Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dyfed Edwards.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION O GYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR IONAWR 17 2017 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 17eg o Ionawr, 2017, fel rhai cywir.

 

6.

CYNLLUN Y CYNGOR 2017/18 pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfed Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun Strategol 2017/18 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 2 Mawrth 2017.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Hawis Jones

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Strategol 2017/18 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 2 Mawrth 2017

 

TRAFODAETH

 

Dyma Gynllun y Cyngor sy’n nodi cynlluiau’r Cyngor am y flwydddyn sydd i ddod. Bu i’r cynllun strategol gwreiddiol gael ei basio gan y Cyngor yn 2013 ac ymestyniad yw’r Cynllun hwn o’r cynllun yma. Ond nodwedd wahanol i’r cynllun eleni yw fod gwaith o dydd i ddydd y cyngor wedi ei ymgorffori o fewn y Cynllun.

 

Mae’r cynllun wedi ei osod er mwyn plethu i Ddeddf Llesiant Cymru, ac yn dangos beth mae’r cyngor yn ei wneud er mwyn cyrraedd y nodau llesiant. Nodwyd fod gwaith trawsnewidiol angen ei wneud yn rhai meysydd ac mae cynlluniau gwella i’w gweld ar gefn y cynllun. Ychwanegwyd fod Asesiad Cydraddoldeb wedi ei greu.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Un amcan llesiant yw Gwynedd yn gyfrifol ar lefel Byd Eang – Gwynedd yn weddol fychan ond modd chwarae rhan fechan megis croesawu ffoaduriaid.

-       Cyfnod anodd i Lywodraeth Leol ond mae uchelgais clir yn y cynllun.

-       Edrych ymlaen at y canlyniad yr asesiad anghenion a fydd yn llunio’r cynllun nesaf. Nodwyd pwysigrwydd i edrych ar brosiectau hir dymor.

-       Holwyd sut bydd y Cynllun yn cael ei roi i drigolion Gwynedd - a’i  drwy’r wefan neu a fydd mewn amrywiol leoliadau.

 

Pwysleisiwyd y bydd y Cynllun yn cael ei osod mewn llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac mewn canolfannau Siop Gwynedd fel bod modd i drigolion ei weld mewn amrywiol leoliadau. Awgrymwyd y dylid tynnu sylw at hynny drwy Newyddion Gwynedd.

 

Awdur: Hawis Jones

7.

CAMPWS DYSGU Y BALA pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i yngynghori a chyrff llywodraethu ysgolion dalgylch Y Berwyn ar yr opsiwn i dynnu’r cynnig i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reoli (VC, Eglwys yng Nghymru) yn nhref Y Bala yn ei ol, yn unol ag adran 55(5)o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – gyda’r bwriad o ddychwelyd i’r Cabinet i adrodd ar ganlyniad yr ymgynghoriad a chynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNWYD

Penderfynwyd ymgynghori a chyrff llywodraethu ysgolion dalgylch Y Berwyn ar yr opsiwn i dynnu’r cynnig i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reoli (VC, Eglwys yng Nghymru) yn nhref Y Bala yn ei ôl, yn unol ag adran 55(5) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 - gyda’r bwriad o ddychwelyd i’r Cabinet i adrodd ar ganlyniad yr ymgynghoriad a chynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen.

 

TRAFODAETH

 

Bu i’r Cyng. Gareth Thomas atgoffa’r aelodau o gefndir y cynllun. Nodwyd y bu cyfnod ymghynghori gyda’r cynnig sef cau Ysgol y Berwyn, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant a sefydlu ysgol 3-19 newydd Gwirfoddol a Reolir (VC, Eglwys yng Nghymru) ar safle Ysgol y Berwyn nol yn 2015.  Er bod gwrthwynebiad i’r statws Ysgol Eglwysig, bu cyfaddawd a bu i’r Cabinet gymeradwyo y cynnig ym Medi 2015.

