddio (£46k), sef tanwariant uwchlaw £100k Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyfrannu tuag at ddiffyg mewn adran arall.
  • Clirio gorwariant yr Adran Plant a Theuluoedd er mwyn caniatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant (£46k) a thanwariant Corfforaethol (£151k).
  • Clirio gorwariant yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol er mwyn caniatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant Corfforaethol (£88k).
  • Defnyddio’r tanwariant £939k ar Gyllidebau Corfforaethol am 2016/17 fel a ganlyn:

- £151k i glirio gorwariant Adran Plant a Theuluoedd

- £88k i glirio gorwariant Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

- £700k i’w glustnodi mewn cronfa er mwyn cyfrannu tuag at Strategaeth Ariannol i'r dyfodol.

1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol a rhyddhau’r ddarpariaeth fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o gronfeydd a darpariaethau.

 

1.5 Datgan i’r adrannau mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd y Cabinet yn clirio gorwariant i’r dyfodol, ac y bydd disgwyl i adrannau gario unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol (yn unol â’r drefn o gario tanwariant ymlaen).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i ystyried a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor. Nodwyd fod yr adroddiad yn un calonogol iawn a diolchwyd i’r aelodau staff am ei greu. Crynodebau fesul adran sydd i’w weld yn atodiad 1, sy’n dangos fod mwyafrif o’r adrannau yn tanwario. Nodwyd os yw adran yn tanwario uwchlaw £100k bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i adrannau a phrosiectau eraill.

 

Nodwyd fod tanwariant o £939k o dan benawdau cyllideb gorfforaethol, gyda £239k ohono yn mynd tuag at leddfu gorwariant mewn dwy adran. Mynegwyd fod £700k yn cael ei glustnodi ar gyfer ariannu strategaeth ariannol i’r dyfodol, a golygai hyn fod £1.76m mewn cronfa benodol i’r perwyl. Gan fod y Cyngor yn wynebu cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â lefel ariannu grant Llywodraeth erbyn 2018/19 a thu hwnt, gallasai’r  gronfa yma roi’r amser i’r Cyngor gynllunio er mwyn ymateb yn briodol.

 

Nodwyd fod yr adroddiad wedi bod at y Pwyllgor Archwilio, a'u bod yn cefnogi’r argymhellion.

 

Adroddwyd fod y Pwyllgor Archwilio wedi holi am addasu cyllidebau 2017/18 yr adrannau i adlewyrchu perfformiad ariannol 2016/17.  Bu iddynt holi a derbyn eglurhaon o’r gorwariant yn yr Adran Plant a’r tanwariant yn yr Adran Oedolion, a sefydlwyd fod hynny ddim oherwydd methiant i ddarparu gwasanaethau. Nodwyd gweithrediad masnachol yr Adran Ymgynghoriaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-        Trafodwyd gan fod yr adrannau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Edwards