 

Yn ystod mis Gorffennaf 2016 bu i’r Pennaeth Addysg gael cyfarfod a Swyddogion Eglwys, ac yn dilyn y cyfarfod bu i’r adran dderbyn Llythyr yn amlygu hawl hyrwyddo’r ysgol a safle'r ysgol. Bu i’r llythyr gael ei dderbyn ddiwrnod cyn cyfarfod Cabinet Rhagfyr 2016 a bu i’r eitem litho o’r cyfarfod Cabinet.

 

Nodwyd bod trafodaethau gyda’r gymuned wedi bod am y llythyr ac mae hyn wedi ail godi gwrthwynebiad at y statws Ysgol Eglwysig. Mae llythyrau wedi cyrraedd gan Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion yn datgan nad ydynt yn cefnogi’r ysgol newydd gyda statws eglwysig, ac yn ychwanegol at hyn mae dros 1,000 wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r statws eglwysig. Manylodd Cyng. Gareth Thomas fod llythyr wedi ei dderbyn gan Esgob Llanelwy yn nodi safbwynt yr Eglwys.

 

Un o’r pethau sydd angen ei ystyried yw os oes newid sylweddol i’r cynllun. Y brif newid yw’r lleihad mewn ymddiriedaeth gan y ddau bartner, sef y gymuned a’r Eglwys. Nodwyd fod angen mynd i ymgynghori ar mwyn cael barn Cyrff Llywodraethol yr ysgolion am dynnu’r opsiwn yn ôl.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Ysgol gydol oes mwy nac addysg ac mae’n wead cymuned, angen sicrhau fod y gymuned yn hapus gyda’r datblygiad i sicrhau ei lwyddiant a chael y budd gorau o gampws gydol oes.

-       Holwyd gan fod y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo a oes unrhyw berygl i’r cyllid oherwydd unrhyw oedi a all ddigwydd o ganlyniad i’r ymgynghoriad.

-       Nodwyd fod achos busnes y prosiect ynglŷn â sefydlu’r ysgol. Mae’r cynllun busnes yn canolbwyntio ar 3 peth - lefydd gweigion, cyflwr yr adeiladau a gwerth am arian. Gydag unrhyw newid i’r prosiect bydd angen cysylltu â’r Llywodraeth a bydd y prosiect yn cael ei arfarnu ar sail y 3 peth oedd yn y cynllun busnes. Ystyrir felly fod y risg hwnnw yn isel dros ben.

-       Pwysleisiwyd fod corff cysgodol am gael ei greu ar gyfer llywodraethu’r ysgol ac y bydd yn bwysig cael croestoriad o’r ysgolion.

Nodwyd fod angen, yn gyfreithiol, i ymgynghori cyn symud ymlaen.

Awdur: Arwyn Thomas

8.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG 2017-20 pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwynwyd gan: Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer y cyfnod 2017-2020, cyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Lywodaeth Cymru i’w gymeradwyo.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer cyfnod 2017-20, cyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd gan Gyng. Gareth Thomas ei bod yn orfodol i bob awdurdod lleol greu cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru (2013). Mae 5 deilliant yn rhan o’r cynllun:

-       Mwy o blant saith oed yn cael ei haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

-       Mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith drwy drosglwyddo o’r ysgolion cynradd i’r uwchradd

-       Mwy o ddysgwyr yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

-       Mwy o ddysgwyr 16-19oed yn astudio Cymraeg a phynciau drwy’r Gymraeg

-       Mwy o ddysgwyr a sgiliau iaith uwch yn y Gymraeg.

 

Yn ogystal â hyn nododd Cyng. Gareth Thomas fod y cynllun hefyd yn mynd i’r afael a safonau cyrhaeddiad mewn Cymraeg a Chymraeg ail iaith, darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr ac anghenion ychwanegol a chynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynau parhaus. Manylodd fod y cynllun wedi cael yngynghoriaeth eang, ac mae’r pwyllgor iaith wedi cael cyfarfod arbennig i drafod y cynllun ynghyd a chyfarfod Craffu.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Nodwyd er ymfalchïo yn y cynllun, mae rhai gwendidau. Nod yw cryfhau sefyllfa'r iaith mewn addysg yng Ngwynedd

-       Angen i Wynedd fod yn hunanfeiriniadol a gwthio’r ffiniau gan mai Gwynedd yw’r llinyn mesur ar gyfer gweddill y wlad.

-       Pwysleiswyd pwysigrwydd cynnig cyfleoedd i bobl ifanc y dyfodol.

-       Holwyd am fonitro mesuriadau perfformio'r Cynllun, gan bwysleisio os ydynt yn herio digon a pa mor aml y byddant yn cael ei haddasu. Mynegodd Arwyn Thomas fod Gweithgor yn edrych ar y trefniadau monitro ynghyd a Grŵp Uwchradd, sydd a aelodau o ysgolion uwchradd yn yr ardal.Nododd yr angen i sicrhau cysondeb ar draws y sir gan gynnig yr un ddarpariaeth ar draws y sir. 

 

 

Awdur: Arwyn Thomas

9.

YMGYNGHORI AR DDIWYGIO LLYWODAETHU YSGOLION pdf eicon PDF 428 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ymateb i’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio Llywodraethu Ysgolion drwy nodi :

 

  1. Bod yr awdurdod yn cytuno I’r cynnig sef bod angen i Lywodraethwyr Awdurdodau Lleol gyflawni’r Meini Prawf Sgiliau.
  2. Bod yr Awdurdod yn cytuno na ddylid anghymhwyso aelod etholedig o awdurdod lleol rhag bod yn llywodaethwr
  3. Bod Cyngor Gwynedd yn datgan i’r Ymgynghoriad ei fod o’r farn nad yw’r adolygiad yn ddigon pellgyrhaeddol i greu cyfundrefn lywodraethu addas i bwrpas.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Wrth ymateb i’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio Llywodraethu Ysgolion:

 

      I.        Bod yr awdurdod yn cytuno i’r cynnig sef bod angen i Lywodraethwyr Awdurdodau Lleol gyflawni’r Meini Prawf Sgiliau

    II.        Bod yr Awdurdod yn cytuno na ddylid anghymhwyso aelod etholedig o awdurdod lleol rhag bod yn llywodraethwr

   III.        Bod Cyngor Gwynedd yn datgan i’r ymgynghoriad ei fod o’r farn nad yw’r adolygiad yn ddigon pellgyrhaeddol i greu cyfundrefn lywodraethu addas i bwrpas.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod y trefniant llywodraethu ysgolion yn un sydd wedi bod yn ei lle ers 1988. Mae’n drefniant sy’n seiliedig yn Llywodraethwyr yn rhanddeiliaid yn yr ysgolion. Diolchodd y Cyng. Gareth Thomas i’r cannoedd o bobl sy’n gwirfoddoli fel llywodraethwyr. Mae’r Llywodraeth wedi comisiynau grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar lywodraethu ysgolion.

 

Pwysleiswyd mai prif argymhelliad y grŵp oedd symud oddi wrth y trefniant rhanddeiliad yn rhannol i fod yn rhanddeiliaid a mwy. Nodwyd y byddai hyn yn rhoi cyfle i gyrff llywodraethu i fod yn hyblyg a rhydd wrth recriwtio llywodraethwyr ychwanegol a gall hyn fod ar sail y sgiliau sydd eu hangen arnynt.

 

Nodwyd bod son am aelodau cysylltiol yn rhan o’r corff llywodraethol, ond ni fyddant yn aelodau llawn er eu bod yn cael pleidleisio - pwysleisiwyd fod agweddau fel y rhain yn rhai annelwig. Mynegwyd yn ogystal wrth apwyntio pennaeth neu ddirprwy fod angen person annibynnol ar y panel penodol, a bod y pennaeth neu swyddog addysg a phleidlais ar y panel.

 

Nodwyd fod sefyllfa Llywodraethwyr wedi newid yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, mae’r cyfrifoldebau yn fawr iawn megis materion disgyblu, diswyddo ac apwyntio staff.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Trefniant blaenorol yn gwneud ysgolion yn annibynnol, ond dros y blynyddoedd diwethaf diwylliant wedi mynd yn fwy partneriaeth, ac felly efallai fod angen ehangu i gyrff llywodraethol dalgylch.

Ymgynghoriad wedi edrych ar fframwaith ac wedi ymgeisio i newid y fframwaith yr raddol yn hytrach ‘na gwneud un newid mawr. Teimlad nad yw’r fframwaith yn ddigon radical a ddim digon pellgyrhaeddol.

Awdur: Mai Bere

10.

YMESTYN GOFAL PLANT I 30 AWR AR GYFER PLANT 3-4OED YNG NGHYMRU A GWEITHREDU'R GOFYNION STATUDOL DEDDF GOFAL PLANT 2006 pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Dynodi ardaloedd Llesiant Bangor, Dolgellu, Ffestiniog a Porthmadog fel ardaloedd prilot yng Nghwynedd fydd yn gweithredu’r cynnig gofal plant yn ystod 2017-18.
  2. Gan fod y Llywodraeth wedi codi’r nifer o blant fydd yn rhan o’r peilot wedi i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn rhaglen y Cabient, dirprwyo yr hawl i’r Aelod Cabinet i ddynodi mwy o ardaloedd i’r cynllun gan ddewis ar sail y lleoedd hynny sydd gyda’r lleiaf darpariaeth ar hyn o bryd.
  3. Ymrwymo i dderbyn adnoddau’r grant er cyflawni’r peilot (swm amlinellol ar gael o’r Llywodraeth i Wynedd a Môn yn £1,869,719 ond i’w addasu’n ddibynol ar nifer y plant sydd yn rhan o’r peilot).
  4. Cytuno i sefydlu Uned Gofal plant Gwynedd a Môn ar gyfer 2017-18.

 

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Dynodi ardaloedd Llesiant Bangor, Dolgellau, Ffestiniog a Porthmadog fel ardaloedd peilot yng Ngwynedd fydd yn gweithredu’r cynnig gofal plant yn ystod 2017-18.
  2. Ymrwymo i dderbyn adnoddau’r grant er cyflawni’r peilot (yn ddibynnol ar nifer y plant sydd yn rhan o’r peilot y swm ar gael o’r Llywodraeth I Wynedd a Môn yn £1,869,719).
  3. Cytuno i sefydlu Uned Gofal plant Gwynedd a Môn ar gyfer 2017-18.
  4. Gan fod y Llywodraeth wedi codi’r nifer o blant fydd yn rhan o’r peilot wedi i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn rhaglen y Cabinet, dirprwyo'r hawl i’r Aelod Cabinet i ddynodi mwy o ardaloedd i’r cynllun gan ddewis ar sail y lleoedd hynny sydd gyda’r leiaf ddarpariaeth ar hyn o bryd.

 

TRAFODAETH

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sydd â phlant rhwng 3-4 oed a sy’n gweithio. Nodwyd fod Gwynedd a Môn wedi ei dewis i fod yn weithredwyr cynnar ar y cyd.

 

Nodwyd ers yr adroddiad diwethaf fod y niferoedd o blant sydd yn mynd i fod yn rhan o’r prosiect yn 2017/18 i hyd ar 1,200. Ar hyn o bryd mae trafodaethau a Ynys Môn i weld os yn bosib cyrraedd y niferoedd. Mae pedair ardal hyd yma wedi ei ddewis fel ardal llesiant, sef Bangor, Porthmadog, Dolgellau a Ffestiniog. Mynegwyd fod yr ardaloedd sydd wedi ei dewis yn wardiau amrywiol, sydd am brofi’r angen yn yr ardaloedd ac ein gallu i ddiwallu’r angen hwnnw. Mae’r prosiect yma yn un ar gyfer ardaloedd mwy breintiedig gan eu bod yn anelu at bobl sy’n gweithio.

 

Nodwyd fod angen trefn o benderfynu sut y bydd angen ymestyn yr ardaloedd ar gyfer cyrraedd y nifer y plant ychwanegol yr oedd Llywodraeth Cymru bellach yn gofyn i ni gyfarch. Nodwyd y bydd yn her dod o hyd i’r ddarpariaeth yn rhai ardaloedd, ac o ganlyniad ei fod yn bwysig ein bod yn dewis yr ardaloedd hynny sydd am brofi ein gallu i gyflawni’r cysyniad.  Fel arall roedd yna berygl y byddai’r Llywodraeth yn dod i’r casgliad nad oedd problemau mewn cyflawni mewn ardal wledig oherwydd nad oeddem wedi dewis yr ardaloedd mwyaf anodd. Pwysleiswyd fod Gwynedd wedi ymgeisio am y peilot er mwy amlygu i’r Llywodraeth am anghenion gwledig.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-  Nodwyd fod hwn yn benodol ar gyfer rhieni sy’n gweithio - ac os yn gweithio 16 awr mae modd derbyn 30 awr o ofal plant fel bod modd iddynt wneud hyfforddiant yn ogystal.

-  Pwysleiswyd pa mor anodd yw hi i’r swyddogion weithio pan mae’r targedau yn newid yn aml.

-  Pwysigrwydd cyfathrebu a’r rhieni yn bwysig fel eu bod yn gwneud y mwyaf o’r cynllun peilot.

 

 

 

 

Awdur: Sioned Ann Owen

11.

ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng W Gareth Roberts a Cyng / Cllr. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo Adroddiad Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru a gynhyrchwyd yn unol a gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng.  Mair Rowlands

 

PENDERFYNWYD

 

Argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo Adroddiad Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod hwn yn waith rhanbarthol, ac mai’r Grŵp Llywio Rhanbarthol sydd wedi bod yn gyfrifol am gyd-gordio'r asesiad. Gwnaethpwyd hyn drwy arwain yn strategol o ran ymgysylltu a sefydlu grwpiau technegol a penodol yn ôl yr angen.  Cofnod yw’r asesiad o’r sefyllfa heddiw, nid yw’n nodi cynlluniau gwaith bydd y rhain yn cael ei gyhoeddi yn dilyn yr asesiad.

 

Mynegwyd fod gwaith clodwiw wedi ei wneud ar yr asesiad, ac mae’n crisialu anghenion gofal y rhanbarth. Nododd Dilwyn Williams fod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi mai asesiad o ran ardal Gwynedd oedd angen ei wneud ar gyfer ymateb i ofynion y ddeddf. Drwy fynd drwy’r adroddiad llawn mae asesiad o sefyllfa Gwynedd i’w gweld yma a thraw ond pwysleiswyd fel cam nesaf  fod angen gofyn am is adroddiad cliriach o’r sefyllfa yn ardal Gwynedd yn benodol. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Nodwyd fod hyn wedi pwysleisio fod gweithio yn rhanbarthol yn gallu bod yn ddryslyd.

 

 

Awdur: Rhion Glyn

12.

CYLLIDEB REFENIW 2016/17 - ADOLYGIAD 3YDD CHWARTER pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r Gyllideb Refeniw, a nodi sefyllfa ariannol diweddaraf cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.
  2. Trosglwyddo (£115k) o’r Adran Rheoleiddio i falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cynorthwyo i gyflawni blaenoriaethau’r Cyngor.
  3. Cynaeafu (£250k) o’r casgliad ffafriol Treth Cyngor, (£180k) o danwairant Budd-daliadau, (£600k) cyllideb wrth gefn, ynghyd â (£250k) o’r tanwariant a gynhwysir o dan ‘Eraill’ i falansau cyffredinol y Cyngor, gyda £1,055k (£756k 2017/18 a £299k 2018/19) ohono ar gyfer ymrwymiadau yn y maes Addysg sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet 13 Rhagfyr 2016.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r Gyllideb Refeniw, a nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.
  2. Trosglwyddo (£115k) o’r Adran Rheoleiddio i falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cynorthwyo i gyflawni blaenoriaethau’r Cyngor.

   III.        Cynaeafu (£250k) o’r casgliad ffafriol Treth Cyngor, (£180k) o danwariant Budd-daliadau, (£600k) cyllideb wrth gefn, ynghyd â (£250k) o’r tanwariant a gynhwysir o dan ‘Eraill’ i falansau cyffredinol y Cyngor, gyda £1,055k (£756k 2017/18 a £299k 2018/19) ohono ar gyfer ymrwymiadau yn y maes Addysg sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet 13 Rhagfyr 2016.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd mai cyfrifoldeb y Cabinet yw cymryd camau, fel bo angen, er mwyn sicrhau rheolaeth briodol dros gyllidebau’r Cyngor (e.e.  cymeradwyo trosglwyddiadau sylweddol neu gyllideb ychwanegol). Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod amlinelliad o grynhoad o’r sefyllfa fesul Adran i’w gweld yn atodiad, a manylion pellach ynglŷn â’r prif faterion i’w gweld yn Atodiad 2.

 

Mynegwyd fod darlun incwm ffafriol i’w gweld yn yr Adran Rheoleiddio ble mae tanwariant uwchlaw (£100k), ac felly argymell trosglwyddo’r tanwariant i Falansau Cyffredinol y Cyngor. Nodwyd yn ogystal yn Adran Gorfforaethol i neilltuo’r tanwariant o’r sylfaen Treth Cyngor, Budd-daliadau, cyllided wrth gefn a phenawdau eraill o’r gyllideb i Falanasau’r Cyngor er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r Cyngor. 

 

Sefyllfa yn ddigon derbyniol ar draws yr adrannau, ymlyniad dda i reoli cyllideb ar draws yr adrannau. Pwysleiswyd fod yr adroddiadau wedi bod o flaen Panel Archwilio'r wythnos flaenorol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

Er bod Adran Plant yn gorwario, mae’r ganran yn eithaf isel wrth edrych yn fanylach ar y ffigyrau.

Awdur: Dafydd Edwards

13.

RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addesedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-       Cynnydd o £2.059m mewn benthyca arall

-       Lleihad o £1.871m mewn defyndd o grantiau a chyfraniadau

-       Lleihad o £0.077m mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-       Cynnydd o £0.470m mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-       Cynnydd o £0.177m mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-       Cynnydd o £2.059m mewn benthyca arall

-       Lleihad o £1.871m mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-       Lleihad o £0.077m mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-       Cynnydd o £0.470m mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-       Cynnydd o £0.177m mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn un technegol ac yn rhan o drefn monitro cyllideb 2016/17. Pwysleiswyd fod cynlluniau pendant yn lle ar gyfer buddsoddi £31.592m gyda £8.024m wedi ei ariannu drwy grantiau penodol, nodwyd fod hwn yn swm sylweddol iawn. Diolchwyd i’r holl swyddogion perthnasol am ddenu’r grantiau hyn er budd pobl Gwynedd.

 

Nodwyd fod £6.040m wedi ei ail broffilio o 2016/17 i 2017/18, ond cadarnhawyd nad oedd unrhyw golled ariannu i’r Cyngor o ganlyniad i’r llithro.

 

Mynegodd Cyng. Peredur Jenkins yn ogystal, yn ystod oes y Cyngor, fod cyfanswm buddsoddiad ac ymrwymiadau cyfalaf yn £180m, gyda £82m wedi ei ariannu drwy ddenu grantiau a chyfraniadau penodol. 

 

Nodwyd fod y buddsoddiad fel a ganlyn:

-       Cynnal Ffyrdd - £11.9m

-       Adnewyddu Goleuadau Stryd: £1.4m

-       Pont Briwet- £21.7m

-       Storiel, Bangor - £2.1m

-       Academi Hwylio Pwllheli - £9.1m

-       Adfywio Blaenau Ffestiniog - £4.2m

-       Adfywio Tref Caernarfon - £1.7m

-       Cynlluniau Gwastraff - £9.7m

-       Cynlluniau Rheoli Carbon - £6m

-       Mynediad i’r Arfordir - £3.5m

-       Ysgolion Gwynedd - £58.8m

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Clod mawr i’r Cyngor eu bod yn gallu dennu cymaint o fuddsoddiad, a buddsoddiad i’w gweld ar draws y sir.

-       Ymfalchïo yn y £58.8m sydd wedi ei fuddsoddi mewn addysg yng Nghwynedd.

 

Awdur: Dafydd Edwards

14.

CYLLIDEB 2017/18 A STRATEGAETH ARIANNOL 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 141 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2017) y dylid:

-       Sefydlu cyllideb o £231,299,720 ar gyfer 2017/18, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £168,963,540 a £62,336,180 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.8%.

-       Sefydlu rhaglen gyfalaf o £12.015m yn 2017/18 a £6.410m yn 2018/19 I’w ariannu o’r ffynhonellau a nodir yng nghymal 9.3 o’r atodiad.

b)    Nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Atodiad 4, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan 15-17 o’r Cynllun hwnnw.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2017) y dylid:

-       Sefydlu cyllideb o £231,299,720 ar gyfer 2017/18, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £168,963,540 a £62,336,180 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.8%.

-       Sefydlu rhaglen gyfalaf o £12.015m yn 2017/18 a £6.410m yn 2018/19 I’w ariannu o’r ffynhonellau a nodir yng nghymal 9.3 o’r atodiad.

b)    Nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Atodiad 4, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan 15-17 o’r Cynllun hwnnw.

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fel Cyngor fod Swyddfa Archwlio Cymru yn camol trefn cynllunio ariannol y Cygor, ond nodwyd ei bod yn mynd yn annodd rhagweld lefel grant gan Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad yn annodd  i gynllunio. O ganlyniad, nodwyd fod y ffigyrau yn y strategaeth ariannol tymor-canol yn ragdybiaethau  gorau.

 

Bu ymgynghoriaeth eang gyda’r strategaeth ariannol ynghyd a’r Dreth Cyngor, drwy 4 seminar gydag Aelodau Etholedig a’r Pwyllgor Archwilio. Nodwyd fod yr ymghynghoriad wedi dangos eu bod yn gytûn a’r gyllideb am y flwyddyn i ddod.

 

Cyllid Llywodraeth Leol yn dod o ddwy ffynhonnell - o Lywodraeth Cymru a Threth Cyngor.  Mae’r swm gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn £169m sef 74% o gyllideb y Cyngor. Mae bron i £1.8m o gynnydd ers y llynedd, sydd yn 1.1%, sydd yn uwch na sydd yw gweld ar draws Cymru sef 0.3% ar gyfartaledd.

 

Mae gofynion gwario ychwanegol o £11m sy’n warinat anorfod yn cynnwys chwyddiant cyflogau, pensiynau, chwyddiant arall, addasiadau incwm gwasanaethau, a.y.b.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad blaenorol mae £1.1k o danwariant corfforaethol wedi ei neilltuo i ysgolion, drwy drosglwyddo’r arian i falansau’r Cyngor. Er gwneud hyn bydd y Cyngor yn parhau i gadw’r balasau’r Cyngor ar yr isafswm balansau awgrymwyd llynedd sydd yn £4.4m.

 

Cynnigiodd yr Aelod Cabinet Adnoddau i godi’r dreth Cyngor 2.8%, sydd yn is nac y ganran a nodwyd y flwyddyn flaenorol. Yn ychwanegol i hyn pwysleisiwyd nad oes penderfyniadau ar unrhyw doriadau ychwanegol ar gyfer 2017/18.

 

Nodwyd fod ffigyrau cyfalaf yn yr adroddiad sy’n nodi lefel isafswm buddsoddiad, ond mae adolygiad manwl yn cael ei wneud gyda’r Strategaeth Asedau, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr haf, ac am ychwanegu at y rhaglen.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Mynegwyd ei bod yn annod cael cydbwysedd iawn rhwng arbedion a chodi’r dreth cyngor, a drwy godi 2.8% ystyrir fod hwn yn gydbwysedd teg.

 

 

Awdur: Dafydd Edwards

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 323 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr John Wynn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo’r ffigyrau proffil amgen isod ar gyfer cyflawni arbedion y Cynllun Rheoli Carbon:

 

2017/18

2018/19

2019/20

2020/21

Cyfanswm

49,740

15,260

40,000

50,000

155,000

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones

 

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo’r ffigyrau proffil amgen isod ar gyfer cyflawni arbedion y Cynllun Rheoli Carbon:

 

2017/18

2018/19

2019/20

2020/21

Cyfanswm

49,740

15,260

40,000

50,000

155,000

 

TRAFODAETH

 

Nododd Cyng. John Wynn Jones ei fod yn hapus gyda perfformiad Amgylchedd.

 

Pwysleisiodd fod canran gwastraff ac ailgylchu wedi codi i 62.2% hyn y gynnydd sywelddol. Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod lleihad mewn canran gwastraff tefol sy’n cael ei yrru i dirlenwi o 34.24% yn 2015/16 i 27.9%. Gyda talu am wasanaeth gwastraff gardd sydd wedi bod mewn lle ers mis Ionawr mae 10,000 wedi gwneud y taliad ac mae disgwyliad i’r nifer godi.

 

Gyda safon y ffyrdd mae gostyngiad wedi bod yn y cyllid ac o ganlyniad mae elfen o ddirywiad. Mae’r Adran Ymgynghoriaeth wedi gwneud £5,313 o elw eleni, a dyma un un o brif fesur yr adran.

 

Nodwyd gyda Chynllun Rheoli Carbon fod angen ail broffilio er mwyn i arbedion gael i gwireddu ac mae’r newidiadau wedi ei nodi dan y penawd ‘penderfyniad’.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Mandy Williams-Davies

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwyo ail broffilio’r cynllun arbediad effeithlonrwydd ‘EaCh9a – Neuadd Buddug’ (£16,000) o’r flwyddyn ariannol 2017/18, gyda £9,330 i’w wireddu yn 2018/19 a £6,670 i’w wireddu yn 2019/20.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies

                                                                                       

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwyo ail broffilio’r cynllun arbediad effeithlonrwydd ‘EaCh9a – Neuadd Buddug’ (£16,000) o’r flwyddyn ariannol 2017/18, gyda £9,330 i’w wireddu yn 2018/19 a £6,670 i’w wireddu yn 2019/20.

 

TRAFODAETH

 

Wrth edrych ar swyddi Gwerth Uchel nododd Cyng. Mandy Williams-Davies fod y maes digidol yn ffynnu. Wrth edrych arWynedd Ddigidolpwysleisiwyd bellach fod 78% o eiddo yng Ngwynedd a band eang cyflym - sydd yn uwch na siroedd eraill.

 

Nodwyd y bydd Cais Safle Treftadaeth y Byd yn mynd i mewn yn dilyn enwebiad ym Medi 2017. Pwysleiswyd fod cynnydd o 30% i nifer yr ymwelwyr i wefan Eryri Mynyddoedd ac Mor, mae hyn o ganlyniad i bobl yn cael gwybodaeth drwy ddulliau gwahanol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Er y cynnydd i nifer cartrefi gyda band eang cyflym yn eu tai pwysig nodi fod rhai ardaloedd yn parhau heb y gwasanaeth, er y datblygiad angen parhau i weithio ar y mater.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CYNLLUNIO A RHEOLEIDDIO pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Pwyseiswyd fod herio perfformiad yn angenrheidiol, ac yn ddiweddar wedi bod yn herio'r swyddogion eu bod yn mesur y nodweddion cywir. Nododd fod yr ystadegau bellach yn llawer cliriach ond angen gwthio ymhellach er mwyn creu graffiau fydd yn ddefnyddiol i bobl ei deall.

 

Awdur: Dilwyn WIlliams